Skip to main content

Full text of "Enwogion Sir Aberteifi: Traethawd buddugol yn Eisteddfod genedlaethol ..."

See other formats


Gougle 



This is adigital copy of a biK>k ihal was prcscrvcd for gL'iiL'ralions oii library sIil'Iyl's bclbrc il was c^LrL'l Lilly sclliiiil'J by Googlc as parl of a projccl 

to makc thc world's books discovcrablc onlinc. 

Il has survi\L'd long L-nough for llu- copyrighl lo cspirc and thc book to cntcr thc public domain. A public domain book is onc that was ncvcr subjccl 

to copyrighl or whosc lcgal copyrighl tcrni has c.\pircd. Whcthcr a book is in thc public dornairi rnay vary country tocountry. Publicdomain books 

arc our gatcways to thc past. rcprcscnting a wcalth of history. culturc and knowlcdgc that's oftcn dillìcult to discovcr. 

Marks. notations and othcr niarginalia prcscnt in thc original volumc will appcar in this lilc - a rcmindcr of this book's long jourricy from thc 

publishcr lo a library and lìnally to you. 

Usage guidelines 

Googlc is proud to partncr with librariL's U> digili/L' public doiiiain malL'rials and makL' llu'in widcly acccssiblc. Public doniain books bclong to thc 
public and wc arc mcrcly llu'ir L'uslodians. NlwltÜil'Il'ss. ihis work is l'.\pltisìvc. so in ordcr to kL-L-p providing ihis rcsourcc. wc havc takcn stcps to 
prcvcnt abusc by coninicrcial parlics. ihcIlicIiiil: placiiig: lcclmical rL'strictions 011 automatcd qucrying. 
Wc alsoasklhat you: 

+ Make non-commercìai u.se ofthe ft/cs Wl' dcsigncd Ciooglc Book Scarch for usc by individuals. and wc rcL|ucst thal you usc thcsc filcs for 
pcrsonal, non-commcrcial purposcs. 

+ Refraìn from imtomuted í/ueryìng Donot scnd autoniatcd L|ucrics ol' any sort U> Googlc's systcni: Il' you arc conducting rcscarch on machinc 
translation. optical charactcr rccognition or othcr arcas whcrc acccss to a largc aniount ol' tc.\t is hclpful. plcasc contact us. Wc cncouragc thc 
uscofpublic domain matcrials l'or thcsc purposcs and may bc ablc to hclp. 

+ Maìntaìn attrìbutìon Thc Googlc "watcrniark" you scc on cach lìlc is csscntial l'or iiiforniiiig pcoplc about this projcct and hclping thcm lind 
additional matL-rials llirough Googlc Book Scarch. PL-asL- do not rcmovc it. 

+ Keep ìt legal Whatcvcr your usc. rcmcmbcr that you arc rcsponsiblc l'or cnsuring that what you arc doing is lcgal. Do not assumc that just 
bccausc wc bclicvc a book is in thc public domain for uscrs in thc Unitcd Statcs. that thc work is also in thc public domain for uscrs in othcr 

L'ourilriL's. WliL'lliL'r a book is slill in copyrighl varÌL's from coLinlry lo coLinlry. and wl- can'l olÍL'r guidaiiL'L' on wliclhcr any spL'cilìc lisl' of 
any spccilic biK>k is allowcd. Plcasc do not assumc that a b(K>k's appcarancc in Googlc Book Scarch mcans it can bc uscd in any manncr 
anywhcrc in thc world. Copyrighl iiilriiigciiicnl liability can bc quitc scvcrc. 

About Google Book Search 

Googlc's niission is to organizc thc world's information and to makc it univcrsally acccssiblc and uscl'ul. Googlc Book Scarch hclps rcadcrs 
discovL'r Uil' world's books whilc hclpiiiLj amhors and publisliL'rs rcach iil'w audÌL'iiL'L's. You cau scarcli llirougli llic lull lc\l of ihis book on llic wch 
al |--.:. :.■■-: / / bööki . google . com/| 



2>. 



*lTt ,, '{ 



I 



HARVARD COLLEGE 
LIBRARY 



FROH THE FUND OF 

CHARLES MINOT 

<xassopi838 



FROM THE LIBRARY OF 

PROF. T. POWEL, M. A. 

UNIYERSITY COLLEGE 
CAROIFF. 



ENWOGION 



SIR ABERTEIFI 



TRAETHAWD BUDDUGOL 



trt 



EISTEDDFOD GENEDLAETHOÎì ABÈRŸSTWYTH, 18«*. 



GAN G. JOIÎES, 0,M,, 

(GLAK MENAI,) 
AWDWH "BŴWOOION SIR aAERFYBDDIN*" 



DOLGÈLLAU: 

ÁRGRAFFWYD, DEOS ŶR AWDWE, GAN W. HUGHB», 

M.DCCCLÌTin. 



3W|74-°'7 



• 



'.ie ; /.->>, 



MAft 15 1921 



RHAGYMADRODD. 



Gwelib fod yn y Traethawd hwn fywgraíhadau amiyw bersonau 
wedi eu geni allan o Geredigion, er esiampl, Dr. Phillips, Neuadd- 
lwyd, Parch. Ebenezer Bichards, Tregaron, àc. Ein hesgusawd dros 
roddi y cyfiyw i mewn ydyw, am mai yn y sir hon y treuliasant y 
rhan fwyaf a phwysicaf o'u hoes, ac am mai ynddi hi yr ennillasant 
eu henwogrwydd. Tstyriem felly fod gan y sir y llafuriasant gymaint 
ynddi, ac ar yr hon y rhoddasant hwythau gymaint o fri, hawl gyflawn 
i'w rhestru yn mysg ei meibion urddasol ac anrhydeddus ei hun. 



Yr ydym hefyd wedi rhoddi yn yr Attodiad fraslun o rai personau 
fuont feirw yn ddiweddar, a chredwn y caiff eu lluaws cyfeillion 
galams yr un mwynhad pruddglwyfus, wrth ddarllen y nodiadau 
anmherfiaith hyn, ag a gawsom ninnau wrth eu hysgri&nu. 



Absbabrok, Ionawr, 1868« 



ENWOGION SIR ABERTEIFL 



Afan, sant a flodeuai tua dechreu y chweched ganrif. Mab ydoedd i 
Cedig ab Caredig ab Cunedda, o Tegwedd, ferch Tegid Foel o Benllyn. 
Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llanafan Trawsgoed, yn y sir hon, yn gystal 
a Llanafan Fawr a Llanfechan, yn Muallt. Claddwyd ef yn Llanafan 
Fawr, Ue mae ei feddfaen etto i'w gweled. Tybir mai efe oedd trydydd 
Esgob Llanbadarn Fawr. Ei ddydd gwyl yw Tachwedd 16eg. 

Arthen, fab Sisyllt ab Clydawg, oedd frenin neu arglwydd Ceredigion. 
Bu farw yn y flwyddyn 804. Tebygol fod Ehiwarthen a Glynarthen, 
yn y sir hon, yn derbyn eu henwau oddiwrtho ef. 

Bevan, Thomas, oedd un o'r cenadon Protestanaidd cyntaf i ynys 
Madagascar. Yr oedd yn enedigol o ardal Neuaddlwyd, ac yn aelod o'r 
Eglwys Annibynol yno, ac yn un o ysgolheigion yr hyglod Dr. Phillips. 
Ordeiniwyd ef a'i gydlafurwr, Dafydd Jones, yno, yn genadon i Mada- 
gascar, Awst, 1817. Gadawsant Brydain ddiwedd y flwyddyn hòno, a 
chyrhaeddasant Mauritius yn mis Ebrill y flwyddyn ganlynol. Tiriasant 
yn Madagascar yn Awst, a chawsant dderbyniad croesawgar gan Fisatra, 
brenin Tamatave. Daeth mab y brenin yn un o'r deg neu ddeuddeg o 
ysgolheigion oedd ganddynt yn yr ysgol a sefydlasant yno. Wedi gwel- 
ed argoelion y llwyddasai y gwaith da, aeth y cenadon drosodd i 
Mauritius i ymofyn eu gwragedd a'u plant, ofelegid ynó y gadawsent hwy. 
Mr. Jones a ddychwelodd yn ol gyntaf, ac yn fuan derbyniodd y newydd 
prudd, gan un o'r masnachwyr, fod gwraig a phlentyn ei gyfaill Mr. Bevan 
wedi eu claddu, a'i fod yntau ei hun yn annhebyg iawn i fy w. Effeithiodd 
y newydd hwn yn ddwys arno, fel y wylodd yn hidl; ac heb golli amser 
aeth trwodd i'w weled, a chan gydio yn ei law, dywedai, "Y mae fy 
ngwaith ar ben; ond chwi a fyddwch byw, ac a lwyddwch: ymwrolwch, 
a chymerwch galon." I'r hyn yr atebai Mr. Jones, "Tewch; myfi sydd 
glaf, a chwithau sydd iach." "Chwi a gewch weled," ebai Mr. Bevan, 
u mai gwir a ddywedais; ac fe ddaw un arall i lanw fy lle." Gwiriwyd 
ei eiriau, oblegid bu farw yn mhen tridiau; a bu ei wraig a'i blentyn 
ferw yn fuan ar ei ol. 

Bold, William, Ysw., ydoedd o Dre'r Ddol. Llanwodd y swydd o 
8irydd Mon yn y blynyddau 1644, 1649, a 1655. Yn amser y rhyfel 



6 

gwladol, cymerodd ran y brenin; ac mor ddewr yr ymladdodd, fel y 
teilyngodd gael ei urddo â'r teitl o Farchog y Dderwen Freiniol, yr hwn 
a fwriedid ei roddi yn 1660. Yr oedd ei etifeddiaeth yn werth £1,000. 
— Gam. Quart. Mag. ii., 165 — 7. 

Bowbn, Thomas, Ysw., boneddwr cyfoethog a haelionus oedd yn byw 
yn "Waunifor, tua chanol y ganrif ddiweddaf. Aeth un tro i wrando Mr. 
Biowlands, Llangeitho, yn pregethu yn nghapel y Twrgwyn, ac o hyny 
allan daeth yn wrandawr cyson ar y Methodistiaid, er ei fod o'r blaen yn 
ymddwyn tuag atynt yn dra charedig a chymwynasgar. Yn y flwyddyn 
176Q, adeiladodd gapel Waunifor, yn agos i'w balas ei hunan, ac a'i 
rhoddodd at wasanaeth y cyfundeb; ac yn ei ewyllys trosglwyddodd ef 
yn llwyr iddynt dros byth. Yr oedd Mrs. Bowen yn cael ei threfnu i 
gadw y capel mewn cywair da tra y byddai byw. Profwyd yr ewyllys 
hon yn Nghaerfyrddin, yn y flwyddyn 1806, gan y weddw, yr hon a 
adawyd yn unig weinyddes i'r Uythyr cymun. Heblaw codi yr addoldy 
yn hollol ar eu traul eu hunain, byddai y teulu haelionus hwn yn arfer 
Uettya a chroesawu yr holl bregethwyr a ddeuent yno. Bu eu merch ar 
eu hol, yn gystal a'u mab, yr hwn oedd yn offeiriad yn Eglwys Loegr, 
yn dra haelionus i'r achos yno tra fuont byw. — Meth, Gymru, cyf. ii., 
tudal. 35, 36. 

Cadjfob ab Dinawal, yn y ddeuddegfed ganrif. Yr oedd yn ddyn o 
ddewrder mawr, a chymerodd gastell Aberteifì oddiar Iarll Clare, am yr 
hyn yr anrhydeddwyd ef gan ei dywysog, Arglwydd Rhys, (yr hwn oedd 
hefyd yn gefhder iddo), â'r arf-bais, yr hon a welir hyd heddyw yn cael ei 
gwisgo gan amry w o deuluoedd Ceredigion, sydd yn olrhain eu llinach yn 
ol iddp e£ Gwobrwywyd ef hefyd âg amry w diriogaethau, a gelwid ef 
yn Arglwydd Castell Hywel, Pantstreimon, a Gilfa^hwen, yn mhlwyf 
JUandyseuL Cym^rodd hyn le tua'rflwyddyn 1164. Priododd Catherine, 
merch y rhagddy wededig Arglwydd Rhys. — Gwel Note in Letoü Glyn 
Cothfs Warìes f Dosb. iv. 

Capifob, oedd fab Gwaethfoed, Tywysog Ceredigion, a disgynydd o 
Gwyddno Garanhir. Yr oedd yn byw yn y ddegfed ganrif. 

CAPWGAN ab B)eddyn at> Cynfyn, a ddüynodd ei dad fel tywygpg 
Powyp, yn y flwyddyn 1079. Q gylch y flwyddyn 1094, darfu iddo ef a 
Gruffydd ab Cynan orthrechu y Saeson yn Nyfed a Cheredigion, trwy ba 
fuddugoliaeth yr adennillodd y Cymry lawer o'u tiroedd. Ar ol hy% 
ymddengys i Çadwgan sefydlu ei lys yn Aberteifi. Yn Uadolig 1107, 
gwnaetfi wle<id arddejçchog yn y Castell hwnw, i'r hon y gwahodclodd 



bénaduriaid a phendefigion y, wlad o bob ardal yn Nghymru, yn nghyda 
nifèr mawr o feirdd a cherddorion, i ddifyru y gwahoddedigion. Yn 
mhlith y rhai hyn yr oedd Nest, merch Ithys ab Tewdwr, gwraig Gerald 
de Windsor, rhaglaw Castell Penfro. A phan gwelodd Owain, mab Cad- 
wgan, Nest> efe "a'i serchawdd yn ddìrfawr rhag ei theced o bryd a gwedd, 
a boneddhicced ei moes." Yn mhen ychydig amser, cynnullodd yn nghyd 
ychydig gyfeillion, ac aeth i Gastell Penfro, gyda'r dyben o gael meddiant. 
o berson Nest. Llwyddodd yn ei amcan — diangodd Gerald, a chymer- 
odd yntau Nest gydag ef i Powys. Fel y gallesid dysgwyl, dygodd hyn 
ef i helbul a helynt flin, fel y gorfodwyd ef a'i dad diniwaid a Ihralloded- 
ig i ffoi am ddiogelwch i'r Iwerddón. Dyohwelodd yr olaf y flwyddyn 
ganlynol, a chan iddo brofi nad oedd ganddo yr un Uaw yn mradwriaeth 
ei fab, caniatäwyd iddo i adfeddiannu ei diriogaethau yn Ngheredigion, 
a hyny ar yr ammod o dalu can' punt, a pheidio caniatâu i'w fab i ddy- 
chwelyd ato. Amddiffynodd Cadwgan ei hunan yn llwyddiannus yn 
erbyn galluoedd ei neiaint, hyd y flwyddyn 1110, pan yr ymosodẁyd 
arno yn ddisymwth gan Madawg, yn y Trailwm, a lladdwyd ef cyn iddo 
allu tynu allan ei gleddyf i amddiflyn ei hun. Mae hen amddiffynfa i'w 
gweled yn awr, ar làn y môr yn agos i Abèraeron, sydd o hyd yn dwyn 
ei enw; oblegid iddi, mae'n debyg, gael ei chodi ganddo ef. Tua chwarter 
milldir oddiẅrthi mae dau ffermdy, y rhai a elwir hyd heddyw Cügwgan, 
hyny yw, Oü Cadwgan, sef y man y byddai Cadwgah yn encilio iddo. 

Cadwgan ab Owaìn, tywysog Ceredigion, ac wyr Hywel Dda. Llttdd- 
wyd ef gan y Saeson, yn y flwyddyn 949. — Myf. Arch. L, 488. 

Cabanog, fab Corun ab Caredig ab Cunedda, sant oedd yn blodeuo yn 
nechreu y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llangranog, 
yn y sir hon. Ei ddydd gwyl yw Mai 16eg. Mae hanes bywyd Caran- 
og i'w weled yn mysg yr Ysgrifau Cottonaidd yn yr Amgueddfa Bryd- 
einig, ac ysgrifenwyd un arall gan John o Teignmouth. Yn ol hwnw, mab 
ydoedd ac nid ŵyr i Caredig. Dewisodd Caranog fywyd neillduedig sant, 
yh hytrach na dilyn ei dad fel ty wysog Ceredigion. — Reei Welsh Saintê. 

Cabedig, oedd fab Cunedda Wledig, ac yr oedd yn byw yn niwedd j 
bedwaredd gamif. Hynododd ei hiun yn fawr fel rhyfelwr, trwy ymlid 
ymaith y Gwyddeìod, y rhai oeddynt wedi meddiannu amryw ranau o 
Gymru. Fel gwobr am hyn, derbyniodd diriogaeth y Tyno Coch yn fedd- 
iant iddo ei hun, a'r hon a elwid wedi hyny oddiwrtho ef yn Ceredigion. 

CaroîT, esgob, yr hwn a sylfaenodd Eglwys Tregaron, ac a goffeir ' 
Mawrth öed, — Eeeá Wehh Saints. 



8 

Ceitho, oedd sant yn blodeuo yn y chweched 'ganrif. Efe oedd syì- 
faenydd Eglwys Llangeitho, a choffeid ef Awst 5ed. Mab ydoedd î 
Cynyr Farfdrwch ab Gwron ab Cunedda, yr hwn oedd yn byw yn Cyn- 
wil Gaio, sir Gaerfyrddin; a dywedir iddo ef a'i frodyr, Gwyn, Gwynno, 
Gwynoro, a Celynin, gael eu geni ar unwaith, ac iddynt oll fyw bywyd 
crefyddol. 

Cei^panc, Cenanc, neu Cinotheus, a ddilynodd Dewi Sant fel esgob 
cyntaf Llanbadarn Fawr. 

Ceri, Sion, neu Sion ab Bedo ab Dafydd ab Hywel ab Tudyr, bardd 
enwog, yn blodeuo rhwng 1500 a 1530. Mae ei ganiadau ar gael mewn 
llawysgrifau. 

Cürig Llwtd, neu y Bendigedig, oedd sant 'yn byw yn y seithfed 
ganrif, ac yr oedd yn hynod am ei ddysgeidiaeth a'i fywyd santaidd. 
Daeth i Gymru i ymsefydlu, ac ar ol glànio o hono yn Aberystwyth, 
teithiodd yn mlaen i ganol y wlad, ac eisteddodd o'r diwedd ar gopa 
mynydd uchel, yr hwn a alwyd wedi hyny oddiwrtho ef yn Curig, neu 
Eisteddfa Curig. Wrth edrych i lawr o ben yr ucheldir hwn, canfyddai 
ddyffryn prydferth o'i flaen, yn yr hwn y penderfynodd adeüadu eglwys, 
yr hon a alwyd oddiwrtho ef, Llangurig. Ennillodd barch mawr o 
herwydd ei dduwioldeb; ac oddiwrth gân o eiddo Lewys Glyn Cothi, 
(gwel tudal. 280 o'i waith), ymddengys ei bod yn arferiad yn ei amser ef 
gan y mynachod i fyned oddiamgylch i werthu delwau o hono ef, fel 
cyfareddau i'r bobl gyffredin, gan dderbyn yn eu lle gaws, cig, gwlan, 

ŷd, &c. 

"Un à arwain yn oriog 
Gurig Llwyd dan gŵr ei glog; 
Gwas arall a ddwg Seiriol, 
A naw o gawa yn ei gol." 

Priodolid hefyd rinweddau iachaol i'w fíbn, yr hon oedd, medd Giraldusy 
iV gweled yn eglwys St. Harmon yn ei amser ef. Yr oedd hefyd yn 
esgob ar esgobaeth yn Nghymru, yr hon fel y tybir oedd Llanbadarn Fawr. 

Cynfelyn, sant a flodeuai yn y chweGhed ganrif, a mab Bleiddyd ab 
Meirion ab Tybiawn ab Cunedda. Efe a sylfaenodd eglwys Llancyn- 
felyn, Ceredigion, ac un arall yn y Trallwng. 

Ctngar, mab Arthog ab Caredig, a brawd Cyndeyrn, oedd sant yn 
blodeuo yn y chweched ganrif. Mae dau neu dri o seintiau eraill yn 
dwyn yr enw hwn.— Re&t Wehh SainU, 



9 

Cynhudyn, sant a flodeuodd yn y chweched ganrif. Yr oedd yn fab i 

Bleiddyd ab Meirion ab Tybiawn ab Cunedda, ac yn ddeon Coleg Padarn 

yn Llanbadarn Fawr. Credir oddiwrth yr argraff Canotinu, sydd ar gàreg 

yn mynwent Llanwnws, yn sir Aberteifi, ei fod wedi ei gladdu yno. 

— Myf. Arch. ii., 35. 

Cynllo, oedd sant yn blodeuo yn y bummed ganrif, a mab i Mor ab 
Cenen ab Coel Codebawg. Yn yr hen argraffiadau o'r Ffurfweddîau 
Cymreig, "gwelir ei enw yn y blwyddiadur am Gorphenaf 17, lle y gelwir ef 
Cynllo Frenin, oddiwrth yr hyn y casglwn iddo fod unwaith yn feddiannol 
ar ei hen diriogaethau, ac iddo ẅedi hyny gyflwyno ei hunan i achos 
crefydd. Yn nyhuddiant Elphin, cerdd a briodolir i Taliesin, dywedir 
am dano, " Ni bydd coeg gweddi Cynllo," yr hyn a brawf yr ystyrid ei 
eiriolaeth ef yn effeithiol. Efe oedd sylfaenydd eglwysi Nantmel, Llan- 
gynllo, a Llanbister yn sir Faesyfed, a Llangynllo a Llangoedmor yn sir 
Aberteifi. Gwelwn oddiwrth y nodau i ganiadau Lewys Glyn Cothi, fod 
y coffadwriaethau canlynol o hono yn cael eu cadw yn y lle diweddaf : — 
1 . Cerwynau Cynllo, sef, ceuleoedd wedi treulio yn ngwely creigiog yr 
afon, trwy dreuliad parhaus y dwfr. 2. 01 traed march Cynllo wedi eu 
gadael yn y graig. 3. 01 gliniau Cynllo pan yn gweddîo. 

Dafydd ab Gerald, neu Fitzgerald, archddiacon Aberteifi. Cysegr- 
wyd ef yn Esgob Ty Ddewi yn 1147, lle yr arhosodd hyd ei farwolaeth 
yn 1176. 

Dapydd ab Gwilym, yr Ovid Cymreig, a anwyd yn Mro Gynin, 
plwyf Llanbadarn Fawr, Ceredigion, tua'r flwyddyn 1340. Hanai o deulu 
hynafol ac urddasol. Ei ewythr, Llywelyn ab Gwilym, ydoedd Arglwydd 
Ceredigion y pryd hyny, a phreswyliai yn y Ddolgoch, ar làn Ceri, o 
fewn tair milldir i Emlyn. Yr oedd hwnw yn fardd medrus, yn wlad- 
garwr gwresog, ac yn noddwr mawr i'r eisteddfod. Gydag ef y treuliodd 
Dafydd ei ddyddiau boreuol, ac ni fu ei ewythr yn hir heb ganfod ei fod 
yn feddiannol ar alluoedd meddyliol tuhwnt i'r cyffredin, a dawn prydydd- 
ol cryf. Ond pan tua phymtheg oed, dychwelodd at ei rieni i Bro Gynin. 
Tra yno ymddangosai rhy w duedd barhaus ynddo i wneuthur pobpeth o'i 
amgylch yn destunau gwawd a chwerthin. Mae rhai o'i duchangerddi a 
gyfansoddodd y pryd hyn ar gael etto ; ac maent yn bobpeth ond yr hyn 
a ddysgwylid eu gweled oddiwrth fab at ei rieni. Wedi byw ychydig fel 
hyn yn dra anghydfodus gartref, symudodd i Lys Ifor Hael, yn Masaleg, 
sir Fynwy, oblegid yr oedd y tywysog enwog hwnw yn berthynas agos 
iddo o ochr ei dad. Penodwyd ef ganddo yn arolygwr ar ei dŷ, ac yn 
athraw i'w ferch. Y canlyniad o'r berthynas olaf yma y safai ynddi, fu 



10 

i sërchogrwydd o natur fwy tyner na chyfetMgcurwch, i gael ei eimyn yn 
mynwes y naill at y Uall, yr hyn pan ddeallodd Ifor, efe a orehymynodd 
ei symud hi oddiar ffordd ei hedmygwr, ao a'i gosododd hi mewn lleian- 
dy (mmnery) yn Ynys Mon. Ond nid un i gymeryd ei ddigaloni mewn 
achos o'r fath ydoedd y bardd — dilynodd hi i'r ynys, ac i'r dyben o gael 
rhyw gyfleusdra i yuiddyddan yn achlysurol â gwrthddrych ei serch, 
cyflogodd ei hunan yn was i Abad mynachlog gymydogaethol, ond ni 
chyrhaeddodd ei amcan er cymaint fu ei ymdrech. Y n ddigalon dychwei- 
odd yn ol tua llys ei noddwr, lle y parhaodd i dderbyn yr un ymgeledd 
a'r caredîgrwydd ag a brofasai o'r blaen ; a rhwng yno a Bro Gynin y 
treuliodd y gweddill o'i oes. Yn fuan ar ol hyn, gwnaed ef yn Brif- 
fardd Cadair Morganwg, a dyna yr achos o'i alw yn fynych Dafydd 
Morganwg. Yr oedd yr anrhydedd yma ar unwaith yn ddigon o drwydd- 
ed rr bardd i dalu ymweliadau â phrif lysoeddtywysogion y wlad, ac i 
rydd-gymdeithasu â hwy yn eu gwleddoedd a'u llawenyddj oblegid yr 
oedd y tywysogion Cymreig y pryd hyny yn nodedig am eu haelioni if r 
beirdd, a'u nawddogaeth i feibion yr aẃen. O ran ymddangosiad personol, 
yr oedd Dafydd ab Gwilym yn lluniaidd neillduol o gorff a glandeg yr 
olwg. Yr oedd yn dàl a hirfain, a'i wallt yn nodedig brydferth, o liw 
melyn, crych, ac yn hongian i lawr yn llaes fodrwyau dros ei ysgwyddau. 
Yr oedd y fath gydgyfarfyddiad o brydferthwch a bawddgarwch, yn 
nghyda'i alluoedd i swyno â'i gerddi, yn peri ei fod yn sefyll yn uchel yn 
ffafr y rhyw deg. A dywedir fod ganddo ar un adeg, ddim llai na 
phedair ar hugain o gariadon. Tra ar ymweliad â Mon, cyfarfyddodd â 
Morfydd, merch Madawg Lawgam, yr hon o herwydd ei glendid anghy- 
mharol a lwyr swynodd ei serchiadau. O hyny allan yr oedd holl rym ei 
awen yn gysegredig i'r swydd o ganu ei chlodydd, a chyfansoddodd saith 
ugain a saith o riangerddi iddi hi, y rhai sydd yn llawn o'r tynerwch a'r 
meddyliau mwyaf Uednais. Wedi derbyn ei chydsyniad hi i'r weithréd, 
nnwyd hwy â'u gilydd gan un Madog Benfras, bardd enẃog, yn 
nghanol encilion coedwig, yn ngwydd cor-geiniaid asgellòg y coed yn 
unig, yr hyn nid oedd yn ddefod anarferedig yn yr oes hòno. Ond gan 
na thybiai ei rhieni y cyfryw briodas yn gyfreithlawn, llwyddasant o'r 
diwedd i ddwyn Morfydd yn ol, a gorfodasant hi i briodi un Cynfrig Cynin 
— hen wr methedig, a'r hwn na feddai ddim ond ei gyfoeth i'w gymerad- 
wyö. Wedi llawer o ymchwil a gwyliadwriaeth ddyfal, Uwyddodd y 
bardd i'w chael yn ol ato drachefh; ond ni fu ei ddedwyddwch ond o 
fyr barhad, oblegid gwahanwyd hwy yr ail waith gan y priod digiedig ; 
ao nid yn unig hyny, ond dirwywyd y bardd i swm mawr; a chan ei fod 
yn analluog i dalu, gosodwyd ef yn ngharchar. Ac oni b'ai i garedigrwydd 
ei hen gyfeillion yn Morganwg yn talu y dirwy drosto, mae yn dfebyg 
mai yn y carchar y caẅsai ddihoeni hyd ddiwedd ei oes. Wedi marw o'i 



11 

noddwr, Ifor Hael, symudodd y bardd r*w blwyf genedigol, lle y treuliodd 
lawer o flynyddau. Testunau caniadau olaf ei fywyd yn y neillduedig- 
rwydd hwn, oedd roarwolaeth ei npddwyr, a'i Forfydd anwylgu, yr hon a 
orfucheddodd; ac amlygai edifeirwch mawr am afradlonrwydd ei fywyd 
boreuol, yn nghyda thaer erfyniadau am faddeuant o ffoleddau ei ieuenc- 
tyd, Desgrifía deimladau ei fynwea yn y geiriau toddedig — 

"Mae Ifor a'm cynghorawdd? 
Mae Nest oedd unwaith i'm nawdd? 
Mae dan wydd Morfydd fy myd? 
Crorwedd ynt oll mewn gweryd! 
A minnau'n drwm i'm einioes 
Dan oer Iwyth, yn dwyn hir loes!" 

Claddwyd Dafydd ab Gwilym yn Mynachlog Ystrad Fflur, tua'r flwydd- 
yn 1400. Fel bardd yr ydym yn rhwym o'i ystyried yn mysg y dosbarth 
cyntaf ; ac mae y swyn, y tynerwch, a'r perseinedd sydd bob amser yn 
nodweddu ei gyfansoddiadau, yn ei ddyrchafu yn mhell uwchlaw ei holl 
ragflaenwyr a'i gydoeswyr barddonol. Nid oedd chwaith yn llai enwog, 
fel yr awgrymwyd, am ei allu i wawdio a sènu; ac yr oedd ei duchan- 
gerddi yn llawn o'r edliwiadau mwyaf pigog ac awchlym. Fel prawf o 
hyn, nid oes ond eisieu cyfeirio at yr ymdrech farddol a gymerodd le 
rhyngddo â Rhys Meigan, yn yr Eisteddfod fythgofiadwy a gynnaliwyd 
yn Emlyn, yn mhalas Gwilym Fychan. Dy wedir i'r saethau llymion o 
wawd a gyfeiriodd efe at ei wrthwynebydd, Rhys, suddo mor ddwfn i'w 
galon, ac iddo deimlo mor ddwys o'r achos, fel y syrthiodd i lawr yn 
ferw yn y fan! Cyhoeddwyd argraffiad o ganiadau Dafydd ab Gwilym — 
dau gant a thriugain a dwy mewn rhifedi, gan Owain Myfyr, a Dr. 
William Owen Pughe, yn y flwyddyn 1789. Mae llawer, modd bynag r 
o'i gyfensoddiadau wedi eu cael wedi hyny yn llyfrgell Mostyn. Cy- 
hoeddwyd hefyd gyfieithiad rhagorol i'r Saesonaeg, o rai o f i ddewis gan- 
euon, gan Arthur J. Johnes, Ysw., yn 1834. 

Daptdd ab Ieuan, oedd yn byw yn Llwyndafydd. Croesawodd Iarll 
Rismwnt pan ar ei ymdaith trw/r wlad i gyfarfod â'i wrthwynebydd, 
Bisiart in. O herwydd ei lettygarwch, derbyniodd gan yr larll y " corn 
hirlas/' yr hwn sydd i ? w weled yn awr yn y Gelli Aur. 

Daftdd ab Llwyd, neu Dafydd ab Uewelyn ab Gwilym Llwyd, Ysw., 
o Gastell Hywel, oedd yr aelod cyntaf a anfonwyd i gynnrychioli Cered- 
igion yn y Senedd a ymgy&rfyddodd yn nheyrnasiad Hatri viil, aef 
tua'r flwyddyn 1536. — Meyricfés Hùtory o/ ' Cwrdigcmshirç. 

Daftdd, Shok, Llandyssul, pregethwr gyda'r Bedyddwyr, Ganwyd ef 
yn y flwyddyn 1723^ Ymunodd â'r eglwys yn y lle hwnw, a dechreuodd 



12 

bregethu tra yn bur ieuanc. Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd 
Cymru i bregethu, ac yr oedd ei enw yn adnabyddus iawn trwy y Dywys- 
ogaeth. Bu ferw yn y flwyddyn 1805, yn 82 nüwydd oed, wedi treulio 
oes hirfaith yn ngwasanaeth ei Arglwydd. 

Dayies, Benj amin, oedd enedigol o gymydogaeth Castellnewydd Emlyn, 
a ganwÿd ef yn 1825. Gan ei.fodo amgylchiadau isel, ac o herwydd marw 
o'i dad pan oedd efe yn lled ieuanc, ni dderbyniodd fawr o chwareu teg am 
addysg — tua blwyddyh meddir, a hyny gan mwyaf trwy garedigrwydd 
rhai o'i gymydogion cyfoethog. O ran corŷ ÿr ydoedd yn eiddil a gwan 
tuhwnt i'r cyffredin, er pan aned ef; ond yr oedd meddwl treiddgar a 
chryf yn cyfanneddu oddimewn iddo, a dangosodd hyny yn fuan trwy y 
cynnydd rhagorol a wnaeth yn yr ysgol. . Fel y tyfai i fyny, cynnyddai 
ei awydd fwyfwy am wybodaeth, a darllenai gyda'r aiddgarwch mwyaf 
bob llyfr a ddeuai yn ei ffordd. A thra yn carip yn mlaen ei fasnach 
fechan, trwy ddilyn mèn i werthu nwyddau ar hyd y wlad, caffai gyf- 
leusderau rhagorol i ychwanegu at rifedi cyfrolau ei lyfrgell fechan. Nid 
elai i mewn i nemawr dŷ heb holi yno am lyfrau, neu hen lawysgrifau, y 
rhai a brynai; ac felly casglodd yn nghyd luaws mawr o hen lyfrau 
Cymraeg gwerthfawr a phrin, yn nghyda rhai Seisonaeg a ddygent berth- 
ynas â Chymru. Yr oedd llawer o'r rhai hyn mor wael, brwnt, a dryll- 
iedig, fel na chadwasai neb ond un o chwaeth goethedig mo honynt yn 
ei lyfrgell. Dechreuodd ysgrifenu rhestr o honynt, gyda sylwadau 
arnynt, ond bu farw cyn ei gorphen. Yn y saith mlynedd olaf o'i fywyd, 
cadwai ysgol yn Merthyr, ger Caerfyrddin, lle bu farw, Hydref 24, 1859, 
yn 34 mL oecL 

Dayies, Benjamin, ydoedd frawd i'r Parch. D. Davies, Castell-hyweL 
Bu am ryw gymaint o amser yn gyd-athraw â'r Parch. R. Gentleman, yn 
Athrofa Caerfyrddin. -Ystyrid ef yn ysgolhaig Hebraeg rhagorol, ac yn 
mysg eraill, bu y Parch. Evan Evans (Ieuan Brydydd Hir), gydag ef am 
beth amser yn dysgu yr iaith hòno. Aeth wedi hyny i Lynlleifiad, lle y 
bu yn gydweinidog âg un Mr. Yates. Treuliodd yr ugain mlynedd olaf 
o'i fywyd fel gweinidog yn Evesham, lle y bu farw, Ionawr, 1811. 

Dayies, David, a anwyd yn Geuffos, Llandysilio. Derbyniodd hyffordd- 
iadau crefyddol gan ei rieni, y rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Trefhyddion 
Calfinaidd. Bwrisdid ei ddwyn i fyny i'r Eglwys Sefydledig, ac i'r dyben 
o'i barotoi at hyny, treuliodd amryw flynyddoedd mewn gwahanol ysgol- 
ion, ac weithiau cadwai ysgol ei hunan. Ac er mwyn cwblhau ei efryd- 
iaeth anfonwyd ef o dan addysg yr ysgolhaig rhagorol hwnw, David Jones, 
Ddolwlff, yn mhlwyf Aberduar, lle y cyrhaeddodd wybodaeth helaeth o'r 



13 

Groeg a'r Lladrs. Tra yno, elai i wrando y Bedyddwyr, ac o'r diwedd, 
yn groes i ddymuniad ac amcan ei rieni, ymunodd â'r eglwys yn y lle. 
Gwelwyd ynddo yn fuan gymhwysderau amlwg i'r weinidogaeth, ac 
felly urddwyd* ef yn weinidog. Yn ychwanegol at ei ddyledswyddau 
eglwysig, bu am dymmor yn cadw ysgol yn yr ardal. Wedi rhoddi heibìo 
yr ysgol, agorodd fasnachdy yn Glandwr, tua hanner milldir oddiwrth ei 
annedd-dy, yr hyn a ychwanegodd gryn lawer at ei lafur a'i bryder. Ond 
nid oedd hyny yn peri iddo laesu dim yn ei sel a'i ymroddiad gyda'r 
gwaith o gyfranu bara'r bywyd; a theithiodd lawer ar hyd a lled y wlad 
i'r dyben hyny. Tueddai ei bregethau i agor deall ei wrandawyr, yn 
hytrach nag i gyffroi eu serchiadau. Pregethai yn ddidderbyn wyneb yn 
erbyn llygredigaethau yr oes; ac ni adawai neb heb ei geryddu o unrhy w 
bechod ag oedd yn adnabyddus iddo ef. Yr oedd yn dra deallus yn yr 
ysgrythyrau, yn gystal ag yn ysgrifeniadau y gwàhanol esbonwyr, inegys 
GiU, Henry, Burkitt, Pool, <fcc. Gadawodd yn ei ewyllys i'r eglwya 
oedd dan ei ofal Gorffo Dduwinyddiaeth Ridgely, ac Esboniad Mathew 
Henry ar y Téstament Newydd; yn nghyda thyddyn bychan, gwerth tua 
phedair punt y flwyddyn, at gynnal Ysgol Sabbathol yn Aberduar, dros 
byth. O ran corff, nid oedd ond bychan ac egwan iawn; er hyny, bu ei 
fy wyd yn un o lafur parhaus, ac o fawr ddefnyddioldeb i achos Duw yn 
y byd. Bu fyw i'r oedran teg o 88 ml., 60 o ba rai a dreuliodd yn y 
weinidogaeth. Gorphenodd ei yrfa Hydref 11, 1826. 

Davies, Dátid, Castell-hywel, un ag y mae ei enw fel bardd, ysgol- 
haig, ac athraw, mor adnabyddus trwy Gymru, a anwyd yn y Goitre, 
plwyf Llangybi, Ceredigion, yn y flwyddyn 1743. Yr oedd ei rieni yn 
enwog o ran eu duwioldeb, ac yn aelodau o'r Eglwys Annibynol yn y 
Cilgwyn, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol Phylip 
Pugh. Derbyniodd argraffiadau crefyddol dwfn pan yn dra ieuanc, a 
gwnai arferiad o weddîo, fel y dywed yn un o'i ganiadau, pan nad oedd ond 
wyth neu naw oed. Tueddwyd ef felly yn foreu at y weinidogaeth. Yr 
oedd ei rieni yn dra awyddus am ei weled yn troi allan yn ddyn defnydd- 
iol i'w wlad ac i'r eglwys, ac felly nid arbedasant na thraul na thrafferth 
er rhoddi iddo y ddysgeidiaeth oreu ag oedd yn gyrhaeddadwy yn y wlad 
y pryd hyny. Anfonwyd ef yn gyntaf i ysgol Llanybydder, ac oddiyno 
symudwyd ef drachefn i Langeler. Pan yn bymtheg oed, gosodwyd ef 
dan ddysgeidiaeth ei berthynas, Mr. Joshua Thomas, Leominster, yr hwn 
oedd yn weinidog duwiol a defnyddiol iawn; a bu cynghorion ac esiampl y 
gwr da hwnw yn foddion i ddymhau ei argraffiadau crefyddol blaenorol. 
Wedi treulio blwyddyn a hanner yn y lle hwnw, dychwelodd yn ol i 
Gymru, sef tua'r flwyddyn 1760. Treuliodd wedi hyny ryw gymaint o 
amser yn Ngholeg Caerfyrddin, yr hwn oedd y pryd hyny dan arolyg- 



14 

iaeth y Dr. Jenkins. Yn ystod ei arosiad yiaöo, cafwyd digon o brawf o'i 
alluoedd fel ysgolhaig,* yn gystal ag o'i dduwioldeb. Y pryd hyny y 
dechreuodd bregethu. Wedi gorphen ei efrydiaeth yno, ymsefydlodd yn 
Ciliau Aeron, lle y llafuriai fel pregethwr yn mysg yr Arminiaid. 
Tra yma, unwyd ef mewn "glan briodas" â Misa Ann Evans, Foel- 
allt, Ciliau. Ar ol ei Urddo yn gydweinidog â'r Parch David Lloyd, yn 
Llwyn-rhyd-owen, &c, efe a syniudodd oddiyno i Gastell-hywel, yn 
mhlwyf Llandyssul; ac wrth y lle yma yr adnabyddid ef byth wedi hyny. 
Ar ol ymsefydlu yno, agorodd ysgol glasurol, yr hon a ddaeth o'r diwedd 
i gael ei hystyried yn un o'r sefydliadau addysgawl enwocaf yn y Dy wys- 
ogaeth. Yr oedd gan Mr. Davies dalent neillduol at gyfranu addysg : yr 
oedd fel wedi ei ddonio â chymhwysderau arbenig at y gwaith o gario ysgol 
yn mlaen. Deallai y natur ddynol yn rhagorol; astudiai gymeriad y dys- 
gybl yn fanwl, ac nid hir y byddai cyn dyfod o hyd i'r fynedfa i gelloedd 
dirgel ei feddwl. Fel y gellid dysgwyl, daeth yn anarferol boblogaidd fel 
ysgolfeistr; a chyrchai plant a dynion ieuainc, tlawd a chyfoethog, o bob 
cŵr o'r Dywysogaeth ato am eu haddysgiaeth. Ac yr oedd llawer o wŷr 
enwocaf y wlad yn ddyledus iddo am osod i lawr sylfaen eu mawredd. 
Yn yr ysgol hon, cydgymysgai plant Ymneillduwyr ac Eglwyswyr yn 
ddiwahaniaeth; a dygwyd i fyny ynddi lawer a fuont yn addurn i'r 
weinidogaeth yn mysg y naili a'r llalL Ond pan ddaeth Dr. Horsley yn 
esgob Ty Ddewi, ni fynai urddo neb o'r ysgolheigion i'r weinidogaeth 
heb fyned i ry w sefydliad addysgawl arall. Darfu i hyn, mae'n debyg, 
effeithio i iyw raddau ar yr ysgol; ond yr oedd enw Mr. Davies bellach 
wedi ei sefydlu fel un o'r athrawon mwyaf llwyddiannus yn y wlad. 
Parhaodd yn y swydd yma, yn nghyda'r pregethu, hyd ddiwedd ei oes, yr 
hyn a ddygwyddodd Gorphenaf 8, 1827, pan oedd yn 83 oed. Fel duw- 
inydd, mae yn anhawdd dweyd dim gy da pherffaith sicrwydd am Mr. 
Davies, a hyny am y rheswm na chyffyrddai byth yn ei bregethau â 
phynciau dadleuol; ac felly, nis gellir dweyd beth oedd ei farn, mewn gwir- 
ionedd, ar lawer o athrawiaethau Cristionogaeth. Ymddengys mai lled 
anmheaodol oeddef eihunan ar y pynciau sydd.yn gwahanu yr Arminiaid 
a'r Sociniaid oddiwrth eu gilydd; ac felly hawliai y naill blaid a'r llall ef 
fel eu heiddo hwy. Yr oedd yn hollol ddiragfarn, modd bynag; ac mewn 
llythyr at gyfaill dy wed, " Yr wyf yn berffaith foddhaol yn fy meddwl fy 
hun fod y Dr. Priestley, ac eraill o'i blaid, yn ddynion da a Christionog- 
ion gwirioneddol; meddaf hefyd yr un farn am John Calfin, Dr. Crisp, a 
dysgyblion eraill. Eisteddwn yn ddedwydd mewn cymundeb gyda 
hwynt, gyda gobaith gwynfydedig o fod yn eu cymdeithas am byth yn y 
nefoedd. ,, " Ymddengys," ebai y Parchedig Arthur Mursell, yn Good 
Word&y " fod Mr. Davies yn rhyw ryfeddod o ddyn. Yr oedd yn ddyn o 
faintioli cawraidd. Yr oedd y cymydogion yn ofhi rhoddi benthj^; «u 



15 

ponies iddo, rhag ofn iddo dòri eu cefhau ; ac yr oedd ei deiliwr yn 
arfer aiarad am dano i\r ol ei farwolaeth gyda math o barch o&adwj." 
Ni bu erioed ddyn nrwy eymwynasgar, caredig, a didramgwydd, na Mr. 
Davies, Castell-hywel, byw ar y ddaear. Mewn cymdeithas nid oedd 
neb yn fwy llawen a difyrus nag ef, ac adroddir llawer chwedl ar lafar 
gwiad, fel enghreifftiau o'i ffraethineb, ond ni chaniatâ ein gofod i ni 
gofnodi dim yn bresenol. Fel bardd coeth a natuiiol, ychydig fu yn 
fwy enwog na bardd Castell-hyweL Mae y lüthrigrwydd a'r ystwyth- 
der sydd yn nodweddu holl gynnyrchion ei awen, yn eu gwneud yn 
hynod ddarllenadwy a phoblogaidd. Cyhoeddwyd ei gyfansoddiadau yn . 
Uyfryn, yn y flwyddyn 1822, dan yr enw Telyn Dewi> ac mae y gwaith 
erbyn hyn wedi myned trwy amryw argraifiadau. Gwneir ef i fyny gan 
mwyaf o gyfieithiadau o waith y prif-feirdd Seisnig, megys Young, 
Gray, Mrs. Barbauld, <fcc. Ac fel cyfieithydd barddoniaeth, nid oes neb 
etto wedi dyfod yn agos ato, ac ystyrir ei gyfieithiad o Alargan Gray yn 
mawr ragori ar y gwreiddiol, er cystal y w hòno. Yr oedd yn alluog i 
gyfansoddi englynion Seisnig a Lladin gyda rhwyddineb mawr, fel y 
gwelir oddiwrth yr enghreifiliau sydd yn ei lyfr. Y mae ei linellau 
•ydd yn cyfeirio at Dr. Priestley, yr hwn a ddaliai allan yr athraw- 
iaeth o fateroldeb yr enaid, yn dra adnabyddus : — 

" Yma gorwedd wedi marw, yn dra dethcu mewn arch dderw, 

Esgyrn, 'menydd, gwaed, gwythienau, corff ac enaid Doctor Priestley." 

Yr oll a wyddis iddo ysgrifenu mewn rhyddiaith ydoedd, cyfieithu 

Scougcd > 8 Life of God in the Soul of Mcm, Gadawodd Mr. Davies ar 

ei ol ddau fab yn y weinidogaeth gjda'r Undodiaid. 

Daties, Dávid, a anwyd jn Cilfforch, Henfjnjw, tua milldir o dref 
Aberaeron, ar j ffordd tuag Aberteifi, jn j flwjddjn 1791. Ymunodd 
â'r Annib jnw jr jn Neuaddlwjd pan jn dra ieuanc, a ch jmerad wjwjd ef 
gan jr hjglod weinidog, j Dr. Phillips, i fyned i Athrofa Caerfyixldin, er 
parotoi ei hunan at waith j weinidogaeth ; buasai am djmmor cjn hjny 
dan addjsg j Parch. D. Daviea, Castell-hjwel. Ar ei jmadawiad â'r 
Coleg, jn j flwjddjn 1813, derbjniodd alwad i fjned i gjdweinidogaethu 
â'r Parch. John Griffiths, i Gaernarfon, ac mewn canljniad urddwjd ef 
jno. Ni fu ei arosiad jno, modd bjnag, ond bjr, gan iddo dderbjn 
gwahoddiad oddiwrth eglwjsi undebol Pantteg a Pheniel, ger Caer- 
fjrddin, i ddyfod i'w bugeilio, â'r hjn j cjdsjniodd. "Wedi i'r Parch. 
D. Peter jmrjddhau oddiwrth ljwjddiaeth j Coleg jn Nghaerfjrddin, 
penodwjd Mr* Davies jn oljnjdd iddo, a gwasanaethodd jntau y 
swydd gyda ffyddlondeb a Uwyddiant mawr am 21 o flynyddoedd. Yr 
oedd Mr. Davies yn Drindodwr o'r galon, ac er fod ei ddyledswyddau fel 
ftthraw yn . ei ddwyn i wrthdarawiad beunyddiol â rhai yn coleddu 






16 

egwyddorion gwahanol i'r eiddo ef, etto cymaint oedd rhyddfrydigrwydd 

ei galon, fcl na roddai achos tramgwydd i neb, ond yn hytrach ennillai 

barch cyffredinol gan bawb a'i hadwaenai. Yn 1840, sef yn nghanol ei 

nerth a'i ddefnyddioldeb, gafaelwyd ynddo yn ff< rnig gan dwymyn yr 

ymenydd ; ond er iddo ymadferu yn raddol o honi, etto ni chyrhaeddodd 

byth nio'i nerth a'i yni blaenorol. Yr oedd ei alluoedd meddyliol o radd 

nwch na'r cyffredin wrth natur, ac yr oedd wedi eu diwyllio eilwaith 

gyda phob dyfalwch. Cyrhaeddodd enwogrwydd anghyffredin fel preg- 

ethwr, ac mae ei enw yn ddigon adnabyddus erbyn hyn trwy y Dywys- 

. ogaeth. Nid oedd yr un, efallai, y tebygai fwy iddo yn ei ddull o dra- 

ddodi na'i hen weinidog, yr hybarch Dr. Phillips. Byddai ei eiriau bob 

amser yn hynod syml a phriodol, yn wastad i'r pwynt ; ei brif amcan 

bob amser fyddai egluro ei feddwl gyda'r nifer lleiaf dichonadwy o eiriau : 

»yrthiai ar ei bwnc ar unwaith, a thriniai ef yn fyr, eglur, ac i bwrpas. 

Yr yma/rferol yn hytrach na'r athrawiaethol a gaffai fwyaf o le yn ei 

bregothau ; dadleuai yn gryf hefyd y dylai dyn astudiç ei weddi yn gystal 

a'i bregethy ac argymhellai hyn i sylw gweinidogion ieuainc ac eraill yn 

harhaus. Fel dy n, y r oedd yn feddiannol ar synwyr naturiol cryf anghy- 

ffredin, a deallai y natur ddynol yn ei holl amryfath agweddau yn neill- 

duol dda. Perthynai iddo lawer o rinweddau gwycb, a byddai ei gy- 

mcriad crefyddol yn dysgleirio yn barhaus mewn gweithredoedd o haelioni 

a chymwynasgarwch. Nid oedd dim tebyg i ragfarn na dallbleidiaeth yn 

porthyn iddo ; yr oedd ei enaid yn rhy eang i feddwl fod pob peth rhag- 

orol yn gyfyngedig i gylch yr enwad y perthynai efe ei hun iddo. Es- 

tynai ddeheulaw cyradeithas i bawb ag yr oedd achos Mab Duw yn agos 

at eu calon, ac ni dderbyniai ddim fel prawf o grefydd ond gwir ufudd- 

dod i orchymynion Crist. Yr oedd yn hynod ddiariangar ; fel prawf o 

hyn, gellir crybwyll y ffaith ganlynol : — Pan gynnygiodd yr eglwys oedd 

dan ei ofal wneud ychydig godiad yn ei gyflog, ychydig flynyddoedd cyn 

ei farwolaeth, dywedai fod cymaint swm yn ormod — y gwnelai llai y 

tro, rhag troseddu ar gasgliadau eraill, ond ei fod yn ymdeimlo yr un 

mor ddiolchgar am y cynnyg er hyny. Treulicdd oes hynod lwyddiannus 

fel gweinidog, ac un o angenrheidrwydd yn llawn gweithgarwch. Teith- 

iodd lawer i gyfarfodydd yr Ysgolion Sabbathol, cyfarfodydd cenadol, a 

chymanfaoedd, &c, mewn gwahanol ranau o'r wlad. Fel arwydd o'r 

parch mawr a goleddai yr eglwysi tuag ato, penderfynwyd ei anrhegu ar 

nwyddyn ei jubili â rhy w gydnabyddiaeth am ei lafur maith yn eu plith; 

ac er nad oedd yn mysg yr aelodau ond ychydig iawn o rai cyfoethog, etto 

cyrhaeddodd eu cyfraniadau y swm anrhydeddus o £ 1 67 ! Ni fu byw 

ond rhyw fis o amser ar ol derbyn hyn o arwydd o ymlyniad yr eglwysi 

\ Yr oedd y pryd hyny yn bur wael, a phrysurwyd ei ddadfeiliad 

rymp a gawsai oddiar ei geffyl, ychydig wythnosau yn flaenorol, 



17 

trwy yr hwn y derbyniodd y fath niweidiau mewnol, fel nas gallasai y 
meddygon goreu wneud un llesâd iddo. Efe a hunodd yn yr Iesu y 
Sabbath olaf yn Gorphenaf, 1864, yn 73 mlwydd oed, wedi treulio 52 
mlynedd yn y weinidogaeth, 60 o ba rai a dreuliodd yn Fantteg. Ysgrif- 
enodd Mr. Davies lawer iawn yn ystod ei oes i'r gwahanol gyfhodolion, 
ac mae ei ysgrifau ar bynciau duwinyddol yn britho dalenau cyhoedd- 
iadau yr enwad y perthynai iddo. Dygodd yn mlaen trwy eu cyfrwng 
amryw ddadleuon poeth ar wahanol bynciau, a gorfodid ei wrthwyn- 
ebwyr i gyfaddef mai nid dyn cyffredin yr oeddynt yn ymwneud âg 
ef. Bu yn golygu y Tywysydd a'r Cronicl Cenadol am flynyddoedd 
meithion. Cyhoeddodd hefyd y Uyfrau canlynol : — 1. Sylwadau ar 
SefyUfa Prawf Dyn dan yr MfengyL Achosodd y llyfryn hwn gryn 
gynhwrf ar y pryd trwy y Dywysogaeth, a bu yn bwnc dadl frwd am 
amser maith yn y gwahanol gyhoeddiadau. 2. Traethawd ar godi yn 
foreu. 3. Pregeth ar Ffurf yr A thrawiaeth lachus, yr hon a draddod- 
wyd ganddo yn agoriad addoldy Ebenezer, Llansadwrn, yn y flwyddyn 
1831. 4. Cyfarwyddwr Duwinyddol, sef math o holwyddoreg. Efe 
hefyd yw awdwr y Sylwadau ar y Dadguddiad, yn Meibl y Parch. D. 
Davies, Abertawe. Gadawodd ar ei ol, mewn llawysgrifen, draethawd a 
fwriadai ei gyhoeddi, dan yr enw Gwinllan y Gweühio, neu Gorff o 
Dduwinyddiaeth. Gobeithio y bydd i ryw un gymeryd at y gwaith o 
ddwyn hwn, yn nghydag ysgrifau gwerthfawr eraill yr hen weinidog 
parchus, trwy y wasg, oblegid byddai yn golled fawr i ddim o honynt i 
fyned ar ddifancoll. 

Dayies, David (Syr), K. C. H., M. D., oedd unig fab Robert Davies, 
Ysw., o'r Llwyn, Ceredigion, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1793. Ei 
fani ydoedd ferch ieuangaf John Price, Ysw., Rbosybedw. Priododd yn 
1819 â Mary Anne, merch y Parch. John Williams, Ystradmeurig. 
Meddyg ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac ymddengys iddo enwogi ei hunan 
yn fawr o herwydd ei wybodaeth eang a'i fedmsrwydd. Dygai yn mlaen 
ei broffeswriaeth ar y cyrtaf yn Hampton; ond gadawodd y lle hwnw ar 
ei benodiad i lod yn Physygwr i Gwilym iv. a'r ddiweddar Dywysoges 
Waddolog. Buasai yn gweinyddu yn achlysurol iddynt er's pum' mlyn- 
edd cyn eu hesgyniad i'r orsedd Derbyniodd urdd y Guelphic Order gan 
y teyrn hwnw ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth; a gwnaed «f yn Farch- 
og gan y Frenhines Victoria yn fuan ar ol ei hesgyniad. Bu farw yn 
Lucca, Itali, Ebrill, 1865, yn 72 oed. 

Davies, David, oedd frodor o gymydogaeth Horeb, Ceredigion, lle y 
ganwyd ef yn y flwyddyn 1811. Derbyniwyd ef pan yn bur ieuanc yn 
aelod o'r Eglwys yn y lle hwnw, yr hon oedd dan ofal gweinidogaethol ŷ 



18 

diweddar Barch. S. Griffiths, a bu gyda'r gwr hwnw am dymmor yn yr 
ysgol. Aeth wedi hyny i Athrofa y Neuaddlwyd, dan ofal yr hybarch 
Dr. Phillíps. "Wedi gorphen ei amser yno, derbyniodd alwad oddiwrth 
Eglwys Gynnulleidfaol Taihirion, Morganwg, lle yr urddwyd ef yn y 
flwyddyn 1838; ac yno yr arhosodd am dymmor i weinidogaethu. Tra 
yno, priododd ferch henaf y Parch. S. Griffiths, Horeb, o'r hon y bu iddo 
saith o blant. Symudodd o'r fon hòno drachefh i Glyn Taf, Morganwg, 
Ue yr ymsefydlodd hyd ei farwolaeth, yr hon a gymerodd le Gorphenaf 
16, 1851. Yn ystod y ddwy flynedd olaf o'i fy wyd, Jluddiwyd ef gan 
afiecl^yd i gyflawni ei ddyledswyddau gweinidogaethol; ond darfu i'r 
Eglwys, er nad oedd mewn un modd yn gyfoethog, gyfranu yn haelionus 
tuag at ei gynnaliaeth yn ystod yr amser hwnw. Yr oedd. Mr. Davies 
yn bregethwr da, yn gymydog cariadlawn, yn dad tyner, yn briod 
serchog, ac yn weinidog llafurus. 

Davies, EvAif, Hwlffordd, a anwyd yn agos i Lanbedr, tua'r flwyddyn 
1694. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Athrofa Hoxton, o dan ofal yr enwog 
Dr. Ridgley a Mr. John Evans. Wedi gorphen ei efrydiaeth, ordeiniwyd 
ef yn weinidog Eglwys y Bedyddwyr yn Hwlffordd. Yn 1741, penod- 
wyd ef yn athraw ar Athrofa yr enwad, yr hon yn flaenorol oedd yn agos 
i'r Gelli, yn sir Frycheiniog; ond yn awr a symudwyd ato ef i Hwlffordd, 
lle y mae hyd heddyw. Symudwyd hi am dymmor, modd bynag, i 
Gaerfyrddin yn 1743, a'r prydhyny yroeddMr. Samuel Thomas, gwein- 
idog yr Annibynwyr yn y dref hòno, yn gydathraw âg ef Gweinidòg- 
aethai Mr. Davies ar yr un pryd yn yr Eglwys Ymneillduedig yn Llan- 
ybrí. Ond o herwydd rhy w anghydfod neu gilydd rhwng y ddau äthraw, 
ymadawodd Mr. Davies am Loegr, a chymerodd ofal Eglwys Billerica, 
yn Essex. Bu yn offeryn i sefydlu achos yn Bwlchnewydd, ac efe fu'r 
gweinidog cyntaf yno; ac yno arhojgodd hyd ei farwolaeth, yr hyn a 
gymerodd le Hydref I6eg, 1770, pan yn 76 mlwydd oed. Ymddengys 
ei fod yn ddyn dysgedig a doniol iawn. 

Davies, Evan, Richmond, a anwyd yn Hengwm, plwyf Lledrod, yn 
y flwyddyn 1805, o deulu tra chrefyddol. Collodd ei fam pan oedd tua 
thair oed, ac ar hyny symudodd ei dad gyda'r gweddill o'r teulu i Gaer- 
ludd, gan ei adael yntau ar ol dan ofal ei fodryb. Ar ol gwasanaethu ei 
dymmor fel egwyddorwas gyda thrafhidiwr yn y gymydogaeth, aeth yntau 
ar ol ei dad i'r brif-ddinas. Perthynai yr oll o'i berthynasau gyda'r Tref- 
nyddion Calfínaidd, ond o herwydd rhy w amgylchiadau neu gilydd bwriodd 
ef ei goelbren gyda'r Annibynwyr, ac ymunodd â'r Eglwys yn Little 
Guildford Street, Southwark, yr hon oedd o dan ofal y Parch. D. S. 
Davies. ■ Bu gweinidogaeth y gwr hwnw, yn nghydag ei^do y Parch. 



19 

John Breese, Llanbrynmair, yr hwn a ddeuai yno yn achlysurol, yn dra 
bendithiol iddo. Hyn, yn nghyda'r addysg grefyddol dda a dderbyniasai 
yn moreu ei oes, fu yn foddion ei dröedigaeth. "Wedi ei dderbyn i'r 
eglwys, teimlai cyn hir awydd mawr am fod o wasanaeth i'r achos mewn 
modd cyhoeddus. Ond gan ei fod yn anadnabyddus, ac ýn fyr o'r moddion 
angenrheidiol er ei gymhwyso i waith y weinidogaeth, ymddangosai ei 
achos am dro yn hynoddywyll. Ynyr amser priodol, modd bynag, agorodd 
Rhagluniaeth y ffordd iddo. Cymerodd y Parch. Daniel Evans, Mynydd- 
bach, yr hwn am dymmor a wasanaethai yr eglwys yno, ddyddordeb 
neillduol ynddo, a gosododd ei achos o flaen jt eglwys. Y canlyniad o 
hyn fu iddo gael ei anfon i Athrofa Neuaddlwyd, o dan ofal yr hybarch 
Dr. Phillips. Wedi treulio blwyddyn a hanner yno, cafodd dderbyniad i'r 
We8tem Açademy, Exeter, yn y flwyddyn 1829. Bu ei gynnydd yno yn 
mhob cangen o wybodaeth yn dra chyflym, a choleddai y llywydd, y 
Parch. Dr. George Payne, feddwl mawr o hono fel ysgolhaig a Christion. 
Ar ol gadael y Coleg, ymsefydlodd yn Great Torrington, North Devon; 
ond ni fu ei arhosiad yno yn faith, oblegid gosodasai ei feddwl ar fod yn 
genadwr. Felly yn Ebrill, 1835, urddwyd ef yn nghapel Wycliffe, yn 
genadwr i'r Chineaid, ac efe a anfonwyd i Penang. Llafuriodd yno yn 
ddiflino, gan gadw ysgol Gristionogol ar gyfer yplant brodorol, yn gystal 
a'r milwyr Seisnig oeddynt yn aros yn y lle, ac ar yr un pryd astudiai y 
Chinaeg er mwyn cymhwyso eihunan yn mhellach i waith y genadaeth. 
Ar ol bod yno yn llafurio gyda graddau mawr o lwyddiant am bedair 
blynedd, gorfodwyd ef o herwydd methiant ei iechyd i ddychwelyd i 
Loegr. Yno bu am ddwy flynedd yn ngwasanaeth y Gymdeithas fel dir- 
prwywr i amddiffyn a dadleu ei hawl trwy'r wlad. Yn 1 842, efe a 
benodwyd yn arolygydd y Boys* Mission School yn Walthamston. Yn 
1844, derbyniodd alwad oddiwrth yr Eglwys Gynnulleidfaol yn Bichniond, 
Surrey, i ddyfod i'w bugeilio, â'r hyn y cydsyniodd, a bu yno yn gweinid- 
ogaethu am 1 3 o flynyddoedd, gyda pharch a chymeradwyaeth gyffredinol. 
Ac fel arwydd o hyny, anrhegodd yr eglwys ef â phwrs yn cynnwys 
.£200, ar ei waith yn rhoddi i fyny ei bugeilio. Ar ol hyny, bu yn byw 
yn Heywood, Caerludd, a Dalston. Yn y lle olaf hwn, agorwyd ysgol 
rîanod gan ei wraig a'i ferched, a chymerai yntau ei hunan ryw gymaint 
o'r gwaith; a phregethai yn achlysurol yn Hackney a'r gymydogaeth. 
Yn 1863, ymfudodd i Hornsey; ac yno cyferfu â phrofedigaeth chwerw, 
sef colli ei unig fab oloesawl (stirmmng). Effeithiodd hyn yn fawr arno, 
ac ar y 18fed o Fehefin, yr un flwyddyn, sef 1864, hunodd yntau yn yr 
Iesu. Claddwyd ef a'i ddau fab yn nghladdfa y teulu yn Abney Park, a 
gadawyd ei wraig a'i ddwy ferch i alaru ar ei ol. Dyoddefodd Mr. Davies 
lawer y flwyddyn olaf o'i fywyd oddiwrth y gewynwst; ac, yn ol cyfar- 
wyddyd ei feddygon, talodd ymweliad â Chymru, er mwyn newid awyr, 



/ 



20 

a threuliodd beth amseryn Llanstephan. Ond ni fu y cyfnewidiad hwnw 
o nemawr les iddo. Dechreuodd waethygu yn gyflym; ac ni chafodd ond 
prin ddychwelyd yn ol i Loegr, cyn iV ysbryd ehedeg i wlad nad oes yr un 
o'i phreswylwyr yn dy wedyd mai claf ydyw. Bu ei fywyd yn ddiargy- 
hoedd, ac yr oedd duwioldeb yn ymddysgleirio yn danbaid yn mhob 
gweithred a gogwyddiad o'i eiddo. Anfynych y ceid neb yn meddu ar 
galon mor haelfrydig; yr oedd yn hollol anfydol — yn gymaint felly a bod 
yn niweidiol iddo ei hun. Yr oedd o dymher addfwyn a gostyngedig, ac 
yn hollol ddiymhòngar. Fel awdwr, nid oedd Mr. Davies yn anenwog, 
ac mae yr hyn a adawodd ar ei öl yn profi y gallasai ragori llawer yn 
ychwaneg, pe caniatasai amgylchiadau iddo droi ei sylw yn fwy at len- 
yddiaeth. Dyma restr o'i weithiau: — China and her Spiritual Claims; 
Memoir8 of the Rev. Samuel J)yer; An Appeal to the Reason and Good 
Conscience of Cathohcs; Rest — Lectures on the Sabbaih. Efe hefyd oedd 
cyhoeddwr y gweithiau canlynol: — Letters ofthe Rev. Samuel Dyer to hia 
Children; Lectures on Christian Theology, by the late Rev. Dr. Payne; 
and The Worìcs of the late Rev. Dr. Edward Williams, Rotherham. Efe 
a ysgrifenodd y nodiadau ar Bechod Gwreiddiol a Redydd, y rhai a welir 
yn ngwaith y Dr. Williams. 

Daties, Evan, ydoedd enedigol o Landyssul. Enw ei dad ydoedd Mr. 
James Davies, Cilgwyn; ac enw ei fam oedd Mary, yr hon fu byw flyn- 
yddau yn Nghlynair, plwyf Llanllwni, ar ol claddu ei phriod. Anfonwyd 
ef i ysgol Oaerfyrddin, dan ofal y Parch. Jenkin Jenkins; ac wedi gor- 
phen ei efrydiaeth yno, urddwyd ef yn 1776 yn weinidog ar yr Eglwys 
Annibynol yn Llanedi. Bu ar hyd ei oes yn hynod lafurus, a bendith- 
iwyd ei weinidogaeth yn neillduol, fel y profir oddiwrth y nifer mawr o 
eglwysi a sefydlwyd trwy ei oflerynoliaeth ar hyd a lled y wlad. Yn 
mysg eraill, gellir enwi y rhai canlynol: — Penbre, Bethania, Cross Inn, a 
ChydwelL Hefyd y mae Eglwys ac addoldy Capel Als, Llanelli, yn 
ddyledus iddo ef am eu bodoldeb cyntaf. Meddai ragoriaethau mawr fel 
dyn, fel pregethwr, ac fel gweinidog. Yr oedd yn ddyn deallus, ac o 
synwyr cyfíredin cryf; a mawr berchid ef fel dyngonest a chywir. Mewn 
achosion o anghydfod rhwng cymydogion â ; u gilydd, appelid yn fynych at 
ei farn ef; a chymaint oedd ei ddylanwad, fel y boddlonent yn rhwydd 
iV ddedfryd ef. A dywedir mai ychydig o achosion a ddygwyd i'r llys 
cyfreithiol yn y gymydogaeth tra y bu efe byw. Yr oedd hefyd yn 
dangnefeddwr heb ei ail yn yr eglwys — casäai o'i galon bobpeth a dueddai 
yn y gradd lleiaf i fagu ysbryd dadleuaeth rhwng yr aelodau. Er y 
cyhoeddai o'r pulpud rai o athrawiaethau mawrion yr efengyl, a hyny gyda 
grym ac eglurdeb neillduol, ni chyffyrddai nemawr ddim â rhai pynciau 
eraill agy mae Cristionogion yn gwahaniaethu yn eu barn arnynt; ac 



21 

felly, wrth geisio bod yn ddiwyd i gadw "undeb yr Ysbryd yn nghwlwm 
tangnefedd," syrthiodd i'r amryfusedd o beidio, mewn rhan, draethu 
" holl gynghor Duw " i'w wrandawyr. Gwelwn yma, ei fod yn fyr o'r 
gwroldeb moesol hwnw ag sydd yn angenrheidiol i ddypgawdwyr cyhoeddus 
y bobl — y cyfry w wroldeb ag a alluoga un i gyhoeddi yr hyn a ystyria yn 
wirionedd, yn annibynol ar olygiadau y rhai a'i gwrandawent. Esgorodd 
y diffyg yma ynddo ar ganlyniadau dinystriol i heddwch a chysur yr 
eglwys ar ol ei farwolaeth. Yr oedd Mr. Davies yn bleidiol neillduol 
hefyd i ryddid cydwybod, a dadleuai yn wresog dros hawl dyn i farnu 
drosto ei hun, a bod yn rhydd-ymofynydd am y gwirionedd. Àc yma 
drachefn, nid oedd wedi bod yn ddigon gochelgar, oblegid gwelid tuedd 
yn fuan yn yr eglwys i ddefnyddio eu rhyddid yn y fath fodd ag oedd yn 
ymylu ar benrhyddid. Beth bynag a ystyriom yn ddiífygion ynddo, rhaid 
i ni gydnabod ei ragoriaethau fel pregethwr syml, eglur, a phrofiadol, ac 
agos at ddeall a theimladau ei wrandawyr. Anfynych y pregethai heb 
dywallt dagrau, ac ennillai y gynnulleidfa i'r un teimladau. Hoff bwnc 
ei bregethau fyddai, cariad Duw yn anfon ei Fab i'r byd i farw dros bech- 
aduriaid, a'r angenrheidrwydd am santeiddrwydd calon a buchedd. Bu 
farw Mr. Davies o'r darfodedigaeth, Ebrill 12, 1806, yn 55 mlwydd oed, 
ac wedi bod yn llafurio yn y weinidogaeth am 30 mlynedd. 

Dàvies, Hugh, a anwyd yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1605. Der- 
byniwyd ef yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn Rhydwilym, sir Benfro, 
pan yn 30 oed, ac urddwyd ef yn weinidog arni. Symudodd oddiyno i 
Abertawe, o ba le yr ymfudodd, yn 1711, i Pennsylfania, America. 
Dewiswyd Mr. Davies yn weinidog yno ar yr eglwys yn Great Valley, 
lle yr ymsefydlasai. Parhaodd i lafurio yno yn ffyddlon hyd ei farwol- 
aeth, yr hyn a gymerodd le yn y fl. 1 753, pan yn 88 oed. Yn mlynyddau 
olaf ei fywyd, dyoddefai boenau dirfawr oddiwrth ei fraich, fel yr oedd ei 
einioes wedi myned yn faich iddo. Mewn cysylltiad â hyn, adroddir 
hanesyn hynod, sef iddo ar ol defnyddio amryw foddion a hyny yn hollol 
aneffeithiol, anfon am henuriaid yr eglwys i'w eneinio âg olew, yn oi 
Iago v. 14, (fec. Y canlyniad o hyn fu, iddo dderbyn iachâd llwyr, ac ni 
ddychwelodd y poen mwyach. Ymddangosodd hyn yn hanes y Bedydd- 
wyr yn Mhennsylfania, mewn llyfr a argraffwyd yn y fl. 1770, o waith 
un Morgan Edwards. Derbyniasai yr ysgrifenydd y ffaith gan Mr. John 
Davies, yr hwn fu yn fugail ar yr eglwys am amryw flynyddau ar ei ol, 
ac yr oedd efe yn un o'r henuriaid a gymerasant ran yn yr eneiniad. 

Dàvies, James, a anwyd yn Mlaenhoffnant-isaf, plwyf Penbryn, 
Ceredigion, Rhagfyr22, 1800. Ymddengys iddo gael manteision addysg 
gwell na'r cyfiredin yn ei ieuenctyd, oblegid fod ei dad yn cadw ysgol, ac 



22 

yn cael ei ystyried yn ysgolhaig rhagorol. Bu yntau ei hunan wedi hyny 
yn cadw ysgol yn Mhenmorfa a manau eraill gyda gryn lawer o lwyddiant. 
Yr oedd, er yn fachgenyn, yn hyddyBg iawn yn nghynnwysiad y Llyfr 
dwyfol, ac wedi dysgu rhanau helaeth o hono ar ei gof; ond yr oedd hyd 
yn hyn yn hollol ddyeithr i awdurdod y gwirionedd ar ei feddwl, nes y 
cyrhaeddodd ei unfed flwyddyn ar hugain, pryd yr argyhoeddwyd ef, ac 
yr ymunodd â'r Methodistiaid yn y Cei Newydd. Gwelwyd ynddo yn 
fuan gymhwýsderau at y gWaith o bregethu; ond er derbyn cymheiliadau 
parhaus i ddecbreu, ni theimlodd ei hun yn rhydd am rai blynyddau i 
anturio yn mlaen yn gyhoeddus, sef hyd y flwyddyn 1831. Yr oedd y 
pryd hyn newydd symud o ardal y Cei Newydd i Benmorfa, lle y treuliodd 
y gweddill o'i oes> Y bregetb gyntaf, mae'n debyg, o'i eiddo a draddod- 
wyd yn Blaenanerch; a bendithiwyd ei weinidogaeth mewn modd neill- 
duol, fel y daeth unarbymtheg i ymofyn lle yn yr eglwys yno. TJrddwyd 
ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Llangeitho, yn y flwyddyn 1841. 
Nid oedd Mr. Davies yn un o'r pregethwyr hyny a ystyrir yn boblogaidd, 
ac yr oedd ei ddull o draddodi yn hollol dawel a digyffro. Ei amcan 
mawr yn ei holl bregethau oedd, cael y gwirionedd i'r meddwl, a hyny 
trwy guro wrth borth y deall. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a gwelid 
hyny yn amlwg yn eì holl bregethau. Hunodd yn dawel yn yr Ie«u, 
Ebrill 14, 1853, ar ol cystudd maith a blin. 

Davies, James, (lago ab Deuri), a anwyd yn Llandyssul, yn y flwyddyn 
1648; a threuliodd y rhan fwyafo'ioes yn Pencader. Derbyniwyd ef 
yn aelod o'r Eglwys Annibynol yno o dan weinidogaeth yr enwog Stephen 
Hughes. Yr oedd yn feddiannol ar wybodaeth tra eang, ac yn fardd a 
chyfieithydd rhagorol. Cyhoeddwyd amryw ddarnau o J i waith o bryd i 
bryd, ac mae amryw lawysgrifau yn aros etto ar ei ol. Yn mysg eraill, ys- 
grif-lyfr yn dwyn y dyddiad 171 6 — 1 7; ond nid yw ei ddechfeu na'i ddiwedd 
ar gael. Ymddengys mai cyfieithiad ydyẃ un o'r traethodau sydd ynddo, 
a'i fod wedi ei fwriadu i gael ei argraffu yn yr Amwythig, gän Shôn 
Rhydderch. Y mae ynddo un traethawd dammegol amy chwil, yr eryr, y 
llew, y cadnaw, y fran, y ddafad, a'r Uygoden, wedi ei ysgrifenu mewn 
dull hynod ddyddorol ac addysgiadol. Y dyddiad wrth hwn ydyw, Mai 
24, 1711; ac ysgrifenwyd ef o blwyí Llanllawddog, lle y treuliodd y 
bardd y gweddill o'i oes. Y mae traethawd arall ynddo, i'r hwn y mae 
Shôn Rhydderch wedi ysgrifenu rhagymadrodd wedi ei ddyddio Medi 23, 
1717. Y mae un tudalen hefyd wedi ei ysgrifenu gan Shôn Rhydderch, a'r 
teitl sydd uwch ei ben ydyw, Tmddyddan rhwng Cardotyn a Difinydd. 
Ar ran wen o dudalen sydd yn nghanol y llyfr, y mae llythyr etto gan 
Shôn Rhydderch, yr argraffydd, fel pe byddai yn dychwelyd y llawysgrif 
feon, gan ddymuno cael un arall. _ Ceir yma hefy d awdl o waith Lewia 



23 

Glyn Cothi i Syr Thomas ab Syr Rosser Fychan o Dreytwr. Cyfieith- 
odd chwech neu saith o lyfrau defnyddiol o'r Saesonaeg i'r Gymraeg : yn 
mysg pa rai, y mae Meddyliau Dirgelaidd £everidge, 1717; a Thyred 
a Groeaaw, gan Bunyan, 1719. Darlunir ei nodwedd gan ei gyfaill a'i 
gjmydog, Chrifítmas Samuel, gweinidog Pantteg, fel ycanlyn: — "Iago 
ab Dewi, y cyfieithydd enwog, a fu farw ar ol deunaw wythnos o gystudd, 
a chladdwyd ef yn Llanllawddog, ar y 27ain o Fedi, 1722. Yr oedd yn 
ddyn nodedig iawn; yn ddyn o ychydig eiriau, ond o wybodaeth dra 
helaeth; yn ddyn o fuchedd dda, ac yn hen Gríation profedig. Nid oes 
rhaid i mi ddweyd ychwaneg am dano — ei weithredoedd a'i canmolant yn 
y pyrth. M 

Dayiss, James, oedd weinidog Eglwysi Annibynol Abermeurig a 
Chiliau Aeron, ar ol marwolaeth yr hybarch Phillip Pugh; ac mae yn 
debyg ei fod yn enedigol o'r gy mydogaeth hòno. TJrddwyd ef yn 1743, a 
chydweinidogaethai yn y Cilgwyn ac Ahermeurig gyda Mr. Pugh, hyd 
farwolaeth y gwr hwnw. Bu am dymmor yn Pencader, yn cydlafurio 
â'r gw.einidog yno, sef Mr. John Lewis. Dychwelodd drachefh i ardal 
Abermeurig, a bu farw yn Plas, Cilcenin, yn lled fuan wedi hyny. Yr 
oedd yn dad i Mr. Evan Dayies, Llanedi; a Mr. Daniel Dayies, a fu gynt 
yn weinidog yn Ynysgau, yn Merthyr Tydfil. 

Dayibs, Jekkin, Twrgwyn, oedd bregethwr enwog yn mysg y Method- 
istiaid Calfinaidd, a ganwyd ef yn Penysarn, yn y flwyddyn 1797. 
Cafodd y fralnt o'i ddwyn i fyny mewn teuju crefyddol iawn. Yr oedd 
tìi fam yn hynod am ei duwioldeb, a'i dad yn ddiacon parchus yn y cyfun- 
deb. Ymddangosai yn Jenkin Davies ragoriaetbau neillduol yn dra 
ieuanc, yn gymaint felly, fel ag i dynu sylw pawb a'i hadwaenai. Gpfynai 
y Parch. Ebeneaer Morris i'w rieni yn fynych, oddiar ryw hynodrwydd a 
ganfyddai ynddo, u Beth fydd y bachgenyn hwn, debygech chwiî " Cafodd 
fanteÌBÍon addysg yn foreu, y cyfry w ag na fwynheid ond gan ychydig 
iawn yn yr oes hòno. Anfonwyd ef ýn gyntaf i ysgol a gedwid yn Llwyn 
Dafydd; wedi hyny i Aberteifi, ac yna i'r Cei Newydd. Yr oedd ei syched 
am wybodaeth yn fawr iawn — arhosai ar ei draed yn fynych trwy y nos i 
astudio. Y Beibl oedd prif wrthddrych ei efrydiaeth, a thrwy ei ddar- 
lleniad cyson o hono, yn nghyda'i gof cryf, daeth ya hyddysg neillduol 
yn ei gynnwysiad. Gwnelai ddefhydd mynych eilwaith yn ei bregethau 
o ymadroddion a ohyffelybiaethau yr Ysgrythyr. Derbyniwyd ef yn aelod 
pan yn 1 6 mL oed, ao yr oedd y pryd hyny yn llafurio yn fíyddlon iawn 
gyda'r Ysgol Sabbathol. Annogwyd ef yn fuan i ddechreu pregethu, ond 
yr oedd yn bur hwyrfrydig i ddechreu ar y gwaith pwysig hwnw, gan 
y teimlai yn barhaus ei annigonolrwydd ei hun at y gorchwyl; ac ni 



24 

wnaeth chwaith nes oedd yn llawn 28ain oed. Yn mlynyddau cyntaf ei 
weinidogaeth, yr oedd yntau, fel Uawer o'i gydlafurwyr, dan lawer o 
anfanteision wrth geisio cyflawni ei swydd, gan ei fod yn cael ei rwystro 
gan negeseuau y by wyd hwn. Gweithiai yn galed ar hyd j dydd ar ci 
fferm, a'r unig amser a allai ei hebgor i ddarllen a myfyrio oedd y nos. 
Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y fl. 1833, ac wedi 
hyny, ymgysegrodd yn fwy llwyr i waith y weinidogaeth. Ar ol marw- 
olaeth y Parch. E. Morris, yn 1825, daethgofal yr eglwyai cymydogaethol 
bron yn llwyr ar JenHn pavie&; ac ni fu yntau mewn un modd yn an- 
ffyddlon i'r ymddiriedaeth a roddwyd ynddo. Hyn fu'r prif achos iddo 
symud, yn mhen rhai blynyddoedd, o Bensarn i'r Twrgwyn i fyw. Yr 
oedd gofalon bydol a phryder teuluaidd yn peri llawer o anhwylusdod iddo 
yn ei yrfa weinidogaethol. Yr oedd ei deulu erbyn hyn yn lluosog, a'r 
plant yn ieuainc, ac yn sefyll mewn mawr angen am ddysgeidiaeth, yr hyn 
oedd bron allan o'r cwestiwn iddynt byth ddysgwyl ei gael, tra y cedwid 
hwy i gynnorthwyo eu tad yn ngwaith y fferm. Wedi ei lwyr argyhoeddi 
nas gallasai pethau fyned yn mlaen fel hyn yn hwylus, gwelai nad oedd 
yr un feddyginiaeth yn ymgynnyg ond rhoddi heibio naill ai y pregethu 
neu y ffermio. Yn y cyfyng-gyngho* yma, gosododd y peth at farn ei 
wraig, yr hon a'i hatebodd, "Na roddwch heibio y pregethu er dim, rhag 
i cbwi, wrth hyny, ddigio yr Aíglwydd. Hwyrach y gwna yr eglwys 
ystyried a gwrando ein cẃyn." Wedi cael yr- un annogaethau drachefh 
gan ei gyfeillion, yn nghyda thystìolaeth ei gydwybod ei hun fod a fynai 
yr Arglwydd âg ef fel cenad at ei waith, daeth i'r penderfyniad o roddi i 
fyny y fferm, ac ymgysegru 501 Uwyr i wasanaeth ei Arglwydd, gan ym- 
ddiried i haelioni yr eglwysi, ond yn benaf i'w Feistr nefol, am foddion ei 
gynnaliaeth ef ei hun a'i deulu. Ac felly, yn Mihangel, 1838, ymrydd- 
haodd oddiwrth ei orchwylion bydol, a symudodd gyda'i deulu, ar 
ddymuniad taer trigolion Twrgwyn a Salem, i fyw i'r ardal hòno, ac yno 
y treuliodd y gweddill o'i oes yn ddefnyddiol iawn. Ni fu, modd bynag, 
byw ond ryw bedair blynedd ar ol ei symudiad; oblegid yn nechreu y 
flwyddyn 1842, dadfeiliodd ei iechyd i gryn raddau. Ond er y pregothai 
er hyny yn achlysurol, ni theimlodd yn iach byth mwy; ond prysurwyd 
ei ddiwedd gan lucheden, yr hon a'i cymerodd ymaith, Awst lOfed, o'r 
fl. hòno. Yr oedd ei lafur yn mlynyddau olaf ei fywyd, ar ol ymgysegru 
yn gyflawn i'r weinidogaeth, yn fawr iawn. Teithiai Dde a Gogledd, gan 
ymweled yn achlysurol â threfydd Lloegr, gan bregethu y gair yn 
ddiwyd "mewn amser ac allan o amser." Dywedir iddo bregethu 315 o 
weithiau yn ystod y flwyddyn 1840, a 400 o weithiauyn y flwyddyn 1841. 
"Prif ragoriaethau ei bregethau ydoedd sylweddolrwydd eu materion, a 
thlysni eu cyfansoddiad. Ac er nad oedd yn ei ymddangosiad ddim i 
dynu iylw y gwrandawyr, ac er nad oedd ei laia ond gwanaidd, ac ond 



25 

anfynych yn cynhyrfu y teimladau; etto, yr oedd ei bregethau yn un 
gadwyn fawr o feddylddrychau wedi ei goreuro â phur air Duw. M 

Dàvies, John, Daventry, ydoedd weinidog defhyddiol gyda'r Anni- 
bynwyr; a ganwyd ef mewn pentref bychan ger Aberystwyth. Symudodd 
ei rieni i fy w i Woolwich, tra yr ydoedd ef yn bur ieuanc. Ymddengys 
iddo dderbyn argrafnadau crefyddol dyfhion a pharhaus o dan weinidog- 
aeth y Parch. Dr. Jones, Bangor; ac ymunodd â'r eglwys tra nad oedd 
etto ond tua phedairarddeg oed. Aeth yn fuan wedi hyny i Goleg Llan- 
fyllin, yr hwn oedd y pryd hyny dan ofal y Dr. Lewis. Bu yn athraw 
wedi hyny am ryw ychydig amser i blant un — George, Ysw., yn sir 
Gaerfyrddin. Derbyniodd alwad gan Eglwys Deptford i ddyfod iV 
bugeilio, â'r hyn y cydsyniodd, a bu yno bedair blynedd. Yn Hydref, 
1826, cafodd annogaeth i fyned oddiyno i Daventry, lle yr arhosodd i 
weinidogaethu gyda graddau mawr o lwyddiant hyd ddiwedd ei oes. Yr 
oedd Mr. Davies yn bregethwr o safle uchel iawn, ac yn meddu galluoedd 
areithyddol anghýffredin. Yr oedd yn dduwinydd rhagorol, yn ysgolhaig 
clasurol gwych, ac yn feddiannol ar «tôr helaeth o wybodaeth gyffredinol. 
Yn» ei ddull o draddodi y gwirionedd, yr oedd yn rymus a dylanwadol — 
ergydiai yn uniongyrchol at y galon, a hyny, yn gyffredin, gyda llwydd- 
iant mawr. Gydag ef yr oedd crefydd a duwioldeb yn bethau gwirion- 
eddol, a gwelid hwy yn dysgleirio yn danbaid yn mhob gogwyddiad a 
gweithred o'i eiddo. Perchid ef yn fawr gan gylch eang ei gyfeillion, o 
herwydd diffuantrwydd a serchogrwydd ei galon; yn neillduol felly gan 
yr ieuenctyd, ar y rhai yr oedd ganddo ddylanwad anarferol. Pregethai 
i'r rhai hyn unwaith bob blwyddyn; ac ar y pedwerydd o Ionawr, 1857, 
traddododd y gwirionedd am y tro olaf i'w cly wedigaeth, wedi gwneud 
hyny yn gyson am un mlynedd ar ddeg ar hugain. Yr oedd ei iechyd 
wedi dechreu dadfeilio er's blwyddyn neu ddwy ; ond ymadferodd ychydig 
yn ngwanwyn y flwyddyn uchod. Ni fu hyny, modd bynag, ond o fyr 
barhad; ac er pob ymdrech o eiddo ei gyfeillion, suddodd yn raddol, a bu 
farw y mis Mai dilynol. Yr wythnos olaf o'i fywyd, ymwelwyd âg ef 
gan ei hen gyfaill a'i dad yn yr efengyl, y Dr. Jones, Bangor, yr hwn a 
bregethodd yn ei gapel y Sabbath olaf iddo ef ar y ddaear. 

Daties, J. P., ydoedd fab i'r Parch. D. Davies, offeiriad Bangor a 
Henllan; a ganwyd ef yn y 11© blaenaf, Mawrth 12fed, 1786. Yr oedd 
ewythr iddo, brawd ei dad, yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Aber- 
honddu; ac yr oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog gyda'r 
Bedyddwyr, hefyd yn ewythr iddo. Gyda'r blaid olaf y bwriodd ef ei 
goelbren, ac ymunodd â hwynt yn y Drefach. Yn fuan ar ol ei dderbyn, 
tueddwyd ef at waith y weinidogaeth. Cyn pen hir, cymerodd daith 



26 

trwy y Gogledd, ac ymwelodd â sir Fflint, lle ybu yn llwyddiannus neillduol 
— casglodd yn nghyd gynnulleidfa fechan yn Nhreffynnon, ar yr hon yr 
urddwyd ef yn weinidog. Hon oedd yr eglwys gyntaf a ffurfiwyd gan y 
Bedyddwyr yn y sir hòno. Symudodd oddiyno yn lled fuan i Lynlleifiad, 
ac oddiyno drachefn i Gaerludd. Ond gan ei fod mor awyddus i fod o 
wasanaeth i'w gydgenedl, dychwelodd yn ol i Gymru; a bu yn gwein- 
idogaethu yn olynol yn Glanyferi a Chydweli, ac yn ddiweddaf yn 
Nhredegar, lle y gorphenodd ei yrfa, Awst 23, 1832, yn 46 oed. Bu 
trwy ei ymdrechion diflino yn offeryn i sefydlu eglwysi yn Rumni, Peny- 
cae, Sirhowi, a Glan Ebwy. Fel pregethwr, yr oedd Mr. Davies yn dra 
phoblogaidd a chymeradwy; ac fel gweddîwr, yr oedd yn nodedig iawn. 
Byddai ei nodiadau eglurhaol ar ranau cyntaf ei bregeth yn neillduol 
briodol ac addysgiadol, ac amlygent wybodaeth eang a chyffredinol. Yr 
oedd oi ddull o draddodi yn hyawdl ac yn hollol naturiol, a uieddai ber- 
ffaith reolaeth ar ei laís. Diweddai ei bregeth bob amser yn dra disymwth, 
pan y byddai y gwrandawyr yn llawn bywiogrwydd ao yn orawyddus i 
dderbyn ychwaneg, gan eu gadael i raddau yn siomedig, am na pharhasai 
ychydíg yn hŵy. Yr oedd y swyn oedd yn ei weinidogaeth, a'r dylanwad 
oedd yn cydfyned â hi yn fynych, bron yn annysgrifìadwy. Fel ysgrif- 
enydd ac awdwr, mae i Mr. Davies le nid anenwog yn mysg Uenorion ei 
wlad. I'r ieithoedd Cymraeg a Saesonaeg yr ymddengys iddo dalu 
f wyaf o sylw; a thrwy astudiaeth ddyfal, daeth yn dra hyddysg yn y 
flaenaf. Fel cadamhad o hyn nid oes angen gwell prawf na'i araeth arni 
yn JSeren Gomer, yn y flwyddyn 1825, a'i amddiflTyniad iddi yn 1826. 
Ymddengys mai y Dr. W. O. Pughe a ddilynai fel cyfarwyddyd yn ei 
efrydiaeth o'r iaith. Bwriadai ddwyn allan Eiriadwr Oymraeg oü 9 fel y 
gwelir oddiwrth ei gynllun o'rojrfryw yn y Seren, yn 1824. Ysgrifenodd 
oddeutu ugain llen o hono; ond pa beth ddaeth o'r llawysgrif ar ol ei 
farwolaeth nid yw yn hysbys. Cyhoeddwyd cyfrol, gwerth pum' swllt, 
o'i weithiau duwinyddol. Fel dyn, yr oedd ei wynebpryd yn dra siriol a 
hawddgar, ei drwyn yn eryraidd, a'i lygaid yn llawn bjrwiogrwydd. Pan 
y codai yn y pulpud i ddechreu yr addoliad, nid ymddangosai ynddp ryw 
lawer a dueddai i beri i'r gwrandawyr ddysgwyl dim anghyfl&redin oddi- 
wrtho. 

Davtes, Johk, ydoedd fab i'r hyglod ysgolhaig, y Parch. D. Davies ÿ 
Castell-hywel, lle y ganwyd ef, Mehefin5ed, 1787. Derbyniodd elfenau 
ei ddysgeidiaeth gan ei frawd, y Parch. D. Davi«s, Castellnewydd Emlyn. 
Dysgodd rifyddiaeth wedi hyny gydag un Mr. Parry, yn Nghaerfyrddini 
Yn y flwyddyn 1804, rhwymwyd ef yn egwyddor-was meddygol gyda 
l^r. Morgan, Ddolgoch, ger y dref hòno; ac wedi hyny bu gyda llaw^ 
fèddyg enwog o'r enw Williams, yn Nghaerfyrddin. "Wedi hyny, yn 



27 

1S08, aeth trwy yr Ysbyttai frl efrydydd Bydwreigiaeth; pasiwyd 
ef yn Hoepital Mate, a phenodwyd ef i ymuno â'r fy ddin: ac felly 
aeth ar fwrdd agerlong yn ynys Walcheren. Ond ni fu iddo orfyw ei 
ddyrchafiad ond ychydig amser — daeth adref wedi anmharu ei iechyd, a bu 
farw yn y Llwyn, sir Aberteifî, Hydref 27, 1810, yn 23 oed. 

I>avibs, John Lloyd, Ysw., a fu am beth amser yn A.S. dros fwrdeis- 
drefi Ceredigion, sydd yn un esiampl etto o'r hyn y gellir ei gyrhaedd 
mewn amser gyda diwydrwydd, ymroddiad, a phenderfyniad, yn enwedig 
os bydd galluoedd meddyliol cryfìon yn cydfyned â hwy. Ganwyd Mr. 
Davies mewn tafarndy bychan, sef y Blach Lion, yn nhref Aberystwyth, 
lle y bu ei rieni am beth amser yn by w. Yn ei ddyddiau boreuol, arferai 
jTMpost chaise yn y drefj a chyflawnai orchwylion cyffredin eraill, y rhai 
ni fyddai cywilydd ganddo eu harddel mèwn amser wedi hyny. Yna 
aeth i Gastellnewydd Emlyn, yn ysgrifenydd at gyfreithiwr cyfrifol. Yn 
mhen enyd o amier, priododd Mrs. Lloyd, gweddw Mr. Lloyd, Gallt yr 
Odyn, o'r hon y bu iddo un mab, yr hwn a fu farw yn Llundain tra yn 
dilyn ei efrydiaeth o'r gyfraith. Yr oedd Mr. Lloyd Daviea yn ddyn o 
synwyr naturiol cryf iawn, yn meddu ar wybodae.th eang, ac yn ymadr- 
oddwr hyawdl; ac felly, penodwyd ef yn fuan wedi hyny yn ynad yr hedd- 
wch dros sir Gaerfÿrddin yn gystal a Cheredigion. Yr oeddhefyd yn dra 
hyddysg yn y gyfraith, yr hon á efrydodd yn ddiwyd. Bu am dymmor 
yn cynnrychioli bwrdeisdrefi Ceredigion yn y Senedd; ac nidgormod yw 
dweyd ei fod yn un o'r aelodau goreu a anfonwyd erioed o Geredigion i 
Neuadd St. Stephan. Cymerai y dyddordeb mwyaf yno yn wastad yn 
mhob peth a ddygai berthynas â Chymru, ac yn enwedig â'i sir ei hun; a 
gwyliai gyda'r dyfalwch mẁyaf dros ei hlawnderau a'i manteisìon. 
Traddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl a glywyd gan un o gynnrych- 
iolwyr Cymru erioed, pan yn dwyn yn mlaen y cynnygiad o wneud 
Aberteifi yn borthladd diogelwch. Ymdrechodd hefyd yn fawr dros gael 
y reilffordd o Gaerfyrddin i Landyssul. Ceidwadwr selog ydoedd o ran 
ei olygiadau gwleidyddol. Bu farw yn ddisymwth yn nechreu 1860. 
Ei oed oedd 59 mlwydcl 

Davies, Lewis, oedd fab i John Davies, Ysw., o'r Crygie, yn mhlwyf 
Llanbadarn Fawr, lle y ganwyd ëf yn y flwyddyn 1777. Yr oedd ei 
frawd, John Maurice Davies, yn gadben yn y fyddin ar y 31 gatrawd; 
ac ymunodd yntau â hi fel banerwr, pan yn bedairarddeg oed. Yr oedd 
yn bresenol pan gymerwyd St. Lucia, yn yr India Örllewinol, yn 1796, 
gan Syr Ralph Abercrombie, a'r pryd y gwnaed ef yn rhaglaw. Yn ystod 
ei arhosiad yno, dyoddefodd lawer oddiwrth y cryd melyn; ac analluog- 
wyd ef i ddilyn y fyddin am ddeuddeng mis. Yn 1799, dyrchafwyd ef i 






28 

fod yn gadben, a gwasanaethodd dan Dug Efrog, yn Holland; a chymer- 
odd ran yn mrwydrau Bergen, y flwyddyn hòno. Gwasanaethodd wedi 
hyny ar dueddau Ffrainc; a chyda Syr J. Pulteney, yn Ferrol, a dwy 
waith i fyny yn Môr y Canoldir. Yn 1804, prynodd y swydd o uch- 
gadben y 36 gatrawd. Bu yn gwasanaethu wedihyny yn Holland ac yn 
Penrhyn Gobaith Da, a gorfodwyd ef gan afìechyd i ddychwelyd o'r Ue 
olaf. Cymerodd ran eilwaith yn mrwydrau Brillos, Rolica, a Vimiera, 
yn yr Orynys, o dan Syr Arthur Wellesley; ac yr oedd gyda Syf John 
Moore yn mrwydrau Lugo a Corunna. Yr oedd yn bresenol yn ngwarch- 
aead Flushing, a chymeriad ynys Walcheren. Ionawr 7, 1812, dyrchaf- 
wyd ef yn rhagfilwriad y 36 gatrawd; a chyda'r gatrawd hòno, cymerodd 
ran arbenig yn ngwarchaead Salamanca, lle yr enwogodd ei hunan yn 
fawr. Yn y frwydr boeth a ymladdwyd yno wedi hyny, lly wyddai y 
dosbarth isaf yn y 36 gatrawd, am yr hyn y derbyniodd fathodyn. Yr 
oedd yn y gwarchae ar Burgos, ac wrth ddychwelyd oddiyno i Portugal, 
ymaflodd y crydcymalau mor llym ynddo, fel y llwyr analluogwyd ef o 
hyny allan i wasanaeth cyhoeddus. Yn Medi, 1806, gwnaed ef yn 
Gydymaith o Anrhydeddus Urdd Milwrol Caerbaddon; ac yn fuan 
cyrhaeddodd y gradd o Uwch-Faeslywydd. Treuliodd y gweddill o'i oes 
yn Tanybwlch, ger Aberystwyth, lle bu farw, Mpì 10, 1828, yn 51 ml. 
oed. Perchid ef yn gyffredinol, ar gyfrif ei garedigrwydd ac uniondeb ei 
ymddygiad. Yr oedd yn briod â Jane, ail ferch Mathew Davies, Ysw., 
Cwmcynfelyn, o'r hon y cafodd dri mab a merch. 

Davies, Rees, oedd aelod o Eglwys y Bedyddwyr yn y Coedgleision, 
yn agos i Lanbedr, lle hefyd yr oedd ei rieni yn aelodau. Yr oedd y 
Parch. David Davies, Castell-hywel, yn ewythr iddo, a chydag ef y der- 
byniodd elfenau cyntaf ei ddysgeidiaeth. Symudodd oddiyno eilwaith i 
Athrofa y Fenni; ac wedi gorphen ei dymmor yno, urddwyd ef yn 
weinidog ar eglwys yn Nghaerwent. Bu wedi hyny am beth amser yn 
genadwr yn sir Henffordd. Sefydlodd eilwaith yn nhref Mynwy; ond o 
herwydd tlodi yr eglwys yno, gorfyddwyd ef i fyned drosodd i'r America, 
lle y bu farw mewn amgylchiadau cysurus. Ystyrid ef yn meddu dysg- 
eidiaeth helaeth, ac yn bregethwr sylweddol. 

Davies, Beuben, a adnabyddid wrth yr enw barddonol, Prydydd y 
Coed, oedd enedigol o Tan yr Allt, Cribyn, Ceredigion. Mae yr hyn a 
gyfansoddodd yn profi yn ddiymwad ei fod yn feddiannol ar alluoedd 
awenyddol o'r fath uwchaf. Yr oedd yn awdwr lluawa o emynaù rhagorol, 
y rhai sydd yn dangos y gallasai gyrhaedd enwogrwydd mawr, pe cawsai 
iechyd a hir oes. Yr oedd yn ysgolhaig rhagorol, a bu am dymmor yn cadw 
ysgol mewn gwahanol fanau gyda Uawer iawn o lwyddiant. Bwriadai 



29 

fyned i'r weinidogaeth yn mysg yr TTndodiaid, gyda pha rai yr 
oedd yn aelod dichlynaidd. Ac i'r dyben hyny, aeth i Goleg Caerfyrddin, 
ac aeth trwy ei arholiad cyntaf yn llwyddiannus yno; ond ymaflodd y 
dyfrglwyf ynddo, a gorfodwyd ef i roddi i fyny ei efrydiaeth. Bu farw 
Ionawr 8, 1833, yn 25 ml. oed. Yr oedd yn gyfaill mynwesol i'r 
diweddar Daniel Ddu, gyda'r hwn y treuliai lawer o'i amser; a choleddai 
y bardd enwog hwnw feddyliau uchel iawn am dano, a gwelir englynion 
o'i eiddo ar ei farwolaeth yn Ngwi/nllan y Bardd. 

Davies, Richard, oedd weinidog Eglwys Penbryn yn amser Siarl n., 
o ba un y trowyd ef allan mewn canlyniad i roi mewn grym Ddeddf yr 
Unffurfiad, yn y flwyddyn 1662; ond efe a gydffurfiodd wedi hyny. 

Davies, Richard, ydoedd weinidog enwog yn mysg yr Anghydfrurf- 
wyr, tua diwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg. Ganwyd ef yn sir Aber- 
teifi, yn y flwyddyn 16.59. Ei wraig ydoedd ferch i un Henry Williams 
o'r Ysgafell, ger y Drefnewydd, yr hwn oedd yn AnghydfRirfi wr selog yn 
amser Siarl n. ; ac mewn canlyniad, dyoddefodd erledigaethau chwerwon. 
Sefydlodd ei fab-yn-nghyfraith hwn yn Lloegr, a bu yn bugeilio yr eglwys 
yn Rowell, sir Northampton, am 25 o flynyddoedd, sef hyd derfyn ei oes, 
yn 1714. Yr oedd yn bregethwr tanbaid a gwresog anghyffredin — yn 
llawn o'r un ysbryd a'r diwygwyr Whitfield a Wesley, a godasant i fyny 
flynyddau ar ei ol. Cyhoeddwyd o'i waith ef — "Faüh, the Grand Uvi- 
dence ofour interest in ChrÌ8t,or thenature offaithand salvation opened, 
from John vi. 40. By Bichard Dames, of Rowell, in Northamptonshire. 
London, 1704." Cyhoeddodd hefyd Farwnadi'w dad-yn-nghyfraith. 

Davies, Roderice, a fwriwyd allan o Lanllwch-haiarn trwy Ddeddf 
yr Unffurfìad, ond efe a gydfiîirfiodd eilwaith. 

Davies, Timothy, oedd fab y Parch. D. Davies, Castell-hywel, a gan- 
wyd ef yn y Plas Bach, Ciliau Aeron, Tachwedd 20fed, 1779. Symud- 
odd ei rieni pan oedd ef tua phedair oed, i Gastell-hywel, a« yn yr ysgol 
hòno, o dan addysg ei dad, y treuliodd efe dair blynedd ar ddeg yn astudio 
y clasuron, a hyny gydag ymroddiad a llwyddiant mawr. Gorfodwyd ef 
wedi hyny i roi yr ysgol i fyny er mwyn cymeryd gofal o'r fferm oedd gan 
ei dad. Ond er i Timothy roddi yr ysgol heibio ni adawai mewn un 
modd ei efrydiaeth ar ol, oblegid cymaint oedd ei syched am wybodaeth 
fel y myfyriai yn ddiwyd ar ol i lafur a lludded y dydd fyned drosodd, a 
chadwai yn mlaen gyda y rhai hyny ag oeddynt yn myfyrio'yn rheolaidd 
yn yr ysgol. Pan tua 19 oed, cyfododd awydd disymwth yn ei feddwl 
am fyned iY weinidogaeth, ac i'r dyben o gymhwyso ei hunan at y gwaith, 



30 

penderfynodd fyned yn uniongyrchol i Gaerfyrddin i geisio derbyniad i 
mewn i'r Athrofa. Priodolai efe y cam yma, a gymerodd mor annysgwyl- 
îadwy, i argyhoeddiad dwys a dderbyniodd wrth wrando ar ei frawd 
Dafydd, a chyd-ysgolhaig iddo, yn pregethu am y waith gyntaf yn Llwyn- 
rhyd-owen. Ond ymddengys, oddiwrth nodiadau a wnaeth yn ei ddydd- 
lyfr, fod teimladau tra chrefyddol yn ei lywodraethu yn flaenorol, ac yn, 
ddiau ni fu yr addysg grefyddol a dderbyniodd gan ei dad, heb effeithio 
yn ddaionus arno. Dechreuodd ar ei ysgol gyda'r Parch. David Peter, 
(yr hwn y pryd hyny a gadwai ysgol Ramadegol mewn cysylltiad â'r 
Athrofa) ar y trydydd o Ionawr, 1798, a derbyniwyd efi'r Athrofa ymis 
Awst dilynol. Ar y 19eg o Fai, 1799, dechreuodd ar y gwaith o breg- 
ethu. Wedi gorphen ei dymmor colegawl, urddwyd ef yn gyd-weinidog â'i 
dad, a bu yn hynod gymeradwy a derbyniol yn yr eglwysi hyny. Yr 
oedd ei dymher fwyn, ei rodiad hardd, ei lais swynol, a'i ddull syml a dif- 
rifol o bregethu, yn sicrhau iddo barch a derbyniad cyffredinol. Cynnydd- 
odd yr eglwysi yn fawr o dan ei weinidogaeth, ac yr oedd y cariad a'r. 
serchogrwydd mwyaf yn ffynu rhyngddo ef a phobl ei ofal. Derbyniodd 
amryw o alwadau oddiwrth eglwysi cyfoethog yn Lloegr i ddyfod iV 
bugeilio, ond yr oedd yn anhawdd iawn ganddo dòri y cysylltiad oedd 
rhyngddo a'i luaws cyfeillion crefyddol yn Ngheredigion. Wedi hir. 
betruso, modd bynag, penderfynodd mai ei ddyledswydd oedd ufuddhau, 
ac felly ymadawodd â'r Dywysogaeth am Loegr. Dechreuodd ar ei weinid- 
ogaeth yn Coventry, Medi 9, 1810, fel cydweinidog âg un Mr. Einaus. 
Ar y 19eg o Fai, 1811, priododd â boneddiges ieuanc o Evesham. O 
herwydd i ryw anghydfod dòri allan yn y gynnulleidfa, rhoddodd Mr. 
t)avies ei swydd i fyny yno, a phregethodd ei bregeth ymadawol yn 
Coventry, Mehefin 20fed, 1818. Maes nesaf ei lafur ydoedd Evesham, 
lle y treuliasai ei ewythr brawd ei dad, sef y Parch. B. Davies, ugain 
mlynedd fel gweinidog; ac yno hefyd y treuliodd yntau y gweddill o'i 
fywyd, sef deugain mlynedd, mewn parch ac anrhydedd cyffredinol, 35 o ba 
rai a dreuliodd fel gweinidog. Cyn, ac wedi ymadael â Chymru, rhoddodd 
Mr. Davies ran fawr o'i amser i gyfieithu Esboniad Dr. Coke r*r Gymraeg. 
Yn ystod y pum mlynedd olaf o'i fywyd, o herwydd ei henaint a'i lesgedd, 
rhoddodd heibio ei ddyledswyddau cyhoeddus. Bu farw ar yr 28ain 
o Dachwedd, 1860, ar ol dihoeni mewn cystudd am tua hanner blwyddyn; 
a hebryngwyd ei ran farwol i dŷ ei hir gartref gan dorf o wŷr parchus o'r. 
dref a'r gymydogaeth, Ei oed oedd 81 mlwydd. 

DaviES, T. L., oedd enedigol o Aberdeuddwr, yn sir Aberteifi. Bu 
am dymmor yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Victoria, sir Fynwy, 
ac wedi hyny yn Nghaersalem Newydd, ger Abertawe. Ymfudodd Tr 
America yn haf y flwyddyn 1848, a bu yn weinidog eglwys yn Nghaer- 



31 

éfrog Newydd hyd ei farwolaeth yn 1856, gan adael ar ei ol gymeriad 
uchel fel gweinidog cymhwys y Testament Newydd. Ei oed oedd 42 ml. 

Davies, William, ydoedd enedigol o ardal Penrhiwgaled, Ceredigion, 
lle y ganwyd ef, Bhagfyr 31, 1792. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn 
íeulu crefyddol, y rhai oeddynt yn dra gofalus i'w "hyfforddio yn mhen ei 
ffordd." Er fod Mr. Davies yn wrthddrych argraffiadau crefyddoì er yn 
blentyn, er hyny ni wnaeth broffes gyhoeddus o'i ffydd nes oedd tuag 
20 oed, pryd yr ymunodd â'r Eglwys Annibynol yn Penrhiwgaled. Y 
gweinidog yno y pryd hyny ydoedd yr enwog-Mr. Erans Vr Drewen, 
cynghorion a hyfforddiadau yr hwn fuont o fawr gynnoithwy iddo ar ei 
yrfa grefyddol. Ar y 27ain o Fedi, 1815, efe a *dderbyniwyd i Athrofa 
y Neuaddlwyd; ac yn Rhagfyr, yr un flwyddyn, dechreuodd bregethu. 
Wedi cyrhaedd gwybodaeth elfenol o'r Groeg a'r Lladin, symudodd oddi- 
yno i Athrofa Llanfyllin, Gorphenaf 11, 1818. Ar ol gorphen tymmór 
ei efrydiaeth yno, urddwyd ef yn y fl. 1822, yn weinidog yn Llangollen, 
o'r lle y symudodd, yn 1826, i Rhydyceisiaid, ac yno y terfynodd ei yrfa. 
Yn y lle olaf hwn, cadwai Mr. Davies ysgol yn ychwanegol at ei ddyled- 
swyddau gweinidogaethol, yr hon a fwriadai i barotoi gwŷr ieuainc ar 
gyfer yr Athrofeydd, ac yn hyn bu yn hynod lwyddiannus. Yr oedd 
Mr. Davies yn ysgolhaig Cymraeg rhagorol, ac ychydig ddeallent yr iaith 
yn ŵell nag e£ Prlf bwnc ei bregethau fyddai croes Crist; ac yr oedd 
yn dra iach yn y ffydd ar brif athrawiaethau Cristionogaeth. Os nad 
oedd yn ei bregethau ry w lawer o addurniant a chelfyddyd, yr oeddynt 
bob amser yn eglur a sylweddol — ei brif amcan fyddai gwneud ei hun yn 
ddealladwy i'w wrandawyr. Meddai ar galon hynaws a dysynil; yr oedd 
yn " Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll." Gyda'r eithriad o'r 
pum' mlynedd diweddaf o f i fy wyd, lled wasgedig fu o ran ei amgylch- 
ìadau tymmorol, yr hyn a gyfodai oddiwrth y ffaith ei fod yn feddiannol 
ar fwy o ddiniweidrwydd y golomen nag o gallineb y sarff. Yr oedd yn 
un o'r dynion tawelaf a llareiddiaf a sangodd ar y ddaear erioed. Bu ei 
symudiad o'r byd yn golled fawr i'r achos yn y lle, ac yn destun galar i 
gylch eang o gyfeillion a pherthynasau. Cymerodd hyn Ie yn sydyn ac 
ainnysgwyliadwy iawn. Bwriadai ef ac Ysgol Sabbathol Rhydyceisiaid 
fod mewn Cymanfa Ysgolion yn St. Clears y diwrnod hwnw; ond er ei 
fawr awydd, ni chaniatawyd iddo y fraint — gwysiwyd ef i " gymanfa a 
chynnulleidfa y rhai cyntafanedig." Buhyn Mehefin 17, 1861. Dywedir 
i farwolaeth Mr. Davies effeithio yn ddwys ar luaws mawr o'i hen 
wrandawyr, llawer o ba rai, mewn canlyniad, a ymunasant â'r eglwys yno. 

Daviks, William, oedd fab y Parch. David Davies, offeiriad Bangor 
a Henllan; a brawd i'r Parch. J. P. Davies, Tredegar. Yr oeddewythr 



32 

iddo, brawd ei dad, yn weinidog gyda'r Aiinibynwyr yn Aberhonddu; ac 
ewythr arall iddo oedd y Parch. Daniel Davies, Talgoed, gweinidog y 
Bedyddwyr. Gyda'r blaid olaf hon yr ymunodd yntau, a dechreuodd 
bregethu yn y flwyddyn 1819. Aeth i Athrofa Bradford, lle y treuliodd 
bedair blynedd. Urddwyd ef yn 1826 yn weinidog yn Portsea; ond ni 
fu yno yn hir cyn iddo gael ei dueddu i fyned allan yn genadwr i AfFrica. 
Ac felly cychwynodd ef a'i wraig tuag yno, a bu y peryglon yr aethant 
^trwyddynt yn y wlad hòno yn fawr iawn — yn anhygoel braidd. Ni 
wyddis yr amser y bu farw. 

Deio ab Ieuan Ddu, ydoedd fardd genedigol o blwyf Llancynfelyn, 
ac yn blodeuo rhwng 1460 a 1500. Mae awdl i Foredydd ab Llywelyn o 
Uwch Aeron o'i eiddo, a chywydd i Ddafydd ab Tomos o Is Aeron, iV 
gweled yn Meyriclis Cardiganshire. Y mae y llinell gyntaf o wyth cân 
ar hugain o'i eiddo yn Ngreal Llundain, am 1807. Canodd hefyd Awdl 
y GawSy o'r hon y mae amryw gopiau ar gael. Yr achlysur o'i chyfan- 
soddi, meddir, sydd fel y canlyn : — Cly wsai ganmoliaeth uchel gan rywun 
i Madawg, Abad Enlli, am ei haelioni; ac ar hyny, canodd yntau iddo 
awdl o folawd, a chan logi cwch, cychwynodd un diwrnód tua'r ynys 
hòno, ar fedr cyflwyno y gân yn bersonol i'r Abad. Ond yn lle y croes- 
awiad a'r moethau a ddysgwyliasai gael, ni roddwyd o'i flaen ond ychydig 
fara a chaws, a llaeth enwyn; ac felly, yn lle yr awdl o folàwd a ddarpar- 
asai, efe a ganodd iddo gerdd duchan, dan yr enw, Awdl y Caws. 

Dewi Sant. Mae hanes Dewi yn gydweuedig â hanes yr eglwys yn 
Mhrydain yn y cyfnod hwnw; ond mae ei gysylltiad â Cheredîgion yn 
hawlio iddo ryw faint o sylw oddiwrthym. Mab ydoedd Dewi i Sandde 
ab Ceredig ab Cunedda, o Non, ferch Gynyr o Gaer Gawch yn Mhenfro, 
'penaeth a berchenogai diriogaeth Pebydiog, lle yn awr y saif Ty Ddewi. 
Yn ol y Trioedd, Cunedda oedd y cyntaf a roddodd diroedd a breiniau 
tuag at gynnaliaeth yr eglwys, a darfu i Gynyr wneud yr un peth. Fel hyn, 
yr oedd Dewi yn disgyn, nid yn unig o deulu urddasol, ond hefyd o rai 
crefyddol ac enwog am eu duwioldeb. Cafodd ei eni yn Rhos, a alwyd 
wedi hyny, Mynyw, (Ty Ddewi); a bedyddiwyd ef yn Mhorth Clais, gan 
Albeus, esgob Munster, yn yr Iwerddon. Dygwyd ef i fyny a derbyn- 
iodd egwyddorion cyntaf ei ddysgeidiaeth yn Hen Fynyw ( Vetus Rubus), 
yn sir Aberteifì. Wedi hyny, rhoddwyd ef yn Athrofa Tygwyn ar Daf, 
o dan ofal y clodwych Pawl Hen, lle y treuliodd ddeng mlynedd yn 
efrydu yr Ysgrythyran, ac yn ymbarotoi ar gyfer y weinidogaeth. Wedi 
gadael y Ue hwn, ymneillduodd Dewi i ddyffryn Bhos, ac yno sefydlodd 
gyfeillach grefyddol; ac yn mysg ei ddysgyblion, yr oedd Teilo a Phadarn 
— dynion enwog am eu duwioldeb, a sylfaenwyr amryw eglwysi. Y modd 



33 

y treuliai y gymdeithas grefyddol hon ei hamser oedd fel y oanlyn :— 
"Codent y bore ar ganiad y ceiliog, a pharhäent mewn gweddiau a 
myfyrdodau hyd y dydd. Yna wedi cydgyfarfod ac addoli Duw yn 
gyhoeddus, pob un a âi allan at ei orchwyl; ar ol treulio yr amser gosod- 
edig wrth eu gorchwylion, dychwelent i'r Athrofa, a threulient weddill 
y dydd mewn gweddîau, darllen, ac ysgrifenu. Yn y prydnawn, cyfar- 
fyddent i addoli Duw, a pharhäent yn yr addoliad hyd dy wyll nos; yna 
swperent yn nghyd ar fara a Uysiau. Ar ol swpera, treulient dair awr 
mewn myfyrdod a gweddi; ac wedi hyny aent i orphwys hyd y bore." 
Yn y flwyddyn 519, mewn canlyniad i gynnydd Morganiaeth, gwysiodd 
Dyfrig, yr archesgob, gymanfa er amddifiyn athrawiaethau yr eglwys, yr 
hon a gynnaliwyd yn Llanddewi Brefì. Daeth gwŷr o'r enwogrwydd 
mwyaf i'r gymanfa hon, a bu dadl faith rhwng y ddwy blaid, yn yr hon 
yr ymddangosai pleidwyr Morganiaeth fel yn cael y tir uchaf. Yn y 
cyfyngder hwn, meddyliodd Pawl Hen am anfon i ymofyn un o'i hen 
ddysgyblion, sef Dewi, o ddysgeidiaethaduwioldeb yr hwn y cawsai ddigon 
o brofion yn flaenorol. Wedi cryn gymhell, cydsyhiodd Dewi â'r gwahodd- 
iad; ac wedi dyfod yno, safodd i fyny, a phregethodd gyda'r fath nerth a 
dylanwad fel y llwyr orthrechodd ei wrthwynebwyr; ac ni chafodd yr 
Eglwys Gynireig ei blino gymaint ganddynt ar ol hyny. Cymaint oedd 
y clod ennillodd Dewi iddo ei hun y tro hwn, fel yr etholwyd ef yn 
unfrydol i'r swydd o archesgob, o'r hon yr ymneillduodd Dyfrig, mewn 
canlyniad i'w argyhoeddiad o oruwch deilyngdod Dewi Ni ddarfu i'r 
dyrchafiad hwn ond ychwanegu ei lafur, a chyflawnodd ddyledswyddau 
pwysig y sefyllfa mewn modd mor fiyddlawn a chlodfawr, fel, yn ol 
geiriau un o'i fy wgraffwyr, " nad oedd gan genfigen ei hun ddim i'w 
gyhuddo o'i blegid." Tua'r flwyddyn 529, galwodd Dewi gymanfa arall 
gyffelyb yn Nghaerlleon ar Wysg, fel yr ymddengys yn ol yr Annales 
Menevense8, (oblegid yno yr oedd safle yr archesgobaeth). Yr achos o'i 
galw ydoedd, fod heresi Morgan wedi gwneud ei hymddangosiad drachefh 
yn yr eglwys; ond cafodd ei dadymchwelyd mor llwyr y tro hwn, fel na 
flínwyd yr Eglwys Brydeinig ganddi mwyach : a galwyd y cyfarfod hwn 
yn " Gymanfa Fuddugol." O herwydd fod dinas Caerlleon yn cael ei 
blino yn fynych y pryd hwnw gan derfysgoedd gwladol, cafodd Dewi 
ganiatâd gan y brenin Arthur i symud eisteddle yr archesgobaeth i ry wle 
arall mwy tawel a neillduedig. Y dyb gyffredin y w, mai Mynyw, yn sir 
Benfro, oedd y lle dewisedig hwnw; ond yn ol ysgrifau Iolo, (tudal. 82), 
dywedir ddarfod i Dewi "symud ei Wyndy o Gaerlleon ar Wysg hyd yn 
Mynyw Hên, yn Ngheredigion." Os treuliodd Dewi gyfran o'i ddyddiau 
boreuol yn y lle hwn, fel yr ymddengys iddo wneud, nid yw mewn un 
modd yn annhebygol iddo ei ddewis fel safle yr archesgobaeth. Ni bu ei 
harosiad yma,moddbynag, ondbyr; oblegidsymudwydhi drachefìi iFjmyw, 



34 

- * 

yn Mhenfro; ac adnabyddid y lle blaenorol wedi hyny fel Hen Fynyw, 
ỳr hyn yw ei enw hyd heddyw. Treuliodd Dewi y rhan olaf o'i oes i 
wellhau lly wodraeth allanol yr eglwys, gan ranu y wlad i saith o esgob- 
aethau; a thynodd allan restr oreolau er iawn lywodraethiad yr eglwys. Yn 
ôl yr archesgob Usher, bu Dewi farw yn y flwyddyn 544, yn 82 oed. Y 
ìnynächod, y rhai a gymysgasant lawer o chwedlau ffol a disail â'i hanes, a 
haerent iddo gyrhaedd yr oedran anarferol o 147 mlwydd! Nid oes, 
inodd bynag, le i ammheu nad y w y dysgrifìad canlynol o hono a rodd- 
wydgan Giraldus, ddim ynanghymhwysiadol: — "Yr oedd efe (Dewi) yn 
ddrych ac yn batrwm i bawb, yn addysgu drwy air ac esiampl, yn rhag- 
brol yn ei bregethiad, ac yn fwy felly yn ei weithredoedd. Yr oedd efe 
yn athrawiaethol i bawb, yn gyfarwyddyd i'r rhai crefyddol, yn fywyd i'r 
tlodion, yn gynnaliaeth i'r amddifaid, yn amddiffynwr i'r gweddwon, yn 
rheol i feudwyon, yn gynllun i athrawon, ac yn bob peth i bawb, fel yr 
ennillai bawb at Dduw." Rhestrir ef yn y Trioedd gyda Phadarn a 
Theilo, yn un o " dri gwesteion gwynfydedig Ynÿs Prydain;" ac mae 
hefyd yn cael ei gyfrif yn un o "Tri Séitheu Saint Ynys Prydain," a 
cheir ei enw yn mlaenaf yn mysg y " Saith Doethion." Mae 50 o eglwysi 
à chapeli wedi eu cyflwyno iddo yn Nghymru, heblaw amryw yn Tiloegr. 
—"Buchedd Deim" yn y Cambro British Sainfà, ŷc. } Sfc. 

Î)óged, yr hwn a elwir yn Bonedd y Saint, Doged Frenin, oedd sant 
yn blodeuo yn y chweched ganrif. Mab ydoedd i Cedig ab Ceredig ab 
Cunedda, a brawd Afan. Efe á sylfaenodd Eglwys Llanddoget, yn 
agos i Lanrẅst, sir Ddinbych. Ceir «i enw yn Mabinògi Gühwch ac 
Olwen. 

Ednywaih", (ab Gwaethfoed Pawr), oedd abad Llanbadarn î*awr, yr 
hwn a westyodd yr archesgob Baldwyn a Giraldus Cambrensis, pan ar eu 
taithi bregethu Rhyfel y Groes, yn y flwyddyn 1188. Dysgrifir ef gan 
yr olaf fel hen wr "wedi heneiddiô mewn anwiredd." 

Edẁards, Lodwicr, offeiriad Rhymni, à anwyd yn Pantyrhew, ger 
Lìangeitho, yn j flwyddyn 1800. Àddysgwyd ef yn ysgöl Ystradmeurig, 
ac raewn amser dyladwy, urddwyd ef gan esgob Copìeston, yn Llamdaf. 
Bu yn gwasanaethu fel curad yn Llangàn, ac wedi hyny yn Llangattwg, 
ger Castellnedd, lle y llafuriodd yn galed am naw mlynedd. Yn y 
flwyddyn 1843, penodwyd ef gan yr efsgob i fywoliaeth Rhymni, yr hon 
a ddaliodd hyd ei farwolaeth, yr hÿn a gymerodd le Tachwedd 27, 185fi. 
Ar èi ymadawiad â Llangàttwg, dangosodd ỳ plwyfolioín eu parch tuag 
áto ^trwy eiànrhegu â llestrí arian ysplenydd, gwerth £50. Yn ystod y 
tair blyriedd ar ddèg y bu yn gweinidogaethu yn Hhymni, liafuriadd yn 



35 

ddiorphwys, a bendithiwyd ei ymdrechiadau â graddau angbyffredin o 
lwyddiant, fel y gellir barnu oddiwrth y ffaith ganlynol, yn mysg eraül* 
sef, nad oedd yn y Ue hwnw pan aeth efe yno gyntaf ond tri chymunwr 
yn yr Eglẁys; ond yn fuan iawn cynnyddasant i tua 400. Yr òedd yn 
anarferol boblogaidd fel pregethwr, a cherid ef yn fawr gan bob dosbarth 
o'i blwyfolion. Nid oes dadl na fu ei ymroddiad iV swydd weinidog- 
aethol, a'r llafur gorfawr yr aeth trwyddo yn achos a fyrhau ei ddyddiau 
ar y ddaear. Diau mai " yr hyn a allodd hwn, efe a'i gwnaeth." Mab 
iddo ef ydyw y Parch. C. S. Edwards, Cwmbrân. 

Einion ab Dafydd Llwyd o'r Wern Newydd, yn mhlwyf Llanarth, 
oedd yr un a groesaẁodd Iarll "Rismwnt, pan ar ei daith o Aberdau- 
gleddyf tua maes Bosworth. Derbyniodd yr Iarll yr un arddangosiad o 
serchogrwydd a charedigrwydd yma ag a dderbyniasai y noson flaenoror 
yn nhŷ Dafydd ab Ieuan, yn Llwyndafydd. 

Eleri, oedd ferch Bryohan.Brycheiniog, a gwraig Ceredigab Cunedda. 
Hi oedd mam Sandde, tad Dewi Sant. 

Elfein, fab Gwyddno, oedd sant o goleg Illtyd, ac yn blodeuo yn y 
chweched ganrif. Yr oedd gan ei dad, Gwyddno, ored bysgota ar ý 
traeth rhwng Aberdyfi ac Aberystwyth, yr hon oedd yn dwyn mawr elw 
iddo. Ond ymddengys mai hynod anffodus oedd Elffin — ni lwyddai dim 
yn ei law, er mawr ofid iV dad, yr hwn a gredai ei tjni ar awr anffodus. 
Yn awyddus, modd bynag, i roddi un prawf teg i dynged ei fab, cytun- 
odd roddi iddo holl ennillion y gored am un flwyddyn gyfan. Tranoeth, 
ymwelodd Elffin â'r gored; ond nid oedd yno ddim i'w weled ond hen 
gwd lledr wedi ymgylymu am un o-r polion. Ar hyn, dechreuodd ei 
gymdeithion ddannod iddo ei anffawd; oblegid yr oedd wedi dinystrio 
ffawd y gored, yr hon fyddai arferol o gynnyrchu elw o gan' punt cyn y 
cyntafoFai. " Na," ebe Elffin, "gall fod rhywbeth cyfwerth â chan' 
punt yn y cwd, er hyny." Dattodwyd y cwd, a daeth talcen hardd 
plentyn i'r golwg, yr hyn í\ barodd i un o'r dÿnion waeddi allan, "Llyma 
Pal Iesin." <( Taliesin, ynte, boed ei enw," ebe Elffin, a chan gymeryd 
tosturi arno, efe a'i cludodd yn ofalus i ? w wraig, yr hon a'i magodd yn 
dyner; ac o'r dydd hwnw allan, cynnýddodd Elffin mewn cyfoeth yn 
barhaus. Y cyfryw ydyw y chwedl am blentyndod Penbeirdd Cymru. 
Fel ad-daliad am hyny, cyfansoddodd Taliesin awdl pan yn blentyn iV 
noddwr, sef Dyhuddiant Mjfìn, yn yr hon y ceisiai gysuro Elffin, a throi 
ei feddwl oddiwrth ei anffodion blaenorol. Wedi hyny, pan oedd Elffin 
yn garcharor yn Nghastell Dyganwy, gan Maelgwyn Gwynedd, llwydd- 
odd Taliesin, trwy ddylanwad ei awen, i.gael rhyddhad iV hen ymgel- 



36 

eddwr. — Gwel Mabinogi Taliesin yn y Cambrian Çuarterly Magazine 9 
v. 200; a'r Myf. Ârch., i. 17. 

Enoc, John, ydoedd fab i John Enoc o Aberarth-fechan, a gorẃyr i 
Dafýdd Hywel o Droed yr Aur. Ymunodd â'r fyddin, a daeth mewn 
amser yn Filwriad y Eoyal WeUh Fusileers. Cymerödd ran yn mhrif 
frwydrau yr Orynys, o dan Wellington; ac wedi hyny yn Waterloo, ac 
enwogodd ei hunan yn fawr ynddynt. Yn mrwydr Salamanca, Gorph., 
1812, saethwyd ei geffyl dano, a chlwyfwyd yntau yn drwm. Ei ddyrchaf- 
iadau oeddynt, Is-raglaw, Mawrth 9, 1809; Rhaglaw, Awst 15, 1811; 
Cadben, Gorphenaf 22, 1830; Uwch-gadben, Ebrill 14, 1846; Is-filwriad, 
Chwefror 1, 1851; Milwriad, Tachwedd 28, 1854. Bufarw yn Llundain, 
tua'r flwyddyn 1855, gan adael xin ferch yn briodâDr. Lewis, Piccadilly, 
Llundain. 

Evans, Christmas. Ganwyd y gwr enwog hwn ar ddydd Nadolig, yr 
hyn fu'n achos iddo gael ei alw felly, yn y.flwÿddyn 1766, mewn lle o'r 
enw Ysgarwen, yn mhlwyf Llandyssul, sir Aberteifi. Enw ei dad oedd 
Samuel — crydd wrth ei alwedigaeth; ac yr oedd ei amgylchiadau y cyfryw 
fel na chafodd ei blant ond ychydig neu ddim dysg. Collodd Christmas 
ei dad pan yn naw oed, ac felly gorfodwyd ef i droi allan i wasanaethu 
ar hyd y gwahanol ffermydd yh y gymydogaeth. Pan yn ddwyar- 
bymtheg oed, cawnef yngweini yn Nghastell-hywel, gyda'r enwog Barch. 
D. Davies; a chydag ef y cafodd y cyfleusdra cyntaf i ddysgu darllen, 
oblegid yn flaenorol i hyny nid oedd ýn medru gair ar lyfr. Ymunodd 
âg Eglwys Llwyn-rhyd-owen, pan oedd tua deunaw oed; ond yr oedd 
wedi teimlo argrafiiadau crefyddol dwfn pan yn dra ieuanc. Ac yn fuan 
wedi hyny dechreuodd bregethu. Mae hyn yn dangos pa mor ddiwyd y 
rhaid ei fod wedi llafurio i gyrhaedd gwybodaeth yn ystod y flwyddyn 
flaenorol, gan na wyddai " air ar lyfr " yn ei dechreu. Gwahoddid ef i 
bregethu gan y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Trefnyddion Calfinaidd, 
yn y gymydogaeth, yn gystal ag yn mysg yr Arminiaid Presbyteraidd yn 
ei eglwys ei hun — Llwyn-rhyd-owen— yr hyn sydd yn profi ei íbd yn 
gymeradwy o ran ei fuchedd yn gystal ag o ran ei ddawn pregethwrol. 
Ychydig cyn hyn, pan ar ymweliad â sir Henffordd, i weithio'r cynhauaf, 
(fel mae yn arferiad etto yn y Deheudir), cyfarfyddodd âg anffawd lled 
drom, sef colli ei lygad, yr hyn a ddygwyddodd trwy i bump neu chwech 
o ddynion ymosod arno yn llechwraidd, a'i daro ar ei lygad, fel y collodd 
ef yn y fan. Yn y flwyddyn 1788, ymunodd âg Eglwys, y Bedyddwyr 
yn Aberduar, gan adael Eglwys Llwyn-rhyd-owen; er hyny, gydag 
ewyllys da a pharch pawb o'r aelodau. Y flwyddyn ganlynol, ar gais yr 
enwog John Jones o Ramoth, cymerodd daith trwy y Gogledd, ac urdd- 



37 

wyd ef tra yno yn fath o genadwr, i ofalu am yr eglwysi yn Lleyn, sir 
Gaernarfon. Yn Lleyn y cafodd hyd i gydmares ei fywyd, sef un 
Catherine Jones, yr hon a fu yn gysur mawr iddo yn ystod ei fywyd 
gweinidogaethol llafurus. Bu ei lafur yno mor fawr nes y bu agos iddo a 
cholli ei iechyd; pregethai yn fynych bum' waith ar y Sabbath, heblaw 
cerdded ugain milldir. Dilynoddllwyddiantmawrei ymdrechion yn Lleyn, 
am yr yspaid o ddwy flynedd y bu yn aros yno; a bedyddiodd o "gylch 
hanner cant yn y fl wyddyn gyntaf yn Ty 'ny domen yn unig." Cymerodd daith 
unwaith oddiyno i'r Deheudir, a'r pryd hyny y daeth ei ddawn anarferol 
fel pregethwr i'r golwg; oblegid yr oedd rhyw effeithiau anghyffredin yn 
dilyn ei weinidogaeth i ba le bynag yr elai. Yn y flwyddyn 1791, der- 
byniodd wahoddiad taer i fyned i ÿmsefydlu i sir Fon, â'r hyn, wedi cryn 
betrusder, y cydsyniodd; ac yno, yn Llangefni, y treuliodd bymtheng 
mlynedd ar hugain, gan lafurio yn ffyddlawn. Ei gyflog am tuag ugain 
mlynedd o'r amser y bu yn Llangefni, ydoedd £17 y flwyddyn; ac mae 
hyn yn rhyfeddach fyth pan y cofiom fod y swm yma yn cael ei wneud i 
fyny gan ddeg o leoedd pregethu yn yr ynys ! Teg, modd bynag, y w 
hysbysu fod yr amaethwyr yn rhoddi rhoddion gyda hyny o wahanol 
fathau o ymborth, &c. O herwydd yr amgylchiadau anghysurus a ddy- 
gwyddasant yn Mon mewn cysylltiad â'r corff o Fedyddwyr, megys dyfod- 
iad Sandemaniaeth i mewn i'r eglwysi, a'r dadleuon a'r ymraniadau a 
achoswyd trwy hyny, penderfynodd Mr. Evans ymadael â'r ynys, yr hyn 
a wnaeth yn y flwyddyn 1826. Yr ydym yn ei gael, yn ol ei eiriau ei 
hun, "yn awr yn ymadael heb feddu dim o'r byd hwn, ond y ceffyl oedd 
o danaf, ac ychydig arian oedd yn fy llogell; a'phrin y gallaswn ddywedyd 
fod y rhai hyny yn rhydd genyf." Dealler, ei fod wedi claddu ei hoff 
briod yn flaenorol i hyn. Sefydlodd wedi hyny yn Nghaerífili, ac yno y 
priòdodd ei ail wraig, sef Mary Evans o sir Fon, yr hon a fu yn wraig 
ffyddlon a gofalus iddo am y gweddill o'i oes. Symudodd oddiyma drachefn 
yn Hydref, 1828, i Gaerdydd, oblegid i ryw anghydfod dòri allan yn yr 
églwys. Bu yn hynod lwyddiannus yno er hyny, oblegid derbyniodd tua 
saith ugain o aelodau yn ystod ei arosiad o ddwy flynedd yn y lle. 
Maes nesaf ei weinidogaeth oedd Caerdydd; ond ymadawodd oddiyno 
drachefn yn 1832. Yn y flwyddyn hòno, aeth i Gymanfa Le'rpwl; a 
chan ei fod wedi rhoddi Eglwys Caerdydd i fyny, derbyniodd annogaeth 
wresog yno i ddyfod i fugeilio yr Eglwys yn Nghaernarfon. Eelly, ym- 
sefydlodd yn y lle hwnw hyd ddiwedd ei oes. Pan ar ymweliad â'r 
Deheudir, yn 1838, lle y daethai i gasglu at dynu dyled ei gapel yn Nghaer- 
narfon, cymerwyd ef yn glaf yn Abertawe, ac yno y bu farw, Gorphenaf 
19. Sabbath olaf ei fywyd, pregethodd yn nghapel y Parch. D. Davies; 
a nos Lun eilwaith yn nghapel Seisnig y Parch. D. R. Stephen, gan 
deimlo mor iach a hwylus ag arferol. Ond wrth ddyfod i lawr o'r pulpud, 



38 

dywedodd, " Dyma y bregeth olaf i mi" Cymerwyd ef yn glaf y noson 
hòno, gwaethygodd yn raddol hyd nos Iau; a tua dau o'r gloch boreu 
Gwener, gorphenodd y gwr hynod hwn ei yrfa ddaearol, yn 72 mlwydd 
oed, wedi treulio 53 mlynedd yn y weinidogaeth. Bellach, ni gawn sylwi 
ychydig iawn yn fyr arno fel dyn a phregethwr. Yr oedd Mr. Evans o 
dymherau cyffrous a bywiog dros ben; ac er i hyn, efallai, fod o ryw 
fantais iddo yn yr areithfa, etto, parodd iddo gryn lawer o ofid a helbul 
fwy nag unwaith; oblegid arweinid ef yn fynych, pan gyffroid ef, i nwydau 
drwg, ac i golli yr hunanfeddiant hwnw a ddylai pob dyn, ac yn enwedig 
gweinidog yr efengyl, fod yn wyliadwrus yn ei gylch. Byddai y byr- 
bwylldra oedd yn nodwedd ynddo, yn achos o ofid mawr iddo ef ei hun, fel 
pan y deuai i'w le, byddai yn edifeiriol i'r eithaf. Yn mysg ffaeleddau 
eraill y gwr mawr yma, gellid nodi ei anwadalwch, ei ddiffyg gwroldeb, 
a'i ddiffyg barn. Yr oedd y pethau hyn, o ganlyniad, yn milwrio yn bur 
gryf yn erbyn ei gymeriad o ly wodraethwr yn yr eglwys, gan ei fod yn bur 
ddiffygiol o'r cymhwysderau hyny sydd yn angenrheidiol i lywodraethu. 
Mae hyn yn rhoddi goleuni ar ei fynych symudiadau gweinidogaethoL 
O'r ochr arall, perthynai i Christmas Evans ragoríaethau neillduol. Un 
noiwedd neillduol ynddo ydoedd gonestrwydd a didwylldra, ac yr oedd yn 
ddidderbynwyneb hollol — ceryddai fai lle bynag y canfyddai ef. Yr 
oedd yn dra didwyll — a'i holl enaid yn y gwaith, nid fel " boddlonwyr 
dynion," ond fel un yn gyfrifol i'w Arglwydd am y cyfan. Haelioni 
hefyd ydoedd un o'i ragoriaethau. Mae ei holl gofiantwyr yn nodi j 
gallai unrhy w grwydryn o Wyddel, neu o ryw genedl arall, dynu odeü- 
wrtho y tamaid olaf o fara yn y tŷ, a mynych y gorfodid ei wraig i guddio 
peth o'r bara, rhag mai ei ranu a gawsai yn Uwyr, Yr oedd yn cyfranu 
yn gyson at y Feibl Gymdeithas, Athrofa y Fenni, «fcc; a hyny pan nad 
oedd ei gyfiog ond tua £17 yn y flwyddyn. Duwioldeb hefyd oedd yn 
nodwedd o'r fath gryfaf ynddo. Yn ystod ei fywyd gweinidogaethol 
maith, ni chynnygiwyd dwyn un math o gyhuddiad yn erbyn ei gymer- 
iad moesol, hyd yn nod gan ei elynion. Yr oedd yn weddîwr mawr, a 
mynych yr ymneillduai i'w ystafell i weddio gynnifer a deuddeg gwaith yn 
y dydd. Yr oedd hefyd yn lla/urus nodedig. Nid oedd byth yn segur; 
ac yr oedd wedi dwyn ei hunan i'r fath arferiad o ddiwydrwydd, fel yr 
oedd yn ail natur iddo. Gwelir hyn yn amlwg oddiwrth y ffaith iddo 
gyrhaedd gryn wybodaeth o'r Hebraeg, Groeg, a Lladin, tra na chafodd 
ond tua hanner blwyddyn o ysgol i gyd, ac na wyddai lythyren arlyfr 
cyn bod yn ddwyarbyrntheg oed. Yr oedd yn feddiannol ar wybodaeth 
hanesyddol, wladol, a chrefyddol, hen a diweddar, pur fanwl a chyffredinol; 
ond duwinyddiaeth oeddeihoff bwnc. Cyfansoddodd, digon tebyg, fìloedd 
o bregethau; ac mae rhai cannoedd o honynt, a ysgrifenodd yn Nghaer- 
fiili, ar gael yn awr mewn ysgrif-lyfr, air rhai hyny wedi eu hysgrifenu 



39 

bron yn Uawn. Yr oedd tua 70 mlwydd oed pan yn parotoi ei Ddarlith- 
îau ar 7 Datguddiad, yn Nghaernarfon. Efe oedd un o gyfieithwyr 
Esboniad Dr. Gill ar y Testament Newydd. Cyfansoddodd amryw o 
emynau rhagorol, a chyhoeddodd lawer o draethodau ar bynciau dadleuol 
a buddiol, heblaw y Uuaws ysgrifau o'i eiddo yn y gwahanol gyfiiod- 
olion. Cyhoeddodd lyfryn ar Ddirwest, pan yn Nghaernarfbn; a dadleuodd 
ac areithiodd lawer iawn yn ei flynyddau olaf o blaid y Gymdeithas 
Ddirwestol. Ei brif ragoriaeth îelpregeûwm oedd yngynnwysedigyn ngrym 
a by wiogrwydd anghyffredin ei ddychymyg, ac yn ei allu i bortreadu a dys- 
grifîo gwrthddrychau. Enghreifftiau nodedig o'i allu yn y ffordd yma ydyw 
ei bregeth ar y "Mab Afradlon" a "Chyfodiad Lazarus." "Ni buasai 
Christmas Evans," ebe un, " yn fwy poblogaidd na llawer eraill o'r Bed- 
yddwyr, na chymai&t a rhai oedd yn fyw yn ei oes ef, oni b'ai nerthoedd 
a chyflymdra ei ddychymyg, ei ymroad, a galluoedd creadigol ei feddwL 
Yr oedd ei feddwl yn gallu esgor mewn ychydig fynydau ar yr hyn a 
fuasai yn ddigon ofortune i lawer un am ei oes." 

Evans, Daniel, B.D., (Daniél Ddu), un o brif awenyddion Cymru, 
a anwyd yn Maes Mynach, plwyf Llanfîhangel Ystrad, Ceredigion, yn y 
flwyddyn 1792. Amaethwr cyfrifol ydoedd ei dad, ac yntau oedd yr ail 
o dri mab. Gan iddo gael ei fwriadu i fod yn weinidog yn yr Eglwys 
Sefydledig, anfonwyd ef i ysgol Hamadegol Llanbedr, yr hon agedwid y 
pryd hyny gany Parch. Elieeer Williams, mab yr hybarch Peter Williams. 
Mewn amser, danfonwyd ef i Rydyohain, Ue y dewiswyd ef yn Gymrawd, 
ac ei graddiwyd yn B.D. Urddwyd ef, a pharhaodd i fwynhau ei Gymrod- 
oriaeth am flynyddau lawer. Enwogodd Daniel Ddu ei hun fel llenor 
Cymreig, ac fel un o'r beirdd mwyaf coeth a chlasurol; ac ychydig o feirdd 
sydd yn Nghymru wedi ennill y fath boblogrwydd ag e£ Anfarwolodd 
ei hunan mewn cysylltiad âg Eisteddfod fawr Caerfyrddin, yn y flwyddyn 
1823. Efe ydoedd arwr yr Eisteddfod hòno, ac yr oedd ei ymddangosiad 
disymwth ac annysgwyliadwy fel bardd a llenor o'r dosbarth cyntaf, yn 
destun syndod ac edmygedd i holl bleidwyr llenyddiaeth eu gwlad. Yn 
ychwanegol at jr anrhydedd o ennill ar y prif destun, sef Awdl ar Goleg 
Dewi Sant, trwy yr hwn yr'aeth a'r Gadair, bu hefyd yn llwyddiannus 
ar y testun, " Buddugoliaeth y Groegiaid ar y Tyrciaid;" ac hefyd ar y 
testun, " Ifor Hael." Yn ystod yr Eisteddfod, traddododd anerchiad yn 
ìlawn o goethder a dichlyndra ieithyddol, ac yn llawn o deimlad gwir 
wladgarol. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonoi, neu yn hytrach gyfran 
o honynt (oblegid gwelsom rai cannoedd o linellau o'i eiddo na wnaethant 
erioed eu hymddangosiad mewn argraff) dan y teitl o Winllan y Bardd, 
jn gyfrol drwchus o 410 o dudalenau, yn y flwyddyn 1851. Ac yn wir, 
OwinUaai mewn gwirionedd ydyw, oblegid mae yn llawn o rawnsypiau 



40 

nrwyaf dewisol a phereidd-flas. '* Ystyrir nodweddau ei awen yn dlws, a 
phrydferth, a choeth — afon yn ysgogi ac yn ymddolenu hyd y ceulanau, 
trwy ddyffryn llydan, gwastadlyfn, meillionog— yn ysgogi bob amser yn 
nerthol, ac weithiau yn cbwim drochionog, ond nid yn rhaiadrog. Mae 
yr aw ufelaidd yn rhoddi bywyd i bob brawddeg o'i eiddo; ac ymdoddai 
y meddylrithiau yn ddidwthian a hollol naturiol i'r cynghaneddau. Ac 
nid ymddengys fod yr odl gaeth yn un hual i'w awen ef." Heblaw 
y lluaws o awdlau a chywyddau, a llawer o honynt yn gyfansoddiadau 
gwobrwyedig yn y gwahanol Eisteddfodau, cynnwysa y WinUan lawer o 
emynau a phennillion yn mysg y rhai mwyaf coeth a phrydferth yn yr 
iaith. Dyfynwn y ddau bennill canlynol, ar " Ddychweliad y Mab 
Afradlon," fel enghraiffb : — 

"Dos yn mlaen, bererin egwan, 

Trwy'r diffaethwch, dos yn mla'n; 
Er mor athrist yw dy olwg, 

Try dy alar etto'n gân: 
Llygaid nef sydd ar dy gamrau, 

Teithia 'mlaen, bererin gwan; 
Ronyn etto, ffrydiwch ddagrau, 

Chwi a sychir yn y man. 

Pwy a welaTn d'od a gwisgoedd 

Hardded a goleuni'r wawr — 
Tn cusanu'r crwydryn eiddil — 

Ar ei wddf yn syrthio i lawr? 
Uwch ac uwch yn awr dyrchafa 

Tannau'r nef eu sain yn nghyd; 
O! a ydyw'th werth di gymaint, 

F'enaid bach, a wyt mor ddrud? n 

Bu farw Mawrth 28, 1846, yn 54 mlwydd oed; a chladdwyd ef yn 
mynwent Pencareg, sir Gaerfyi-ddin. 

Evans, Daniel, Capel Drindod, gweinidog parchus gyda'r Trefnydd- 
ion Calfinaidd, a anwyd yn y flwyddyn 1744. Dechreuodd bregethu yn 
1777, a pharhaodd wrth y gwaith hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd 
le Mehefin 17, 1845, pan yn 71 mlwydd oe^. Teithiodd fwy na'r rhan 
amlaf o'i frodyr yn y weinidogaeth, a bu yn dra llafurus yn y winllan tra 
parhaodd ei ddydd. Yr oedd yn un a fawr garai dangnefedd yn ei 
fywyd, ac felly bu ei ddiwedd; canys " efe a aeth i dangnefedd." Cladd- 
wyd ef yn mynwent Eglwys Llangynllo. 

Evans, Thomas, oedd fab David Evans, Ysw., Llechwedd Deri, yn 
mhlwyf Llanwnen. Yr oedd ei dad yn sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 
1641, ac efe a brynodd ystad Ffynnon Bedr, ac a adeiladodd y palasdy a 
ddaeth wedi hyny mor enwog mewn cysylltiad â hanes y Llwydiaid. Yr 



41 

oedd teulu Ffynnon Bedr yn bleidiol i achos y Senedd yn amsery Rhyfel 
Cartrefol; a dy wedir fod Thomas Evans a'i fab yn ngwasanaeth Cromwell 
fel math o ddirprwywyr yn y rhan hòno o'r wlad; a'u bod, yn rhinwedd 
y swydd hòno, wedi casglu yn nghyd gyfoeth mawr. Nid yw ei enw, 
modd bynag, yn mysg y Dirprwywyr er Lledaenu yr Efengyl, (gwel 
ScobeWs Arts and Ordinances) ; ond crybwylla W&ìker (Stifferings of the 
Clergy) am un Thomas Evans fel yn meddu rhyw awdurdod mewn 
materion eglwysig yn siro«dd Aberteifi a Maesyfed; ac mae lle i gasglu 
mai gwrthddrych y cofiant hwn ydoedd ef. Hysbysir ni, ar awdurdod dda, 
ei fod yn gadben ar gorff o wŷr meirch, o dan y Pwyllgor Diogelwch. 
Mewn ysgrifa gyfansoddwyd tua'r flwyddyn 1661,* rhoddir y cymeriad 
canlynol iddo, yr hwn nid yw mewn un modd yn siarad yn ffafriol am ei 
egwyddorion moesol : — " Thomas Evans, passionately violent in anything 
— first a covenanter, then an eager advocate for the negative oath; after- 
wards most impetuous against a single person, especially the Eamily of 
his now Majestie; an active captain of horse, and his son David of foote, 
under the late Committee of Safety; passing an oath upon others for 
their fidelity to the said Committee; endeavouring to incite men, about 
the beginning of April last, to take arms against General Monke; impa- 
tient without an ofíìce, and tyrannical in it." Bu Thomas Evans yn 
dal y swydd o sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1653. Yr oedd yn 
briod âg Elizabeth, merch Ieuan Gwyn Fychan, Moelifor, o ba un y bu 
iddo blant, un o ba rai ydoedd — 

■ 

Evans, David, at yr hwn y gwneir cyfeiriad yn y dyfyniad uchod, 
oddiwrth yr hyn y gwelir ei fod yntau, fel ei dad, yn cymeryd rhan 
neillduol a chyhoeddus yn helyntion gwladol ei oes; ac yn gadben ar 
gorff o wyr traed, o dan y Pwyllgor Diogelwch. Priododd Jane, merch 
William Herbert, Ysw., Hafod Ychdryd. Yr oedd mam y foneddiges 
hon yn chwaer i wraig Jonathan Lloyd, Ysw., Llanfair Clydoge; ac i Syr 
John Vaughan, Trawsgoed, Prif Farnwr Llys y Corwmon Pleas. 

Evans, David, a anwyd yn agos i Aberporth, sir Aberteifì, yn y 
flwyddyn 1 744. Pysgotwr wrth ei alwedigaeth oedd ei dad, a chan fod 
ganddo deulu lluosog yn ymddibynu arno am foddion eu cynnaliaeth, 
gorfu i wrthddrych ein cofiant droi allan i " wasanaethu " pan yn ddeg 
oed, a dilynodd y gwaith hwn mewn gwahanol fanau am tuag ugain 
mlynedd. Pan o gylch saith ar hugain oed, unodd â'r Bedyddwyr yn 
Nghilfowyr, ac yn fuan wedi hyny dechreuodd bregethu yn y gwahanol 

*"A true character of the Deportment for these eighteen years last past, of the 
principal Gentry within the countles of Carmarthen, Cardigan, and Pembroke, in 
Sonth Wales." (See Cambrian Begùter, vol. i., p. 166). 



42 

janau y gelwid am ei wasanaeth. Yn y flwyddyn 1774, priododd a chy- 
jnerodd dyddyn bychan o'r enw Newgate, gerllaw Eglwys Troed yr Aur, 
Yn 1778, neillduwyd ef i'r swydd weinidogaethol yn addoldy y Graig, 
gerllaw Castellnewydd Emlyn. herwydd ei fod yn hynod boblogaidd 
fel pregethwr, ac yn meddu cymhwysderau neillduol erajll, penodid ef yn 
flynyddol i fyned ar daith drwy y Gogledd. Yn ystod y teithiau hyn, cyfar- 
fyddodd âg erledigaethau chwerwon, a bu ei fywyd amryw weithiau mewn 
perygl. Yn 1787, dewiswyd ef yn weinidog ar Eglwys Maesyberllan, 
Brycheiniog, Ue y bu yn Uafurio yn ddiflino am ddeg ar hugain o flynydd- 
oedd. Bu yn foddion i sefydlu achos yn Aberhonddu a Cherygcadarn, a 
chwanegwyd llawer at yr eglwysi o dan ei weinidogaeth. Er nad oedd 
wedi mwynhau nemawr o fanteision dysgeidiaeth yn ei ieuencty^, ni 
allasai fod ei wybodaeth feirniadol a chyffredinol mor helaeth a'r eiddo 
Uawer] ond gwneid y diffyg hwn i fyny i raddau mawr gan ei ddeall 
goleuedig, _ei gof gafaelgar, a'i synwyr cryf a threiddiol. Parhaodd yn ei 
iechyd a'i fy wiogrwydd i bregethu yn ddidor hyd oni tharawyd ef gan y 
olefyd aderfynodd yn ei farwolaeth, Hydref 24, 1821, pan yn 77 mlwydd 
oed, ar ol bod yn llafurio yn flyddlon yn ngwinllan ei Arglwydd am yn 
agos i ddeng mlynedd a deugain. 

Eyjlns, David, oedd c nedigol o Lwyncelyn, plwyf Llanddewi Brefì, a 
ganwyd ef ar yr 16eg o Ragfyr, 1811, Efe oedd yr ieuangaf o naw o 
blant. Anfonwyd ef yn ieuanc i'r ysgol, a gallai ddarllen pan yn bump 
oed. Yn y flwyddyn 1824, tòrodd diwygiad grymus allan yn Llangeitho 
a'r ardaloedd, yn mysg y Trefhyddion Calfinaidd, ac unodd yntau & hwy. 
Fan tua unarbymtheg oed, anfonwyd ef i'r ysgol Ramadegol i Neuadd- 
lwyd, ac yn fuan ymunodd yno â'r Annibynwyr. Tua blwyddyn ar ol 
hyny dechreuodd bregethu. Bu dan ofal yr hybarch Dr. Bhillips am 
bedair blynedd, a gwnaeth gynnydd mawr mewn g wybodaeth o Saesonaeg, 
Uadin, a Groeg, fel ag y dywedai ei athraw am dano, na bu neb yn fwy 
diwyd a Uafurus nag ef erioed o dan ei ofal; ac na chafodd un gofld 
oddiwrtho dros yr holl amser y bu gydag ef. Yn 1831, symudodd i 
Athrofa Caerfyrddin, Ue y bu eilwaith bedair blynedcL Ar derfyn yr 
wnser hwnw, cafodd alwad gan yr Eglwys Annibynol yn Mhenygraig, 
gar Caerfyrddin, ac urddwyd ef yn weinidog yno, Ionawr 15, 1835; a 
Gorphenaf 16, 1837, cymerodd ofal Eglwyg Philadelphia. Medi 28, 
1838, ymunodd mewn priodas â Miss Eleanor Thomas, unig ferch Mr. 
William Thomas, "Wernwen. Yn ystod yr amser y bu yn gofalu am yr 
«glwysi hyn, gwnaeth Mr. Evana lawer o ddaioni i'r gymydogaeth yn 
gyffredinol; a bu yn offerynol i roi terfyn ar lawer o arferion ffol ac an- 
nuwioì, megys y owrwau bach, dulliau anweddaìdd yr angladdau, halogi 
y Sabbath, &c. Llafuriai yn ddiwyd iawn gyda'r Ysgol Sabbathol, ac yr 



43 

oeád yn un o'r holwyr goreu ar bwnc ysgol yn Neheudir Cymru. Preg- 
ethai yn fywiog ac argyhoeddiadoí iawn. Yr oedd yn hollol gydwybodol 
— traethai " holl gynghor Duw " yn ddidderbynwyneb. Meddai ar lawer 
o dân ac ysbryd yr hen bregethwyr, yn nghyda dysg a choethder ei gyd- 
lefarwyr ieuainc yn y weinidogaeth. 

Eyans, David, Aberaeron, ydoedd weinidog gyda'r Trefhyddìon 
Calfinaidd. Mab oedd i Benjamin a Catherine Evans, Penygareg Isaf, ger 
y dref hon. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1768, ac efe ydoedd yr ieuangaf o 
bump o blant. Yr oedd ei rieni yn aelodau yn Ffosyffin, gyda'r Parch. 
Thomas Gray. Cafodd David Evans ysgol dda pan yn ieuanc, ac wedi 
hyny cafodd ei anfon i ysgol Ystradmeurig, gyda'rbwriad, mae'ndebyg, 
o'i ddwyn i fyny yn offeiriad. Ond cyn ei fod yn ddeunaw oed, cafodd 
anaf bychan ar grimog y goes ddeheu, yr hwn a waethygodd i'r fath radd- 
au fel ag i droi yn fanwynau (hmg's evil), a gwnaed ef yn gloff iawn. 
Aeth ei fraich chwith hefyd yn hollol anhyblyg (stif). Gan ei fod yn 
ysgolhaig gwych, dechreuodd ar y gwaith o gadw ysgol yn ei gartref, a 
chyrchai lluaws yno ato. Pan yn 30 ml. oed, priododd âg Elizabeth 
Davies o blwyf Llanina, a bu iddynt unarddeg o blant, tair o ferched ac 
wyth o feibion. Yn y flwyddyn 1805, bu farw y plentyn ieuangaf trwy 
ddamwain ddisymwth, a darfu i'r amgylchiad hwn eífeithio cymaint ar ei 
feddwl, nes ei ddwyn i ýstyriaeth ddifrifol am ei ddiwedd; ac mewn 
canlyniad, taflodd ei goelbren i fysg y dysgyblion yn Ffosyfíìn, gan y 
rhai y derbyniwyd ef yn llawen. Yr oedd yn flaenorol i hyny yn meddu 
cymeriad difrycheulyd, ac yn wrandawr cyson o Mr. Gray, dan weinidog- 
aeth yr hwn yr ymddangosai fel yn teimlo yn ddwys yn fynych. Ffaith 
hynod yn nglŷn â'i yrfa grefyddol ydyw iddo, ar annogaeth Mr. Gray 
a'r eglwys yn gyífredinol, ddechreu pregethu yn mhen tri mis ar ol dyfod 
i'r Bodety. Mae hyn ar unwaith yn profi eu bod yn coleddu y meddyliau 
uwchaf am dano fel dyn ac fel crefyddwr, ac yn wir ni chawsant erioed 
yr achos lleiaf i feddwl yn wahanol am dano. Pregethodd yn y Cyfarfod 
Mi«ol cyntaf yr aeth iddo, yr hwn a gynnelid yn Blaenanerch, a hyny 
gyda medrusrwydd mawr, ac er boddhad cyffrediiîol. Wedi hyn, yr oedd 
ei yrfa weinidogaethol yn un o lwyddiant parhaus, fel ag y daeth i 
gael ei gydnabod yn " dywysog ac yn wr mawr yn Israel." Yr oedd Mr. 
Gray cyn ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1809, yn 
awyddus iawn am ei weled yn cael ei ordeinio yn olynydd iddo ef fel 
bugail ar yr eglwys hòno, yn nghyda Abermeurig a Llwynpiod; ond gan 
nad oedd y fath beth ag ordeinío yn mhlith y Trefnyddion yr adeg hòno, 
ni chafodd ei ddymuniad ei sylweddoli. Yn 1815 y cafodd ef ei ordeinio, 
a hyny yn Llangeitho. Gyda golwg ar ei fywy d cyhoeddus o'r adeg hon yn 
mlaen, nis gallwn wneud yn well na dyfynu a ganlyn o ysgrif o eiddo ei fab, 



44 

Mr. Benjamin Evans o'r dref hon, i'r hwn yr ydym yn ddyledus am 
ddefhyddiau hyn o gofiant : — "Gallesid meddwl cyn hyn fod yn anmhosibl 
iddo fod yn fwy ffyddlawn a llafurus nag y buasai cyn hyny; ond yn awr 
cafodd ysbryd arall, fel rhyw ail ras, ac eneiniad oddiwrth y Santaidd 
hwnw, nes ydoedd braidd yn angherddol mewn sel, llafur, ac eiddigedd 
duwiol dros ogoniant Duw, ac achubiaeth eneidiau. Yr ydoedd yn ym- 
boeni ddydd a nos yn y gair a'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Ei 
hoffawduronoeddynt Dr. Owen, Charnock, Henry,Poole,Charles,Gurnal, 
Bunyan, a Baxter. Er ei fod yn ysgrifenydd buan ac eglur iawn, nid ydym 
yn meddwl iddo ysgrifenu pregeth erioed yn hanner cyflawn, a hyny, 
efallai, am fod ei gof mor anarferol o dda." Yr oedd Mr. Evans yn 
fugail eglwysig yn Lledrod, Llangwyryfon, Bhiwbwys, Llanon, Penant, 
a Ffosyínn, a chadwaLbregeth a sodety yn fisol yn mhob un o honynt tra 
fu byw. Byddai yn bresenol hefyd yn mhob Cymanfa Ysgolion Sabbathol 
bron trwy y sir; ac nid ystyrid un Gymanfa yn gyflawn os na byddai ef 
yn bresenol, ac anfynych iawn y byddai hyny yn dygwydd. O ran ei 
berson, meddai gorff cryf, gwrol, a chadarn iawn, a mwynhai iechyd 
rhagorol. Yr oedd yn hynod ffraeth a chyfeillgar mewn cwmni, ac yn 
ddyn o ymddiried a pharch cyftredinol yn ei ardal. Mynych iawn y 
gelwid arno i benderfynu dadleuon rhwng gwahanol bleidiau mewn 
gwlad ac eglwys; ac nid rhyfedd hyny gan ei fod yn feddiannol ar ddeall 
cyflym a synwyr cyffredin cryf, ac o duedd heddychol ei hun. Bu farw 
mewn canlyniad i yfed dwfr oer ar ol chwysu yn drwm wrth bregethu ar 
brydnawn gwresog yn Llangwyiyfon, Awst 14, 1825, a gorphenodd ei 
yrfa y Sabbath canlynol, sef yr un wythnos a'i gyfaill a'i gydlafurwr, y 
Parch. Ebenezer Morris. 

Evans, David, oedd weinidog enwog yn mysg y Wesleyaid, ac a 
anwyd yn y sir hon yn y flwyddyn 1789. Yr oedd yn un o ddychweled- 
igion cyntaf y Wesleyaid yn Nghymru. Wedi ei argyhoeddi, teimlodd 
yn fuan awydd cryf i ymgyflwyno i waith y weinidogaeth; ac felly wedi 
gwasanaethu am dymmor fel pregethwr lleol, urddwyd ef yn weinidog 
rheolaidd yn y flwyddyn 1810. Yr oedd yn ddyn o feddwl cryf, o farn 
gywir, yn ddarllenwr mawr, ac o gyrhaeddiadau uchel; ac yn ychwanegol at 
hyn, yr oedd yn hynod ostyngedig a diymfirost. Yr oedd yn uchel iawn ei 
gymeriad fe] gweinidog yn mysg y bobl y llafuriai yn gystal ag yn mysg ei 
gydweinidogion. Gwirioneddau mawrion yr efengyl fyddai hoff destunau ei 
bregethau, ac ymgadwai yn ofalus rhag pynciau dyeithr, ammheus, a 
thywyll. Ystyrid ef yn un o'r pregethwyr inwyaf enwog a berthynai i'r 
cyfundeb, a bu yn dra llwyddiannus yn ngwaith ei Arglwydd. Yn ystod 
y tair blynedd olaf o'i fywyd, dyoddefodd giyn lawer oddiwrth wendidau 
a llesgedd corfíorol; ac yn Ionawr, 1854, cafodd ergyd o'r parlys, pryd y 



45 

cynghorwyd ef gan ei feddyg i roi i fyny bregethu. Parhaôdd, îoiodd 
bynag, gan faint ei awydd i wasanaethu ei Arglwydd, gyda'r gwaith; ond 
gorfyddwyd ef iV roddi heibio yn fuan. Gyda pherffaith ymostyngiad i 
ewyllys ei Dad nefol, bu farw, Mai 11, 1854, yn 65 mlwydd oed, wedi 
bod yn gweinidogaethu am 44 mlynedd. Ei eiriau diweddaf oeddynt, 
"Mae'r Iesu yn dyfodl Cymer fi Iesu, cymer fì Iesu!" — Min. of 
Can/erence, 1854. 

Evans, David, a drowyd allan o Eglwys LlandyMog, gan y Prwywyr, 
am anfoesoldeb a Simoniaeth, 

Evans, Evan Gmffith, Pen y Wenallt, oedd yn hanu o Wynfardd 
Dyfed, yn ol tystiolaeth Theophilus Jones, Haneeydd Brycheimog y yt 
hwn oedd y pummed âch o Evan Gruffydd Evans. Yr oedd yn byw yn 
amser Siarl i , ac yn deyrngarwr o'r gwraidd; ac "ymladdodd a gwaed- 
odd " yn ei achos. Ei fab, Samuel Evans, fu athraw teuluaidd y Parch. 
Mathew Henry, yn y Broad Oah, Mab arall iddo oedd Charles Evans, 
yr hwn a enwyd ganddo o barch i'w frenin, Siarl i. ; ac efe ydoedd tad yr 
hyglod Theophilus Evans, awdwr Drych y Prif Oesoedd. Ymfudodd 
cangen o'r teulu hwn i'r America, lle y dyoddefasant lawer o golledion, o 
herwydd eu hy mlyniad wrth Loegr, yn amser Rhyfel America. (Gwel Jones' 
HUtory of Brechnochahire ; Meyrich's History of Cardigamhire, 130). 

Evans, Evan, Aberffrwd, oedd weinidog ffyddlawn a llafurus gyda'r 
Tremyddion Calíînaidd. Ymunodd â chrefydd pan tua 23ain oed, ac yn 
mhen tua pum' mlynedd wedi hyny dechreuodd bregethu; ac yn y flwyddyn 
1822, cafodd ei urddo i gyflawn waith y weinidogaeth. • Ystyrid ef yn 
bregsthwr da, a bu yn hynod ffyddlawn gyda'r gwaith, a hyny yn wyneb 
lluaws o anfanteision ac anhawsderau. Teithiodd lawer trwy Dde a 
Gogledd, a mawr berchid ef gan ei frodyr yn y weinidogaeth gartref ac 
oddicartref. Tua diwedd y flwyddyn 1855, goddiweddwyd ef gan lesgedd, 
a chlywid ef yn amlygu ei ddymuniad yn fynych am gael "myned 
adref;" ac nid hir y bu cyn cael yr hyn a ewyllysiai, oblegid ar foreu 
Sadwrn, yr 2il o Chwefror dilynol, aeth i fwynhau yr orphwysfa nefol. 
Yr oedd wedi cyrhaedd yr oedran teg o 73 mlwydd. 

Evaks, Evak, (Ieuan Brydydd Hir), y bardd a'r hynafiaethydd rhag- 
orol, a anwyd yn Cynhawdref, yn mhlwyf Lledrod, yn y flwyddyn 1730. 
Addysgwyd ef yn ysgol Ramadegol enwog Ystradmeurig, yr hon oedd b 
dan arolygiaeth yr ysgolhaig a'r bardd gwych Edward Richard, yr hwn, 
mae'n debyg, a fu yn foddion i ddwyn allan gyntaf i weithrediad ei allu- 
oedd awenyddoL Efe fu unig ddysgybl a chydymaith ei athraw yno 



46 

am ddwy fiynedd. (Gwel Edward Richard). Yn 1751, synmdodd oddi- 
yno i Goleg Merton, Rhydychain. Yr oedd yn meddu etifeddiaeth fechan 
yn agos i'w gartref, yr hon a drosglwyddodd i'w frawd, i'r dyben o'i allu- 
0gi i ddwyn traul ei efrydiaeth yn y brif Athrofa. Ar ol ei urddo, bu yn 
gwasanaethu fel curad yn olynol yn Nhowyn Meirionydd, Llanberis, 
Llanllechid, a Llanfair Talhaiarn. Daethai yn gydnabyddus er yn ieuanc 
â'r hynanaethydd, Lewis Morys o Fon, ond y pryd hyny a drígai yn Pen- 
bryn, Ceredigion; a choleddai y gwr hwnw, yn gystal a Goronwy Owain, 
fcnt uchel iawn am dano fel bardd a llenor. Ymroddodd gydag egni 
anghyffredin i astudio llenyddiaeth, ac i olrhain hanes ei wlad. Ymwelai 
â gwahanol lyfr-gelloedd y Dywysogaeth, lle y gwyddai fod hen law- 
ÿtogiifaü i'w cael, y rhai a adysgrifenai gyda'r diwydrwydd aV gofal mwyaf. 
Oasglodd felly luaws mawr o hen ysgrifau gwerthfawr a dyddorol. Bu 
am dymmor yn derbyn blwydd-dalion bychain oddiwrth Syr Watkin W. 
"Wynn, a'? Dr. Warren, esgob Bangor, er ei gynnorthwyo yn y llafur 
hwnw; y rhai a attaliwyd o'r diwedd, o herwydd, fel y tybir, afradlonedd 
j bardd. Yn 1764, cyhoeddodd gyfrol o Hen Farddoniaeth Gymreig, gyda 
chyfieithiadau Lladin, i'r hon yr ysgrifenodd ragymadrodd dysgedig — 
"fiiuertcẃio de BcMrdis." Dywedir mai o'r gwaith yma y tynodd Gray ddefn- 
yddiau rhai o'iganiadau mwyaf gorchestol, ac ennillodd iV awdwr le uchel 
yn mysg hynafiaethwyr a beirdd ei wlad. Gohebai yn fynych â'r Esgob 
Percy, ac jr oedd y gwr dysgedig hwnw yn meddwl yn uchel iawn o hono. 
Yn 1772, cyhoeddodd gân Saesonig, yn dwyn y teitl, "The Love of our 
Coumtry" yn nghydag amryw ganeuon Cymreig, yn y llyfr a elwir 
Blodau Dyfed. Yn 1776, cyhoeddodd ddwy gyfrol 12plyg— un yn 280 
a'r üall yn 326 o dudalenau — o bregethau Cymreig, wedi eu cyfieithu o 
waith Tillotson ac eraill; a dywedir mai y rhai hyn oedd y pregethau 
cyntaf a gyhoeddwyd yn gyfrolau yn y Gymraeg. Yr unig ystaen ar 
gymeriad y dyn enwog yma ydoedd anghymedroldeb, yr hyn fu yn 
achlysur iddo i golli nawdd amryw o wŷr mawr a dylanwadol ei wlad. 
Derbyniodd yn mlynyddau olaf ei oes flwydd-dal o £20 gan Paul Panton, 
Yaw., Mon, ar yr ammod fod ei holl ysgrifau i gael eu trosglwyddo yn 
eiddo i'r gwr boneddig hwnw pan y byddai efe ei hun farw. Ac felly 
aeth yr hoil gasgüad, yn cynnwys cant o gy frolau, i lyfrgell y Plas Gwyn; 
ac maent yn awr yn meddiant yr etifedd, sef Barton Panton, Ysw. Bu 
farw Mr. Evans yn Cynhawdref, ei le genedigol, yn Awst, 1789. 

Bvahs, Griffith Thomas, oedd fab Thomas a Magdalen Evans, Pont- 
btendu* Llanarth, lle y ganwyd ef Awst 15, 1825. Yr oedd ei rieni yn 
aelodau yn y Neuaddlwyd gyda'r Dr. Phillips, a derbyniwyd gwrthddrych 
ein oofîant yno pan yn ddeng mlwydd oed. Dechreuodd bregethu Mawrth 
28ai», 1845; ac yn mis Gorphenaf dilynol aeth i'r ysgol Bamadegol yn 



47 

Aberteifi, lle y treuliodd yn agos i ddwy flynedd. Oddiyno aeth Ì Ffrwd- 
yfal, ac oddiyno drachefn i Aberhonddu, lle y derbyniwyd ef, Rhagfyr t, 
1847. Wedi fcreulio pedair blynedd yno, ymadawodd wedi ennill parch a 
chymeradwyaeth ei athrawon a'i gydfyfyrwyr. O herwydd gwaeîedd 
ei iechyd, nid ymgymerodd â gofal yr un eglwys yn uniongyrchol, 
er iddo dderbyn galwad i'r perwyl; ond treuliodd ddeufis yma a 
thraw, er ceisio cryfhau ei iechyd. Urddwyd ef yn Mhenygraig, ger 
Caerfyrddin, Medi 24, 1851. Bu yno yn llafurio yn galed am tua phum' 
mis, pryd y gorfodwyd ef, o herwydd llesgedd a gwendid, i roddi y wein- 
idogaeth i fyny, a dychwelyd i dý ei rieni; ac yno y bu yn dihoeni am rai 
misoedd, sef hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Mehefin 29ain, 1852, 
pan yn 29 mlwydd oed. Nid meddwl o radd gyffredin oedd gan Mr, 
Evans; ac er nad oedd yn ddysgwr cy flym, nac yn meddu ar gof gafaelgar, 
etto, pobpeth a astudiai, mynai ei ddeall yn drwyadl. Meddai dalent 
neillduol at rifyddiaeth yn ei gwahanol ganghenau, ond prif ogwyddia^ 
ei feddwl ydoedd at athroniaeth foesol a meddyliol, a duwinyddiaeth. Yf 
oedd yü dra gochelgar yn ei ddewisiad o gyfeülion; ond wedi unwaith 
ffurfio cyfeillgarwch, gellid ymddibynu arno. Pwyllai a phetrusai lawer 
cyn gwneud ei feddwl i fyny arunrhyw bwnc; ac wedi y gwnelai, nidyn 
hawdd y gellid ei droi yn ol. "Yr oedd ei bregethau yn llawn sylwedd, 
y materion wedi eu trefhu yn gelfydd, a thraddodai hwy yn bwysig a 
difrifol, fel y dywedai rhai o'i wrandawyr yn Mhenygraig, fod yn rhaid 
iddynt naill ai peidio ei wrando neu newid eu cymeriadau. Canmoliaeth 
ardderchog ! Nid ei amcan oedd difyru ei wrandawyr â phregethau bach, 
melus, tyner, digyfeiriad, a gwenieithol; ond ymdrechai gynhyrfu y 
meddwl ac anesmwytho y gydwybod. Ymresymwr ydoedd, ac nid clebryn. 
Byddai yn fedrus iawn i argyhoeddi ei wrandawyr o wiredd ei osodiadau; 
ond ni feddai ar ffrwd o hyawdledd, yr hwn sydd bob amser yn fanteisiol 
i berswadio. Yr oedd ei nerth fel pregethwr yn ardderchogrwydd ei 
faterion, ac yn nifrifoldeb eu traddodiad. Yn yr ystyr yna, daethai yá 
bi'egethwr gwir fawr; ond nid oedd ôi ddawn areithyddol ond o radcl 
ganolig. Yr oedd meithder ei bregethau, yn ngbyda gwenciid ei gorff, yû 
peri iddo golli ei nerth cyn gorphen; fel cyflegr, gollyngai eí gynnwysiad 
cyn dyfod yn ddig;on agos at y gelyn. Yr oedd duwioldeb Mr. Evans ò 
radd uchel. Yr oedd yn anmhosibl bod yn hir yn ei gyfeillach heb weled 
ei fod yn ofhi Duw ac yn parchu dyn. w 

Evahs, Gripfith, a drowyd allan o Lanrhystyd, gan y Prwywyr, am 
feddwdod, anfoesoldeb, Simoniaeth, a chadw tafarndy cyffredin. — Watäers 
Suffermga of the Clergy. 

Evams, James, neu Iago Glcm Ceri, oedd enedigol o Gapel Gwnda, yn 



48 

mhlwyf Troed yr Aur. Yr oedd yn hynafìaethydd rhagorol, yn fardd 
lled dda, ac yn hanesydd campus. Nid oedd nemawr lyfr Cymraeg a'r 
nad ydoedd yn Ued hyddysg yn ei gynnwysiad. Bu farw yn y flwyddyn 
1851, yn 38 oed. 

Evans, John, gweinidog gyda'r Annibynwyr yn y Borth, Amlwch, a 
anwyd yn agos i Benrhiwgaled, tua'r flwyddyn 1753. Derbyniwyd ef 
yn aelod yn Penrhiwgaled, a dechreuodd bregethu pan yn ieuanc. Urdd- 
wyd ef yn weinidog yn nghapel y Graig, Machynlleth, lle y bu yn llafurio 
am flynyddau gyda llwyddiant mawr. Yn ei amser ef y sefydlwyd yr 
Eglwys yn Aberhosan, a Phennal hefyd, mae yn debyg. Symudodd 
oddiyno i Amlwch, lle y bu am ddwy flynedd ar bymtheg ar hugain 
yn dra ymdrechgar, a llwyddiannus hefyd. Claddodd yno ei unig fab yn 
ddeunaw mlwydd oed, yr hwn oedd wedi dechreu pregethu, ac yn debyg 
o fod yn seren ddysglaer ar faes y weinidogaeth. Claddodd hefyd ei 
briod yno; a chany teimlai ei amddifadrwydd, a gwendid ahenaint yn ei 
orddiwes, rhoddodd i fyny ei ofal gweinidogaethol yn Amlwch, a symud- 
odd i fyw at ei ferch i Dremadog. Ond parhaodd o hyd i bregethu y 
Sabbathau lle y gelwid am ei wasanaeth, a hyny hyd ei farwolaeth, yr 
hyn a gymerodd le ar y 7fed o Ragfyr, 1849, pan yn 95 mlwydd oed, 
wedi bod yn gweinidogaethu am oddeutu triugain a deg o flynyddoedd ! 
Yr oedd yn ddyn lluniaidd iawn ei gorff, ac o faintioli mwy na'r cyffredin, 
ac yn un o'r dynion hawddgaraf yn ei gyfeillach, yn gwbl ddiddicheU, ac 
yn Uawn cymwynasgarwch a cl^aredigrwydd. Fel pregethwr, yr oedd yn 
dra hyawdl, ac yn meddu llais peraidd a soniarus; ond, fel Uawer o'r hen 
bregethwyr, defhyddiai rai ymadroddion Ued drwsgl a dichwaeth, y rhai 
a swnient yn Ued arw ar glustiau y rhan goethedig o'i wrandawyr. 

Evans, John, a anwyd yn Blaenplwyf, yn y flwyddyn 1796. Dang- 
osodd pan yn dra ieuanc duedd neülduol at rilýddiaeth. Wedi treulio 
rhy w gymaint o amser yn yr ysgçl, gosodwyd ef yn egwyddorwas gyda 
gwehydd yn y gymydogaeth, ond gan nad oedd hyny yn cydfyned â'i ar- 
chwaeth, rhoddodd y grefffc i fyny, ac aeth i Lundain. Bu yn Uwyddiannus 
yno cyn hir i dynu sylw y rhifyddwr enwog Griffith Davies, yr hwn gan 
weled ynddo y fath dalent ryfeddol at rifyddiaeth, a'i cynnorthwyodd yn 
haelionus yn ei efrydiaeth. Gwnae^h gynnydd mawr yno yn fuan mewn 
Mesuregaeth, Alsoddeg, Trionglaeth, <fec, ac yna dychwelodd yn ol i 
wlad ei enedigaeth gan ymsefydlu fel ysgolfeistr yn Aberystwyth, pan tua 
25ain oed, ac yno y treuliodd y gweddül o'i oes, gan lafurio gyda Uwydd- 
iant mawr. Yn ychwanegol at ei wybodaeth eang o rifyddiaeth yn ei 
gwahanol ganghenau, yr oedd ganddo chwaeth neillduol at wyddoniaeth, ac 
at ddyfeisio peiriannau ac offerynau gwyddonol. Ac yn mysg pethau eraül, 



49 

dyfeisiodd offeryn er dangos symudiadau y ddaear a'r planedau, <fcc.; un 
arall i bwyntio at unrhy w seren ddydd neu nos; ac hefyd haul-ddeial hynod 
gy wrain. Ystyrid ef yn dra hyddysg mewn morwriaeth (navigation) f ac 
ato ef ar un adeg y cyrchai holl forwyr y dref a'r gymydogaeth er derbyn 
hyfforddiant yn y gangen hòno. Mae lluaws mawr o'i ysgolheigion yn 
llenwi swyddi o bwysigrwydd ac ymddiried mewn gwahanol fanau. Ar 
gyfrif ei lafur mawr gydag addysgiad gwŷr ieuainc y dref a'r gymydogaeth, 
anrhegwyd ef gan drigolion Aberystwyth gyda thysteb hardd. Yr oedd 
yn ddyn hynod wylaidd a dirodres, ac yn Gristion didwyll. Bu farw 
Ebriü 2, 1861, yn 67 oed, wedi bod dros 40 mlynedd yn ysgolfeistr. 

Eyans, John, oedd brydydd o Lanarth, tua diwedd y ganrif ddiweddaf. 
Cyhoeddwyd o'i waith, "Y Maen Traragwydd, neu Ymofyniad mewn 
perthynas i Faterion dadleugar mewn crefydd," «fcc. Caerfyrddin, 1799. 

Eyans, John, M.A., oedd frodor o gyffiniau Llanarth, Ue mae yn 
debyg y gweinidogaethai fel offeiriad y plwyf. Cyfieithodd Beddfau 
Crùtionogol, gan esgob Gastrel; ac, fel y tybir, Ymarferiadau a Myfyr- 
dodau Sacramentaidd Dr Earh, 1735. Cyhoeddodd hefyd, "Cysondeb y 
Pedair Efengyl, gydag agoriad byr, a nodau athrawus, ar yr hyn a dybir 
dywyllaf ac anhawsaf ynddynt, <fcc. Argraffwyd yn Bryste, gan E. 
Earley, 1765." Hwn oedd yr Esboniad rheolaidd cyntaf yn y Gymraeg, 
ac ymddangosodd felly 15 mlynedd o flaen eiddo Peter Williams. (Gwel 
Llyfryddiaeth y Cymry, Traethodydd 1852). 

Eyans, John, oedd frodor o Geredigion, ac yn un o'r " Ddwy Fil " a 
drowyd allan mewn canlyniad i basiad Deddf yr Unffurfiad. Dywedir 
iddo gael ei dröedigaeth mewn modd nodedig. Ar ol bod yn halogi y 
Sabbath yn y bore, aeth i wrandaw pregeth yn yr hwŸr, yr hon fu yn 
foddion iV argyhoeddi. Ymunodd â'r Presbyteriaid, ac urddwyd ef yn 
weinidog yn eu plith. Er nad oedd ei dalentau yn fawr, etto, yr oedd 
yn ddiwyd a llafurus neillduol yn ngwaith y weinidogaeth, a choronwyd ei 
ymdrechion â llwyddiant. Bu yn gweinidogaethu am flynyddau yn mhlwyf 
Cellan, yn agos i Lanbedr. Cynnygiwyd iddo barsonoliaeth gyfoethog 
os cydymffurfiai, ond ni feiddiai ei derbyn. Mewn canlyniad, trowyd 
ef allan o Fangor, gerllaw Castellnewydd Emlyn; a bu farw yn fuan ar 
ol rhoddi Deddf yr Unffurfiad mewn grym. 

Eyans, Moegan, a drowyd allan o Llillue, (fel y sillebir ef gan 
Walker), neu Ciliau, mae yn debyg, am feddwdod. 

Evans, Owen, a anwyd yn sir Aterteifi, tua'r flwyddyn 1808. Yr 



60 

oedd ei rieni yn gwerthfawrogi addysg dda yn fawr; ac ar ol rhoddi iddo 
addysg ragarweiniol o'r fath oreu o fewn en cyrhaedd, anfonasant ef i 
Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Ymddengys iddo wnend cynnydd 
rhagorol yno; ac wedi gorphen y tynimor arferol, urddwyd ef yn weinidog 
gyda'r Undodiaid. Bu am ychydig amser yn gwasanaethn fel cynnorth- 
wywr i'r diweddar Barch. Timothy Davies, mab y Parch. David Davies, 
Castell-hy wel, yn Evesham. Ond wedi ail ystyriaeth bwyllog, »teimlodd 
mai ei ddyledswydd oedd ufuddhau i'r appeliadau oddiwrth yr eglwysi 
Cymreig am ei wasanaeth; ac felly, gyda chydwybodolrwydd na cheir 
ond anfynych ei ragorach, gadawodd sefyllfa dda, a daeth i laforio am 
tua £30 y flwyddyn, i Eglwys anghysbell Blaengwrach, yn Nghwm Nedd. 
Gadawodd y lle yma eilwaith am Cemcoedycymmer, yn agos i Ferthyr 
Tydfil, Ue y treuliodd y gweddill o'i yrfa weinidogaethol a'i oes, sef 28 
mlynedd. Cymerodd ran neillduol a chyhoeddus iawn yn mhrif gyfar- 
fodydd yr Undodiaid yn y Deheudir,. ac ysgrifenodd iawer iawn er 
amddiflyn y golygiadau a goleddid gan y cyfdndeb hwnw. Fel ysgolhaig, 
yr oedd yn berflaith hyddysg yn y, Groeg a'r Lladin, a chyrhaeddodd 
wybodaeth lled helaeth o'r Hebraeg a'r Syriaeg; a rhoddai le arbenig yri 
ei efrydiaeíh i feirniadaeth Feiblaidd a duwinyddiaeth. Fel pregethwr, 
yr oedd yn fynych yn ystyiiawn ac argraffiadol, a phob amser yr oedd yn 
llawn bywiogrwydd. Bu hefyd yn dra llafurus a llwyddiannus fel ysgol- 
feistr — yr oedd yn barod bob amser i roddi addysg glasurol i ddynion 
ieuainc o bob enwad, ar yr unig delerau eu bod yn ymgyflwyno i waith y 
weinidogaeth. Yr oedd Mr. Evans yn aelod o'r Board of Guardians, ac 
fel y cyfryw, ennillodd barch cyfíredinol y rhai hyny yr ymwnelai â hwy 
yn nghyflawniad ei swydd. Cymerodd ran yn nghyfarfod y Guardians 
y dydd Sadwrn cyntaf o'r flwyddyn 1865, pryd y cymerwyd ef yn glaf, a 
chludwyd ef adref. Y Sabbath canlynol, bu eilwaith yn pregethu yn y 
boreu; ond yr oedd yn analluog i wneud hyny yn yr hwyr. Tranoeth, 
modd bynag, yn hollol annysgwyliadwy, tra yn y gwaith o ddarllen 
newyddiadur, heb ond un ochenaid wanaidd, ehedodd ei enaid i fyd yr 
ysbrydoedd. Ymddengys fod ganddo fath o ragfeddwl fod ei bererindod 
ddaearol bron ar ben; oblegid ar ddydd Calan, cymerodd yn destun, Jer, 
xxviii. 16: "O fewn i'r flwyddyn hon y byddi farw." A chyfeiriai yn 
fynych at ei ddiwedd agosaol ei hun. Yn ystod y mis diweddaf o'i 
fywyd, clywid ef fwy nag unwaith yn datgan ei ddymuniad i gael ei 
gymeryd ymaith yn ddisymwth, heb boen na chystudd, gan nad oedd yn 
omi marw; ac yn hyn cafodd ei ddymuniad. Gwnaed cyfeiriadan parchus 
iawn ato, yn nglŷn â hysbysrwydd am ei farwolaeth, yn lioll newyddiad- 
uron yr ardal; a thalent y compẅment uchaf iddo fel dyn a Christion 
cydwybodoL Claddwyd ef yn mynwent y capel, pryd y pregethwyd ar 
yr achlysur gan y Parch. Thomas Thomas, Pant y Defaid, yn hynod 



61 

bwrpasol, ar y geiriau, "Meddyliwch am eicli blaenoriaid," &c. Ei oed 
oedd 57* Gadawodd weddw a thri o blant bychain i alaru o herwydd 
colli gwr caruaidd a thad serchog. 

Etans, Theophilus, awdwr Drych y Pri/ Oesoedd, ydoedd bummed 
mab Charles Evans, Pen y Wenallt, Ceredigion, o'i ail wraig. Bu ei 
hanner brawd, John Evans, yn athraw yn nheulu y Parch. Philip Henry, 
tad Mathew Henry. Ganwyd Theophilus yn 1694, ond ychydig wyddis 
o'i hanes boreuol. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1718, ac yn offeiriad yn 
1719, gan esgob Ty Ddewi. Ei guradaeth gyntaf oedd Tir yr Abad, yn 
Nghantref Buallt, Brycheiniog. O Dir yr Abad, neu Llanddulais, fel 
hefyd y gelwir y lle, fe symudodd i Lanlleonfel, yn agos i Langamarch. 
Yn 1728, rhoddodd esgob Ty Ddewiiddo fywoliaeth fechan Llanynys, yr 
hon fu yn ei ddwylaw am ddeng mlynedd — hyd nes y cafodd Langamarch. 
Yn 1739, cafodd Eglwys Sant Dewi, Llanfaes, Aberhonddu, yr hon a 
ddaliodd hyd ei farwolaeth. Yn 1763, rhoddoó^d fywoliaeth Llangamarch 
i fyny i'w fab-yn-nghyfraith, Hugh Jones. Mab i'r Hugh Jones yma 
ydoedd yr enwog Theophilus Jones, Hanesydd Brycheiniog, " Wrth bob 
hanes yr oedd Ficer Llangamarch yn enwog am y rhinweddau hyny sydd 
yn gwneud dyn yn anwyl i'w gymydogion a'i gyfoedion, yn gystal ag am 
ei ddysg a'i ddoniau. Yr oedd yn hynod, mae'n debyg, am ei garedig- 
rwydd cyffredinol; ac mewn diniweidrwydd a symlder diddichell, yr oedd* 
yn berffaith blentyn. Arian ni phrisiai fawr. Ei drysorau penaf ef 
oedd ei lyfrau, gyda pha rai y treuliai lawer iawn o'i amser." Dywedir 
yn gyffredin mai Mr. Theophilus Evans fu'r cyntaf i ddarganfod rhin- 
weddau iachaol Ffynnon Llanwrtyd, a hyny tua'r ûwyddyn 1732. 
Ymddengys ei fod ar y pryd yn dyoddef yn fawr oddiwrth y scurvy, yr 
hwn oedd wedi gwreiddio yn ddwfii yn ei gyfansoddiad. Ymddengys 
iddo fyned un diwrnod ar ei hynt tua'r ffynnon wtnwynìg^ fel y tybiai y 
trigolion y pryd hyny am dani; ac wedi syllu enyd uwch ei phen, gwel- 
ai lyffant yn neidio yn wisgi o honi, yr hyn ar unwaith a'i hargy- 
hoeddodd nas gallai dim gwenwynllyd fod yn y dwfr — cymerodd galon 
ac yfodd ddracht da o hono, a pharhaodd i wneud hyny am rai 
diwrnodau. Ni fu ond ychydig amser cyn teimlo effeithiau iachaol yn 
dilyn, ac o'r diwedd llwyr adferwyd ef. Ond yr hyn sydd yn gwneud ei 
enw yn fwyaf adnabyddus ydyw y ffaith mai efe yw awdwr Drych y 
Prif Oesoedd. Ymddangosodd y gwaith yma yn y flwyddyn 1715, ond 
ail argraffwyd ef ganddo gyda llawer iawn o ychwanegiadau yn 1740. 
Ennillodd y gwaith yma enw uchel iV awdwr felhynafiaethydd ac ysgrif- 
enydd Cymreig; a dygwyd allan amryw argraûîadau o hono o hyny 
hyd yn awr. Math o hanes byr o'r hen Frutaniaid, fel y gwyddis, yw 
y llyfr hwn, wedi ei seilio yn benaf ar chwedlau Sieffre o Fynwy, a 



62 

Chronicl Oaradog o Lancarfan. Ac felly, ni ddylid rhoddi rhy w lawer o 
bwys ar y gwaith fel hanesyddiaeth ; ond y mae ei ddullwedd hollol 
Gymreigaidd, ystwythder y cyfansoddiad, a phurdeb yr iaith, yn ei wneud 
ar unwaith y cynllun perffeithiaf i'w ddilyn a'i efelychu gan bawb a 
fynant ymenwogi fel Cymreigwyr ieithweddiadoJ. Yn nghylch yr un 
amser, cyhoeddodd lyfr arall o dan yr enw, Ptoyll y Pader, sef esboniad 
ar Weddi yr Arglwydd, mewn amryw bregethau. Yn 1752, cyhoeddodd 
A History of Modern Enthusiasm y yn nghydag ail argrafnad o hono yn 
1759. Mae y gwaith hwn yn awr yn gystal a'r un blaenorol yn hynod 
anhawdd eu cael. Yn y gwaith hwn y mae yn trin yr Anghydffurfwyr 
yn bur chwerw; ond y mae yn dyfynu o'u hawdwyr hwy eu hunain yn 
bur onest, ac yn nodi y pethau a ystyriai efe yn fwyaf gwrthwynebus yn 
egwyddorion eu prif arweinwyr. Heblaw y gweithiau uchod, y mae 
awd wr Uafurus a dysgedig Llyfryddiaeth y Cymry yn ychwanegu atynt y 
rhai canlynol: — 1. Galwedigaeth ddifrifolür Crynwyr,Zw gwahawdd hwy 
i ddychweîyd i GriêHnogaeth. Cyfieithiad. Mwythig, 1715, 8plygl 
Mae yn gysylltiedig â'r Meddyliau néülduol ar Grefydd, gan yr Esgob 
Beveridge, o gyfieithiad Iago ab Dewi, " Bedwar Englyn o Folawd i'r 
Llyfr," gan Theophilus Evans, 1717. — 2. Prydjerthwch Sancteiddrwydd 
yn y Weddi Gyffredin, mewn pedair pregeth, o waith y Parch. Thos. 
Bisse, D.D. Cyfieithiad. Mwythig, 1722. — 3. Llythyr Addysc Esgob 
Llundain at y Bobl o'i Esgobaeth. Cyfieithiad. Caerloew, 1740. Yr 
argraffydd oedd Raikes, sylfaenydd y gyfundrefn o Ysgolion Sul Llyfryn 
yn erbyn Whitfield a'i ganlynwyr oedd hwn. — 4. Gwth i Iuddew. 
Pregeth. Mwythig, 1752. — 5. Lrych y Byn Maleisus. Pregeth. 
Mwythig, 1752. — 6. 7 Gwir Ddoethinéb. Pregeth. Mwythig, 1751. 
—7. T Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan. Pregeth. Mwythig, 1760. 
Dywed Theophilus Jones, ei ŵyr, fod ei dadcu yn bregethwr grymus ac 
effeithiol; a phe na buasai genym y dystiolaeth hon, gallasem yn rhwydd 
gredu fod y gwr a ysgrifenodd Ddrych y Prif Oesoedd yn areithiwr 
rhwydd a naturiol. Bu yn briod âg Alice, merch Morgan Evan o'r Oelli- 
galed, yn sir Forganwg, o'r hon y bu iddo dri mab a dwy ferch. Priododd 
un o'r merched â Hugh Jones, a grybwyllwyd yn barod, a hi oedd mam 
Hanesydd Brycheiniog. Bu Theophilus Evans fitrw yn y flwyddyn 1767, 
a chladdwyd ef yn mynwent Llangamarcb, lle hefyd y claddwyd ei ẃyr 
yn 1812. 

Evaks, Thomas, oedd un o'r gweinidogion a fwriwyd allan o Eglwys 
Llanfihangel Ystrad, mewn canlyniad i roddi mewn grym Ddeddf yr 
TJnffurfìad; ond efe a gydffurfiodd drachefh mewn rhy w gymaint o amser. 

Evaiís, Thomas, (Telynog). Ganwyd y bardd ieuano awenyddol hwn 



53 

yn Neppool, Aberteifi, Medi 8, 1840. Saer llongau oedd ei dad, ac efe 
oedd yr ieuairgaf o bedwar o feibion. Ni chafodd nemawr ddim ysgol, 
ond yr oedd ei awydd am ddysgeidiaeth yn fawr iawn. Pan nad oedd 
ond lleg oed, rhoddwyd ef ar fwrdd un o'r mân longau a hwylient o 
Aberteüì i wahanol borthladdoedd Cymru. Ond o herwydd derbyn cam- 
driniaeth a gorfod dyoddef caledi, penderfynodd o'r diwedd roddi y gwaith 
o forwra i fyny yn gwbl, yr hyn a wnaeth ar ol bod yn gwasanaethu ar 
ddwy long, yr olaf o ba rai a adawodd yn ddirybudd yn mhorthladd 
Aberdaugleddyf. Heb brin geiniog yn ei logell, cyfeiriodd ei gamrau 
tua gweithféydd Morganwg, ac ynisefydlodd yn Cwmbach, ger Aberdar. 
O ŷ r lle hwn anfonodd lythyr at ei fam ar gân yn hysbysu pa le yr ydoedd, 
a hwn, mae yn debyg, oedd cynnyrch cyntaf ei awen. Gweithiai yma yn 
y pwll glo, ac wrth y gwaith hwnw y parhaodd o hyny allan; a chyn 
pen hir, symudodd ei rieni ato i fyw. Yn ei oriau hamddenol, ymrodd 4 - 
odd yn llwÿr i astudio llenyddiaeth, awenyddiaeth, a cherddoriaeth 
tìymreig. Ỳr oedd er yn iëuanc yn gerjidor medrus, yn lleisiwr gwyeh, ac 
yri deall y gelfyddyd yn dda. Darllenai awduron hen a diweddar gyda 
diwydrwydd a manylrwydd mawr. Y wobr gyntaf a ennillodd ydoedd 
yn Nghyfarfod Llenyddol capel y Bedyddwyr, Cwmbach, lle yr oedd yn 
aelod, sef am y Bryddest oreu ar " Ostyngeiddrwydd." Enniílodd tua 
deunaw o weithiau ar ol hyny mewn gwahanol gyfarfodydd ac Eistedd- 
fodau. Ýn mhlith ei ddarnau goreu, gellir enwi ei Bryddest ar "Yr 
Àfon," buddugól yn Eisteddfod Ffynnon Taf; a'i ganau ar "Yrlesu 
wrtho ei hun," a'r " Darfodedigaeth, ,, y rhai a gynnwysant rai darnau yn 
mysg goreuon yr iaith. Pan y cymerwn dan ystyriaeth ei ieuenctyd, 
a'i anfanteision, yn nghyda'r fíaith ei fod yn gorfod gweithio yn galed 
Dob dydd er cynnal ei hunan a'ì fam, mae yn syndod iddo gyfansoddi 
cymaint, a hyny mor dda hefyd. Diau pe cawsai hir oes y buasai yn 
cael ei restru yn nosbarth blaenaf beirdd ei wlad. Am y chwe' Wynedd 
oláf o'i oes yr oedd mewn brwydr barhaus â'r darfodedigaeth; ac yn ystod 
ei gystudd nychlyd, cyfansoddodd lawer o ddarneu swynol a melus iawn. 
Er ei holl ragoriaethau fel bardd a Christion, ao er yr hoîl obeithion a 
goleddid gan eí gyfeillion am ei adferiad, symudwyd ef gan angeu, EbriII 
2Ô 9 1865, yn 25 óed; a chladdwyd ef yn cemetery Aberdar.* 

Eyans, Tiííothy, gwéinidog perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn 
Iianddewi Brefì, ond ar y dechreu gyda'r Annibynwyr. Brodor oedd ô 
Cücenin, ac yr oedd ei dad yn perchen fferm yn y plwyf hwnw, ac yn 
byw arnL Cafodd T. Èvans fanteision addysg yn gyntaf o dan Dr. 
Phillips, Neuaddlwyd, ac wedi hyny yn Athrofe. Caerfyrddm. TTrddwyd 

♦ Ojhoeâáŵjà cjrlrol dde#4ltw o'i weitbiau yn ddiweddar, dan plygiaeth Dafydd 
ItogiMiwg, « Hr..Hywel WUUapns, Panty^erddinen. 



04 

ef yn weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn y Plough, Aberhonddu, tua'r 
flwyddyn 1826; a bu yn gweinidogaethu yno hyd y flwyddyn 1838, pryd 
yr ymadawodd, ac yr ymunodd â'r Eglwys Sefydledig. Wedi hyn gwas- 
anaethodd fel curad yn Llanddewi Brefi, lle y bu farw. Mae yn ffaith 
lled hynod fod rhagflaenydd Mr. Evans yn Aberhonddu, sef y Parch. 
Evan Davies, wedi ei ddwyn i fyny i'r Eglwys Sefydledig, dan olygiad 
Mr. Baker, yn Ngholeg yr Eglwys yn Nghaerfyrddin, ac iddo newid ei 
farn am natur a threfn llywodraeth eglwys Crist, a chael ei urddo yn 
weinidog ar yr Eglwys Annibynol yn Aberhonddu, tra y darfu i'w 
olynydd adael yr olaf ac ymuno â'r blaenaf. 

Evans, Titus, gweinidog gyda'r Undodiaid yn yr Onenfawr, ger 
Llandeilo; ac athraw yr ysgol yn Mharc y Velvet, Caerfyrddin, oedd 
frodor o gymydogaeth Aberaeron, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1809. 
Derfeyniodd ei addysgiaeth yn Athrofa Caerfyrddin, dan ofal y Parchn. 
Dr. Lloyd, a D. Davies, Pantteg. "Wedi gorphen ei amser yno, urddwyd 
ef yn weinidog yn Rhydyparc; ac agorodd ysgol Ramadegol yn Nghaer- 
fyrddin, yr hon fu yn dra defnyddiol er cymhwyso dynion ieuainc i'r 
Athrofa. Gan fod fíbrdd faith ganddo i fyned i weinidogaethu o'r naill 
gynnulleidfa i'r llall, mynodd geffyl pren i'w gludo; a chan nad oedd y 
cyfryw anifail yn gofyn ceirch na phorfa, ac felly yn hawdd i'w gadw, 
ymddengys iddo roddi mawr foddlonrwydd i'r amaethwyr yn ardal Rhydy- 
parc. Ymfalchîai Mr. Evans yn fawr yn ei anifail; ond un diwrnod, 
wrth ddyfod i lawr y rhiw yn agos i'r dref, collodd bob lly wodraeth arno, 
a thaflwyd ef i lawr gyda'r fath ffyrnigrwydd nes derbyn niwaid mawr. 
Y canlyniad fu, na welwyd ef yn ei farchogaeth ond hyny. Bu Mr. 
Evans yn dra defhyddiol fel gweinidog yn gystal ag yn mhob cylch y 
croiai ynddo. Ystyrid ef yn ddyn cydwybodol, yn gy mydog cymwynas- 
gar, ac yn gyfaill serchog a ffyddlawn; ac fel y cyfryw, perchid ef yn 
fawr gan bawb a'i hadwaenent. Bu farw boreu dydd Llun, y 29ain o 
Chwefror, 1864, ar ol byr gystudd, a chladdwyd ef yn y cemetery, ger y 
dref, a gosodwyd maen coffadwriaeth hardd ar ei fedd. Gellid barnu y 
parch cyffredinol oedd iddo oddiwrth y lluaws dynion parchus y dref a'r 
gymydogaeth, a'r nifer fawr o weinidogion o wahanol enwadau, ag oedd- 
ynt wedi dyfod yn nghyd, rai o bell ffordd, er gwneud y gymwynas olaf 
iddo trwy gludo ei ran farwol i "dŷ ei hir gartref" 

Gambold, William, a anwyd yn Aberteifi, Awst 10, 1672. Derbyn- 
iodd ei addysg elfenot yn ysgolion goreu ei wlad ei hun, a gorphenodd ei 
yrfa efrydol yn Ngholeg Exeter, Rhydychain. Yn mhen rhyw dymmor 
àr ol ei urddo, penodwyd ef i ficeriaeth Puncheston a Llanychaer, yn sir 
Benfro. Oblegid iddo gael èi analluogi i gyflawni dyledswyddau y wein- 



55 

idogaeth, trwy dderbyn niwaid i'w fron, cysegrodd flynyddau olaf ei oes 
bron yn llwyr i wasanaeth llenyddiaeth ei wlad. Gwaith mawr y 
pymtheg mlynedd hyn o'i fywyd oedd orynhoi yn nghyd ddefnyddiau i 
gyfansoddi Geiriadur Saesonaeg a Chymraeg. I'r dyben yma, chwiliodd 
yn fanwl bob llyfr a gyhoeddasid yn Gymracg, yn nghyda phob hen law- 
ysgrifau y gallai ddyfod o hyd iddynt. Yn yr ysgrif gyntaf o'r 
gwaith yma, dodasai i lawr y Lladin gyda'r ddwy iaith eraill. O ddiffyg 
cefnogaeth briodol, ni chyhoeddwyd y gwaith mawr cenedlaethol yma, 
Gorphenwyd ef yn y flwyddyn 1722, a daeth o'r diwedd i feddiant y 
Parch. John Walters. Cyhoeddodd Mr. Gambold hefyd, yn 1727, 
Ramadeg ór Iaith Gymraeg, yn Saesonaeg; o'r hwn y cyhoeddwyd ail 
argrafíiad.yn Nghaerfyrddin, yn 1817; yn nghyda thrydydd argraffiad, 
wedi ei helaethu, yn y Bala, yn 1833. Bu farw Medi 13, 1728. Mab 
iddo ef ydoedd yr enwog Barch. John Gambold, A.C., y gweinidog Mor- 
afaidd, ac awdwr amiyw weithiau dysgedig. 

Gray, Thomas, oedd frodor o Dreforris, ger Abertawe; ond y mae ei 
gysylltiad â'r sir hon yn ei gwneud yn angenrheidiol i ni roddi rhyw fyr 
grybwylliad am dano. Glowr ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac ymddengys 
mai marwolaeth ddisyfyd ei gydweithwyr, y rhai, fel yntau, oeddynt yn 
hynod annuwiol, fu yn foddion iV ddwjn gyntaf i feddwl yn ddifrifol 
am ei ddiwedd. Mewn canlyniad i hyn, bwriodd ei goelbren yn mysg y 
dysgyblion yn y Mynyddbach. Wedi gweled ynddo ddoniau gweinidog- 
aethol, annogwyd ef i ddechreu pregethu; ac anfonwyd ef i ysgol y Fenni, 
er ei gymhwyso yn mhellach at y gwaith. Yn ystod ei arosiad yno, 
cafodd gyfleusdra i glywed yr enwog Daniel Rowlands, Llangeitho, yn 
pregethu; a theimlodd y fath argraniadau dwys o dan y bregeth hòno, fel 
y bu am ddyddiau yn methu bod gyda'i lyfrau, a mynych yr âi allan i'r 
caeau i weddio, ac erfyniai ar yr Arglwydd ei arwain i'r lle y caffai gyf- 
leusdra i gly wed yr offeiriad hwnw drachefn. Nid oedd ef, y pryd hwnw, 
yn gwybod pwy ydoedd, nac o ba le yr ydoedd yn dyfod. Wedi gorphen 
ei amser yn yr Athrofa, cymeradwywyd ef gan ei athraw i sylw Eglwya 
Llwynpiod, yr hon oedd ar y pryd yn wag o weinidog; ac felly urddwyd 
ef yn fugail ar yr Eglwys hòno ac Abermeurig. Yr oedd yn arferiad gan 
y cynnulleidfaoedd hyny, y pryd hwnw, i fyned ar y Sabbath pen mis i 
Langeitho, i wrando ar Mr. Rowlands. A hyn, er yn Ued anfoddlon ar 
y cyntaf, y cydsyniodd Mr. Gray; a'r tro cyntaf yr aeth yno, mawr oedd 
ei syndod wrth ganfod yn y pulpud yr offeiriad hwnw a gly wsai yn preg 
ethu gynt yn ymyl y Fenni, ac a wnaethai y fath effaith ar ei feddwl. 
Yn fuan, ffurfiwyd cyfeillgarwch gwresog rhwng y ddau weinidog; a 
phregethai Mr. Gray unwaith bob mis yn Llangeitho tra bu Mr. Eowlands 
byw. Hyn fu yn foddion i ddwyn yr Eglwysi uchod i ryw fath o undeb 



56 

à'r Trefnyddion Caifînaidd, ac a arŵeiniodd ó*r diwedd, sef ar òl marwöl- 
aeth eu gweinidog, i gyflawn nniad. Heblaw gwasanaethù yr Eglwyôi 
hyn, sefydlodd rai yn y Ceinewydd, Llanarth, Pfosyffin, a Llanddewi 
Aberarth, yn y rhai y parhaodd i lafurio tra y bu byw. Yr oedd yn 
boblogaidd ia wn fel pregethwr, ac yn dra pharchus; a phregethai yn aml yn 
addoldai y Trefnyddion heblaw yn Llangeitho, ac arferai gweinidogion y 
Trefnyddion bregethu yn ei addoldai yntau. Ond tra y bu ef yn gweinidog- 
aethu yn eu mysg, cadwodd yr Eglwysi hyn at drefh yr Annibynwyr, 
gyda golwg ar ddysgyblaeth eglwysig a dewisiad eu gweinidogion; ond ar 
ol ei farwolaeth ef, ymostyngasánt, er yn lled hwyrfrydig, i arwdurdod 
cymanfa y Trefnyddion yn y pethau hyn. "Yr oedd Mr. Gray yn sefyll 
ar dir cyffelyb i Mr. Riehard Tibbot — pregethai y ddau yn nghapeli y 
Trefnyddion Calfinaidd, a chymerent ran yn eu holl gyfarfodydd cyhoeddus 
fel y pregethwyr eraill, pryd yr oeddynt yn gweinyddu i gynnulleidfaoedd 
Annibynol fel gweinidogion sefydlog. Trwyddynt hwy y lefeiniwyd eu 
heglwysi â'r un ysbryd i fesur niawr, nes yr ymhoffent yn ngweinidogaeth 
y Trefnyddion, ac y carent gymdeithasu a chydweithredu yn fwy â hwynt 
nag y mae yn arferol rhwng eglwysi o wahanol enwadau. Llafuriodd 
Mr. Gray yn y modd hwn am yn agos i hanner canrif. Yn yr. yspaid 
maith hwn, bu feirw y tô cyntaf o aelodau yr eglwysi dan ei ofal, y rhai, 
gellid meddwl, oedd fwyaf gwrthwynebol i 'Drefhyddiaeth, fel erbyn 
marwolaeth Mr. Gray, yn y flwyddyn 1810, nad oeddynt yn ystyriedHBU 
bod weithian yn perthyn i neb arall, gan fod y pregethwyr-mor fynyeh 
yn mhulpudau Mr. Gray agoedd ef yn eu pulpudau hwy; yn unig hònent 
eu dull gwreiddiol o gymuno a dysgyblu. ? ' 

Greén, Thomas, oedd fab i Wilìiám Greèn, masnachydd' cÿẁífbl yn 
Aberaeron, lle y ganwyd ef, Chwefror 22, 1815. Yr oedd ei rieni^ yn 
aelodau dichlynaidd gyda'r Trefhyddion Calfinaidd, a dangosasant böb 
gofal i ddwyn eu mab i fyny yn "athrawiaeth ac addysg yr Arglwyddi" 
Pan nad oedd ond tua saith óed, cymerai ran yn y ddyledswydd deúlu- 
aidd, a gwelid arwyddion amlwg iawn o dduwioldeb ynddo yn yr oedran 
ieuangaidd hwn. Cyrchai Tr cyfeillachau crefyddol, a chyfarfodydd -da 
eraill yn gyson; a gwnai hi yn arferiad i ysgrifenu y pregethau a wran- 
dawai o bryd i bryd. Pan tua thairarddeg oed, anfonwyd ef i'r y^òl i 
'Graerodor, at y Parch. G. Pococke, lle yr ennillodd gymeriad uchel ýn 
ngolwg ei athraw ar gyfrif ei ymddygiad hardd a dichlynaidd. Ionawr 
19, 1836, priododd â chwaer o'r eglwys yr oedd efe ei hun yn aelodo 
honi, yr hon a brofodd yn mhob ystyr yn gydmares anrhydeddus' iddo. 
Yn fuan ar ol hyn dechreüodd bregethu. Ond nid oedd iddo ond'byr 
amser gyda'r gorchwyl hwn, oblegid tua dechreu Gorphenaf, 1837, ym- 
osodwyd arno gan anhwyldeb, yr hwn yn fuan o drodd yn dwymyn boeth, 



67 

ft im î&or yr i206d*o'r *ẁ ìẅìiw, pi ddwy , ar bugaiu joeA ŴWdwÿí ef 
y Lhra eanlyBol, gm mynwent Eglwya fíen Fynyw, Yr .crçdcl jMJr. 
öww yn hyned am -ei ffyddlondeb gyda ? r Ysgol Sabbaihol, /y .oy&ífod 
gweddi, y Gymdeithafl cGymednoldab, ac aohoeion daionuaer&UL X£«e44 
«i liriddeb, ^ adctfwynder, «1 duefUtâryd gaaaiaidd, yn ennjyü tidík^^Wöji 
pawb y deuai â ^gydnabyddiaeih & hwy. Ya yatod *i glefyd tagn, 
dywedai, *Y mae acefydd yn talu ei ffcsrdi yn ddabeddjw. G«gp?nja i n& 
gegomaiifc" Y borea y bu farw, dywedai gyda llai» dyrebaftdig, "Jfctbiu 
tragwyddol<cyttamaer,a phethau Aragwyddoldeb wecb. amser ydyttt tjfci 
«iddoimwmÌA'apiaa!' 9 YAorfaleddus íel hyn yr MbjMMjddÿay-ríeôft^' 

Cbonmns, Gftiraan, *edd eoedigol o Ty Haat, ^plwyf IJaitáhangeí- 
ígeneu'r-gryn, Cered%ien. Wedi twulio peth aÄwer t $n ei gymydogaeth 
*ei him, anfonwyd ef i yagol Ramadegpl Llanbedr, dan jA\ .yr hybarah 
Arcbddiacon Wilüams, ile jl toeuliodd bedair blynadd ^i dra Jüafw3ttft-fol 
efrydydd. Ordeinrwyd ef yn ddiaoon gan Esgob Llundain, i dfyued tpn 
genadwr i India'r Gorllewin, o dan y <'Gyttdekhas er Byxmweli«dtjy 
Caethion Negroaidd 2 ' Cyrhaeddodd Jamaioa yn 1626, ac,urddwyd)#f 
yn ofíerriad gan Dr. Lipecombe, eagob y drefedigaeth hòno. Gweinidog- 
aethai am dymmor yn ngbapel Marchioneal Bay, wediJiyny jnîRaéhppâ, 
feLcynnŵrthwywr i'r Paiob. Mr. JHumphteyç; jjc . ar iwtwalaeth y tgnr 
bwnw,yn 1833, penodwyd /ef i'r fywoliaeth ìaòno. B^eLlafur jato^ep 
llwyddiannus neillduol, a «bynnyddodd y cymnnwyr o .yehydgg.x> jeìCgmÜíÌ 
wytb neu naw cant cyn ei ymadawiad Yr oedd y gwrandawyr mor 
Huoaog fel yr^aeth yr JEglwys ynllawer rby-faohiìw cynnwyB, Atfílelly 
«adeüadwyd un helaeth yno yn ei lle. Ar farwolaeth Mr. FraaoypaaNn 
Trelawncy, penodwyd ef î ofal y plwyf mawr a phwyiig hw&w. ^Cofir 
•> ef yn Jiir yno; *aays yr oedd fii weinidogaetb, «r.o fyr joarhad, yn jD£&- 
.duol o nertboL Ond yn . nghanol ei fawr . ddefnyddioldôb, t.gweledd .yr 
>Argrwydd yn dda ei symud ofaea^ilafur idderlyn ei.wobr. , Nicba&>dd 
,x>nd byr gyntudd, yr bwn^ a ddyoddefodd gyéWr tawelwcb . «'r iy^noBtyug- 
iadmwyaf; abufarw Ebagfyr^,.lâ45. Yriûedd Mr. <iriffitbfl ^ai A wi 
o'r cenadon mwyaf llwyddiannus ag ydoedd ar y maea y pry à byuy . Yr 
oedd ei lafur yno mewn amseroedd tra tberfysglyd, pryd yr oedd rbydd- 
bad y caetbion yn -destün dadleuaetb barbaus; a llawer iawn yn -erbyu 
ett haddysgu o gẃbL Ond bu Mr. Gríffitba yn hoüol-fiÿdcUawn i'r kya. yr 
ymgymerodd âg ef— llafuriodd "mewn amser ac allano amser." jfä 
amcan oedd gwneud daioni i bawb ynmbob sefyllfa, yn annibynol-ar eu 
lliw a'u safle gymdeithasoL Ennillodd bareb yn mblitb pob gradd/fel y 
gallesid gweled wrtb y nifer angbyffredin, yn-ŵwyr,- fiwyddogion, adyn- 
ion cyhoeddus eraül, a ddaetbant i dalu y ^yŵwynae c^f iVoFan^fa»wol, 
- towy ipi hebrwBg i dŷ ei bir -gartref. 



68 

Gripfiths, J. R., diweddar beriglor Llangeter, a anwyd yn Llwyn- 
bedw, plwyf Brongwyn, yn y flwyddyn 1802; ond treuliodd ei febyd yn 
Eglwyswrw. Ar ol derbyn elfenau ei ddysgeidiaeth yn ei gymydogaeth 
ei hunan, anfonwyd ef i Goleg Dewi Sant, Llanbedr. . Ar ol ei urddo, 
gwasanaethodd fel curad yn Morfil, sir Benfro; ac wedi hyny yn Llan- 
deilo Fawr. Oddiyno penodwyd ef i berigloriaeth Cwmaman; ac ar 
symudiad y Parch. John Griffiths, ficer presenol Llandeilo, o Langeler, 
penodwyd ef yn olynydd iddo yno. Yr oedd Mr. Grifíìths yn weithiwr 
diflino yn ei blwyf; ac yn fuan ar ol ei ddyrchafiad i'r fy woliaeth, adeilad- 
odd Eglwys newydd yn y lle; a bu yn ymdrechgar iawn i gael capel yn 
y rhan dde-ddwyreiniol o'r plwyf, ac ysgoldy mawr yn agos i'r Eglwys, 
Un o brif elfenau ei nodweddiad ydoedd ei ddyfalbarhad a'i egni gydá yr 
hyn a ystyriai yn deilwng o gefnogaeth. Yn ei fuchedd, yr oedd bob 
amser yn hynod ddidramgwydd, pwyllog, a llawn cydymdeimlad. Fel 
pregethwr, yr oedd yn meddu ar ddoniau mawrion ac anghyffredin; ac 
mae ei enw yn adnabyddus trwy y Deheudir fel un o'r pregethwyr mwyaf 
poblogaidd a feddai yr Eglwys Sefydledig. Bendithiwyd ei weinidog- 
aeth yn neillduol yn Llangeler, a Uenwid yr Eglwys fawr yno yn gyson 
gan gynnulleidfa barchus a defosiynol; ac yr oedd yn perthyn iddi fwy 
o gymunwyr, ond odid, nag un Eglwys wledig arall yn y sir. Dy wedir 
mai darllen hanes bywyd y Parch. John Newton a dueddodd ei feddwl 
gyntaf at waith y weinidogaeth. Bu farw y gwas ffyddlon a diwyd hwn 
i Grist ar yr 28ain o Fawrth, 1865, yn 63 mlwydd oed. 

Gruffydd, Eván, Twrgwyn, oedd fardd a flodeuai yn nechreu y ganrif 
ddiweddaf. Yr oedd yn byw yn mhlwyf Troed yr Aur, yn y Twrgwyn; ac 
yn berchen y tyddyn yr oedd yn by w arno. Ymddengys iddo gyfansoddi 
cryn lawer, ac ystyrid ef yn fardd lled dda gan yr hen bobl. Y cwbl o'i 
waith sydd yn argraffedig, hyd y gwyddom, yw "Carol i'r Haf," yr 
hwn sydd i'w weled yn Mlodau Dyfed. Ceir yn yr un llyfr Gywydd 
Marwnad iddo, o waith Jenkin Thomas, Cwmdu. Mae ambell bennill 
o'i waith yn cael ei adrodd gan yr hen bobl yn y gymydogaeth hòno. Yr 
oedd hefyd yn ysgolhaig da. 

Gruffydd, Thomas, un o arglwyddi Llanbedr, yn yr unfed ganrif ar 
bymtheg. Yr oedd yn ddisgynydd o Cadifor ab Dinawal a Rhodri Mawr, 
yn y nawfed ganrif; ac mae y rhan fwyaf o brif deuluoedd Ceredigion yn 
olrhain eu tarddiad oddiwrtho ef. Yn Dvmn y 8 Heraldry gelwir ef, 
"Thomas Gruffydd, Arglwydd Llanbedr Pont Esteven Mawr, a Saint 
Kler, ag Aberaeron, a ar Dustus or Pies ar Kwrwm (Çuorum)" Ac 
ymddengys oddiwrth hyn ei fod yn berchen ar etifeddiaeth a dylanwad eang 
iawn; ac yr oedd yn meddu hawl i wisgo dim llai na thairarddeg o darianau 



59 

ar ei arf-bais, gan fod y nifer hwnw o ffrydiau o waed tywysogol yn* 
rliedeg trwy ei wythienau. Y rhai hyn ydynt " Arvau Tomas Gruffydd, 
Ysgwier— 1. Pais Radifor ap Dinawal; 2. Pais Tudwal ap Rodri; 
3. Rodri; 4. Gruffydd Gethin o Lystan; 5. Pais y w Gronwy; 6. Elystan; 
7. Dinawal; 8. Gruffydd ap Rys Gwynionydd, Elystan; 9. Rys ap 
Llywelyn Chwith; 10. Meredydd ap Tomas ap Llywelyn Esgwier ap 
Owen; 11. Ffylib Ivor Gwaethfoed; 12. Llywelyn ap Gruffydd ap 
Llywelyn ap Iorwerth Drwyndwn; 13. Owain Gwynedd." Prif drigfan 
arglwyddi Llanbedr oedd Mynydd Hywel, ar ochr orllewinol yr afon 
Croyddyn, yn agos i Bontfaen, ychydig islaw Llanbedr. Yn amser 
Tomas Gruffydd, mae yn debyg, y symudasant oddiyno i Faesyfelin. — 
Dtonns Visitation8 of Wales, vol. i., 65; Edmundó Lampeter, 5, 7. 

Guttain Owen, achwr, bardd, a hanesydd, oedd yn by w, gan mwyaf, 
yn Mynachlog Ystradfflur, ac yr oedd yn blodeuo tua'r flwyddyn 1480. 

Gwaithfoed Fawr, tywysog Ceredigion, ac arglwydd Cibwyr, oedd 
fab i Eunydd ab Cadifor ab Peredydd Peiswyrdd ab Encyn ab Eunydd, 
yr hwn a hanai o Wyddno Garanhir. Blodeuai yn yr lleg ganrif. Enwir 
ef yn y Trioedd gyda Morgan Mwynfawr acElystan Glodrydd, fel y rhai 
a feddent hawl i wisgo hualau, neu gadwen, o gylch eu harleisiau, yn ol 
dull yr hen dywysogion Prydeinig, ac nid coronau, fel arwydd o'u hurdd 
a'u swydd, am ba achos y gelwir hwy yn " dri hualogion teyrnedd Ynys 
Prydain." Ei blant oeddynt Cadifor, arglwydd Ceredigion; Cynan 
Feiniad, arglwydd Tefana; Rhydderch, arglwydd Gwynfai; Aeddan, 
arglwydd Grismwnt; Gwyn, arglwydd Castell Gwyn; Bach, arglwydd 
Ysgynfraith; Ednywain, abad lleygol Llanbadarn Fawr; Cynddrych, 
arglwydd Saighenydd; Cynilin, arglwydd y Cwm; a Christian, abades 
Tal y Llychau. 

Gwenog, seintes, yr hon a sylfaenodd Eglwys Llanwenog; ond mae yr 
amser y blodeuai yn ansicr. Ei dydd gwyl yw Ionawr 3. 

Gwgan, ab Morydd ab Llywarch Llwyd, tywysog Ceredigion, yr hwn 
o foddwyd yn yr afon Llwchwr, yn Browyr, wrth ymlid y Daniaid allan 
o'r wlad hòno, yn y flwyddyn 870. — Myf. Ârch., ii., 480. 

Gwetheli, neu Gartheli, sant, a sylfaenodd gapel Gartheli, yn mhlwyf 
Llanddewi Brefi, Ceredigion. Mae yr amser y blodeuai yn anhysbys. 

Gwyddno, a gyfenwid Garanhir, oedd fab Gorfyniawn ab Dyfhwal 
Hen ab Ednyfed ab Macsen Wledig.. Yr oedd yn fardd a thy wysog, a 



m 

bfotaMft ©' 4*0 i 520.< Ei dirîògaeth ydbedd Cantref y Gwaeìod, yr hoa 
W^ÖÄ'ŵÿB» • ádè^ ar htfgtôn C'drefr ntawrkŵ, o bar raiy Caer Wyddno oedd 
f briftdfrlasi Gorüfwyd y He ytaa gaa y môr, a ífurfla ýn awr Gulfor 
Abérteia. ŵr y tywysog hwri fyw dÿmmo* ÿn Dyganwy, ya agos i 
€ktaWy> yn Hys Maelgwn Gwynëdd; á pherthÿûai iddo ored yn- afonr 
Ctarwy , yr non syd* etto yh dwyn er enwv Gwneir cyfeiríadau mynyclr 
yt* ngWẃhiaJu y beirdd atored GwýddnO, fei y fwyàf nodedig yn y wlaxL 
oán ol eidáVr , ẃ > gweled yn y Myýyriart* 



€Nm*EÌf, seiétaBy ỳi hmt * dybir »sylfiMrt»dd Eglwys Llaawnea. Ni 
wyddwyr einsery blodeuai 

Gwynlleu, ab Cyngor ab Arthog ab Caredig ab Cunedda Wledig, 
oédẃ stóit a flodetiai yn ý ohwecbcd gánrif; a thybir mai efe oedd syHaen- 
ydd Bglwys Na*r$gwnüe> Ceredîgiom 

fiánm, «floàfcy a fwriwyd aifatà o Eglwys- Tregaroa, mewa oanlyniad 
i rbddiad afcewn grym Ddeddf yr TThfffẅâad, 

Hbrbÿrìy Datîí); B. A*, diwedda* fioer TiUnsantfiread, ä aawyd yn y 
Ŵhywbren, plwyf Llaiiárth,< yn y flwyddya 1762. Yr oedd ei rieni yn 
töfol barchtiÄ— yn byW «r eu hetifeddiaeth éu hunaánv Gernhenodd Mft 
Herbert ei ftddysgiaeth ýn Ngboieg Wadban^ Rhydychaia, Ue y gradd- 
iwyd ef yn B,A.; à chafodd ei ordeiniö, lonaẅr 25ain, 1791, gan Esgob 
Rechester. Bu am rai biynyddau yn gẃasanaethu yn mÿsg y Saeson, naili 
àé yft Essex neu Sassex; ae àr ei ddychweliad i Gymru, penodwyd ef i 
g*ttwftaeth Dihewydy ae ! w«di hyny L&nsantöread. Awst 8fed, 1812, 
cttfodd fioörífteth y plwyf òlaf, gan ý diweddar Esgefe Bnrgess. Ar yr 
un pryd gwasanaethai Eglwys Llanrhystyd fel curad danf y Parch. 
Richard Evans, fícer Llanbadarn Fawr. Y ddwy flynedd olaf o'i fywyd 
yr oedd toefyd yn eforwyad Bhydybryn, yn mhlwyf Llywely «r Frychein- 
iog. Priododd ferch Joeeph Prioe, Y»w 4 , ó'r Feiindre IJeaaf, plwyf Llan- 
fíhangel Ystrad, o'r hon y bu iddo bump o blant. Cyfododd dau o'r 
ítfeibion i fbd ynw^imdogioirenwog yn yr Eglwys Sefydledig. Yr hynaf o 
Bŵtíyrit yw ỳ Paròh. W. Herbert, fícer parohus presenol Llansaniflread, 
Aeth y mab arall yá genadwr i Ogledd America, tua'r flwyddyn 18^8} a 
phenodwyd ef yn athraw cynnorthwyol yn Ngholeg Kenyon, Ohio. Ond 
hl b« iddo orid byr anlser i lâfuriò yn y maes hwnw, oblegid torwyd ef i 
lawr gán a&geo, a hýny yn mlodau ei ddy ddiau, yn J flwyddyn 183<h 
Priododd Mary, unig ferch Mr. Herbert, â'r pregethwr poblogaidd, y 
ParcL Dattd Parry, Lly*wél gytít) ond yn aWr fîoer Defynogp sir Frych- 
éînioÿ "Yr dedd Mr. Herbeft yn wr duwiol jawn^ yn dduwinydd 



61 

rhagorol, ac ynbregethwrpoblogaiddaderbynioltuhwnt i'r cyffredin yn ei 
oes. Clywsom ef droion pan yn dra ieuanc. Ei bregethau oeddynt bob 
amser yn llawn o faterion gwerthfawr, wedi cael eu trefhu a'u hastudio 
yn drwyadl. Yr ydoedd bob amser yn dra by wiog wrth eu traddodi, a 
thueddai i fod, fel y dywedai yr h«n lobl, ' dipyn yn danllycL' Gwledd 
gyffpedinol ydoedd i gael Mr. Herbert i bregethu yn yr Eglwysi cymydog- 
aethol yn y dyddiau hyny. Edrychid arno gan bawb fel 'gwr Duw/ n 
Bu farw y 5ed o Ragfyr, 1835, yn 73 oed. 

Herbert, Edward, a drowyd allan o fìceriaeth Nantcwnlle, gan y 
Lledaenwyr, am " ddiffyg doniau, puteindra cyffredin, a gwaradwydd." — 
Walker*8 Sufferings ofthe Clergy. 

Howell, Moroan, oedd enedigol o blwyf Bettws-bledrws; ac yr oedd 
yn byw yn amser Cromweliaeth. Dychwelwyd ef at grefydd dan wein- 
idogaeth y dyn hynod hwnw, Walter Cradoc. Ymddengys ybyddai y gwr 
hwnw yn dyfod yn fynych i gymydogaeth Llanbedr i bregethu; ond yr 
oedd Morgan Howell yn llawn rhagfarn a gelyniaeth tuag ato, ac aeth 
mor bell a chyfansoddi a chyhoeddi caneuon i'r dyben o wawdio y preg- 
ethwr a'i athrawiaeth. Ar un achlysur, dy wedir iddo ef a chwmni o 
oferwyr fyned i'r cae Ue y pregethai Mr. Cradoc, er lluchio y bêl droed, tfr 
dyben o aflonyddu y gwasanaeth, ac iddo ysigo ei figwrn wrth gwympo 
yn yr ymgais o fwrw y pregethwr â'r bêl; ac felly analluogwyd ef i 
symud, a gorfu iddo wrando y bregeth. Y canlyniad fu iddo gael ei 
argyhoeddi yn y fan — daeth yn noddwr caredig i Mr. Cradoc, a throdd 
allan ei hunan yn bregethwr defnyddiol yn y wlad. Yn Chwefror, 1654, 
cawn ef yn aelod yn un o Eglwysi Cynnulleidfaol Mr. Bees Powell, 
Llanbedr; ac yn»1694, yr oedd yn gynghorwr yn Eglwysi Cilgwjm, Caer- 
onen, Crugymaen, <fcc. Bu feirw, mae yn debyg, cyn diwedd yr eilfed 
ganrif ar bymtheg. — Gwel Charles and Olŵer's edition o/ CradocÜB 
Works, pp. 4, 5, 1800; a Cilgwyh Church BooJc. 

Hüghes, David, A.C., un o arholwyr cyhoeddus Rhydychain, yn 
1810 a 181 1, yr hwn a fu farw ddechreu y flwyddyn 1865, oedd enedigol 
o Drefìlau, Ceredigion. Dysgwyd ef ar y cyntaf yn ysgol enwog Ystrad- 
meurig, lle y gwnaeth gynnydd rhagorol. Bu wedi hyny yn ysgoi 
Ramadegol Mr. Barker, yn Nghaerfyrddin, yn astudio Hebraég^ ac ym- 
ddengys iddo gyrhaedd gwybodaeth pur helaeth o'r iaith hòno cyn ei 
fynediad i Bydychain. Mewn perthynas i'r adeg ä dreuliodd yn yr 
Athrofa yno, ysgrifena un o'i hen gydefrydwyr (Parch. E. Morgan, 
Lyston) fel y canlyn : — " Yr oedd Mr. Hughes ynddyn o gyrhaeddiadau 
uchel iawn. Sylwid arno yn y Coleg fel un yn meddu athrylith o'r radd 



62 

ttctaf. Ëfryáiài ỳn galed íawn. Darlìenem gyda'n gilydd yn foreu íawlí, 
oblegid yr oedd yn foreu-godwr cyson; ac fel y byddai ef ei hun yn 
arferol o ddweyd, 'lfnot up at three, never in bed at four.' Yr oedd 
felly yn hynod ddiwyd a phenderfynol; ac felly, trwy ddyfalbarhad, yr 
ÿmddyrchafodd uwchlaw y rhan fwyaf yn y Coleg, sef Coleg yr Iesu, 
Rhagorai ar baẅb yn y clasuron, ac yn neillduol mewn gwyddoniaeth 
{mathematióa), Daeth ei enw mor hysbys fel ysgolhaig, íel y dewiswyd 
ef yn un o'r athrawon i holi yn yr ysgolion am raddau. Efe oedd yr 
unig un a adwaenwn i a enwogodd eu hunain felly yn Ngholeg yr Iesu." 
Perchid ef yn fawr gàn Esgob Cleaver— y pryd hyny, penaeth Coleg 
Brazen Nose, ac Eagob Bangor, fel duwinydd rhagorol, ac ysgolhaig 
Cymreig gwych. Penododd ei arglwyddiaeth ef wedi hyny i arolygù 
argraffiad diwygiedig o'r Beibl Cymraeg, yr hwn a wneid y pryd hyny yn 
Rhydychain. A chymaint y boddheid yr Esgob yn y dull y dygodd y 
gwaith yn mlaen, a'r diwygiadau a wnaeth yn y gorchwyl pwysig, fel y 
penödodd ef i fywoliaeth Hirnant; ac wedi hyny, ar ei ymadawiad o'r 
Athrofa, rhoddodd iddo fywoliaeth bwysig a gwerthfawr Llanfyllin. 
Pregethodd yr efengyl gydag eglurdeb a dylanŵad mawr am y blynydd- 
oedd meithion y bu yn beriglor y lle. " Telais ymweliad âg ef yno," ebe 
yr un gwr, "rai gweithiàti, a byny gyda mawr foddhad. Cefais ef yr un 
cyfaill caredig a thwym-galon ag yr arferai fod. Yr oedd rhywbeth tra 
awdurdodol yn ei ddull o lefaru, tuhwnt i'r cyffredin. Efe fyddai y prif 
siaradwr — tawai y rhan fwyaf pan lefarai ef, hyd yn nod yn mysg dysg- 
edigion Rhydychain, neu yn mysg ei gyfeillion crefyddol. Yr oedd 
rhywbeth uwchraddol yn ei ymddangosiad — ei lais, ei wynebpryd, ei 
ddwylaw, a'i symudiadati, yn hawlio y gwrandawiad mwyaf astud. Yr 
oedd ei wedd yn arddangos yn eglur allu mawr a grymusder meddwL 
Meddyliwn bob amser fod ei wyneb yn dwyn tebygolrwydd mawr i eiddo 
y Dr. Owen — yn neillduol ei ruddiau, ei dalcen, a'i wefusau. Dywedwn 
hyny wrtho ambell waith, ac ymddangosai yntau fel yn cael ei foddhau, a 
gwenai gan ddweyd ei fod yn hoff iawn o ? i weithiau. Yr oedd yn mawr 
barchu Bowlands, Llangeitho, ac yr oedd yn sefyll yn uchel yn ei olwg 
fel pregethwr; a chan ei fod yn frodor o'r un gymydogaeth, clywsai lawer 
o ymadroddion o'i eiddo, gan rai o'i hen ddysgyblion, a dywedai fod rhai 
o honynt wedi gwneud argraff ddwys ar ei feddwl. Adroddai ddarnau 
</r pregethau hyn, ac ni welais fy hoff gyfaill erioed mor gartrefol a phan 
yn gwneud hyny. Traethai hwy gyda'r fath deimlad a difrifoldeb, fel ag 
i ddwyn yn fyvnog gerbron yr hen efengylydd ei hunan." Er fod Mr. 
Hughes yn ddyn dysgedig iawn, ni chyhoeddodd ddim erioed oddieithr 
Pregeth Ymweliadol, yr hon oedd yn gyfansoddiad rhagorol a grymus. 
Fel y gellid casglu, perthynai Mr. Hughes, tra yn Rhydychain, i'r dos- 
barth efengylaidd o'r clerigwyr; a chymerodd ran arbenig yno gyda y Dn 



63 

Sìmmons, prif athraw Coleg Wadham, ac eraill, i ddwyn y Gymderthas 
Feiblaidd i sylw yr efrydwyr. Yr oedd ganddo feddwl uchel o'r Method- 
istiaid, a chyinysgai gryn lawer â hwy. Bu hyn yn achos iddo i gael ei 
ystyried gan ryw ddosbarth cul-farn a dall-bleidiol, fel yn gogwyddo at 
«gwyddorion y bobl hyny; a bu hyn yn ychydig o attalfa amserol arno i 
gyrhaedd unrhyw ddyrchafiad yn y Coleg. Ond bu ei fywyd dichlynaidd 
ä'ì ymarweddiad diargyhoedd, yn foddion i Iwyr ddilëu, mewn amser, bob 
teimlad rhagfarnllyd ac angharedig a goleddai rhai personau tuag ato, 
Un arall o'i hen gyfeillion, sef y Parch. Morria Hughes, Pentraeth, a 
ddywed, " Dechreuodd fy nghýdnabyddiaeth â'r Parch. David Hughes, 
Llanfyllin, pan yn Rhydychain, tua'r íjwyddyn 1811« Yr oedd y pryd 
hyny yn Feistr Annibynol, ac yn mysg ei ysgolheigion yr oedd Archesgob 
Caerefrog. Yr oedd Mr. Hughes o gorff a meddwl cryf anarferol, a 
byddai ei dri gydarholwyr yn gyffredin yn rhoddi i fyny iddo ef mewn 
materion dyrys a thywyll. Yr oedd yn hoff neillduol o'r Hebraeg, ä 
darllenai bennod bob dydd o'r Beibl Hebraeg." 

Hüghes, Evan, oedd offeiriad yn gweinidogaethu yn Llandyfriog, o 
dan Cromwell; ond trowyd ef allan o'r Eglwys hòno mewn canlyniad i 
Toddi mewn grym Ddeddf yr Unffurfìad. Ordeiniasid ef gan y Presbyt- 
criaid, ac yr oedd yn bregethwr defnyddiol yn eu plith. Wedi ei droi 
allan, pregethai yn y naill fan a'r llall fel y cai dderbyniad; a dyoddefodd 
gryn lawer o dlodi a helbulon o achos ei anghydffurfiaeth. Cydlafuriai 
yn fwyaf neillduol yn ardaloedd Llanbedr, Cilgwyn, Caeronen, <kc, â 
Morgan HowelL Cry>)wyllir am dano fel "cynghorwr" yn y flwyddyn 
1694, yn yr Eglwysi hyn. — Palmers IfoMCoriformùfo Mtmorial, voL iü, 
p. 469. Cilgwyn Church Booh 

Hughes, James, (Iago Trichrug), yr esbonìwr tra adnabyddus^ a 
anwyd yn y Neuadd Ddu, piwyf Ciliau Aeron, yn y flwyddyn 1779. Ni 
chafodd ond ychydig iawn o fanteision addysg yn ei ieuenctyd, oblegid 
cedwid ef i ddilyn gorchwylion amaethyddol; a phan nad oedd etto ond 
bachgenyn, rhoddodd ei rieni ef i ddysgu crefft gof. Nid oedd ei rieni 
yn protfesu crefydd gydag un enwad ar y pryd; ond ymhoffai James er 
yn blentyn i fynychu moddiongras. Yn haf 1797, un nos Sabbath, aeth 
i wrando un Dafydd Parry, o sir Frycheiniog, yn pregethu yn y Gelli, 
yn agos i Dalsarn; a dyma ddywed ef ei hun am y pregethwr a'r bregeth 
ar ol hyny : — " Y mae genyf barch mawr i goffadwriaeth y dyn gwerth- 
fawr hwnw; oblegid os cefais dröedigaeth a dychweliad at yr Arglwydd 
erioed, yr wyf yn meddwl mai drwyddo ef y cefais." Yn fuan ar ol hyn 
symudodd i weithio i ardal Llangeitho, ond ni bu ei arosiad yno ond 
byr; oblegid pan yn 21ain oed, aeth i Deptford, ger Llundain, 11 e yr oedd 



64 

modryb iddo yn byw. Yn Dock Yards f Uy wodraeth yn y lle hwn ý bu 
yn gweithio yn galed am bedair blynedd ar hugain. Ennillodd Mr. 
Hughes yn fuan y fath enw uchel fel gweithiwr medrus, fel y teitlwyd ef 
o'r diwedd gan ei gydweithwyr yn " Prince of Wales." Nid ymfoddlonai 
ef un amser ar fod yn gyfartal âg eraill, ond mynai ragori; ac mae ei 
holl fy wyd yn llawn profion o lwyddiant ei ymgais. Cyn ei fynediad i'r 
brifddinas, yr oedd wedi bwrw ei goelbren yn mhlith y Methodistiaid; 
ond ymddengys iddo cyn hir droi ei gefn ar ei frodyr crefyddol yno, o'r 
hyn Ueiaf, ar yr achos Cymreig. Ond tua'r flwyddyn 1806, pan ydoedd 
yr enwog Elias o Fon yn gweinidogaethu am dymmor yn Llundain, âil ym- 
unodd ef â'i frodyr, gan y rhai y derbyniwyd ac y croesawyd ef yn llawen. 
Yn mhen pedair blynedd ar ol hyn, sef yn y flwyddyn 1810, dechreuodd 
bregethu, a hyny mewn ystafell yn Deptfbrd. Ordeiniwyd ef igyflawn waith 
y weinidogaeth yn Llangeitho, yn y flwyddyn 1816. Yr oedd Mr. Hughes 
yn ysgolhaig rhagorol — deallai y Lladin a'r Groeg yn dda, ao yr oedd yn 
dra hyddysg yn yr Hebraeg. Pregethai yn yr iaith Saesonaeg mor rwydd 
ag yn ei iaith ei hun; ac mae hyn yn destun syndod, pan y dealler mai 
prin y gallai ofyn y ffordd o Lundain i Deptford y tro cyntaf yr aethai 
yno, yn yr iaith hòno. Dylid cofio hefyd, ei fod yn gorfod gweithio yn 
galed â'i ddwylaw am flynyddau ar ol dechreu pregethu; ac feily nis 
gallai fod ganddo ryw lawer o amser i'w dreul^o ar ei lyfrau. Talai lawer 
o sylw i lenyddiaeth Gymreig, ac ysgrifenai yn fynych i'r Seren Gomer, 
y Dyagedydd, y Drysorfa, Sçc. Fel bardd, cyrhaeddodd Mr. Hughes 
safle nid anenwog; ac mae y lluaws englynion o'i eiddo yn profi ei fod yn 
dra hyddysg yn y mesurau caethion. Yr oedd hefyd yn awdwr amryw 
emynau, y rhai sydd yn nodedig am eu hystwythder a'u tlysni — lluaws o 
ba rai a genir hyd heddyw gyda blas yn nghynnulliadau cyhoeddus y 
saint. Fel cyfieithydd barddoniaeth rhagorai yn fawr, ac mae ei gyfieith- 
iadau o "Blair's Grave" "Graỳ's Bard? a "Byrorìs Darhness" yndyfod 
i fyny â'r gwreiddioJ, yr hyn sydd ganmoliaeth nid bychan. Yr oedd 
yn gyfaill mawr i Dr. Owen Pughe, gyda'r hwn y gohebai yn gyson 
ac y dygai yn mlaen aml ddadl gyfeillgar ar bynciau yn dwyn cysylltiad 
â'r Gymraeg. Cyfieithodd amryw draethodau gwerthfawr o'r Saesonaeg, 
ac ỳn mysg eraill, traethawd y Parch. Thomas Watson ar "Swper yr 
Arglwydd." Ond yr hyn sydd wedi anfai-woli ei enw, a'i wneud yn 
anwyl i'w gydwladwyr, ydyw ei esboniad rhagorol ar yr Hen Destament 
a'r Newydd. Yr oedd y gwaith hwn o werth anmhrisiadwy i'r Cymry 
yr adeg hòno, pryd yr oedd mawr angen am dano. Dechreuodd ar y 
gorchwyl clodfawr hwn, gan gymeryd y Testament Ne wydd yn gyntaf^ yn y 
flwyddyn 1829, a gorphenodd ef yn 1835, mewn dwy gyfrol ddeuddeg 
plyg> y r nwn a argraffwyd yn y Wyddgrug. Daeth ail argraffiad allan 
eilwaith yn 1845, yn' un gyfrol fawr ardderchog, mewn argrafF bras r â 



65 

diwygiadau ac ychwanegiadau pwysig, sef sylwadau cyffredinol ac arwein- 
iol ar holl lyfrau y Testament Newydd, &c. Yn mhen tua thair blynedd 
a hanner ar ol gorphen hwn, dechreuodd gyhoeddi ei waith ar yr Hen 
Destament, yr hwn a ddaeth allan yn bum' cyfrol. Oyrhaeddodd lyfr 
Jeremiah, y xxxv. bennod, ac wedi gorphen ei sylwadau ar y 6ed adnod, 
ymafiodd afiechyd ynddo, a hyny i'r fath raddau fel na fedrodd ysgrifenu 
yr un sylwad ar ol hyny. Gorphenwyd y gwaith hwn mewn modd 
teilwng gan y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug. Terfynodd yr afiechyd 
hwn yn ei farwolaeth, Tachwedd 2, 1844, pan yn 65 oed, yn ei dŷ ei hun 
yn Rotherhithe. Ei eiriau diweddaf oeddynt, "O Dad, i'th ddwylaw di 
y gorchymynaf fy ysbryd;" ac, ''Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." 
Claddwyd ef yn barchus yn hen fynwent enwog Bunhill Fields, Llundain, 
pryd y dilynwyd ef hyd y bedd gan dorf orfawr o'i gydwladwyr galarus, 
ìle y gwelir heddy w gofadail a gyfodwyd iddo gan ei gyfeillion. Yr oedd 
Mr. Hughes yn bregethwr sylweddol ac effeithiol, a byddai ei fater, ei 
iaith, a'i ddull o draddodi, yn neillduol dda. Yr oedd, ar yr un pryd, yn 
ddarostyngedig i iselder meddwl a llwfrdra ysbryd, yr hyn oedd yn gryn 
rwystr iddo ar adegau. Safai yn uchel iawn yn ngolwg cynnulleidfa 
Jewin örescent, yn mysg pa rai y gweinidogaethai. Yr oedd yn hollol 
rydd a diragfarn, ac yn barod i gydweithredu â phawb i wneud daioni ac 
i hyrwyddo achos y Gwaredwr yn y byd. Fel dyn, yr oedd yn hynod o 
olygus; yr oedd ei ben mawr, a'i goryn moel dysglaer, a'i wallt gwyn, yn 
rhoddi rhy w olwg hynod o batriarchaidd amo. 

Hughes, John, archddiacon Ceredigion, a anwyd yn Llwyn Glas, yn 
agos i Aberystwy th, yn y flwyddyn 1787. Dangosai awydd cryf at y 
gwaith o bregethu pan yn dra ieuanc, ac ymhyfrydai mewn cyfansoddi 
pregethau a'u hadrodd. Anfonwyd ef i ysgol Ystradmeurig, lle yr astud- 
iodd yn galed, a chyda llwyddiant mawr hefyd. Wedi hyny aeth yn 
athraw clasurol i ysgoi fawr yn Putney, Llundain, lle y treuliodd flwyddyn 
a hanner. Cyn ei urddo yn weinidog, ymddengys iddo deimlo yn ddwys 
gyfrifoldeb mawr y gwaith yr oedd ar fedr ymgymeryd âg ef, a chydag 
anhawsdra y cafwyd ganddo anturio o flaen yr esgob. Wedi ei urddo 
gan Esgob Llanelwy, yn 1811, penodwyd ef yn gurad Llandrillo, yn agos 
i* Gonwy. Bu ei ddull difrifol o bregethu yn y lle hwnw yn achos o 
adfywiad mawr ar grefyd^ yn y plwyf hwnw a'r rhai cylchynol. Tra yn 
aros yno, cyhoeddodd gyfrol o bregethau. Yn 1817, gadawodd Gymru 
am guradiaeth Foleshill, yn agos i Coventry, a dilynodd yr un llwyddiant 
ei lafur yno drachefn. Cyhoeddodd yr amser hyn amry w draethodau, un 
o ba rai a ddygai y teitl, " The Heathen's Appeal." Maes nesaf ei lafur 
oedd Deddington, sir Rhydychain. Cymaint oedd ei boblogrwydd yn y 
lle yma, fel y cyrchai lluaws o'r plwyfi cymydogaethol i'w wrando yn 



66 

pregethu; ac nid anfynych y deuai amryw o'r myfyrwyr o Rydychain 
yno. Yn mysg eraill, gwelid yno unwaith y dyn a ddaeth wedi hyny mor 
enwog yn y byd duwinyddol, sef y Parch. Dr. Newman. Bu Mr. 
Hughes yn neillduol lafurus tra yno gydag achos y Feibl Gymdeithas, i'r 
hon y parhaodd yn bleidiwr gwresog hyd ddiwedd ei oes. Yn y flwyddyn 
1825, penodwyd ef i ficeriaeth Aberystwyth, a gwasanaethai ar yr un 
pryd fel curad Eglwys Llanbadarn Fawr. Un o'r pethau cyntaf a wnaeth 
Mr. Hughes ar ol ei ddyfodiad i'r lle hwnw ydoedd ymgymeryd âg 
adeiladu Eglwys newydd, yn lle yr adeilad bychan oedd yno yn flaenorol, i 
gyfarfod anghenion cynnyddol y dref bwysig hòno. Costiodd hyny lafur 
mawr iddo, a saif Eglwys St. Michael am oesau yn gofgolofn o'i ymdrech- 
ion clodwiw. Yn 1833, penodwyd ef gan Dr. Jenkinson, esgob Ty 
Ddewi, i lanw ficeriaeth wag y fam-Eglwys — Llanbadarn Fawr — yn yr 
hon y parhaodd i wasanaethu yn fíyddlon hyd ddiwedd ei oes. Cyflawnai 
ar yr un pryd, gyda chynnorthwy curad, wasanaeth yn y ddwy Eglwys. 
Gwnaed ef hefyd gan yr un Prelad yn Gorweinydd Eglwys Golegawl Aber- 
honddu, yr hwn benodiad ydoedd fwy o arwydd o barch nag o elw; 
oblegid ni dderbyniodd erioed fwy na£10 y flwyddyn oddiwrth y swydd. 
Ond nid yn ei gylch plwyfol ei hunan yn unig yr oedd Mr. Hughes yn 
ddefiiyddiol; ond newidiai bulpudau yn fynych â'i gydweinidogion, a 
theithiai lawer trwy wahanol barthau y sir i gyfarfodydd ofíeiriadol ac 
eraill, lle y byddai ei bresenoldeb bob amser yn dra chymeradwy. Nis 
gadawai i erwindeb y tywydd, nac un peth cyfíelyb, i'w luddias rhag 
myned i gyfarfod ei frodyr ofíeiriadol ar y cyfryw achlysuron. Ar farw- 
olaeth y gweinidog rhagorol hwnw, y Parch. W. Howells, Long Acre, Llun- 
dain, cynnygiwyd gofal gweinidogaethol y capel hwnw i Mr. Hughes; ond 
gan y tybiai y gallai fod o fwy o ddefnyddioldeb mewn lle cynnyddfawr fel 
Aberystwyth, ni dderbyniodd y cynnygiad. Yn gynnar yn y flwyddyn 
1859, anrhydeddwyd ef yn mhellach gan ei esgob, y Dr. Thirlwall, trwy 
gael ei wneud yn Archddiacon Ceredigion, yr hyn a roddodd foddlonrwydd 
cyfíredinol i bob dosbarth o'i gymydogion — llên a lleyg. Yr oedd y 
swydd yma drachefh megys yn agor maes newydd o lafur iddo, ac ni fu 
yntau yn ol o gymeryd mantais o hono. Yn ystod 1 859, ymwelodd â 
rhwng deg a thriugain a phedwar ugain o blwyfydd gwasgaredig, a hyny 
heb fod ond un Sabbath yn absenol oddiwrth ei gynnulleidfa ei hun. 
Darllenai lawer iawn bob dydd. Ei s hoff awduron'oeddynt yr hen dduw- 
inyddion — tadau yr Eglwys Brydeinig. Derbyniai lawer iawn o bleser 
hefyd oddiwrth ganiadau Cowper, y rhai a ddarllenai yn fynych. Yn ei 
ofal dros gleifion a thlodion ei gylch, ychydig a geir i'w cystadlu â'r Arch- 
ddiacon Hughes. Gwnai hi yn rheol i fyned bob dydd i ymweled â rhai 
o'i blwyfolion tlodion; ac yr oedd ei haelioni a'i barodrwydd i weini i'w 
cysuron yn ddiarhebol. Crybwyllir, fel fíaith, nad oes nemawr dŷ yn 



67 

Aberyötwyth a'r na fu ef o'i fewn ar ry w amgylchiad neu gilydd, o akr 
neu brofedigaeth. Fel yr awgrymwyd eisoes, un o nodweddion ei weinid- 
ogaeth oedd difrifoldeb; ac yr oedd ei bregethau bob amser yn neillduol 
syml a dealladwy. O ran ei olygiadau, yr oedd yn gwbl efengylaidd; ond, 
o'r ochr arall, yr oedd yn teimlo y parch mwyaf tuag at bawb a wahan- 
iaethent yn gydwybodol oddiwrtho. O ganlyniad, yr oedd yn hynod 
barehus gan aelodau ei Eglwys ei hun yn gystal a chan yr Ymneillduwyr. 
Fel y gellir meddwl, treuliodd fywyd llafurus iawn, a dywedir iddo breg- 
ethu tua 10,000 o weithiau o gwbl yn ystod ei oes weinidogaethol. Yn 
y flwyddyn 1840, cyhoeddodd Lyfr Hymnau, at wasanaeth cyhoeddus yr 
Eglwys, yr hwn a gynnwysai amryw emynau o'i gyfansoddiad ef ei hun. 
Argraffwyd hefyd amryw bregethau o'i eiddo. Tua dechreu y flwyddyn 
1860, gwelid arwyddion amlwg arno fod ei ddiwedd yn cyflym agoshau. 
Y pryd hyny, gwanychwyd ef gan ergyd o'r parlys; ond gwellhaodd 
eilwaith fel ag i allu cyflawni ei ddyledswyddau am dymmor byr. Gwan- 
ychodd yn raddol tua misoedd diweddaf y fl wyddyn; ond trwy y cyfan, 
yr oedd ei feddwl yn hollol dawel, gan edrych yn mlaen ar ei ymddattod- 
iad agoshaol gyda gostyngeiddrwydd Oristionogol. Y bregeth olaf a 
dàechreuodd ysgrifenu ydoedd ar y geiriau, "Gorfoleddu mewn gobaith 
am ogoniant Duw," Rhuf. v. 2. Mynych y clywid ef y pryd hyn yn 
beio ei hunan na buasai wedi bod yn fwy ymdrechgar gyda gwaith ei 
Arglwydd; ac yn wir, yr oedd ei ostyngeiddrwydd ar bob adeg yn amlwg 
iawn. Hunodd y gwr duwiol a defnyddiol hwn, Tachwedd 1, 1860, 
wedi cyrhaedd yr oedran teg o 73 mlwydd; a chladdwyd ef yn nghanol 
yr arwy ddion mwy af o barch yn mynwent Llanbadarn Fawr. Yr oedd holl 
fasnachdai y dref yn nghauad, a'r lleni ar y ffenestri; ac yr oedd tua 40 
o offeiriaid yn yr angladd, heblaw lluaws o weinidogion Ymneillduol. 
Bu Mr. Hughes yn briod ddwy waith, a gorfucheddodd ei ddwy wraig; 
a gadawodd ar ei ol ddwy ferch a dau fab. Ün o'r meibion ydyw y 
Parch. R. Hughes, A C, offeiriad St. Catherine, Edge Hill, Llynlleifiad, 
yr hwn, yn 1864, a gyhoeddodd gyfrol o bregethau, yn nghyda bywgraff- 
iad dyddorol o'i hybarch dad, i ba un yr ydym yn ddyledus ftm ddefnydd- 
iau hyn o hanes. Yr oedd JNJr. Hughes hefyd, fel y gwelir oddiwrth y 
rhestr ganlynol, yn awdwr o gryn fri. Cyhoeddwyd y llyfrau canlynol 
o'ieiddo: — 1. Pregeth, pan oedd yn gurad yn Llandrillo yn Rhos. — 2. 
Casgliad o 14 o Bregethau, yn 1829. — 3. Cyíieithiad o Henry and Scotfs 
Commentary, cyn belled a Deuteronomium, 1834, yr hwn a barhawyd 
gan y Parch. W. Jones, fìcer Llanfihangel-geneu'r-glyn. — 4. Y Nabl, sef 
Casgliad o Salmau a Hýmnau Cymreig. — 5 Cyfieithiad o Fyfyrdodau yr 
Esgob Hall ar y Testament Newydd. Cyhoeddwyd hefyd y rhai canlynol 
o'i eiddo yn Saesonaeg: — 1. Tìie Domestic Ruleifs Monitor; being a 
Sermon on the much neglected duty of Family Prayer, preached at the 



68 

Parish Church of Foleshill, on the 14th of January, 1821.— 2. JPastoral 
Yalediction ; being two Farewell Discourses, preached at Foleshill, 1822« 
— 3. A Yisitation Sermon, preached at Cardigan, before I)r. Jenkinson, 
Bishopof St. David's, 1832. — 4. Estherand Iier people; being a Practical 
£xposition of the incidents in the book bearing that name, 1832.— -5. A 
Sermon, preached at St. Michaers Church, Aberystwyth; being the day 
of tbe coronation of Her Majesty, June 28th, 1838. — 6. Ruth and her 
Rindred; being a delineation and practical improvements of the various 
incidents which befell them, 1839. — 7. Three YólwneB of Sermon*, 
published at different times. — 8. The Self Searcher, or brief remarks on 
Self examination, 1848,— 9. A Collection of Psalms and Hymns, for the 
use of St. Michael's Church, Aberystwyth. — 10. The Heatherìa Appeal. 

Hüghes, William Gray, ficer Mathri, sir Benfro, a anwyd yn y 
Sychpant, plwyf Nantcwnlle,Awst 5, 1792. Ail fab ydoedd i'r Parch. 
John Hughes, Llanddeiniol a Nantcwnlle. Gweithiai ar y fferm nes oedd 
yn 17eg oed, pryd yr aeth i'r ysgol i'r Bettws, ger Llangeitho, yr hon a 
gedwid gan y Parch. Bichard Richards, wedi hyny o Gaerwys. Oddiyno 
aeth i ysgol Ramadegol Llanbedr, Ue y treuliodd bum' mlynedd; ac yr 
ennillodd gweddeidd-dra ei ymarweddiad barch ei athraw hyglod yn 
gystal a phawb a'i hadwaenent. Gwnai hi yn arferiad i ddarllen rhanau 
helaeth o air Duw bob dydd. Ond ymddengys mai lled araf ydoedd ei 
gynnydd mewn dysgeidiaeth tra yn yr ysgol; ar yr un pryd, yr oedd yn 
efrydydd dyfal a diflino, ac ymdrechai i lwyr feistroli pob peth yr ymgy- 
merai âg ef. Wedi gorphen ei amser yn Llanbedr, ordeiniwyd ef, a bu 
yn gwasanaethu fel curad i Mr. Pugh, Trefdraeth. Yr oedd hyn yn y 
flwyddyn 1815. Ymddengys mai yn Nghilcenin y traddododd ef ei bregeth 
gyntaf, a hyny i dorf luosog iawn; a dywedir iddynt dòri allan mewn 
sain cân a moliant o dan ei weinidogaeth danllyd a nerthol. Yr oedd yr 
un dylanwad grymus yn cydfyned â'i weinidogaeth yn Nhrefdraeth, a 
chyn pen tri mis ar ol ei fynediad yno, llenwid yr Eglwys, yr hon oedd 
cyn hyny bron yn wag, â chynnulleidfa luosog o wrandawyr astud. Yn 
Ebrill, 1819, rhoddodd Esgob Burgess iddo flceriaeth Llandyssul; ondnid 
aeth ef yno o gwbl i fyw. Ac yn Ngorphenaf, 1822, dyrchafwyd ef gan 
yr unrhyw i ficeriaeth Mathri, ac ar yr un pryd gwnaeth ef yn ddeon 
gwladol. Ond ni bu iddo ond byr amser i fwynhau jr anrhydedd hwn. 
Bu yn brwydro am amryw fisoedd â'i afiechyd; ond o'r diwedd syrthiodd 
yn ysglyfaeth iddo, a bu farw yn nhŷ Mr. Jones, Llandudoch, sef y tý y 
cysgasai y noson gyntaf y daethai i sir Benfro. Cymerodd hyn le ar yr 
17eg o Fawrth, 1824, pan oedd yn 32 oed. Cludwyd ei gorff i Nant- 
cwnlle, a dodwyd ef i orwedd yno yn meddrod ei dadau. Ychydig ddyn- 
ion a ennillasant y fath boblogrwydd a Mr. Hughes, yn enwedig pan 



mmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmmm 



69 

ÿstyrìom mor fer fu ei oes; ac yr oedd galar cyffredinol trwy y wlad ar ei 
ol. Meddai ar ysbryd mwynaidd, tawel, a boneddigaidd iawn, ac yr oedd 
yn Uawn tynerwch. Yr oedd yn feddiannol ar gryn fesur o gyfrwysdra 
y sarff yn gystal ac o ddiniweidrwydd y golomen. Yr oedd yn llawn o 
gymhwysderau at drafod pob mater o natur eglwysig, ac ni byddai byth 
yn absenol o gyfeillachau crefyddol ei frodyr. Tra yn hynod ddifeddwl 
drwg, a thyner tuag at y gweiniaid yn y ffydd, yr oedd, o'r ochr arall, 
yn llym a gwrol yn erbytf pechodaii pawb o bob graddau, ac yn hollol 
ddidderbynwyneb. Meddai ar ddull neülduol o bregethu, ac yr oedd yn 
llawn mor gymeradwy gan bob dosbarth — tlawd a chyfoethog, dysgedig ac 
annysgedig. Yr oedd ei ddull o draddodi yn dra awdurdodol a grymus, 
a byddai ei agwedd sobr a difrifol pan yn traddodi y genadwri yn cael 
dylanwad anghyffredin ar y gwrandawyr. Yr oedd yn hynod fel gweddîwr, 
ac yn dyfalbarhau mewn gweddi. Gweddîai fwy na mwy wrth gyfan- 
soddi ei bregethau, wedi eu cyfansoddi, ac mewn ysbryd gweddi y 
traddodai hwynt. Yn hyn yn ddiau yr oedd cuddiad ei gryfder. 
"Syrthiai y fath nèrthoedd weithiau ar éi ysbryd mewn cyfarfodydd 
gweddi, fel y gellid meddwl fod hyd ŷn nod rhiniogaü a physt y tai yn 
ymsymud gan rym ei leferydd a'i Jais. Pregethai mewn angladdau yn 
aml, a hyny gyda'r fath sobrwydd a difrifoldeb, fel nad oedd braidd un 
angladd yn myned heibio heb i rywun neu rywrai gael eu hargyhoeddi 
á*u dychwelyd at Dduw. Gellir dweyd yn ddibetrus am Mr. Hughes, ei 
fod yn un o'r dynion goreu, ac yn un o'r pregethwyr mwyaf doniol a 
nerthol a fu yn Nghymru erioe(L ,, Dywedai un o hen bobl Rowlands, 
Llangeitho, wedi bod yn ei wrando unwaith, "Yn ddiau y mae holl 
ddoniau Rowlands, John Hughes, a Thomas Gray o'r Sychbant, wedi 
cydgyfarfod yn y gwr ieuanc hwn." Edrychid gan lawer ar Mr. Hughes 
fel seren ddydd ýn yr adfywiad a'r diwygiad a welir yn yr Eglwys 
Sefydledi g/ yn y dyddiau hyn. 

Hughes, "Willîam, mab ieuangaf "Wîlliam Hughes, Pantyddafad — 
tir-feddiannydd parchus yn mhlwyf Llanilar. Addysgwyd ef yn ysgol 
Ystradmeurig, ac wedi ei ordeinio, gwasanaethodd yn ffyddlawn Eglwys 
Gwnnws am 44 o flynyddau, sef hyd ei farwolaeth. Yn ystod blynyddau 
cyntaf ei weinidogaeth, yr ydoedd hefyd yn gurad Lledrod, lle, yn gystal 
a*i blwyf ei hun, yr oedd yn dra chymeradwy. Priododd Frances, merçh 
ieuangaf y diweddar Mr. Morice, Carrog, o'r hon y bu iddo chwech. o 
blant — tri mab a thair merch; pedwar o ba rai, yn nghyda'i wraig, a'i 
gorfucheddasant. Priododd ei ferch hynaf â'r Parch. John Sinnett, 
ficer JBa^igor-ar-Deifi. Priododd unarall.ar Parch. John WiUiams, ficer 
DinaSj.sir Benfro; ond mae y ddwy. erbyn hyn wedi eu claddu. 3u Mr. 
Hughes byw-am flynyddau ar <jür ei dad yn Brynarth, ac wrth enw y Ue 



10 

hwn yr adnabyddir ef yn fwyaf cyffredin. Wedi hyny symudodd i fyw 
ar yr eiddo ei hun yn Brynmeheryn. Yr oedd Mr. Hughes yn neillduol 
lwyddiannus fel gweinidog, a chanddo gynnulleidfa fawr o addolwyr cyson 
yn ei Eglwys. Yn mysg ei wrandawyr, yr oedd y Parch. Dr. James, 
Pantteg; Parch. J. Hughes, Llanymddyfri; Carn Ingli; ac eraill, oeddynt 
ar y pryd yn ysgol Ystradmeurig, y rhai a dystient iddynt dderbyn mawr 
les o dan ei weinidogaeth. Ystyrid ef yn un o'r offeiriaid mwyaf defn- 
yddiol a duwiol yn Nghymru; ac fel y cyfry w, perehid ef yn fawr, nid yn 
unig gan ei gynnulleidfa ei hun, ond hefyd gan bob enwad o Gristionog- 
ion. Bu farw Awst 14, 1855, yn 68 oed. . 

Idnerth, oedd yr olaf o esgobion Llanbadarn Fawr, a lladdwyd ef 
gan y trigolion, pryd y collodd y lle hwnw ei ragorfreintiau esgobol, ac 
unwyd yr esgobaeth âg un Ty Ddewi. Tybiai yr hynafiaethydd Llwyd 
mai yr un ydòedd a'r Idnerth y gwelir cof-faen iddo yn Eglwys Llan- 
ddewi Brefi, gyda'r argraff canlynol : — 

Hic Iacet Idnert Filius I 

Qui Occisus quit proptep p 

Sfcncti 

Yr hyn a leinw ef i fyny trwy wneud y gair diweddaf yn y llinell gyntaf 
yn Iacobi, yn yr ail predam, ac yn y drydedd Davidi. Myn rhai o'r 
trigolion, modd bynag, mai coffadwriaeth ydyw am berson a darawyd yn 
farw gan Dewi am ollwng yn rhydd afanc dinystriol, a ddaliasid gyda < 
mawr anhawsdra. Yr oedd y gàreg hon ar y cyntaf yn sefyll uwchben 
drws y ganghell; ond saif yn bresenol uwchben ffenestr, y tu gogleddol 
i'r ganghell. — Meyrictës Cardigamhire, 269, 270, à 378. 

Ieuan ab Rhydderch ab Ieuan Llwyd, bardd o gryn firi, yn blodeuô 
yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Un o wehelyth TJwydiaid, Llanerch- 
aeron, ydoedd; ac ymddengys oddiwrth yr M.A. sydd ar ol ei enw, ei fod 
yn offeiriad. Ei enw barddonol oedd Ieuan Glan Aeron. Gwelir rhai 
o'i ganiadau yn yr lolo MSS. 

Ilar, a gyfenwir Bysgotwr, oedd sant o ddechreu y chweched ganrif. 
Yr oedd yn un o ddilynwyr Cadfan i'r ynys hon. Efe oedd sylfaenydd 
Eglwys Llanilar, yn y sir hon; ac un arall o'r enw, yn sir Forganwg. 

James, David, a anwyd yn Lletty Poeth, Llanddewi Brefì, Ceredigion, 
yn y flwyddyn 1777, ar y 25ain o Fehefin. Magwyd ef mewn teulu tra 
chrefyddol, a dangosai yntau er yn ieuanc duedd at fyned i'r weinidog- 
aeth yn yr Eglwys Sefydledig, ernad oeddyr un Uwybr rhydd yn ymagor 



71 

iddo ar y pryd, na'r un tebygolrwydd y cyrhaeddai ei amcan yn y dyfodol 
chwaith. Wedi treulio ychydig amser yn yr ysgol a gedwid yn achlysurol 
yn y plwyf, llwyddodd, yn y flwyddyn 1794, i gael derbyniad i ysgol 
Ramadegol Ystradmeurig, dan ofal y gwr enwog hwnw, y Parch. John 
Williams. Yn ystod tymmorau y gauaf, cadwai ysgol ei hunan i blant ei 
blwyf genedigol. Tra yn yr ysgol, hynodid ef yn mysg ei gydefrydwyr 
am y wybodaeth eang a feddai o'r Ysgrythyr Lan; a chymerai hyfrydwch 
neillduol mewn astudio pob peth a ddaliai gysylltiad â'r Beibl. Yn 
ngwanwyn 1800, aeth yn athraw clasurol i Athrofa Mr. Roy, Old 
Burlington, Llundain, Ue bu yn aros am oddeutu dwy flynedd a hanner. 
Bu wedi hyny yn yr un swydd yn Deptford a Bromley. Yn y lle olaf 
hwn ; dangosodd yr ysgolheigion eu parch tuag ato, trwy ei anrhegu ar ei 
ymadawiad âg amryw, lyfrau gwerthfawr. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ar 
yr 21ain o Fedi, 1806,- ac yn ofíeiriad yr 20fed o Fedi, y flwyddyn 
ganlynol, gan Dr. Burgess, esgob Ty Ddewi. Ei guradiaeth gyntaf oedd 
Ysbytty Cynfyn, lle y bu am tua blwyddyn. O herwydd rhoddi o'i 
gyfaill, y Parch. D. Bowlands, i fyny guradiaeth Llanfihangel y Creuddyn 
a'r Eglwys Newydd, penododd ef Mr. James i gymeryd gofal yr Eglwysi 
hyny, a pharhaodd i weini yno am oddeutu pum' mlynedd gyda chryn 
lwyddiant. Yn ystod ei arosiad yno, yr oedd Mr. James yn hynod 
barchus gan y trigolion; ac nid heb lawer o anewyllysgarwch ar eu rhan yr 
ymadawodd efe oddiwrthynt. Maes nesaf ei lafur ydoedd Llanwnog a 
Charno, a dechreuodd ar ei ddyledswyddau yno, Hydref 4, 1812. Bendith- 
iwyd ei weinidogaeth yma mewn modd neillduol — gwelwyd cyfnewidiad 
amlwg yn moesau y trigolion, y rhai oeddynt yn dra chwanog i yfed. Yn 
Mai, 1819, ylnunodd mewn "glan briodas" â Miss Mary Hamer, merch 
D. Hamer, Ysw., o'r Wig, yr hon oedd yn fenyw bwyllog, synwyrol, a 
-chrefyddol; a bu eu bywyd priodasol yn un tra dedwydd. Bu iddynt 
T o blant — dau fab a phum' merch. Priododd un o'r merched âg Owen 
Davies Tudor, Ysw., Bar-gyfreithiwr o Middle Temple; ac un arall â 
W. H. Adams, Ysw., Bar-gyfreithiwr, ac yn awr Prif Farnwr yn Hong 
Kong. Y ddwy foneddiges hyn yw yr unig rai sydd yn fyw o'r plant. 
Yn ngwanwyn 1822, trwy farwolaeth y Parch. Maurice Anwyl, daeth 
ficeriaeth Llangurig yn wag, a phenodwyd yntau gan yr esgob yn olynydd 
iddo. Rhoddodd y lle hwn i fyny drachefn yn 1841, ar ei benodiad gan 
yr esgob i ficeriaeth Llanwnog, lle y buasai am 28 mlynedd yn gwasan- 
aethu fel curad. Etholwyd ef yn Gapelwr Tlotty Llanidloes a'r Dref- 
newydd, yr hwn oedd yn ei blwyf ef ; a bu yn gwasanaethu ynddo am tua 
deng mlynedd, trwy gynnal gwasanaeth crefÿddol ynddo ddwy waith yr 
wythnos. Dangosodd y plwyfolion eu serch a'u hymlyniad wrth eu 
gweinidog, trwy danysgrifìo tuag at gael organ harddwech i'r Eglwys, a-'i 
chyflwyno iddo ef, yr hyn a wnaethant, Hydref 19, 1855. Yn 185Q, 



72 

penodasíd Mr. James, gan Esgob Ty Ddewi, yn Ddeon Gwladol ýn líeon- 
iaeth Arwystli. Teithiodd lawer ar hyd a lled" y wlad i bregethu mewn 
cyfarfodydd offeiriadol, <fcc; ac yr oedd yn selog iawn o blaid y Gym- 
deithas Feiblaidd, y Gymdeithas Genadol, &c, cyfarfodydd pa rai a 
fynychai yn gyson yn Uanidloes a'r gymydogaeth. Yr oedd ei haelioni 
gydag achosion crefyddol neu elusenol yn ddiarhebol, a hyny pan nad 
oedd ei gyflog ond tra bychan. Dyoddefodd gryn lawer yn mlynyddau 
olaf ei fy wyd oddiwrth wendidau coríforol yn gystal ac oddiwrth amgylch- 
iadau teuluaidd, megys claddu ei blant, <fec Yn Ionawr, 1864, ymosod- 
wyd arno gan y bronehitis, o'r hwn y bu farw y 9fed o'r mis hwnw, yn 
87 mlwydd oed. Pregethwyd yn ei angladd gan, ei gurad, y Parch. Mr. 
Edwards, oddiwrth 2 Tim. L 12: "Canys mi a wn i bwy y credais," <fcc, 
sef y geiriau a benodasid ganddo ef ei hun ychydig ddyddiau cyn ei 
farwolaeth. — Haul, Ionawr, 1865. 

James, John, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberystwyth, Ile y ganwyd 
ef yn y flwyddyn 1777. Derbyniwyd ef yn aelod yn 1796, a dechreuodd 
bregethu yn 1799. Y 12fed o Orphenaf, y flwyddyn hòno, urddwyd ef 
a Mr. Breese, i fod yn gydfugeiliaid ar yr Eglwys yn Aberystwyth; ac ar 
ymadawiad yr olaf, yn 1812, syrthiodd yr holl ofal gweinidogaethol arno 
ef. Yn 1817, symudoddi Bontrhydyryn, sir Fynwy; ac oddiyno drachefn, 
yn 1827, i Benybont-ar ogwy, sir Forganwg. Bu Mr. James yn hynod 
lafurus yn y lle hwn yn gystal a'r rhai blaenorol, a phregŵthai mewn 
oddeutu ugain o leoedd yn yr ardal. Cynnyddodd yr eglwys yn fawr o 
dan ei ofaí; ac yn 1829, heíaethwyd yr addoldy ar draul o £500, yr hyn 
a dalwyd yn lled fuan trwy ymdrechion dibaid y gweinidog. Bu farw f 
Ionawr 30, 1848, yn 71 mlwydd oed, wedi bod yn weinidog ûyddlawi* 
am 50 o flynyddoedd. 

Jenkins, David, offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig, a brodor o ardaî 
Llangeitha Nid oes sicrwydd pauna gafodd ei gyflawn urddo ai peidio. 
Yn y flwyddyn 1741 , aeth i sir Gaernarfon, gan feddwl y cawsai bregethu 
yn yr Eglwysi plwyfol; ond cauwyd y rhai hyny yn ei erbyn, ac nid oedá 
ganddo yntau wedi hyny ond pregethu yn y mynwentydd, y prif-ffyrdd, 
a'r caeau, a bu ei weinidogaeth danllyd yn foddion i ddeffroi Uuaws o ŷ i 
gydwladwyr o'u trwmgwsg ysbrydol. Coffheir am un tro neillduol, pan 
y pregethai oddiar gàreg fedd yn mynwent Tydweiliog, Lleyn, pryd y 
cafwyd arwyddion nodedig o arddeliad y nefoedd ar ei weinidogaeth. Fel 
jlawer o'i gydlafurwyr, dyoddefodd yntau ei gyfran o erledigaeth. Pàn y 
pregethai unwaith ar brif-ffordd yn rhywle yn Lleyn, ergydiwyd càreg 
fawr àto gan ry w ddyhiryn; ond inethodd ei nôd — aeth heibio y pregethwr, 
a safodd yn y clawdd y tucefn iddo. Meddai ddoniau anghyffredin fel 



73 

prégethẅr, a deupârth o ysbryd ei gydlafurwr r yr apostolaidd Rowlandso 
Langeitho, yr hẁn pan glywodd am ei farwolaeth (yr hyn a gymerodd 1©- 
pan nad oedd ond 25ain oed) a ddywedodd gyda galar dwys, " Wele, fe 
dòrwyd ymaith fy inraich ddeheu." 

Jenkins, John, A. C, (Ifor Ceri), a anwyd yn Cilbronau, yn agos i 
Aberteifi. Bu am ry w gymaint o amser yn yr ysgol yn Nghaerfyrddin, 
a phan yn 18 oed, derbyniwyd ef i Goleg yr Iesu, Rhydychain; ac wedi 
hyny i Goleg Merton. Ar ol ei raddio a'i urddo, penodwyd ef yn gaplan 
ar fwrdd y llong Thesw, yn y llynges freiniol. Treuliodd amryw flyn- 
yddau yn yr India Orllewinol; a bu yn llygad-dyst o ddifrod echrydus y 
dwymyn felen, yr hon a ysgubai ymaith gymaint o'r morwyr Prydeinig. 
Er mwyn tynu ei sylw oddiwrth y golygfeydd arswydus a'i hamgylchent, 
difyrai ei hunan trwy chwareu ar y sodd-grwth (viohmaeUo) rai o hoff 
ganiadau âc alawon ei wlad enedigol. Er iddo ddianc rhag ymosodiad 
oddiwrth heintiau dinystriol hinsawdd boeth y wlàd hòno; etto, nid oes 
le í ammheu na fu ei arosiad yn y wlad, yn achos o fyrhad ei einioes, i 
raddau, yn y diwedd. Ar ol ei ddychweliad i Loegr, bu yn gurad am 
amser yn Ÿnys Gwyth, ac hefyd fel cenadwr neu gaplan St. John, New- 
fóundland. TrWy ddylanwad ei Iyngesydd, Arglwydd Radstock, dygwyd 
ef i sylw Dr. Burgess, esgob Ty Ddewi, yr hwn cyn hir a roddodd iddo 
fîceriaeth gyfoethog Ceri, yn sir Drefaldwyn. Cymerodd y penodiad hwn 
le yn y flwyddyn 1808. Dechreuodd Mr. Jenfcins ar ei lafur gweinidog- 
aethol yn y plwyf hwnw gydag ymroddiad teilwng o'r swydd gysegredig; 
a thrwy ei ymdrechion diflino i lesâu pob dosbarth o'i blwyfolion, yn 
nghyda'i fywyd dichlynaidd a'i aml rinweddau, ennillodd iddo ei hun 
barch a serch cyffredinol. Mewn canlyniad, penodwyd ef yn un o hedd- 
ynadon y sir, ac hefyd yn un o Gorberigloriaid Caerefrog ac Aberhonddu, 
ýn Gaplan i Ddug Clarence, ac yn Ddeon Gwladol Maelienydd. Priod- 
odd ferch i'r diweddar Barch. Edward Jones, Äber-rhiw — boneddiges yn 
feddiannol ar luaws o*r rhinweddau hyny a'i nodweddai ef ei hun; a bu 
yr undeb priodasol a ffurfiwyd rhyngddynt, er nad o faith barhad, yn un 
o'r rhai mwyaf dedwydd a chariadus. Yr oedd Mr. Jenkins yn mhob 
ystyr yn un o rai "rhagorol y ddaear," ac nis gallwn yn y fan hon wneud 
yn well na dyfynu y sylwadau canlynol mewn perthynas iddo : — *' Yn y 
gwahanol ganghenau o'i ddyledswyddau swyddogol, ac yn amrywiol 
ddyledswyddaubywydcymdeithasol, efe aroddodd yresiamplfwyaf teilwng. 
frel priod a thad, mab a brawd, yr oedd ei ymddygiad yn unffurf o ran 
caredigrwydd a serchogrwydd. Yr oedd yn wastad yn barod i wrando 
cwyn y tlawd a'r trallodus^ gan ymhyfrydu mewn gweinyddu cymhorth 
iddynt yn ol eu hanghenion, a bod iddynt yn gymwynasgar a thosturiol. 
Gan fod ei holì galon yn ei swydd weinidogaethol, yr oedd ei ymdrech i 



74 

gyflawni ei ddyledswyddau yn frwdfrydig a diball; a phan fyddai angen 
am ei wasanaeth bugeiliol ar y cyfryw o'i blwyfolion a fyddent, trwy 
afiechyd neu henaint, yn analluog i gyrchu i addoliad cyhoeddus yr Eglwys, 
pa mor isel bynag fyddai eu hamgylchiadau, byddai yn talu ymweliad â 
hwy yn eu tai, i weini iddynt addysg a chysur. I lenyddiaeth ei wlad 
yr oedd yn gefhogwr gwresog a difiin, yn llawn awyddfryd i gyflunio 
trefniadau tuag at helaethiad y cyfryw, ac yn ddyfal i osod y rhai hyny 
mewn gweithrediad. Yr oedd efe yn addfwyn yn ei foesau, ac yn dirion 
yn ei ymddygiadau; yn ddiysgog yn ei amcanion, ac yn fìyddlawn i'w 
addewidion. Byddai ei dŷ yn agored yn wastad i dderbyn ei gyfeillion, 
a'i galon yn ddifyrus o'u croesawu. Yr oedd yn ynad anmhleidgar a 
chyfarwydd, yn weinidog brwdfrydus a chydwybodol, yn anwyl gan ei 
berthynasau a'i gyfeillion lluosog, yn dra pharchus gan ei holl gydnabod, 
ac yn enwedig gan drigolion ei blwyf eang ei hun." O dan ei gronglwyd 
lettygar ef, yn y flwyddyn 1817, y ffiirfiwyd y penderfyniadau cyntaf tuag 
at adfywio yr Eisteddfodau yn Nghymru; ac yr oedd ei dŷ bob amser yn 
agored i feibion yr awen. Bu farw y gwi teilwng, y gwladgarwr pur, a'r 
Cristion cywir hwn, v yr 20fed o Dachwedd, 1829. Dangosodd trigolion 
y wlad eu galar o'i golli trwy ddyfod yn finteioedd, o bell ac agos, i'w 
hebrwng i dŷ ei hir gartref; ac anfynych yn wir y gwelwyd y fath angladd 
lluosog a difrifol. Y Sul canlynol, ymddangosodd y plwyfolion yn 
yr Eglwys mewn galar-wisgoedd cyflawn, a thraddodwyd pregeth dra 
phriodol a phwysig iddynt, gan y Parch. G. A. Evors, yr hon a gafodd 
effaith ddwys arnynt. 

Jenkin, John, neu Ioan Siencin, y Bardd Bach o Aberteifi, ydoedd 
fab i Jenltìn Thomas o'r Cwmdu, lle y ganwyd ef, Mawrth 26, 1716; ac 
fel ei dad, yr oedd yntau yn fardd Ued dda. Crydd ydoedd wrth ei alwed- 
igaeth; ac yn y gelfyddyd hòno nid oedd un a ragorai arno yn yr holl 
gymydogaeth. Ond nid oedd, modd bynag, yn cytuno â'i archwaeth; a 
chan ei fod yn ysgolhaig lled dda, troes allan i gadw ysgol, a bu wrth y 
gwaith hwnw am chwe' blynedd yn Cwmgloyn, dan nawdd Thomas 
Lloyd, Ysw., a boneddigion eraill y gymydogaeth, gyda pha ddosbarth yr 
oedd yn dra chymeradwy, a hyny o herwydd ei ddawn prydyddol. Gan 
ei fod yn cymysgu cymaint â'r rhai hyn, daeth o'r diwedd i gael ei ystyr- 
ied fel bardd teulu gan lawer o honynt; a chysegrodd ei awen bron yn 
llwyr i ganu clodydd ei noddwyr. Er nad oedd mor wreiddiol, mor 
deimladwy, nac mor ddesgrifiadol a'i dad; etto, yr oedd yn dra phoblogaidd 
yn ei ddydd fel bardd, yn rhanau isaf Ceredigion a Chaerfyrddin, a'r rhan 
uehaf o sir Benfro. Dywedir mai yr unig gyfansoddiad llenyddol oedd 
mewn bri yno y dyddiau hyny oedd Marwnad Dai y Garddwr. Cyfan- 
soddwyd hòno gan Ioan Siencin bymtheg mlynedd cyn i Dai farw, i'r 



75 

dyben, mae'n debyg, iV argyhoeddi o ddrygedd ei fywyd meddw; a chyf- 
ansoddiad digrif ddigon ydyw hefyd. Mae amry w ganeuon o'i waith i'w 
gweled yn Diliau'r Delyn a Bhdau Dyfed. Treuliodd y bardd y rhan 
olaf o'i oes yn cadw ysgol yn Aberteifi, lle bu farw, Hydref 28ain, 1796, 
a chladdwyd ef yn mynwent Llangoedmor. 

Jenkin, Nathaniel, oedd frawd i'r nchod. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 
1722. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion iawn; ond ni wnaeth ond 
defnydd lled wael o honynt, ar y cyfan. Yr oedd yn brydydd Uithrig a 
ffraeth, a meddai ddawn neillduol meẁn modd o sènu a gwawdio, a 
gwnai ddefnydd mynych o hono hefyd. Arswydai ei gymydogion yn 
fawr rhag rhoddi achlysur iV awen bigog i ganu iddynt; a diammhe u 
iddo ffrwyno gryn lawer ar drawsarglwyddiaeth a gormes rhai o honynt 
ag oedd mewn awdurdod. Medrai hefyd ganmol pan yr ewyllysiai, fel y 
gwelir yn ei gân i " Gŵn y Crynga" — " Y Gwirfoddoliaid o gylch dwy 
làn Teifi " — " Mr. Morgans, meddyg, Dolgoch " — " Palas Troed yr Aur," 
&c. Y ddwy flaenaf o ba rai a welir yn Ddiau'r Delyn. Taith hynod 
o ofidus a thrafferthus agafodd y bardd trwy y byd, fel y tystiai ei hunan 
mewn tair " Cân ür gofid" a gyfansoddodd ar wahanol amgylchiadau 
helbulus ei fywyd. Symudodd cyn terfyn ei oes i Tafarn Ysgawen, lle y 
bu farw, tua'r flwyddyn 1799. Pregethodd y Parch. D. Davies, Castell- 
hywel, yn ei angladd, a chladdwyd ef yn mynwent Llangranog. 

Jenkin S. Jenkins, neu Siencỳn Samwel, ydoedd fab i Samuel, mab 
Jenkin Thomas o'r Cwmdu. Ganwyd ef yn Nanty, plwyf Troed yr Aur, 
Mehefin.10, 1755. Pan fu farw ei dadcu, symudodd ef pan tua 10 oed 
gyda'i dad yno i fyw. Ei waith ef yno fyddai bugeüio, a thra yn yr 
oedran hyny, dechreuodd gyfansoddi dyrifau prydyddol, a'u hadrodd wrth 
ei gydfugeiliaid; ac yn fuan aeth son am dano fel prydydd trwy yr holl 
wlad. Dysgodd wedi hyny grefft crydd gyda'i dad; ond ar ol priodi, 
rhoddodd hi i fyny, a throdd ei sylw at wahanol fân orchwylion, megys 
glanhau awrleisiau ac oriorau, gwneuthur blychau myglys o gyrn, &c; a 
dangosai gryn lawer o gelfyddyd yn mhob cywreinwaith yr ymgymerai 
âg ef. Bu hefyd yn cadw ysgol am flwyddyn yn Nghwmcau, ger Emlyn. 
Ond gan fod ei amgylchiadau yn gyfyng a'i deulu yn lluosog, pender- 
fynodd ynifudo i'r America, yr hyn a wnaeth ddechreu y flwyddyn 1801, 
drwy gael cymhorth gan amryw gyfeillion caredig. Derbyniwyd ef yn 
aelod yn Eglwys Annibynol Trewen, yn 1781, a gwnaed ef yn henuriad 
ynddi yn fuan. Cymhellwyd ef wedi hyny i bregethu, yr hyn a wnaeth 
am dymmor gyda mawr gymeradwyaeth; ond o'i ewyllys ei hunan, 
rhoddodd y ^waith hwnw i fyny eilwaith, Gan fod Eglwys Philadelphia, 
j lle yr ymsefydlasai ar ol cyrhaedd America, heb weinidog sefydlog, 



76 

cymhellwyd ef drachefh i ail ddechreu i arfer ei ddawn yn gyhoeddüs; aö 
er ei fod y pryd hyny yn 47ain oed, daeth yn bregethwr poblogaidd iawn 
yn.fuan. Parhaodd i weinidogaethu yno am ddeng mlynedd. Cafodd 
alwad i fyned at Eglwys y Cymry yn TJtica, ond methodd ymadael â ? i 
blant i fyned yno. Bu farw yn Pendleton, Carolina Ddeheuol, yn mis 
Rhagfyr, 1841. Mab iddo ef yw Samuel Jenkins, Ysw., Philadelphia, 
awdwr llawer o lyfrau Saesonaeg, yn nghyda Hanes Cyrwru, yn Gymraeg, 
yr hwn a gyhoeddwyd yn Philadelphia rai blynyddau ýn ol. 

Johnes, James, o Lanbadarn Fawr, oedd Uchel-sirydd Ceredigion yn 
y flwyddyn 1586. Priododd Ann, merch John Thomas, Ysw., o Cryngae, 
yn yr un sir, a Dolau Cothi, sir Gaerfyrddin, a bu iddynt fab a merchi 
Priododd y ferch â David Lloyd, Ysw., Glansevin. 3f mab ydoedd — 

Johnes, Thomas, Sirydd Aberteifi am y flwyddyn 1618. Priododd 
Mary, merch James Lewis, Ysw., Abernant Fychan, yn Ngheredigion. 

Johnes, Thomas, o'r Hafod Uchtryd, boneddwr enwog, ÿn hanü ö 
Prydain ab Aedd Mawr, a ganwyd ef yn y flwyddyn 1748, yn Llanfair 
Clydoge. Daeth i feddiant o ystad yr Hafod trwy briodi meroh William 
Herbert, un o hen berchenogion y lle Addysgwyd ef yn Eton, a Choleg 
yr Iesu, Rhydychain, lle y graddiwyd ef yn A.C. Daeth i fyw i'r Hafod 
yn 1783, a'r pryd hyny yr oedd y lle bron yn anialwch anghyfannedd; a 
threuliodd ei fywyd a'i eiddo i'w wella a'i addurno. Adeiladodd balas yno 
yn yr arddull Gothaidd, yr hwn yn briodol a ystyrid yn un o ryfeddodau 
y Dywysogaeth. Perthynai iddo lyfrgell, yn yr hon y cedwid rhai o lyfrau 
mwyaf prin a gwerthfawr y wlad, yn nghyda chasgliad rhagorol o hen 
lawysgrifau, ac yn mysg eraill, holl gasgliad Syr John Sebright, a 
chroniclau Froissard, y rhai a gyfieithodd Mr. Johnes ei hunan. Argraff- 
wyd y gwaith hwn mewn gwasg o'i eiddo a gadwai yno; ac am beth 
amser, yma yr argrefíìd Adroddiadau y Gymdeithas Amaethyddol. Yn 
anffodus, ar y 1.3eg o Fawrth, 1807, syrthioddyr Hafod yn ysglyfaeth i 
dân dychrynllyd, pryd y llosgwyd yr holl.gasgliad ardderchog hwn o lyfrau 
ac arluniau; a dywedir nad oedd y ^golled yn ddim llai na X70,000 i Mr. 
Johnes ei hunan, oblegid yr oedd gwerth tua «£30,000, mewn rhan, wedi 
eu hyswirio. Yr oedd y golled, i raddau, yn anadferadwy; oblegid yr oec|d 
rhai o'r arluniau yn enwedig jn gyfryw ag nad oedd eu rhagorach yn 
.meddiant yr un casglydd arall yn y deyrnas. Ail adeiladwyd yr Hafod 
drachefn gan ei berchenog anturiaethus, ac adferwyd ef iV wychder 
blaenorol. Fel cefnogydd amaethyddiaeth a gwelliantau cymdeithasol yn 
mŷsg ei ddeiliadon, gwnaeth Mr. Johnes, yn ddiammheu, fwy na neb 
arall o'i gydojeswyr. Gwnaeth ffyrdd rhagorol trwy fanau mwyaf 



77 

anhygyrch ei ystad; adeiladodd dai cysurus iV weithwyr a'i ddeiliadon; 
rhoddodd waith i ugeiniau o dlodion, gan eu dodi i blanu coed wrth y 
miliynau, ar hyd lethrau creigiau noethion; a throdd y lle o fod yn 
ddiffaethwch anffrwy thlon i fod yn un o'r manau mwyaf cynnyrchiol, yn 
gystal a harddwych, yn yr holl Dywysogaeth. Sefydlodd Gymdeithasau 
Amaethyddol yn mysg ffermwyr y gymydogaeth; gan eu cefnogi i wneud 
gwelliantau yn eu dull o drin y tir, <fcc., trwy eu gwobrwyo a phrynu 
ganddynt eu cynnyrchion. Cyboeddodd hefyd draethodyn buddiol at eu 
gwasanaeth, o dan y teitl, "A Cardigamhire Landlord r s Âdmce to hia 
Tenante. n Oadwai hefyd feddyg i ymweled â chleifion y gymydogaeth, 
yn nghyda Dispemary i roi allan gyffyriau i'r sawl a ddeuent iV hymofyn. 
Yr oedd Mr. Johnes yn Aelod Seneddol dros y sir, ac wedi hyny dros sir 
Faesyfed. Daìiai hefyd y swyddi o Arglwydd-raglaw y sir, Milwriad 
Gwirfoddol lu Gaerfyrddin, a Llywiadur Cymru. Bu farw Ebriil 23ain, 
1816, yn 68 ml wy dd oed. — MeyricHê History oj Cardigamhire ; 
Wittiarm' Emineni Welehmen, $c. 

Johns, David, un o'r cenadon cyntaf i Madagascar, oedd frodor o 
blwyf Llanarth^ a mab i J. Jones, Llain. Yr oedd yn aelod yn y 
Neuaddlwyd; ac wedi dechreu o hono bregethu, aeth i'r ysgol at Dr. 
Phillips. Pan dderbyniwyd y newydd galarus, yn mis Tachwedd, 1819, 
fod Bevan, «i wraig, a'i blentyn, a Mrs. Jones a'i phlentyn, wedi marw; 
a bod Mr. Jones yn gìaf iawn, ac wedi ymadael i Mauritius, penodwyd 
Mr. Johns i fyned allan i ail ddechreu y gwaith cenadol yn yr ynys hòno, 
«t yr hwn waith yr oedd wedi amlygu ei dueddfryd o'r blaen. Cyrhaedd- 
odd yno tua diwedd y flwyddyn 1820, ac aeth i fyw i Antananariyo, sef 
y brifddinas, dan nawdd Radama. Llafuriodd yma, yn erbyn lluaws o 
anhawsderau, am bymtheng mlynedd. Coleddid y rhagfarn cryfaf yn ei 
erbyn gan y brodorion ar y cyntaf — credent mai hunan-les oedd gan y 
bobl wynion wrth ddyfod yno iV dysgu, tra yr oedd rhai mor ffol a 
ìneddwl mai bwriad y Saeson oedd cael y plant iV hanfon i Ewrop iV 
bwyta! Ond yn raddol, daethant i ddeall yn amgen — ffurfiwyd ysgolion 
yno, a llwyddwyd i gael nifer mawr o blant iddynt. Yn ystod yr amser 
yma, cyfieithwyd ac argraffwyd yr Hen Destament a'r Newydd, yn 
nghyda miloedd o draethodau crefyddol; a chyhoeddwyd Ceiriaduron 
D. Jones a D. Griffiths, dan olygiad Mr. D. Johns, yn gystal a llyfrau 
eraill, megys hymnau, <fcc. Ond mewn canlyniad i boethder yr erledig- 
aeth ar y Cristionogion, gorfodwyd Mr. Johne, ei deulu, a'i gydlafurwyr, 
i ymadael â'r ynys am Mauritius, yn mis Medi, 1836. Cyn myned, 
modd bynag, cyfieithwyd Taith y Pererin, gan Mr. Johns, i iaith* y 
wlad. Ysgrifenodd rhai o'r brodorion wyth copi o hono, ac argraffwyd 
mil o gopîau, gan Gymdeithas y Traethodau Crefyddol, yn Llundain, 



78 

Talodd Mr. Johns ddau ymweliad â'r ynys wedi hyn, er gwybod hynt y 
Cristionogion; ac o'r diwedd, cytunodd â chadben llong yn Mauritius i 
fyned i'w hymofyn, yr hyn a wnaed ar draul o £80, a chasglwyd y swm 
yn y fan gan gyfeillion Gristionogol. Llwyddwyd i'w cael i'r llong 
megys yn wyrthiol, a chyrhaeddasant Mauritius yn ddiogel, a hyny er 
mawr lawenydd iV cyfeillion crefyddol. Penderfynwyd wedi hyn fod i 
Mr. Johns, gyda chwech o'r fíoedigion, i fyned i Benrhyn Gobaith Da; a 
llwyddasant yno i gael deugain punt tuag at ddwyn eu traul i'r 
wlad hon, yr hon a gyrhaeddasant ddiwedd Mai, 1839. Y flwyddyn 
ganlynol, cyhoeddodd Mr. Johns hanes erledigaeth y Cristionogion yn 
Madagascar, yn nghyda diangfa y fíoedigion i Brydain Fawr, yn Gymraeg. 
Yn 1841, hwyliodd Mr. Johns drachefn i Mauritius, ac oddiyno drosodd 
i Madagascar, i ediych a fedrai fod o ryw wasanaeth i'r Cristionogicn 
erlidiedig. Daeth yn ol eilwaith i Mauritius, yn niis Chwefror, 1842, 
lle y bu farw. 

Jones, David, cenadwr i Madagascar. Mab ydoedd i Mr. Jones, 
Penrhiw, Neuaddlwyd, yr hwn fu am flynyddau yn flaenor yn yr Eglwys 
hòno. Derbyniwyd yntau yn ieuanc yn aelod o'r un Eglwys; ac niewn 
amser, cymhellwyd ef i ddechreu pregethu. Er cymhwyso ei hunan a-t 
y gwaith, rhoddwyd ef o dan addysgiaeth yr hybarch Dr. Phillips, yr 
hwn bob amser a gymerai ddyddordeb neillduol ynddo. Yn mysg ei 
gydefrydwyr, yr oedd Bevan a Johns, y rhai, fel yntau, a droisant allan 
i'r maes cenadol. Yr hyn fu yn achlysur uniongyrchol i gyfeirio eu 
meddyliau at waith y genadaeth oedd a ganlyn. Un boreu, wedi cyfar- 
fod o'r Dr. â'i ddosbarth duwinyddol, adroddodd iddynt, a'r dagrau ar ei 
rudd, iddo gael rhywbeth ail i * É weledigaeth " y nos flaenorol pan yn ei 
wely, yr hyn a effeithiodd yn ddwys ar ei feddwl. Dychymygai ei fod 
yn gweled ynys eang Madagascar, er ei holl brydferthwch naturiol, yn 
gruddfan dan bwys cadwynau trymion eulunaddoliaeth a choelgrefydd, 
ac yn drigfan gorthrymder a thrueni dygn; ac yna tybiai gly wed llef yn 
galw yn uchel, " Deuwch drosodd, a chynnorthwywch ni." Cafodd hyn 
y fath efíaith amo, fel y methodd fwyta ei foreufwyd y boreu hwnw; ac 
yr oedd y difrifwch, .gyda yr hwn yr adroddai yr hanes, y fath fel nad 
oedd un llygad sych yn yr holl ddosbarth. G'r diwedd, gofynodd iddynt, 
" A oes neb o honoch a deimla dros eu sefyllfa, ac a aift' drosodd i geiiio 
eu llesoli, a'u goleuo am eu cyflwr tragwyddolî' 7 David Jones, yr hwn 
oedd yn nghongl bellaf yr adeilad, a ddywedodd yn wylaidd, " Myfi a âf 
yno." Dilynwyd ei esiampl gan Bevan, yr hwn, yntau, a ddywedodd, 
"Minnau a âf hefyd." Hyn fu yn ddechreuad y genadaeth i Madagas- 
car. Grdeiniwyd y ddau yn y Neuaddlwyd, yn mis Awst, 1817; gadaw- 
sant Brydain ddechreu y flwyddyn ganlynol; cyrhaeddasant Mauritius 



79 

yn Ebiill; ac yn Awst, aethant drosodd i Madagascar. Derbyniwyd 

hwy yn roesawgar gan Fistara, brenin Tamatave, yr hwn a ddanfonodd 

ei fab ei hun, yn nghyda deg neu ddeuddeg o blant, stynt i'r ysgol. 

"Wedi gweled fod y maes yn agored iddynt, aeth y ddau yn ol i Mauritius 

i gyrchu eu gwragedd a'u plant. Yn fuan ar ol dychweliad Mr. Jones, 

cymerwyd ef a'i deulu yn glaf o'r dwymyn, a bu farw ei wraig ai blentyn; 

a chyn diwedd Ionawr, 1819, yr oeddynt oll, ond ef eihunan, wedimeirw; 

ac yr oedd yntau yn glaf ac analluog i ymsymud o'r naill fan i'r llall. 

Ond, er gwaned oedd, llwyddodd i fyned i'r llong gyntaf a ddaeth yno; 

a chyrhaeddodd ynddi i Mauritius yn mis Mai, 1819. Yma derbyniodd 

garedigrwydd mawr oddiar law C. Talfair, Ysw., ysgrifenydd i Syr R. 

Forgan, y llywydd, a chyfaill mawr i'r cenadon, yr hwn a'i cymerodd i'w 

dŷ ei hun, ac a'i hymgeleddodd dros 14 mis. Wedi adferu o'i iechyd, 

dychwelodd i'r ynys i ail ddechreu y genadaeth; ac yn mis Tachwedd, 

1820, efe a agorodd ysgol i ddysgu plant y teulu brenhinol. Y flwyddyn 

ganlynol, dychwelodd i Mauritius i ail briodi. Yn 1822, dechreuodd ef 

la'r Parch. D. Griffiths, bregethu yn rheolaidd ar y Sabbathau, bob yn ail 

— Mr. Jones ar y greadigaeth, a Mr. Griffiths ar y Deg Gorchymyn; yna 

ar wahanol athrawiaethau a dyledswyddau. Ar gais y brenin, unwyd y 

tair ysgol oedd yn y ddinas; a rhanai y ddau y gwaith o'u harolygu cyd- 

rhyngddynt. Treulient y gweddill o'u hamser i gyfieithu yr Ysgrythyrau, 

i holwyddori, a pharotoi erbyn y Sabbathau, &c. Tra pregethai y naill 

yn y ddinas, âi y Uall allan i'r wlad; a chyrchai miloedd o'r trigolion iV 

gwrando. Cyffrodd eu llwyddiant eiddigedd yr offeiriaid paganaidd, y 

rhai a achwynasant arnynt wrth y brenin; ond tra y bu efe by w, ni aflon- 

yddwyd arnynt. Ond bu efe farw Gorphenaf 27ain, 1 828; a chyhoedd- 

wyd Hanavalona, ei wraig, yn frenhines. Yn fuan ar ol esgyn o honi i'r 

orsedd, anfonodd genadwri at Mr. Jones a Mr. Griffiths, i'r perwyl nad 

rhaid iddynt ofni dhn, ac y "gwnai hi fwy drostynt nag a wnaeth 

Radama." Ond ychydig ymddiried ro'i y cenadon yn ei geiriau; ac mae 

hanes ei hymddygiad tuag atynt wedi hyny yn profi mai iawn y gwnaent 

felly; oblegid yn y flwyddyn 1829, anfonodd atynt fod yn rhaid iddynt 

roddi i fyny ddysgu y Beibl yn yr ysgolion. Ar eu gwaith yn dadleu eu 

hachos, cafodd y cenadon, modd bynag, ganiatâd drachefn i gario yn 

mlaen y gwaith fel o'r blaen; ac yn fuan, llanwasant yr ysgolion â rhanau 

o'r Ysgrythyrau. Yn mis Mehefin, 1830, ymadawodd Mr. D. Jones a'i 

deulu, ac aethant drosodd i Mauritius, ac oddiyno i Brydain. Ar y 18fed 

o Fehefin, 1840, aeth yn ol drachefh, gan feddwl cael gweled ei hen gyf- 

eillion yn y brifddinas; ond ni chaniatawyd hyny iddo am rai diwrnodau. 

J r diwedd, anfonwyd ceffyl iV gyfarfod ran o'r ffordd; a chan fod yr 

anifail yn anhywaith, ysigwyd clun Mr. Jones, fel y gorfuwyd ei gludo 

mewn cadair. Ar ol cyrhaedd y ddinas, cymerai y frenhines arni fod yn 



80 

dra charedig wrtho, trwy roddi iddo ei dý ei hun i fyw ynddo, a gosod 
rhai i wylio rhag i neb ladrata na llosgi yr eiddo. Ond yr amcan yn hyn 
oll ydoedd attal pawb rhag cyfrinachu â'r cenadwr; a gwaharddwyd i'r 
brodorion oll, îe, hyd yn nod ei hen gyfeillion, i gymdeifchasu âg ef. Yn 
y sefyllfa hon ar bethau, dychwelodd yntau i Mauritius mor fuan ag y 
gallai, lle y cymerwyd ef yn glaf ac y bu farw, yu mis Mai, 
1841. 

Jones, David William, gweinidog yr Annibynwyr yn Nhrefiynnan. 
Brodor ydoedd o ardal Llandyssul, a ganwyd ef yn Gwern Newydd, 
Hydref 14eg, 1809. Magwyd ef i fyny mewn teulu tra chrefyddol, ac 
addysgwyd ef gyda'r gofal mwyaf. Bu yn yr ysgol gyda y Parch. John 
Jones, mab y Parch. Jonathan Jones, Rhydybont; ac wedi hyny gyda y 
Parch. S. Griffiths, Horeb, yr hwn a gadwai ysgoi y pryd hwnw yn 
Bwlchygroes. Yr oedd erbyn hyn tua thairarddeg oed, a thua'r adeg 
yma y derbyniwyd ef yn aelod yn Horeb. Tua diwedd y flwyddyn 1824, 
anfonwyd ef i ysgol y Neuaddlwyd, Ile yr arosodd yn agos- i flwyddyn, 
a dychwelodd gartref gan feddwl dilyn ei orchwyl ar y fferm, oblegid hyd 
yn hyn nid oedd ganddo yr un bwriad i ymgyfl wyno i'r swydd o weinidog 
yr efengyl. Yr oedd, modd bynag, wedi cael y fath flas> ar ddysgeidiaeth 
yn ystod ei arosiad yn y Neuaddlwyd, fel nad oedd dim a'i boddlonai on<$ 
myned yno eilwaith, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1828; ac yn fuan 
wedi hyn dechreuodd bregethu. Gadawodd y lle hwn yn Awst, 1831, 
ond nid cyn ennill iddo ei hun barch a serch ed holl gydfyfyrwyr a'i 
athraw. Y lle nesaf y cyfeiriodd ei gamrau iddo ydoedd Rotherham, lle 
y treüliodd drachefn bedair blynedd i gyfoethogi ei feddwl â gwybodaeth 
fuddiol. Ar derfyn ei amser yno, caíbdd alwad i fyned i Dreffynnon, ac 
urddwyd ef ar y 26ain o Awst, 1835, Yn fuan ar ol ymsefydlu yn j 
• Ile hwnw, dechreuodd Mr. Jones ysgol i barotoi gwyr ieuainc ir athro- 
feydd, llawer o ba rai a ddysgodd efe yn rhad. Yn y flwyddyn 1841, 
ymddiriedwyd ysgol Dr. Daniel Williams, yr hon oedd yn flaenorol ya 
Newmarket, i'w ofal; a thystiai Dr. Davidson, un o'r yraddiriedolwyr^ 
nad oedd ganddynt ysgol o'i chyffelyb yn y chwech sir. Ac yn wir, 
prin y gallai fòd yn amgen, pan yr ystyriom ei fod yn ysgolhaig mor dda 
— yn meddu ar ystôr eang o wybodaeth ar bron bob cangen, ac yn hynod 
fedrus i gyfrann y cyfryw i eraill. Er hyn i gyd, yr ©edd yn hollol 
hunanymwadol a diymhongar. Gwasanaethodd y swydd o ysgrifenydd j 
gangen gynnorthwyol o Gymdeithas Genadol Llundain dros Ogledd 
Cymru, a'r Feibl Gymdeithas, a'r Gymdeithas er taenn gwybodaeth gref- 
yddol yn mysg yr Iuddewon, am flynyddoedd lawer; ac ennülodd oddi- 
wrthynt oll enw uchel fel swyddog ffyddlawn a gofalus; a gwnaeth y 
cyfan yn rhad. Byddai ei bregethau bob amser yn gryno ac ymarferol, 



81 

ond nid oedd ei ddull na'i lais yn cyfateb i'r meddyliau a gynnwysid yn- 
ddynt. Bu farw Tachwedd 7fed, 1861, yn 52 mlwydd oed. 

Jones, David, oedd un o'r gweinidogion a fwriwyd allan mewn can- 
lyniad i Ddeddf yr Unffurfiad yn 1662. Gwasanaetbai ar y prjd yn 
Llanbadarn Fawr. Derbyniasai ei addysg yn Rhydychain, lle y derbyn- 
iwyd ef ar y 10 o Tach., 1654. Dysgrifir ef fel dyn dysgedig a duwiol, 
a phregethwr doniol a gwresog. Ar ol ei fwrw allan, cynnaliai ei deulu 
trwy gadw ysgol ramadegol, a phregethai yn awr ac eilwaith fel y caffai 
gyfleusdra, a bu mewn helbul fwy nag unwaith o herwydd hyny. Bu 
farw o*r darfodedigaeth, yn llawn gobaith a chysur; ond ni wyddis i 
sicrwydd pa aniser. Cawn ei fod yn byw yn mhlwyf Penbryn yn y 
üwyddyn 1675, ac oddiwrth gofnodion Eglwys Cilgwyn, gwelwn ei fod 
yn gweinidogaethu yn y lle hwnw a'r eglwysi cymydogaethol mor ddiw- 
eddar a'r flwyddyn 1 694. — Palmer, vol. iiL, p. 469; Llyfr Eglwys Cügwyn. 

Jones, Edward, gweinidog y Trefnyddion Calfínaidd yn Aberystwyth. 
Ganwyd ef yn y Rhiwlas, plwyf Llanfihangel-geneu'r-glyn, Medi 11, 1790. 
Amaethwyr parchus a chrefyddol oedd ei rieni, ac efe oedd yr ieuangaf o 
wyth o blant. Pan yn ugain oed, aeth i Lundain, lle yr arosodd tua 
hanner blwyddyn. Yn ystod yr amser hwnw cafodd gyfl eusdra i glywed 
y diweddar Barch. John Elias yn pregethu, oddiar y geiriau hyny, "Na 
fydd ry annuwiol; ac na fydd ffol : paham y byddit farw cyn dy amser?" 
Eífeithiodd y bregeth hono yn ddwfn arno fel ag i'w ddwyn i ystyried yn 
ddürifol ei gyflwr fel dyn colledig, fel y penderfynodd fwrw ei goelbren 
yn mysg pobl yr Arglwydd. Wedi symud o hono i Gaerodor, aeth un 
Sabbath i wrando ar yr efengylwr o Lwynffortun, yr hwn a bregetbai 
oddiar y geiriau hyny, "Pa hyd yr ydych yn cloffî rhwng dau ^0^^^!?" 
Bu y bregeth hòno yn foddion i dòrí ar unwaith y ddadl yn ei feddwl, 
fel y llwyr gyflwynodd ei hun i wasanaeth ei Arglwydd, a derbyniwyd 
ef yn aelod o'r Eglwys Galfinaidd yn y ddinas hòno, Tachwedd, 1811. 
O herwydd gwaeledd ei iechyd gorfu iddo adael y lle hwnw, a dychwelyd 
iV fro enedigol; ac yn mhen tua blwyddyn ar ol hyny, sef Gorphenaf 20, 
1815, dewiswyd ef yn ddiacon yn Eglwys y Borth. Dechreuodd bregethu 
Mai 24, 1818; derbyniwyd ef yn bregethwr y Cyfundeb yn Nghymdeith- 
asfa Llangeitho, Awst 19, 1818, a neillduwyd ef i gyflawn waith y 
weinidogaeth Awst 7, 1829. Priododd ar y 23ain o Fai, 1827, â Miss 
Davies, chwaer y diweddar Mr. Robert Davies, Aberystwyth. Cafodd 
Mr. Jones faes helaeth i lafurío ynddo yn y sir, ac ymaflodd yntau yn y 
gwaith fel un yn teimlo ei bwysfawrogrwydd, a thaflodd ei holl enaid 
iddo. Iddo ef yr ymddiriedid gweithredoedd ac ysgrif-rwymau yr enwad 
yn y sir, a gwnaeth lawer iawn tuag at ddwyn holl feddiannau y Trefh- 



82 

yddion Calfinaidd i'r sefyllfa fwyaf diogel ag yr oedd yn ddichonadwy 
eu cael. Efe hefyd yn fwyaf neillduol a ofalai am y casgliadau at y 
Gymdeithas Genadol Gartrefol a Thramor. Yr oedd yn hynod bender- 
fynol a di-ildio, ac unwaith yr ymaflai mewn unpeth, ni chymerai ei 
ddigaloni na'i rwystro gan lu o anhawsderau. Fel pregethwr yr oedd yn 
dra difrifol bob amser, ac weithiau pregethai gydag arddeliad mawr, nes 
teimlai lluaws rym y genadwri. Yr oedd yn llym iawn yn erbyn pechod, 
gan nad o dan ba ffurf yr ymrithiai; a cheryddai hyd yr eithaf yr hyn a 
ystyriai yn feius. Bu hyn yn achos iddo gael cryn lawer o'i erlid a'i 
ddrwgliwio; ond ymostyngai yn ddirwgnach i'r cyfan, gan "ystyried yr 
hwn a ddyoddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid." Bu 
farw Awst 29, 1860, yn 70 mlwydd oed, ar ol bod yn pregethu am 45 o 
flynyddau. Yn gymaint ag yr ystyrid ef yn dywysog yn mysg ei frodyr 
yn ei fywyd, cafodd gladdedigaeth deilwng o dy wysog. Rhoddwyd ef i 
orphwys yn nghladdfa newydd Aberystwyth, ac efe oedd y cyntaf a 
osodwyd yno, pryd yr oedd yn wyddfodol tua 35 o bregethwyr, a thua 
thair mil o gymydogion a chyfeillion galarus. Cymerwyd rhan yn y 
gwasanaeth angladdol gan y Parchn. E. Hughes; J. Jones, Castellnewydd 
Enilyn; J. Jones, Penmorfa; J. Rees, Tregaron; T. Edwards, Penllwyn; 
J. Saunders, Aberystwyth; D. Davies, Aberporth; a J. Jones, Llanbedr 
Pont Stephan. 

Jones, Evan, mab y Parch. Morgan Jones, Trelech, a anwyd yn 
Esgairgraig, yn y flwyddyn 1801. Ar ol treulio yr amser arferol yn 
athrofa Caerfyrddin, neillduwyd ef yn gydweinidog â'i dad, lle y treul- 
iodd dair blynedd, pryd y cafodd alwad oddiwrth yr Eglwys Annibynol 
yn Ruscombe, yn agos i Stroud, sir Gaerloyw, lle y llafuriodd am ddeu- 
naw mlynedd. Nis gellid ystyried Mr. Jones yn ymadroddwr ffraeth a 
hyawdl, ond gwnelid y diffyg hwn i fyny gan gyfoethogrwydd a mawr- 
edd ei feddylddrychau, cyflawnder o synwyr, a gwybodaeth eang ar bob 
pwnc yr ymdriniai âg ef. Yr oedd yn hynod wreiddiol bob amser, a 
phregethai fel y gallai y gwanaf ei amgyffrediad ei ddeall yn hawdd. 
" Byddai ei enaid yn fynych yn ennyn, a'i dân Cymreig yn tòri allan yn 
ngwlad y Sais mewn modd disymwth, fel yr oedd yn datguddio yn gyf- 
lawn fendithion a thrysorau croes y Prynwr, tu cefh i'r hon yr oedd ei 
galon yn llosgi a chanu. Modd bynag, nid yn yr areithfa yr oedd ei 
nerth yn gorphwys fwyaf, ond allan o honi. Yr oedd yn weinidog cy- 
mhwys y pentref a'r dref. Ei galon dyner a'i harweiniai i breswylfa 
gofid, adfyd, a chyfyngder ; ac yr oedd ei law a'i gynghor yn wastad yn 
agored ; fel y teimlid ef yn fwy fel tad na gweinidog iV bobl. Yr oedd 
yn un o ysbryd hynaws a charedig, fel yr ymddangosai ei fod yn crëu 
awyrgylch o gariad o'i amgylch ei hun, ac yn by w ac yn ymsymud ynddi. 



83 

Arosai bob amser ar ei ffordd i sychu dagrau plant pan y clywai ac jí 
gwelai hwy yn wylo ; Deu i osod abwydyn yn y glaswellt ar ochr y ffordd, 
rhag ofn y buasai rhywun yn ei sathru. Yr oedd ei weithredoedd da yn 
ymddangos yn hytrach fel pethau yn tyfu allan o hono, yn fwy nag fel 
rhai a gyflawnid ganddo. Dywedai llawer, os bu erioed un dyn gwir 
dda, mai Mr. Jones oedd hwnw. Yr oedd dirgélwch ei holl ddaioni yn 
wreiddiedig yn ei gymdeithas â Duw. Yr oedd ei enaid yn debyg i deml 
heb do arni, bob amser yn agored tuag at Dduw; am hyny yr oedd y 
gwlith bob aniser yn disgyn arno; ac felly yr oedd rhinweddau duwiol- 
deb yn tyfu yn ei enaid megys mewn gardd ddyfradwy; ac am hyny yr 
oedd arogl ei weddîau yn myned bob amser yn newydd a bywiog i fyny 
at Dduw drachefn, ' fel arogl maes yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd/ 
Yn ystod y ddwy flynedd olaf o'i fywyd bu yn dyoddcf yn drwm oddi- 
wrth afiechyd, fel y gorfodwyd ef i roddi i fyny y weinidogaeth a 
dychwelyd rw fro enedigol, lle y bu farw yr 20fed o Fehefin, 1855, a 
hyny er galar i luaws mawr, ac yn enwedig i'w eglwys yn Ruscombe, 
gan yr hon y perchid ac y cerid ef yn fawr iawn." 

Jones, Evan, gweinidog perthynol i'r Trefnyddion Calfinaidd yn y 
Ceinewydd, gynt o Langeitho, ac o Benmorfa cyn hyny. Ganwyd ef yn 
y flwyddyn 1809, dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1832, ac urddwyd 
efigyflawn waith y weinidogaeth yn 1841. Er nad oedd yn meddu 
ar ryw lawer o ddawn ymadrodd, etto yr oedd ei bregethau bob amser yn 
synwyrol a chymeradwy iawn, ac yn dra effeithiol ac argyhoeddiadol. 
Yr oedd Mr. Jones yn hynod lafurus gyda phob rhan o waith yr Ar- 
glwydd, a cholled fawr oedd ei golli ef oddiar y maes yn nghanol ei 
ddyddiau a'i ddefnyddioldeb. Gorphenodd ei yrfa ddaearol Gorphenaf 
30ain, 1854, yn 45 mlwydd oed. 

Jones, Evan, oedd weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Bethania, a gen- 
edigol o ardal Llandyssul. Treuliodd bedair blynedd yn Athrofa 
Caerodor, o dan y diweddar Dr. Byland, yr hwn a ddywedai am 
dano, na fu neb erioed o dan ei ofal ef yn meddu cynneddfau cryfach 
nag E. Jones. Safai yn wastad yn flaenaf yn ei ddosbarth fel ysgolhaig 
a phregethwr. TJrddwyd ef yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn 
Aberteifi, Tachwedd 5, 1800. Gan ei fod yn feddiannol ar y fath ddon- 
iau ysplenydd fel pregethwr, cynnyddodd yr achos yn fawr iawn o dan ei 
ofal; ac ymledaenodd ei enw a'i barch trwy holl eglwysi y Bedyddwyr yn 
Nghymru. Yn wir, nid ystyrid yr un cyfarfod chwarterol na blynyddol 
yn gyflawn, os na byddai ef yno. Mor fawr yr ystyriai Christmas Evans 
ef fel pregethwr, fel y gwrthodai yn fynych bregethu ar ei ol. Ond, fel 
mae yn ofidus adrodd, ymdaenodd cwmwl du dros ei fywyd cyhoeddus. 



84 

Syrthiodd i arferion o anghymedroldeb, trwy yr hyn y collodd ei gytner- 
iad a i ddefnyddioldeb. Collodd ei le yn yr Eglwys fel gweinidog, a 
diarddelwyd ef o honi yn y flwyddyn 1810. Adferwyd ef drachefn a 
thrachefn i aelodaeth, ond nid i'w sefyllfa fel gweinidog. Symudodd 
wedi hyny i fyw yn agos i Eglwys Erw, sir Benfro, lle y bu farw, Rhagfyr 
10, 1819, yn 42 mlwydd oed. Cyfieithodd i'r Gymraeg draethawd 
rhagorol Abraham Booth ar Faddeuant Pechod; a chyfansoddodd draeth- 
awd bychan ei hun, ar "Fendithion Rhad, ac nid Prynedig ,, — hyny yw, 
na phrynodd Crist fendithion i'r eglwys; ond, yn hytrach, iddo brynu yr 
eglwys i fwynhau bendithion. 

Jones, Tsaac, ydoedd fab i wehydd, yn mhlwyf Llanychaiarn, Ue y 
ganwyd ef Mai 2, 1804. Derbyniodd ychydig hyfibrddiant yn ei efryd- 
ìaeth o'r Lladin gan ei dad, yr hwn oedd yn alluog i ddarllen yr iaith 
hòno er yn saith oed Wedi treulio ychydig amser mewn ysgol wledig 
ragorol yn agos i'w gartref, anfonwyd ef i Aberystwyth, i'r ysgol Bamad- 
egol yno, lle y daeth yn fuan i fod yn athraw cynnorthwyol; ac yn 1 828, 
yn brif athraw. Bu yn y swydd hòno hyd y flwyddyn 1834, pan y der- 
byniwyd ef i mewn i Goleg Llanbedr. Yno, bu ei lwyddiant yn fawr. 
Yn 1835, etholwyd ef yn Eìdon Hebrew Scholar; ordeiniwyd ef yn 
ddiacon yn 1836; ac yn offeiriad yn 1 837, pryd y derbyniodd y wobr 
gynnygiedig, gan Esgob Ty Ddewi, i*r efrydydd a ddangosai y wybodaeth 
helaethaf mewn duwinyddiaeth. Penodwyd ef i guradiaeth Llanfihangel- 
geneu'r-glyn, ac wedi hyny Bangor, yn nghymydogaeth Aberystwyth. 
Yn Chwefror, 1840, cafodd guradiaeth Llanedwen a Llanddaniel-fab, sir 
Fon, lle y parhaodd hyd ei farwolaeth i gyflawni ei swydd weinidogaethol 
gyda ffyddlondeb mawr. Cyhoeddodd Ramadeg Cymraeg ,yr hwn a argraff- 
wyd yn Aberystwyth, yn 1832, yn nghydag ail argrafliad o hono yn 
1841. Efe hefyd yw awdwr yr ail gyfrol o'r Geirlyfr Cymraeg, yr hwn 
a ddechreuwyd gan Owen Williams, Waunfawr. Ond fel cyfieithydd 
yr enwogodd Mr. Jones ei hunan fwyaf. Yn mysg eraill, cyfíeithodd 
Eiriadur Gurney, gyda Hawer o ychwanegiadau, yn 1835, yn ddwy gyfrol, 
ac Esboniad Adam Clarke ar y Testament Newydd, yr hwn a gyhoedd- 
wyd yn 1847, yn ddwy gyfrol fawr. Yr oedd hefyd wedi dechreu ar yr 
Hen Destaaient, ac wedi cyrhaedd cyn belled a Lefiticus iv. 12, pan y 
cymerwyd ef yn glaf o'i afiechyd olaf. Cymerodd ran hefyd yn nghyf- 
ieithiad Esboniad Mathew Henry, yr hwn a gyhoeddwyd gan y Parch. 
E. Grifiîths, Abertawe. Cyfieithodd tua hanner "Hanes ymdrechion 
cenadol Williams, ,, yr hwn a roddwy d i fyny ganddo, o herwydd i argraff- 
iad arall wneud ei ymddangosiad yr un pryd. Efe hefyd fu yn golygu yr 
ail argraffiad o Destament Cymraeg William Salisbury, yr hwn a 
gyhoeddid jn Nghaernarfbn yn 1850. Yr oedd yn awdwr amryw draeth- 



8ö 

odau eraill o lai pwysigrwydd. Bu farw Bhagfyr 2, 1850, a chladdwyd 
ef yn mynwent Llanidan. 

Jones, Jacob, oedd frodor o Dalybont, lle y ganwyd ef, Mai 29ain, 
1823. Pan yn 15 oed derbyniwyd ef i athrofa y Dr. Brown, Llynlleifiad, 
a chyn hir daeth yn gynnorthwywr i'w athraw. Yn 1842, astudiai yn 
Mhrifysgol Glasgow, a'r fl wyddyn ganlynol dychwelodd i Dalybont, a 
chychwynodd ysgol yno, yr hon a ddygodd yn mlaen gyda chryn lwydd- 
iant; ac yn fuan dechreuodd bregethu. Yn 1845 derbyniwyd ef i Athrofa 
Spring Hiil, ac yn 1851 urddwyd ef yn fugail yr Eglwys Gynnulleidfaol 
yn Meltsham, lle y treuliodd dros chwe' blynedd. Gadawodd Mr. Jones 
ddylanwad anghyffredin ar ei ol, ýn enwedig pan ystyriom ei arosiad byr 
yn y lle. Yr oedd yn weithiwr ffyddlon a di-ildio; cymerai ddyddordeb 
mawr mewn addysg, a gwnaeth lawer tuag at ei hyrwyddo yn y dref 
hòno. Yr oedd fel y gellid meddwl yn ysgolhaig rhagorol, a meddai ar 
fedf mawr i osod o flaen ei wrandawyr egluradaeth ysgrythyrol, yn y fath 
fodd, ag i beri gras ac adeiladaeth ysbrydol iddynt. Addysgydd ydoedd 
yn yr areithfa, ac addysgydd o'r radd uchaf ; a phorthai ei braidd âg 
ymborth gwirioneddol a sylweddol. Perchid ef braidd i eithafoedd gan 
bawb, a cherid ef yn anwyl gan y rhai a ymgyfeillachent âg ef. Yn 
1857, trwy appeliad y Parch. J. L. Poore, cenadwr yn Australia, tynwyd 
sylw Mr. Jones at ÿ drefedigaeth hòno; ac wedi ymgynghori, a chael 
caniatâd Pwyllgor Cymdeithas Genadol y Drefedigaeth, penderfynodd ar 
y lle hwnẃ fel maes ei lafur. Gadawodd ei ddeadell yn Melksham, a 
hyny er galar cyffredinol iddynt, a mordwyodd tua Sydney ar yr 20fed o 
örphenaf, 1857, yn y Gatherine Adamson, gyda dymuniadau goreu ei 
luaws cyfeillion hiraethlawn. Ond fel y mae yn ofldus adrodd, ni chyr- 
haeddodd mo'i le penodedig ! Hyrddiwyd y llong gyda rhuthr arswydus 
ar graig yn agos i'r porthladd y cyfeiriai ato; ac er pob ymdrech, aeth yn 
Uwyr ddrylliad arni. Er i ychydig o bersonau gael eu hachub yn y 
bywyd-fôd, nid oedd Mr. Jones o'u nifer^boddodd pan megys yn rhoddi 
eî droed ar faes ei lafur. Dygwyddodd hyn Hydref 24ain,' 1857. Tra- 
ddodwyd ei bregeth angladdol gan ei frawd a'i gyfaill, y Parch. T. E. 
Fuller, gweinidog y Bedyddwyr yn yr un dref ; a chodwyd cofeb iddo gan 
ei gyfeillion yn y capel y gweinidogaethai. 

Jones, Jenkin, ydoedd y cyntaf yn yr oesoedd diweddar a ddechreuodd 
gyhoeddi golygiadau Arminaidd yn swydd Ceredigion. Aelod ydoedd ar 
y cyntaf o'r Eglwys Annibynol yn Pantycreuddyn, yr hon oedd y pryd 
hyny dan ofal Mr. Lewis, Pencadair. Gan y gwelid ynddo gymhwysderau 
fr weinidogaeth, anfonwyd ef yn 1721 i'r athrofa yn Nghaerfyrddin. 
Wedi gorphen ei dymmor yn Nghaerfyrddin, dychwelodd i Geredigion, 



86 

ac yn fuan priododd foneddiges gyfoethog yno. Gan yr ymddangosai yn 
gogwyddo yn gryf at Arminiaeth, gwelai na byddai heddwch iddo yn 
eglwysi yr Annibynwyr; ac felly cododd addoldy ar ei ystad ei hun yn 
Llwynrhydowen, lle yr urddwyd ef ÿn weinidog, Ebrill, 1726. Mae yn 
ymddangos iddo gelu ei olygiadau am ryw dymmor, sef hyd y flwydd- 
yn 1729, pryd y pregethodd yn gyhoeddus o blaid Arminiaeth; ac efe, 
am rai blynyddau, oedd yr unig weinidog a wnai hyny. Gan ei fod yn 
ddyn hynod fwynaidd, yn bregethwr poblogaidd, ac yn berchen cyfoeth, 
ni fu yn hir cyn casglu yn nghyd gynnulleidfa fawr. Bu farw yn y 
flwyddyn 1742, a chafodd y boddlonrwydd cynhyny o weled chwech neu 
saith o weinidogion dylanwadol a'u cynnulleidfaoedd wedi eu dwyn i 
gofleidio a phroffesu ei ddaliadau. Dirywiodd y rhai hyny yn mhen 
ychydig flynyddau ar ol ei farw i Ariaeth. Credir yn gyffredin inai efe 
oedd awdwr traethodyn dienw a ymddangosodd yn 1729, o dan y teitl, 
Gyfrif cywir o'r Pechod Gwreiddiol, i'r hwn y gwnaed atebiad gan ei 
hen weinidog, a Christmas Samuel, Pantteg, yn dwyn y teitl, Y cyfrif 
cywiraf ór Pechod Gwreiddiol, (Gwel Nonconformity in Walee; Hanes 
Ymneilldiiaeth), #C. Cyhoeddodd hefyd Holwyddoreg, 108 tudal., yn 
1732. — Llyfryddiaeth y Cymry. 

Jones, John, oedd ail fab Edward Jones, Ysw., Nant Eos, a ganwyd 
ef yn y flwyddyn 1 634. Priododd Mary, merch Jasper Cornelius. Cafodd 
ei wneud yn Rag-ringyll y fyddin o wŷr traed, a godwyd yn sir Aberteifi 
i w&sanaethu Siarl i. Yr oedd efe yn un a fwriedid ei wobrwyo gan Siarl 
II. â'r urdd o Farchog y Dderwen Freiniol, ac yr oedd ei etifeddiaeth yn 
werth X800 y flwyddyn. Bu farw yn y flwyddyn 1666, a chladdwyd eí 
yn Egiwys Llanbadarn Fawr, lle gwelir cof-faen hardd iddo. Cynnrych- 
iolir y teulu yn y Rhingyll gan W. T. R. Powell, Ysw», diweddar A. S* 
dros sir Aberteifi. — Brython, Cyf. 1863. 

Jones, (Cadben), oedd fab Llwynrhys, sef yr un y cyfeirir ato yn 
nhudalen 88. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth gyda'i frawd, Samuel 
Jones, yr hwn a gadwai ysgol o gryn fri yn Richmond, yn agos i Lundain. 
Ymunodd David Jones â'r fyddin, lle yn fuan y cyrhaeddodd gryn 
enwogrwydd : gwnaed ef yn gadben yr Amddiffynlu yn amser Gwilym 
iii., a chymerodd ran yn mrwydr y "Boyne." Teithiodd a threuliodd 
lawer o amser ar y Cyfandir, a gwnaeth ddefnydd o'r cyfleusdra i ddyfod 
yn hyddysg yn y Ffrengaeg ac ieithoedd eraill. Yr oedd y Cadben Jones 
yn ysgolhaig rhagorol, fel y gellid casglu oddiwrth y llyfrau canlynol a 
ysgrifenwyd ganddo: — l. Secret History o/ White HalL London, 1697, 
2 yol. in one, 8vo. Continuation from 1688 to 1696, 8vo., 1697. New 
and best Edition of this Scandalous History, 1717, 2 vols. 12mo. — 2. 



87 

Usury, 1692, 4to.— 3. History oj the Turhs, 1655—1701, 2 vols. 8vo.— 
4. Lije oj King James n., 1702, 8vo. — 5. History ojthe House oj Brum- 
wick Lunenburgh, 1715, 8vo. — 6. History oj William iil, 1702. — -7. TJie 
Wars and Causes oj them hetween England and France, from William the 
First to William the Tliird, with a Treatise of the Salique Law : by D. 
J. — 8. A Oom/plete History oj Europe, from the year 1 600 to the year 
1714, 18 vols. 8vo., 1705 — 20. Mae copi o hwn yn yr Ámgueddfa 
Brydeinig. Yr ydym yn rhodddi y rhestr hon ar awdurdod Mr. Halkett, 
prif lyfrgellydd Edinburgh, a T. Jones, Ysw., Chetham Library, Man- 
^îhester. Cyfieithodd hefyd Pezrorìs Anìiquitie8 o'r Ffrengaeg, a gwnaeth 
rai ychwanegiadau ato. Oddiwrtho ef y cafodd teulu presenol y Glyn- 
ùchaf, gerllaw Llangeitho, y cyfenw Davies. Cymerodd plant y cadben 
enw eu tad yn gyfenw, yn ol dull mwyaf cyffredin y Cymry; ond o hyny 
allan cadwodd y gangen hòno o'r teulu at y cyfenw Davies. Mae careg 
fedd Peter Davies, ẃyr y cadben, a hendaid Mr. Davies presenol o'r Glyn- 
uchaf, i'w gweled yn awr yn mynwent Llanbadam-odwyn, ar y tu de- 
ddwyreiniol i'r gangell, ond cymeryd y drafferth i dirio y ddaear sydd 
wedi tyfu drosti. Yr oedd y Peter Davies hwn yn briod â chwaer 
Bowlands, Llangeitho. Bu farw pan oddicartref, ger Henfibrdd; a dyg- 
wyd ei goríf adref iV gladdu. 

" Jon es, John, gweinidog yr Undodiaid yn A berdar. Ganwyd ef yn Mhant- 
lluest, pwyf Llanarth, Gorph. 20, 1802. Wedi bod am dymmor gyda'iddau 
frawd eraill yn ysgol Castell-hywel, aeth yn 1823 i'r Coleg yn Nghaerfyrdd- 
in, lle yr oedd y Parchn. D. Peter a D. L. Jones, Clynadda, yn athrawon. 
Ymadawodd oddiyno yn 1827, a'r flwyddyn ganlynol, cafodd alwad i* 
ymsefydlu yn weinidog yn St. Clears; ond o herwydd rhyw reswm neu 
gilydd, ni dderbyniodd y cynnygiad. Gwrthododd gyffelyb alwad wedi 
hyny oddiwrth Eglwys Undodaidd Pantydefaid, Llandyssul. Yn 
Hydref, 1831, cawn ef mewn cysylltiad â'r Parch, Bees Davies, Capel- 
ygroes, yn agor ysgol yn y Cribyn, ger Llanwnen, "lle y gwnai o'r ysgol, 
a phob peth at eu gilydd, dair a dimai y dydd, ond fod yno lawer na 
thalasant am eu hysgol hyd heddyw," Chwefror, 1 833, aeth yn weinidog 
i Hen Dŷ Cwrdd, Heolyfelin, Aberdar, ac yn mis Gorphenaf, agorodd 
ysgol ramadegol yn Heolyfelin; ac yma y bu yn llafurio yn ddiwyd hyd 
ddiwedd ei oes, sef cyfnod o 31 mlynedd. "Dyn dewr, di-ildio, ymofyn- 
gar, cydwybodol, rhydd oddiwrth bob ffalsedd a dauwynebedd, trais a 
gormes; un yn dymuno ac yn ymddwyn yn well na'r cyffredinolrwydd o 
blant dynion oedd Mr. Jones. Ceid mwy o swn mewn llawer teml/ 
mwy o hyawdledd, mwy o ehediadau dychymygol a barddonol; ond jv 
oedd rhyw afael dỳn gan ei lais gwrol, ei ymresymiadau manwl, eí 
ddywediadau miniog, a'i edrychiad gonest, craff, a*i ffurf gawraidd, ar 



88 

ddosbarth Uuosog. Er fod ei olwg yn dra llewaidd, a'i iaith yn hytrach 
yn arw a sarug, etto, meddai ar galon dyner a pharod i dosturio. Yr 
oedd yn hynod benderfynol ei feddwl, ac nis gallai y gwrthwynebiad 
Uymaf ysgogi dim arno, na'i ddigaloni yn y graddau lleiaf. Cariai allan 
ei gynlluniau, a dilynai ei amcanion pe yn hollol wrtho ei hun; îe, pe 
buasai pob llaw wedi ei chodi i'w erbyn. Nid oedd ef yn gaethwas 
i ffurfîau, defodau, a dulliau yr oes o feddwl; ond mynai farnu pob peth 
yn annibynol ar bawb a phobpeth arall." Cyrhaeddodd gryn wybodaeth 
o'r Groeg, y Lladin, a'r Gymraeg, yn nghyda seryddiaeth ac athroniaeth 
naturiol; a darlithiai yn fynych ar y canghenau olaf yn nghylchoedd 
Aberdar a Merthyr. Ac ystyried ei fanteision a'i gyfleusderau, ysgrifen-* 
odd lawer, a hyny yn dda. Wele restr o'i weithiau: — 1. Edifeirwch 
gwely angeu, 1836; 2. Y llyfr cyntaf i blant yr Ysgol Sul, 1839; 
3. Cyfieithiad o lythyr Cogan ar y Drindod; 4. Galwad ar yr ieuenc- 
tyd % droi at Dduw y 1840; 5. Pregeth ar y pechod yn erbyn yr 
Y8Òryd Glan, 1846; 6. Crwth Dyffryn Clettwr, 1848, (sef gwaith ei 
frawd); 7. Traethawd ar y Sabbath; 8. Casgliad o Salmau a HymnaUy 
1857, sef pigion o Iolo, Thomas Evans, Josiah Rees, a rhai hymnau 
newyddion o waith ei frawd, yn nghyda dwy o leiaf c/i waith ei hun. 
Efe oedd un o'r rhai blaenaf i feddwl am gyhoeddiad misol at wasanaeth 
yr TJndodiaid, ac awgrymodd hyny mor gynnar a mis Medi, 1835; er na 
ddaeth y rhifyn cyntaf o'r cyfry w, sef Yr Ymofynydd, allan am ddeu- 
ddeng mlynedd wedi hyny. Yr oedd efe yn un o ohebwyr penaf yr hen 
gyfresÌ Cyhoeddwyd chwech o'i bregethau yn ddiwedẁr— rhai a ysgrif- 
enasid pan oedd yr awdwr yn ieuanc, a "dangosant feddwl craffus, 
galluog, dan ddysgyblaeth, yn gweithio aljan ei syniadau yn oleu, yn 
gystal a theimladau gwir Gristionogol." 

Jones, John, Llwynrhys, Llanbadarn-odwyn. Mae.y Ile hwn yn 
hynod ar gyfrif mai ynddo y dechreuwyd yr achos crefyddol gan yr 
Anghydffurfwyr yn y gymydogaeth hon, a hyny yn foreu iawn; ac oddi- 
yma yr hanodd Eglwysi Llwynpiod, Blaenpenal, Abermeurig, Cilgwyn, 
&c. Cedwid cyfarfodydd yn y tŷ hwn mor foreu, tybir, a'r flwyddyn 
1664; a phregethai y Parch. John Jones yn ddirgelaidd i'r cyfryw o'i 
gymydogion a gyrchent yno i wrando arno. Ond y cyfryw ydoedd en- 
bydrwydd yr amserau, fel yr oedd o dan erledigaeth barhaus o'r achos; a 
bu o flaen brawdlysoedd, a dirwy wyd ef amryw weithiau. Yr oedd teulu 
Llwynrhys yn dra chrefyddol, ac yn enwog am eu duwioldeb a'u defhydd- 
ioldeb— yn gynnwysedig o ddeuddeg o blant, wyth o ferched a phedwar 
o feibion. Yr oedd un o honynt yn Llundain yn ngwasanaeth y brenin, 
ac ymddengys ei fod yn sefyll yn uchel yn ffafr ei feistr, yr hwn un tro a 
ofynodd iddo, a oedd rhyw gymwynas a ewyllysiai efe gael. Atebodd 



89 

yntau fod ganddo dad yn Nghymru, yn hen wr, ac yn weinidog Anghyd- 
ffurfiol, ac y byddai yn ddiolchgar iawn iV fawrhydi am ganiatâd iddo 
bregethu. Caniatâodd y brenin hyny, ar yr ammod iddo beidio pregethu 
yn un lle ond yn ei dŷ ei hun; a rhoddodd iddo freinlen i'w throsglwyddo 
iV dad iV awdurdodi i hyny. Yr oedd y mab erbyn hyn wedi treulio 
blynyddau meithion oddicartref, a'i rieni heb wybod dim o'i hanes. Un 
diwrnod, gwelent swyddog yn ei ddillad milwraidd (yr hwn nid oedd 
amgen na'u mab eu hunain) yn cyfeirio ei gamrau tua'r tŷ, ac nid oedd 
ammheuaeth yn eu meddwl nad dyfod i ddal y gweinidog yr ydoedd. 
Ar hyn, rhedodd yr hen wr i'r llofft i ymguddio, tra yr âi yr hen wraig 
i'r drws i gyfarfod y gwr dyeithr, yr hwn a ofynai iddi am Mr. Jones, gan 
ychwanegu, fod y rhaid iddo gael ei weled, am fod ganddo genadwri 
oddiwrth y brenin. Dychrynodd y wraig gymaint wrth glywed hyn, fel 
y syrthiodd i lawr mewn llewyg. Ymaflodd yntau ynddi iV chodi. 
Gwelai y gwr o'r llofft hyn yn cymeryd lle, a chan gredu fod y swyddog 
yn ei lladd, gwaeddodd allan, "Peidiwch a lladd yr hen wraig, yr wyf fi 
yn rhoi fy hun i fyny." Ar hyn eglurodd y gwr dyeithr pwy ydoedd, a 
pheth oedd ei genadwri; ac fel y gallesid dysgwyl, mawr oedd llawenydd 
a syndod y ddau pan ddeallasant nad oedd y swyddog yn neb amgen na'u 
mab hir-golledig. Chwanegwyd y llawenydd hwn drachefn pan welsant 
y freinlen yn caniatâu rhyddid addoliad yn eu tŷ. Mewn canlyniad i 
hyn, yn gymaint ag nad oedd y tŷ yn ddigon mawr a chyfleus, adeilad- 
wyd ystafell groes o'r tu cefn iddo, lle y cynnelid yr addoliad; a pharha- 
odd i fod yn lle addoliad ar ol y cofrestriad am dros 60 mlynedd. Y mae'r 
tŷ h wn yn sefyll etto, ac mae y cwpbwrdd yn awr yn ei dalcen lle yr oedd 
ffenestr y pulpud. Yr " eglwys yn y tŷ" hwn oedd mam eglwysi boreuaf 
sir Aberteifi, y rhai a grybwyllwyd yn barod. 

Jones, Lewis, oedd frodor o'r sir hon, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 
1701. Teimlodd argraffiadau crefyddol pan yn ieuanc iawn, a dechreuodd 
bregethu pan nad oedd ond deunaw mlwydd oed, sef un mlynedd ar 
bymtheg o flaen Howell Harries. Aeth i Athrofa Caerfyrddin, er 
cymhwyso ei hunan yn mheílach at y gwaith; ac ar ei ymadawiad oddi- 
yno, dewiswyd ef yn fagail ar hen Eglwys Llanedi, sir Gaerfyrddin. 
Symudodd oddiyno wedi hyny i'Benybont, a bu llwyddiant mawr ar ei 
weinidogaeth yn y Ue hwnw. "Yr oedd ei berson, ei ymddangosiad, ei 
lais, ei ddull, a'i ddwysder, oll yn ffafriol iddo er dylanwadu ar feddwl ei 
wrandawyr. Yr oedd y boneddigion coethedig, a'r werin anwybodus, yn 
cael eu hennill iV garu yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Nid oedd 
mesur ar ei ymdrechion a'i lafur. Aberthai esmwythder, cysur, amser, 
ac iechyd, er ennill eneidiau at Waredwr. Pregethai fynychaf dair 
gwaith bob Sabbath. Cynnaliai gyfarfod bob prydnawn dydd Sadwrn 



90 

yn hen gapel Penybont. Elai trwy y farchnad a'i ŵn du am dano; ac yr 

oedd y fath swyn gan ei fynediad, fel y gadawai gwýr y dref eu masnach- 

dai,. a gwŷr y wlad eu hýd a'u hanifeiliaid, er myned i'r capel i wrando 

Lewis Jones; ac âi amry w o honynt adref wedi eu symud o farwolaeth 

i fywyd. Nid oedd pregeth nos Sadwrn, a thair pregeth ar y Sabbath 

canlynol, yn ddigon o lafur iddo ef. Tra yr oedd ei Geidwad yn cael eì 

wrthod, enw Duw yn cael ei gablu, ac eneidiau dynion yn myned i 

ddinystr, nid oedd amser na thuedd gorphwys yn Lewis Jones. Elai 

allan ar nosweithiau yr wythnos i'r holl wlad o amgylch Penybont a'r 

Bettws; ac am lawer cymydogaeth gallesid dywedyd, * IV rhai a orwedd- 

ent mewn tywyllwch a chysgod angeu, y cyfododd goleuni mawr.' " Ym- 

welai yn fynych â'r Drefnewydd, Llanddiddan, Llanharan, Maendy, a'r 

Bontfaen; a bu yn foddion i gychwyn eglwysi blodeuog yn aroryw o'r 

lleoedd hyn. Yr oedd Mr. Jones yn dduwinydd rhagorol, a chymerai 

lawer o drafferth i egwyddori ei wrandawyr yn mhynciau sylfaenol y 

grefydd Gristionogol. I'r dyben yma, cynnaliai gyfarfod wythnosol i 

esbonio rhyw gyfran o'r Beibl iddynt; a'r Sabbath canlynol, holai ei 

wrandawyr yn y pethau a fuont dan sylw. Deallai yr Hebraeg yn dda, 

a siaradai hi bron mor rwydd a'r Iuddewon eu hunain. Cadwai hefyd 
ysgol ieithyddol, a bu amryw ddynion o enwogrwydd o dan ei addysg- 

iaeth. Yr oedd Mr. Jones yn nodedig rymus mewn gweddi; ac adroddir 

llawer o hanesion hynod o lwyddiant ei erfyniadau, y rhai ni oddef ein 

terfynau, ar hyn o bryd, eu croniclo. Am y tair blynedd olaf o'i oes, bu 

Mr. Jones yn gweinidogaethu yn Rhosan, sir Henffordd, lle y bu farw, 

yn y flwyddyn 1772, ar ol bod yn pregethu am droshanner can' mlynedd. 

Merch iddo ef, o'i wraig gyntaf, ydoedd priod Mr. Jardine, athraw Coleg 

Abergafeni, wedi hyny Aberhonddu. 

Jones, Methusalem, a anwyd yn Pantygwenith, plwyf Llandyfríog, yn 
mis Awst, 1769. Ni fwynhaodd nemawr fanteision addysgawl yn ei ieu- 
enctyd, ond daeth yn alluog i ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg a Saesonaeg 
yn lled dda. Pan tuag unarddeg oed, collodd ei dad; ond gofalwyd am 
dano yn dra thyner gan fodiyb gyfoethog a chrefyddol iddo, sef Mrs. Parry, 
Llwyncadfor, yr hon a ddangosodd lawer o garedigrwydd iddo, ac a'i rhodd- 
odd am ychydig amser yn yr ysgol. Pan yn 22ain oed, ymunodd â'r Eglwys 
Gynnulleidfaol yn Saron, a hyny mewn canlyniad i bregeth o eiddo y 
Parch. D. Peter, Caerfyrddin, ar y perygl o ddiffodd yr Ysbryd, yr hon a 
effeithiodd yn fawr arno. Yn fuan ar ol hyn, cymhellwyd ef i bregethu; 
ac nid hir y bu cyn y cafwyd profion boddhaol ynddo mai " Uestr ethol- 
edig i Dduw " ydoedd. Ar annogaeth yr eglwysi, elai yn fisol am rai 
blynyddau i Grugybar, Ffaldybrenin, a'r Mynyddbach; a bu yn lled 
lwyddiannus yn y Ueoedd byny. Pan yn 25 oed, priododd â Jane, merch 



91 

Öafydd a Maiy Evans, Felingernos, Ceredigion; a buont fyw gyda'u 
gilydd dros 44 o flynyddoedd. Bu iddynt wyth o blant, dau o ba rai a 
aethant i'r weinidogaeth — un yn offeiriad, a'r llall yn weinidog Cynnull- 
eidfaol. Yn y flwyddyn 1800, derbyniodd Mr. Jones alwad gan 
Eglwysi Llangynwyd a Chymar-glyn-corwg, Morganwg, ac urddwyd ef 
yh fugail arnynt; a Uafuriodd yn eu mysg hyd y flwyddyn 1808, pryd y 
symudodd i Bethesda, Merthyr Tydfil. Nid oedd rhifedi yr Eglwys yno 
ond bychan iawn ar y pryd hwnw, sef tua 90; ond cyn ei farw, rhifent 
yn agos i 500. Efe hefyd a blanodd yr eglwysi yn Rhymni, Dowlais, 
Troedyrhiw, a Chefhcoedycymer, lle yn awr mae cynnulleidfaoedd lluosog 
a gweinidogion sefydlog. Yn ystod y 39ain o flynyddau ei weinidogaeth 
— 31 o ba rai a dreuliodd yn Bethesda — tybir iddo dderbyn i gymundeb 
eglwysig yn agos i dair mil, yr hyn a brawf mor llafurus a llwyddiannus 
y treuliodd ei yrfa weinidogaethol. O ran ei farn, yr oedd yn dra Chalfin- 
aidd. Hoff destunau ei bregethau fyddent cwymp dyn, etholedigaeth 
bersonol a diammodol, parhad mewn graa, gwynfyd y nef, &c. # Meddai 
ddawn arbenig mewn gweddi, yr hyn, gyda'i ddull difrif-ddwys, a gai 
effaith fawr ar ei wrandawyr. Hunodd yn yr Iesu, Ionawr 15, 1839, yn 
71 mlwydd oed. Ei eiriau diweddaf oeddynt, "Arglwydd Iesu, derbyn 
fy ysbryd." Claddwyd ef y Sadwrn canlynol yn mynwent Bethesda, yn 
ngwydd tyrfa fawr o gyfeillion galarus. 

Jones, Michael, a anwyd mewn lle o*r enw "Yr Aifft," plwyf Hen 
Fynyw. Amaethwyr oedd ei rieni, a bu iddynt bump o feibion ac un 
ferch, y rhai a ddygasant i fyny gyda gofal mawr am eu haddysgiad cref- 
yddol. Yn 1807, ymunodd Michael â'r Eglwys yn y Neuaddlwyd; ac yn 
fuan, annogwyd ef gan ei weinidog, yr hybarch Dr. Phillips, i ymroddi i 
bregethu. Er cymhwyso ei hunan at y gorchwyl hwn, rhoddodd ei hunan 
o dan addysg yr hyglod Davies, Castell-hy wel, gyda'r hwn y treuliodd ran 
o dair blynedd. Yn 1810, derbyniwyd ef yn fyfyriwr i Athrofa y 
Gogledd, yr hon a gynnelid y pryd hwnw yn Ngwrecsam, o dan lywydd- 
ìaeth Dr. Jenkin Lewis, ac wedi hyny o dan y Dr. George Lewis. Yn y 
flwyddyn 1814, urddwyd eí yn Llanuwchllyn, ac yn y lle hwnw y treul- 
îodd 28 o flynyddoedd. Yn fuan ar ol ei sefydliad yn Llanuwchllyn, 
aflonyddwyd ar heddwch yr eglwys, mewn canlyniad i waith rhai o'r 
aelodau yn dal syniadau o Uwch-Galfiniaeth. Yr oedd yn ddadl boeth y 
pryd hwn rhwng yr Uwch-Galfiniaid a'r rhai hyny a ddalient olygiadau 
mwy cymedrol, megys y Dr. Williams o Rotherham, ac eraill; a daeth 
Mr. Jones allan yn ei holl nerth fel amddiffynydd y blaid olaf. Ond 
llwyddodd y blaid flaenaf yn ei eglwys i daflu capel Llanuwchllyn i'r 
Canghell-lys, a gorfu iddo yntau a'i ganlynwyr fyned i addoli mewn adeilad 
arall. Modd bynag, ni pharhaodd yr ymrwygiad yn hir, a chafodd yntau 



92 

aìl feddiant o'i bulpud drachefn. Yn 1841, symudodd i'r Bala, a phenod- 
wyd ef i arolygu y Coleg newydd a sefydlwyd yno; a pharhaodd yn y 
Bwydd hòno am ddeuddeng mlynedd, sef hyd ei farwolaeth. Yn ystod j 
tymmor hwnw, bú 89 ò wŷr ieuainc o dan ei ofal; a chyrhaeddodd amry w 
o honynt enwogrwydd mawr yn y weinidogaeth. Yn ychwanegol at ei 
ddyledswyddau fel athraw y Coleg, yr oedd ganddo ofal un o'r ysgolion 
rhad hyny a sefydlasid yn Ngwÿnedd, gan ymddiriedolwyr y Dr. Daniel 
\Villiams, yn nghyda phedair neu bump o eglwysi bychain i ofalu am 
danynt. Fel y gellir casglu, yr oedd yn ẃeithiwr maẅr. Codai yn 
wastad rhwng 5 a 6 o'r gloch y boreu, ac únwaith neu ddwy yn yr wyth 
nos rhwng 1 a 2. Yr oedd Mr. Jones yn ddyn o nerth anianyddol 
anghyffredin; ac yn wir pe yn amgen, nis gallasai byth ymgynnal o dan y 
llafur gorfawr yr aeth trwyddo. O ran ffurfiad ei feddwl, gwahaniaethai 
hefyd oddiwrth ei gyd-ddynion Meddyliai yn wahanol i bawb, bron, ar 
bob pwnc; ac wedi unwaith y gẅnelai ei feddwl i fyny, nid oedd dim a 
ysgogaì y graddau lleiaf arno. "Bu trẁy ei holl yrfa mor ddiwyrni a'r 
haul." Gwr am ffeithiau a rhifau oedd efe. Nid oedd dim barddoniaeth 
yn n'glŷn â'i gyfansoddiad, a chredai nad oedd nemaẅr o feirdd yn feddyl- 
wyr dyfnion. Yr oedd ei benderfynoldeb, weithiau, yn gosod arno agwedd 
erwin a sarug. Ei annibyniaeth, ei hynodrwydd, ei ymorphwysiad ar 
ffeithiau a gwirioneddau dysyml, a'i gwnaent ef i ymddangos yn sychlyd 
yn ei weinidogaeth gyhoeddus. Yr oedd ganddo dalent neillduol i gyfranu 
addysg; ac fel holwr pwnc mewn ysgol, yr oedd bron yn ddiail. Bu farw 
y "gẅr cadarn > ' hwn, Hydref 27ain, 1853, yn 68 mlwydd oèd; a chladd- 
wyd ef yn mynwent capel Ebenezer, Llanuwchllýn. Yr oedd tua 30 o 
weinidogion perthynol i'r gwahanol enwadau yn ei angladd. Dilynwyd 
ef yn arolygiaeth y Coleg gan ei feb, y Parch. M. D. Jones, yr hwn sydd 
yno hyd heddyw. "Safai Mr. Jones," fel y sylwa ün, "wrthó ei hun 
fel pẅgethwr yn gystal a phethau eiuill. Tueddai ei lais i'r cras a*r 
aflafar, a llefarai yn yr un dôn agos drwy gydol y bregeth. Sefydlai ei 
olygon ar yr unman drwy yr holl amser, tua dwy lath uwchlaw penau y 
bobl, os na byddai oriel; neu os byddai, tua'r man y saif yr awrlais yn 
gyffredin Ni allai droi eì ben tua'r dde na'r aswy, nac edrych am nemawr 
amser yn ngwyneb neb yn y gynnulleidfa. Nid oedd ei droed o un gwas- 
anaeth iddo, ond i sefyll; na*i law, ond i droi dail y llyfr. Nid oedd dim yn 
ffugrol, dychymygol, na rhamantus yn ei bregethau; ond ymffrydient yn 
wirioneddau ac yn ffeithiau diymwad ac anwrthwynebadwy, fel y llifeiriant 
dìattal, a'u hamcan yn eglur i bawb. Gallesid eu hysgrifenù air yn ngair 
fel y traddodid hwynt, a'u gyru i'r wasg heb unrhyw welliant, yr hyn ni 
ellir wneud â'r rhan fwyaf o bregethau. Yr oedd ei bregethau yn 
arddangosiad cy wir o amcanion pregethu yr efengyl. M — Tr A nnibynwr, 
Mehefin a Gorphenaf, 1857* 



93 

Jones, Rees, awdwr Crwth Dyffryn Clettwr, a anwyd yn Nhalygareg, 
yn mhlwyf Llanarth, ar yr 8fed o Hydref, 1797. Ei dad ydoedd Dafydd 
«Jones o Glettwr, ac efe oedd ail fab ei rienL Bu farw ei dad pan oedd 
Rees yn ddeuddeg oed, a'r pryd hyny yr oedd yn yr ysgol gyda y Parch. 
David Davies, Llwynrhydowen — un o'r Lladinwyr a'r Groegwyr goreu 
yn ei ddydd, ac un y mae ei enw yn barchus hyd heddyw trwy y Dywysog- 
aeth. Pan yn bymtheg oed, tynwyd ef o'r ysgol; ond yr oedd yn yr 
oedran anaddfed hwnw wedi cyrhaedd gryn wybodaeth o'r ieithoedd 
clasurol, Dechreuodd ei awen ddadblygu ei hun pan oedd yn bur ieuanc, 
ac mae amryw o*i ganiadau boreuol ar gael ar "lafar gwlad " yn ei hen 
gymydoffaeth. Ar yr 22ain o Awst, 1817, sef pan yn brin ugain oed. 
^oáod! Mar 7) „n* ferch John a Jane Davies o N^tyrymenyn, ^ 
Llandyssul; ond bu farw hi yn mhen naw mlynedd ar ol yr undeb, gan 
adael ar ei hol bedwar o blant. Yn fuan ar ol priodi, ymunodd y bardd 
âg Eglwys Pantydefaid, a pharhaodd yn aelod ífyddlon yno hyd ei 
farwolaeth. Yr oedd yn hynod selog o blaid yr hyn a ystyriai yn wirion- 
edd, ac ysgrifenodd lawer i Seren Gomer ar bynciau dadleuol y dydd. 
Cymerodd ran jn y ddadl boeth a gymerodd le yn y cyhoeddiad hwnw, 
ar y "Pechod Gwreiddiol," a "Bodoldeb y Diafol." Ysgrifenai yn 
gyffredin dan y ffhgenw Amnon. Yn y flwyddyn 1828, priododd y bardd 
ei ail wraig, sef Martha Gough o Ffynnon Oer; ond ni bu iddo yr un 
plentyn o'r undeb hwn. Wedi blynyddau o nychdod blin, ymadawodd 
Rees Jones â'r fuchedd hon, ar y 15fed o Chwefror, 1844, yn 46 oed. 
Claddwyd ef yn mynwent Pantydefaid. Casglwyd yn nghyd ei waith 
barddonol gan ei frawd, y Parch. John Jones, gweinidog hen dý cwrdd 
Undodaidd, Aberdar; a chyhoeddwyd hwy yn y flwyddyn 1848, dan y 
teitl o Crwth Dyffryn Clettwr. Mae ynddo amryw ddarnau ag sydd yn 
profi tuhwnt i bob ammheuaeth fod yr awdwr yn berchen awen o'r iawn 
ryw; ac mae ynddo rai caniadau difyrus a ffraeth neillduol. Yn mysg ei 
" Englynion i'r Gauaf," ceir y rhai canlynol:— 

U A gweddiâ, lle'r oedd gwỳdd îr,— ac wyneb 
Y gweunydd yn sychdir; 
Un olwg hardd iawn welir, 
Gwydr yn toi godre ein tir. 

Daw blin wynt gerwin garwach— i ruo, 
A rhewi'n galetach; 
Y gád* fwyn red i'r brwynach, -* Ysgyfarnog. 

A dyn i ben ei dân bach. 

Yr eira dodda mewn deuddydd,— yr iâ 
A red yn afonydd; 
Ei ddirfawr oerfa dderfydd, 
Ac yn y fan egin fydd." 

N 



94 

Etto, i'r " Meddwyn "— 

"Cofla, ddifrodwr cyfoetb, — anfuddiol 
It' feddwi fel annoeth; 
Cofla, yn ail, y cefn noeth, 
Gwely drain, a gwyl dranoeth." 

Yr oedd Rees Jones, heblaw ei fod yn fardd lled wych, yn gerddor da, ac 
yn deall rheolau canu. Gallai chwareu dau neu dri o offer cerdd yn lled 
gelfyddgar, ac felly difyrodd lawer cyfaill â'i gân a'i grwth. Trigai y 
rhan olaf o'i oes yn Pwllffein, Llandyssul; ac wrth enw y lle hwnw yr 
adnabyddir ef yn fwyaf cyffredin. 

Jones, Thomas, gwr ag y bydd ei enw byth mewn parchus goffadwr- 
iaeth mewn cysylltiad â ffurfiad y Feibl Gymdeithas, a anwyd ar yr 2fed 
o Ebrill, 1752, mewn amaethdy yn agos i'r Hafod, tua 12 milldir o Aber 
ystwyth. Amaethwr bychan oedd ei dad, ac o ochr ei fam yr oedd yn 
hanu o deulu Seisnig. Bu ganddynt saith ,0 blant, y rhai fuont oll feirw 
yn ieuainc, oddigerbh gwrthddrych y cofiant hwn, ac un mab arall a fa 
am dymmor yn beriglor Donnington, sir Gaerefrog. Yr oedd ei serch ai 
Gymru a Chymry, yn nodwedd arbenig yn ei gymeriad; ac mewn llythyr 
at Mr. Charles, yn y flwyddyn 1796, o Creaton, dywed, "Cymro o'r 
iawn hjl wyf fi, a gwir garwr ei wlad; dymunwn fyw a marw ynddi, ac 
anhawdd i mi ddywedyd • weithiau yn y peth hyn, 'Ewyllys y Nefa 
wneler.*" Y mae Ilei feddwl fod Mr. Jones wedi cael ei "santeiddio 
megys o'r groth," a'i fod yn meddu ar dduwioldeb amlwg er yn foreu 
iawn. Pan yn dairarddeg oed, anfonwyd ef i ysgol Ystradmeurig, o dan 
ofal jrr hyglod Edward Richard, lle yr arosodd naw mlynedd, hyd oni 
ordeiniwyd ef. Yn ystod ei arosiad yno, daeth y Parch. Daniel Rowlands, 
Llangeitho i'r gymydogaeth i bregethu, a chafodd dull hynod y dyn 
hwnw yn pregethu argraff barhaol ar ei feddwl. Y guradiaeth ar ba un 
yr urddwyd Mr. Jones ydoedd Eglwys Fach a Llangynfelyn, yn agos i 
Aberystwyth, a bu yno yn gweinidogaethu o'r flwyddyn 1774 i 1779. 
Symudodd oddiyno i Leintwardine, yn sir Henffordd; ac oddiyno drachefh 
i Lognor, yn sir Amwythig. Ni bu rhwng y ddau le ond tua dwy 
flynedd. Ymddengys nad oedd ei gyflog yn y lle olaf yma ond <£40 y 
flwyddyn, er fod ganddo bedair Eglwys o dan ei ofal — tair o ba rai a 
wasanaethai bob Sabbath. Felly, ymadawodd am Groesosẁallt yn 
Gorphenaf, 1781. Ond bu ei ddull didderbynwyneb o bregethu yno yn 
achos tramgwydd i ryw ddosbarth o ddynion, fel y bu gorfod arno roddi y 
lle i fyny yn mhen tua chwe' mis. Aeth oddiyno i Loppington, yn agos 
i "Wem, lle jr arosodd dair blynedd. Ar gynnygiad yr enwog Romaine, ym- 
gymerodd Mr. Jones â churadiaeth Creaton, ac wrth enw y lle hwnw mae 
ei enw^wedi dyfod mor adnabyddus. Dechreuodd ar ei weinidogaeth Medi 



95 

10, 1785, abuynohyd y flwyddyn 1833 —48 mlynedd. Curad fu yn ystod 
yr amser maith yna, oddigerth y pum' mlynedd olaf, pryd y gwnaed ef yn 
beriglor y plwyf. Bu ei weinidogaeth yn hynod o fendithiol yn Creaton, 
a chymerodd diwygiadau grymus le yno o dro i dro. Cymaint oedd ei 
boblogrwydd fel pregethwr, fel y cyrchai dynion o'r holl wlad amgylch- 
ynol i wrando arno; a dywedir y byddai rhai o bymtheg o wahanol 
blwyfydd, ac weithiau o ugain, yn ymgynnull yno bob Sabbath. Byddai 
hefyd rai o brif enwogion yr Eglwys yn talu ymweliad â Creaton, ac yn 
pregethu yno, megys Newton, Scott, Romaine, Venn, Robinson, ac eraill. 
Sefydlwyd Ysgol Sabbathol yno gan Mr. Jones, yn y fl wyddyn. 1 789, yr 
hon oedd y gyntaf a sefydlwyd yn sir Northampton, abuo fawr fendith 
i'r ardal. Yn Ngorphenaf, 1 789, aeth Mr. Jones ar ymweliad â Chymru, 
er mwyn cryíhau ei iechyd; a thra yno, effeithiwyd yn ddwys ar ei 
feddwl wrth glywed y cwynion parhaus gan ei gydwladwyr am brinder 
Beiblau, fel y penderfynodd gynllunio rhyw foddion er diwallu eu hanghen» 
ion. Mewn Uythyr at Mr. Charles, â'r hwn y daeth i gydnabyddiaeth 
tra yn y Dywysogaeth, ysgrifenai fel y canlyn : — u Mae y bobl yn marw 
o eisieu gwybodaeth. Ni jddichon yr Indiaid deillion fod mewn mwy o 
angen am addysg na phobl y wlad hon. Yr wyf yn gwybod hyn, canys 
ymddyddenais â llawer o honynt ; ac mae yn boen i mi fy mod heb draeth- 
odau i'w rhanu yn eu plith." Y canlyniad o hyn fu sefydlu y Feibl 
Gymdeithns. Yn y flwyddyn 1810, cafodd guradiaeth Spratton, yn 
ychwanegol at Creaton, a gwasanaethodd yno am ddeunaw mlynedd. 
Cynnygiwyd hefyd iddo fywoliaeth Eglwysig yn sir Ddinbych, ac yroedd 
ei awydd yntau yn fawr i wasanaethu ei gydgenedl; ond ar geisiadau taer 
ei noddwyr yn Lloegr, ni chymerodd hi. Bu farw y gwr enwog a defhydd- 
iol hwn, ar ol cystudd byr o dri diwrnod, lonawr 7, 1 845, yn 93 oed; a 
chladdwyd ef yn mynwent Spratton, mewn llanerch a ddewisasai ei hun, 
Ennillodd Mr. Jones enw uchel fel awdwr amryw lyfrau buddiol a 
gwerthfawr. Yr oedd y llyfrau a gyhoeddodd yn Gymraeg, gan mwyaf, 
yn gyfieithiadau, y rhai sydd fel y canlyn : — 1, Rhodd üch Cymydog y gan 
Syr Bichard Hill. — 2. Gorphwysfa y Saint, gan Baxter. — 3. Deuddeg o 
Bregethau ar Lyfr y Caniadau, gan Romaine. — 4. Y Byd Cristionogol 
wediei ddadorchuddio, gan Berridge. — 5. Pregeth ar farwolaeth Thomton, 
gan Scott. — 6. Traethawd ar Fedydd Babanod. Hwn yw yr unig waith 
a gyfansoddodd yn y Gymraeg, a bu yn achlysur dadl rhyngddo â'r Parch. 
Christmas Evans. — 7. Cyfaill Pechadur f yr hwn a gyfîeithodd pan yn 
83 oed. Cyhoeddodd yn Saesonaeg ddauarbymtheg i gyd, y mwyaf o ba 
rai oeddynt, y Scripture Directory, yr hwn a gyrhaeddodd i ddeg o 
argrafhadau; Jonatis Porùrait, ei brif waith, yr hwn a gyrhaedd- 
odd i wyth o argraüìadau. Dau eraill — Immanuel, a The ProdigaFt 
Pilgrimage — pedwar o argrafiîadau. Y llyfì* diweddaf a gyhoeddodd 



96 

ydoedd un yn erbyn " Heresi Rhydyehain," pan yn 89 mlwydd oed. — 
Llyfr y Jubili, gan y Parch. T. Phillips, tudal. 81. 

Jones, Thomas, mab Edward Jones, Nant-eos, lle y ganwyd ef, yn 
1618. Derbyniodd ei addysg ynNgholeg Merton, Rhydychain, a chafodd 
y radd o A.C. cyn bod yn ddeunaw oed. Yn y flwyddyn 1637, aeth ar 
daith trwy Ffrainc ac Itali, yn y swydd o athraw teuluol i fab ac etifedd 
Syr Nathan Brent, a dychwelodd yn ol yn y flwyddyn 1 649. Ymroddodd 
wedi hyny i efrydu y gj fraith, ac yn 1659, derbyniodd ygraddo Ddoeth- 
awr yn y broffeswriaeth hòno. Cyfansoddodd amryw draethodau ar 
l)ynciau cyfreithiol, y rhai sydd yn profi ei fod yn ysgolhaig Groegaidd a 
Hebreaidd gwych. Bu farw yn Llundain, o'r pla, yn y flwyddyn 1665. 

Jones, Thomas Hugh, Ysw., y meddyg esgyrn enwog, yr hwn y mae 
ei enw mor adnabyddus yn Ngheredigion, a rhanau eraill o Gymru, a 
anwyd yn y Neuadd Fawr, y 9fed o Awst, 1778. Ei rieni oeddynt 
Thomas ac Anne Jones, ac yr oedd ei dad yn feddyg tra medrus, ac yn 
hollol hunanddysgol. Derbyniodd elfenau cyntaf ei addysg yn y pentref 
cymydogol, Llanwnen, mewn ysgol a gedwid gan y Parch J. Harries, 
wedi hyny periglor Llanthetty, yn agos i Aberhonddu. Bu gyda y gwr 
hwnw nes oedd tua phedairarddeg oed. Wedi hyny aeth i Bardsey, yn 
agos i Gaerwrangon, lle y treuliodd dair blynedd eilwaitb mewn ysgol 
gyfrifol, ac yna dychwelodd yn ol i'w fro enedigol, a dechreuodd lwyr ym- 
roddi i'r gelfyddyd feddygol fel ei dad, a buan y cynnyddodd i raddau pell 
tuhwnt iddo ef. Bu ei yrfa yn hynod lwyddiannus, ac nid gormod yw 
dywedyd na .chyrhaeddodd neb erioed o'r blaen yn y rhan hòno o'r wlad 
y fath enwogrwydd ac ymddiried cyffredinol. Cyrchid ato o bob rhan 
o'r Dy wysogaeth, yn gystal ac o ranau eraill o'r deyrnas; a bu yn foddion 
i adferu ugeiniau i iechyd a chryfder — llawer o ba rai a roddasid i fyny 
fel yn hollol anobeithiol eu hachos gan brif feddygon y wlad. Nid yn 
unig yr oedd Mr. Jones yn nodedig am ei fedrusrwydd fel meddyg esgyrn, 
ond yr òedd hefyd yr un mor enwog am ei haelioni a'i gymwynasgarwch. 
Ni ddychwelai yr un tlawd oddiwrth ei ddôr yn siomedig os gwyddid ei 
fod'yn wrthddrych gwir deilwng o elusen. Ni chodai byth un ddimai o 
dâl oddiar y tlodion a ddeuent i ymofyn ei gynnorthwy meddygol, ac yn 
fynych dychwelent yn ol nid yn unig wedi eu llwyr adferu, ond hefyd 
wedi derbyn yn helaeth o'i haelioni. Fel cymydog, yr oedd yn caru 
tangnefedd, a bu ei gy nghorion doeth a phrydlawn yn foddion lawer tro 
i derfynu ymrysonau rhwng pleidiau a'u gilydd. Gwrandewid ef mewn 
materion o'r fath yn mhell tuhwnt i neb ag oedd yn y wlad. Fel meistr 
tir yr oedd Mr. Jones yn rhagori ar y cyfíredin, ac yr oedd tynerwch ei 
galon a'i gydymdeimlad gwresog â phob achos o galedi yn ei wneud yn 



97 

anwyl gan ei ddeiliadon, gyda y rhai y byddai bob amser ar y telerau 

mwyaf cyfeillgar, a siaradant am dano hyd heddyw yn y modd mwyaf 

parehus. Er ei fod yn berchen llawer o gyfoeth, ac o ganlyniad yn 

meddu agoriad i gylchoedd uchaf a mwyaf urddasol cymdeithas, etto yr 

oedd yn mhell o afaelion balchder a hunanoldeb. " Un o'r bobl " y mynai 

efe gyfrif ei hun, ac yn eu mysg hwy y dymunai dreulio ei ddyddiau, 

oblegid-^ 

Myrdd mwy dewisol gan ein cyfaill cun 
Oedd llesio erjltll na mwynhau ei hün: 
Mewn uchel stâd ni wnai anghofìo'r tlawd— 
Nis gallai lai na'i gyfrif megys brawd. 
Yr oll a geisiai ef oedd by w yn mhlith 
Ei ddeiliaid, i wasgaru'n gawod flith 
Fendithion llawnder a chysuron hedd, 
A chael yn at-dâl ddiolch yn eu gwedd. 

Mewn gair, yr oedd yn foneddwr yn ngwir ystyr y gaìr, ac yn Gymro 
trwyadl — yn caru ei wlad, ei iaith, a'i genedl. Bu farw Ionawr 27ain, 
1847, yn 69 mlwydd oed; ac yn ol ei ddeisyfìad ei hun, claddwyd ef 
mewn llecyn anghysbell o'i dir, yn agos i'r Neuadd Fawr, mewn bedd a 
barotoisai efe flynyddoedd yn flaenorol. 

Jones, Thoj^as (Twm Sion Catî), oedd fardd, hynafiaethydd, ac 
achydd enwog, genedigol o Dregaron, fel y tybir. Yr oedd yn byw tua 
diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Ei dad naturiol ydoedd Syr John 
Wynne o Wydyr. Mae y lluaws chwedlau a daenir am dano yn gwneud 
ei hanes yn un tra dyrys i V olrhain. Modd bynag, nid oes dadl nad 
oedd yn ddyn o alluoedd meddyliol cryfion, ac o fy wiogrwydd mawr. 
Ymddengys ei fod yn ei ddyddiau boreuol yn fath o yspeilydd pen-fFordd, 
ac mae y castiau a'r pranciau a briodolir iddo yn y cymeriad hwn bron 
yn anhygoel, fel mae ei enw wedi myned yn deuluaidd trwy y wlad oll. 
Cyhoeddwyd cyfrol yn ddiweddar o dan y teitl, The Adventures of Twm 
Sion Cati, yn yr hon y cofhodir llawer o'r chwedlau hyn. Ond fel y 
sylwa un, " Hwyi'ach fod mil a mwy o driciau yn cael eu gwneud, ac o 
ladrad yn cymeryd lle trwy offerynoliaeth eraill, a'r bai oll yn cael ei 
daflu ar gefn llydan Twm." Ond beth bynag fu Thomas Jones yn nhym- 
mor gwyllt ei ieuenctyd, ymddengys iddo arwain by wyd tra gwahanol 
mewn amser diweddarach o'i oes. Priododd foneddiges gyfoethog, sef 
etifeddes Ystradflîn, sir Gaerfyrddin, a darfu iddo lwyr adennill ei gy- 
meriad mewn cymdeithas, oblegid cawn ef wedi hyny yn dal y swydd o 
ustus yr heddwch dros sir Erycheiniog, a bu fyw am yspaid yn nhref 
Aberhonddu. O herwydd ei wybodaeth eang, tybiai y werin ei fod mewn 
mynych gyfathrach âg ysbrydion drwg. Bygir y dystiolaeth uchel a 
ganlyn iddo gan y Dr. John Dafydd Rhys, yr hwn oedd yn gydoeswr a 



98 

chyd drefwr iddo : — " Pwy bynag a broffeso fod yn fardd achyddol, rliaíd 
iddo wybod llinachau brenhinoedd a thywysogion, a bod yn gyfarwydd 
yn ngweithiau trí phrif feirdd Ynys Prydain, nid amgen Merlyn ab Mor- 
fryn, Merlyn Ambrosius, a Thaliesin Ben Beirdd. Ac am y wybodaeth 
o achyddiaeth, am wir ddisgyniad, eirfarwyddion, urddasau, a gweithred- 
oedd clodwiw bonedd Cymru, y mwyaf clodfawr, galluog, a chywir, yn 
ddiammheuol, yw Thomas Jones, Porth y Ffynnon, ger Tregaron. A 
phan y cleddir ef, y mae yn ammheus iawn y ceir ei gystal am hir amser 
ar ei ol; ac yn wir, nid tebyg y ceir byth neb a ddaw yn agos ato mewn 
cyfarwydd-deb yn y wybodaeth hon." — Gwel Linguce Cymraecce Institu- 
Uones Accuratce, 303. Yn Meyrich's History of Cardiganshire, gwelir 
dernyn a briodolir iddo ef, sef Cywydd y Gofid, wedi ei adysgrifio o hen 
lawysgrif yn meddiant y ddiweddar Mrs. Hughes, Llwynygroes, Llanwn- 
en. Yn Nanteos, gwelir achlen o deulu y Corbet wedi ei Uiwio a'i 
haddurnò yn wych, o'i waithef, fel y tybir. — Meyriclc's Cardiganshire, 
247—251; Cambro Briton, ii., 212. 

Lewis, David, D.D., a anwyd yn mhlwyf Llanddeiniol, yn 1778. 
Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn ysgol Ystradmeurig, aeth oddiyno 
i Rydychain, lle y graddiwyd ef. Wedi ei ordeinio bu yn gwasanaethu 
yn eglwys St. Iago, Piccadilly, Llundain, o dan Ddeon Oaergaint, yr 
hwn a'i penododd i berigloriaeth Capel Archesgob Tenison. Ar ol hyny 
daeth yn brif athraw ysgol ramadegol yn Twickenham, yr hon a ddygodd 
yn mlaen am 18 mlynedd gyda llwyddiant nodedig, gan gadw nifer mawr 
o athrawon cynnorthwyol. Ar yr un pryd gwasanaethai gapel yn agos i 
Twickenham mewn cysylltiad âg Archddiacon Cambridge. Bu farw yn 
Twickenham, Ionawr 4, 1859, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd Dr. Lewis 
hefyd yn dal y swydd o gaplan i Eoyal Lodge y Free Masons pan oedd 
Duc Sussex yn Feistr. 

Lewis, Erasmus, ydoedd fab ieuengaf John Lewis, Ysw., Gernos, lle 
y ganwyd ef yn 1 662. Ei hen dad-cu ydoedd y Trysorydd Llwyd. Der- 
byniodd ei addysg yn Ngholeg yr lesu, Rhydychain, lle y graddiwyd ef 
yn B.A. Penodwyd ef i ficeriaeth Llanbedr a Bettws Bledrws yn y 
flwyddyn 1695, a daliodd hwy am 50 mlynedd, sef hyd ei farwolaeth yn 
1745. Gwelir cyfrol o'i bregethau mewn llawysgiif yn yr amgueddfa yn 
Llanbedr. Ystyrid Erasmus Lewis yn Gymreigiwr a bardd gwych yn ei 
amser. Yn y Ghoyliedydd, cyf. ii., tudal. 47, gwneir cyfeiriad at ryw englyn- 
ion o'i waith. Bu yn cynnorthwyo Shon Rhydd«rch i barotoi ei Eiriadur 
Saesneg a Chymraeg, yr hwn a argraffwyd yn yr Amwythig yn y flwydd- 
yn 1725.— Gwel Traethodydd, cyf. ix., tudal. 62. Gwelir cofeb iddo yn 
Eglwys Llanbedr. 



99 

Lewis, James, a anwyd yn Dinas Cerdin, yn agos i Landyssul, yn y 
flwyddyn 1674. Cafodd ei ddwyn i fyny mewn tenlu crefyddol, a der- 
byniodd addysg dda, naill ai o dan Mr. Jones, Brynllywarch, neu Mr. 
Protheroe, Llanymddyfri. Ordeiniwyd «f yn weinidog yn Pencadair 
tua'r flwyddyn 1706, fel olynydd i Mr. William Evans; a gwasanaethodd 
yr eglwys hòno a Pantycreuddyn gyda ffyddlondeb a llwyddiant rhyf- 
eddol am un mlynedd a deugain. Bu farw, ar ol pedwar diwrnod o 
aflechyd, Mai 23ain, 1747, yn 73 mlwydd oed. Cyhoeddodd draethodyn 
mewn cysylltiad â Mr. Samuel, Pantteg, yn erbyn Mr. Jenkin Jones yr 
Arminiad, a chymerodd ran yn nghỳhoeddiad amry w lyfrau buddiol yn 
yr iaith Gymraeg. 

Lewis, James, ydoedd fab i Syr John Lewis, Abernant Bychan, yn 
mhlwyf Penbryn, Ceredigion. Yr oedd ei fam yn ferch i Syr Risiart 
Prys, o Gogerddan. Yn ystod y rhyfel gwladol, yr oedd yn swyddog yn 
myddin Siarl il; ac ymddengys iddo enwogi ei hunan fel ag i deilyngu i 
gael ei anrhydeddu âg Urdd Marchog y Dderwen FreinioL Yr oedd èi 
etifeddiaeth yn werth £ 700. 

Lewib, John, o'r Glascrug, Ceredigion, oedd yn byw yn yr eilfed gan- 
rif ar bymtheg, a chyhoeddodd yn 1646 lyfr o dan y teitl, Contemplation 
on these Times, or the Parliament eocplained to Wales, yn yr hwn y mae 
yn dynoethi, yn yr iaith gryfef, ddifaterwch y Uywodraethwyr eglwysig, 
a'u hesgeulusdra o ofalu am anghenion ysbrydol eu deiliaid. 

Lewis, John, oedd yn byw yn Llanfychan, Llanwenog, yn y ganrif 
ddiweddaf. Mab ydoedd i Lewis Williams, yr hwn oedd orwyr i Dafydd 
ab John, a elwid " Saer y Cwm," yr hwn oedd fab i John Webley o 
Lanfychan. Ac am fod ei fab yn dilyn y gelfyddyd o saer, gelwid ei 
deulu mewn achyddiaeth yn " Dylwyth Saer y Cwm." — Gwel Meyriclc's 
Cardiganshire, 1 92. Yr oedd John Lewis yn berchen ar y fferm lle yr 
oedd yn byw, sef y Ffwrneithin, yn sir Aberteifl, ac yr oedd yn fardd o 
gryn fri yn ei ddydd — Brython am Alban Elfed, 1863. 

Lewis, John, mab i Jenkin Lewis o Dalsarn, yn mhlwyf Trefilan. 
Derbyniodd ei addysg foreuol gan yr hyglod Davies, Castell-hy wel, gyda'r 
hwn yr ymddengys iddo wneud cynnydd rhagorol, a chyrhaeddodd 
wybodaeth helaeth o'r Lladin a'r Groeg, ac yn enwedig yr olaf. Ymun- 
odd â'r cyfundeb Wesleyaidd yn ieuanc, a thua'rflwyddyn 1812, dechreu- 
odd bregethu yn eu mysg. Yn ngwanwyn 1813, gweinidogaethai yn 
nghylchdaith Dolgellau, a'r flwyddyn ganlynol, urddwyd ef yn weinidog 
rheolaidd. Penodwydefyn 1815 yn genadwr i'r India Orllewinol, o 



100 

dan arolygiaeth y Parch. Thomas Coke, LL.D., o Aberhonddu. Dydd 
Nadolig, y flwyddyn hòno, cychwynodd am faes ei lafur, a chyrhaeddodd 
Ynys Barbadoes, Chwefror 1, 1816. Ar ol ymsefydlu yno, ymroddodd 
yn ddiwyd i ddysgu ieithoedd y Dutsiaid, y Portugîaid, a'r Ffrancod, er 
gwneud ei hunan yn fwy defnyddiol i'r oenedloedd hyny. Penodwyd ef 
yn fuan i Spanish Town, Jamaica, Ue y bu farw, Gorphenaf 17, 1816. 

Lewis, John, diweddar ficer Llanrhyatyd, a anwyd yn mhlwyf Llan- 
gwyryfon, yn y flwyddyn 1801. Addysgwyd ef yn Ysgol Ystradmeurig, 
o'r lle yr urddwyd ef gan Esgob Ty Ddewi ŷn ddiacon yn 1823, ac yn 
offeiriad yn 1824. Wedi hyny bu yn gweinidogaethu fel curad yn Hen 
Fynyw, Ciliau Aeron, a'r eglwysi cymydogol; ac yn 1843, penodwyd ef 
gan yr Esgob i ficeriaeth Llanrhystyd, lle y treuliodd 20 mlÿnedd, gan 
lafurio gyda llwyddiant mawr. Bu Mr. Lewis farw yn dra disymwth, 
Rhagfyr 21, 1862, ar fore Sul, pryd y derbyniodd ergyd gan y parlys, yr 
hyn a'i hanalluogodd ar unwaith, ac a'i symudodd ymaith er galar fw 
deulu lluosog a chylch eang o gyfeillion ac edmygwyr. Nis gallwn 
wneud yn well na dyfynu y sylwadau canlynol a ysgrifenwyd ar yr ach- 
lysur hwnw gan un a fu yn cydweinidogaethu âg ef am flynyddoedd 
meithion: — "Yn marwolaeth ddisyfyd y Parch. John Lewis, Ficer 
Llanrhystyd, gellir yn briodol ddweyd, fod "gwr mawr wedi syrthio yn 
Israer* — un a berthynai i'r dosbarth cyntaf o offeiriaid gweithgar a defn- 
yddiol Deheudir Cymru. Ni fu offeiriad erioed yn cael ei garu yn fwy 
gan ei bobl, ac feallai na fu yr un chwaith erioed yn teilyngu hyny yn 
fwy : — un di-ildio yn ei ymdrechion o blaid eu lles ysbrydol, diflino yn ei 
sel, a diorphwys yn ei ymweliadau gweinidogaethol. Mae yr eglwys ys- 
plenydd, yr hon sydd ar unwaith yn destun edmygedd yr ymwelydd, yn 
addurn i'r sir, ac yn gartref crefyddol uwchlaw dau cant o gymunwyr, yn 
ddyledus iddo am ei chyfodiad; ac os bu iddo elynion o gwbl pan yn dilyn 
ei swydd fugeiliol ( a pha waith da a pha ddyn da a f u erioed hebddyntl ) 
y gelynion hyny oeddynt yn mhlith y cyntaf i dystio eu parch a'u hed- 
mygedd o'i nodweddiad pan y bu farw. Ni fu offeiriad yn fwy pryderus 
am adeiladaeth ei bobl erioed nag ef ; a chymerai gweinidogion enwog o'r 
De a'r Gogledd ran yn fynych yn ei Gyfarfod Offeiriadol blynyddol, 
pryd y byddai tyrfaoedd anghyffredin o fawr bob amser yn gwrando. Yr 
oedd ei bregethau yn hynod darawiadol, yn dra efengylaidd, a derbynient 
y gwrandawiad mwyaf astud yn ddieithriad, ac nid oes brin eglwys o 
fewn cylch o ugain milldir lle na bu ef yn pregethu i gynnulleidfaoedd 
lluosog ac astud. Yr oedd yn briod tyner, ac yn dad serchog, a gadaw- 
odd weddw a phedwar mab a phedair merch i alaru eu colled anadfer- 
adwy. Os gallai rhywbeth ysgafnhau ychydig ar eu gofid, a lliniaru eu 
hiraeth, feallai y gallai y ffaith hòno, mai ei angladd ef oedd y mwyaf % 



1 ^^^^MHNiBBmHWHHnniia 



101 

Velwyd yn myned i eglwys Llanrhystyd yn nghof yr hynaf o drigolion y 
Ue, yr hyn ar unwaith sydd yn brawf o'r parch mawr a chyflredinol a 
delid iddo gan bob dosbarth o'r trigolion." 

Lewis, Morris, a drowyd allan gan y Lledaenwyr dan Cromwell, o 
Bersoniaeth Rhosdie, yn y sir hon, am "annigonolrwydd i'r swydd." — 
Walher's Sufferings oý the Clergy. 

Lewis, Thomas, oedd yn byw ar y cyntaf yn Castell-hywel, ac wedi 
hyny yn yr Ynyswen, Llanegwad. Efe oedd awdwr Caniadau Duwiol, 
cyhoeddedig yn 1796, ac a argraffwyd yn Nghaerfyrddin gan Ioan Daniel. 
—Traethodydd, 1853. 

Lewis, William, boneddwr gwladgarol a dysgedig, a anwyd tua diwedd 
yr ail ganrif ar bymtheg, yn Llwyn Derw, yn agos i Gastellnewydd 
Emlyn. Dywedai awdwr Drych y Prifoesoedd am dano, ei fod yn meddu 
un o'r Uyfrgelloedd goreu yn y wlad. Cyfieithodd Mr. Lewis, yn nghyda 
Mr Pryce, Rhydybene, y llyfr canlynol: — " Traethawd ar Ddammeg y 
Mab Afradlon, gan J. Goodman. Ac a gyfieithwyd gyda dirfawr boen a 
diwydrwydd gan y diweddar a'r dysgedig Mr. W. Lewis, o'r Llwynderw, 
a Mr. Eran Pryce, Rhydybene. Argrafiwyd yn Nghaerfyrddin, gan 
Isaac Carter, y Printiwr, 1725 — 6." Disgynydd o Mr. Lewis ydyw y 
Milwriad Lewis, Llysnewydd. 

Llio, oedd ferch Rhydderch ab Ieuan Uwyd o Ogerddan, i wallt yr 
hon y canwyd cywydd gan Dafydd Nanmor. Yr oedd yn fenyw nod- 
edig am ei phrydferthwch. 

Lloyd, David, Galltyrodyn, oedd offeiriad a bardd yn byw tua chanol 

y ganrif ddiweddaf, ac yr oedd yn ddisgynydd o Dafydd ab Llywelyn 

Llwyd, yr hwn oedd yr aelod cyntaf a anfonwyd o Geredigion i'r sen- 

edd yn amser Harri viii. Ar waith Herbert Lloyd, Ysw., Ffynnonbedr, 

yn cyflwyno anerchiad oddiwrth fwrdeisdrefwyr Ceredigion i Sior y 

Trydydd, ar ei esgyniad i'r orsedd, tua'r flwyddyn 1760 neu 1761, pryd y 

crëwyd ef yn farwnig, cyfìinsoddodd y Parch. D. Lloyd (yr hwn oedd yn 

perthyn i'r blaid wleidiadol wrthwynebol i'r barwnig) y llinellau a gan- 

lyn : — 

" A would-be-member brought of late 

From borough little known, 
In an nddrets of early date 
His incense to the throne. 

Soon tidings came where Teify flows, 
Through tyrant harass'd land, 



102 

That Lloyd to envied honours rose 
And kissed the Royal hand. 

O ! had our Sorereign's gracious touch 

But cured him of his evil, 
St. George could never boast of such 

A triumph o'er the devil. ,, 

Rai blynyddau ar ol hyn, fel math o gydnabyddiaeth am ffraethineb 
y bardd, darfu i'r barwn ei gymeradwyo i sylw yr esgob i lenwi bywol- 
iaeth werthfawr Llanarth, a ddaethai yn wag y j>ryd hyny. — Meyricfës 
Cardiganshire, tudal. 150, 209, 210. 

Lloyd, Dàyid, LL.D., ydoedd weinidog enwog yn mysg yr Undod- 
iaid. Ganwyd ef a threuliodd flynyddau cyntaf ei oes yn Llandyssul. 
Yr oedd yn aelod crefyddol gyda'r Undodiaid yn Pantydefaid, lle yr 
oedd eglwys luosog o dan ofal y Parch. John Thomas. Pan tuag ugain 
oed derbyniwyd ef yn fyfyriwr i Athrofa Caerfyrddin, ac ennillodd yno 
ryw gymaint o enwogrwydd fel ysgolhaig. Wedi treulio ei dymmor 
penodedig yn Nghaerfyrddin, aeth drosodd i Scotland — i Brifysgol 
Glasgow, ac ar ei ymadawiad oddiyno, anrhydeddwyd ef â'r gradd o 
Athraw y Celfyddydau. Yn 1834, pan aeth y swydd o athraw clasurol 
yn Ngholeg Caerfyrddin yn wag, etholwyd ef yn unfrydol iddi. Yn 
mhen rhai blynyddau ar ol hyny, anrhydeddwyd ef yn mhellach â'r teitl 
o LL.D. — Doctor qf Laws — gan yr un Brifysgol. Yn.ystod yr amser y 
bu yn benaeth y coleg, bu ei weithgarwch a'i lafur diflino yn foddion i 
ychwanegu cryn lawer at enwogrwydd yr hen sefydliad hwnw, a throwyd 
allan o hono o bryd i bryd luaws mawr o weinidogion ag sydd yn 
addurn hyd heddyw i'r grefydd a broffesant. Fel gweinidog yr efengyl 
bu Dr. Lloyd yn hynod ymroddgar ar hyd ei oes i daenu ac amddiffyn 
yr hyn a ystyriai efe yn wirionedd. Efe fu yn offerynol i godi yr addoldy 
hardd sydd gan yr Undodiaid yn Nghaerfyrddin, lle y pregethai yn gys- 
on, a hyny hyd o fewn deufis iV farwolaeth. Yr oedd yn dwyn mawr 
sel o blaid egwyddorion yr enwad y perthynai iddo. Ond nid oedd hyny 
yn cyfodi mewn un modd oddiar bleidgarwch a phenboethni, ond oddiar 
ddwfn argyhoeddiad fod yr hyn a bleidiai yn Ysgrythyrol. Ac yr oedd 
ei gydwybodolrwydd a'i onestrwydd dysyml, yn nghyda'r hynawsedd 
Cristionogol oedd yn ei nodweddu, yn peri ei fod ar yr un pryd yn uchel 
ei barch gan y rhai a wahaniaethent oddiwrtho mewn barn. Yr oedd 
iddo luaws o gyfeillion gwresog yn mysg gweinidogion y gwahanol enw- 
adau. Fel prawf o hyn nid oes eisieu ond cyfeirio at y dorf fawr o hon- 
ynt a ddaethant o'r dref a'r gymydogaeth, yn nghyda rhanau pellenig y 
wlad, i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref. Cymerai ddyddordeb neillduol 
yn llwyddiant pob sefydliad elusengar a dyngarol yn y dref a'r gymydog 



103 

aeth, megys y Lancasterian School, y Clafdy, y Literary Institution, <fcc.; 
ac yr oedd yn is-lywydd yn rhai o honynt er pan sefydlwyd hwy. Yr 
oedd cymwynasgarwch yn un o'r elfenau dysgleiriaf yn ei gymeriad, ac 
yr oedd ei garedigrwydd a'i haelioni yn ddiarhebol. Profodd llawer o'r 
myfyrwyr oedd dan ei ofal ei garedigrwydd mewn modd arbenig — ym- 
ddygai tuag atynt yn fwy fel tad nag fel athraw ; cynnorthwyai hwynt 
pan yn gyfyng eu hamgylchiadau, dysgai rai yn hollol am ddim, ac es- 
tynai foddion cynnaliaeth i eraill o drysorfeydd cyhoeddus a fwriedid i'r 
perwyl hyny. Ond nid ydym am awgrymu yma, er ei holl ragoriaethau, 
ei fod yn ddifai. Na, nid ydym yn meddwl am fynyd ei íod heb ei ddi- 
ffygion a'i wendidau mwy na rhyw Gristion arall. Un o'r rhai hyn 
ydoedd ei duedd i adael ffordd i'w dymherau, y rhai oeddynt yn naturiol 
yn lled gyffrous, yn lle eu cadw o fewn terfynau priodol. Gellid gweled 
hyn i raddau yn rhai o'i ysgrifeniadau ar bynciau dadleugar, ac yr oedd 
hyn, yn nghyda'i ddull brysiog a lled anochelgar o draethu ei feddwl, yn 
rhoddi mantais yn fynych iV wrthwynebydd. O ran ei gorffolaeth, yr 
oedd pan yn ieuanc yn deneu ac o faintioli cyffredin, ac yn gloff o un 
troed er pan yn blentyn; ond yn mlynyddau diweddaf ei fy wyd daeth yn 
lled gorfforol. 

Lloyd, David, oedd weinidog tra enwog yn mysg yr Ymneillduwyr 
yn Llwynrhydowen a'r eglwysi cymydogaethol tua chanol y ganrif ddiw- 
eddaf. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn y Coleg Henaduriaethol, Caerfyrddin; 
ac yn y flwyddyn 1742, pan yn 18 oed, urddwyd ef yn weinidog ar yr 
eglwys uchod yn nghyda Galltyplaca a Chiliau Aeron. Daeth yno yn 
ganlyniedydd i'r enwog Jenfcin Jones, merch yr hwn a briododd. Er ei 
fod yn Ariad proffesedig, ac felly yn coleddu egwyddorion croes i fwyafrif 
ei gydwladwyr, etto o herwydd ei ddysg uchel, ei ddidwylledd, yn nghyda 
mwyneidd-dra ei dymher, derbyniai barch cyffredinol ganddynt. Ys- 
grifenodd gryn lawer, ond ni chyhoeddwyd dim o'i eiddo hyd ryw saith 
mlynedd ar ol ei farwolaeth, sef llyfr yn dwyn y teitl, " Gwaith Pryd- 
yddawl y diweddar Barchedig Dafydd Llwyd, Gweinidog Eglwys Llwyn- 
rhydowen, yn sir Aberteifi. Caerfyrddin, argraffwyd gan J. Ross, yn 
Heol Awst, 1795." Cymerwyd ei bregethau a'i ysgrifeniadau eraill 
gydag un o'i bei*thynasau a ymfudodd i'r America. Bu farw yn y 
flwyddyn 1788, yn 54 oed. Canlynwyd ef yn y weinidogaeth gan yr 
hybarch David Davies, Castell-hywel. Yr oedd yn daid i'r Parch. Dr. 
Lloyd, diweddar benaeth y Coleg Henaduriaethol. 

Lloyd David, oedd frodor o Lanwenog, ond ymfudodd oddiyno i'r 
America tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg, ac ymsefydlodd yn Nhal- 
aeth Pennsyl&nia, lle yr oedd amryw o'i gydwladwyr a'i berthynasau 



104 

wedi ymsefydlu yn flaenorol. Trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad, daeth 
o'r diwedd yn brif ynad y dalaeth hòno. Iddo ef y cyflwynodd yr 
anghymharol Abel Morgan ei Gydgordiad neu Fynegair Cymreig, sef y 
cyntaf a gyhoeddwyd erioed, a'r hwn a argraffwyd yn y flwyddyn 1730. 

Lloyd, Edward, ydoedd fab Edward Lloyd, Ysw., Llanforda, yn agos 
i Groesoswallt, o Bridget, ail ferch — Price, Ysw., Glanffraid, yn agos i 
Fro-gynin, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1660. Mewn perthynas iV 
haniad, dywed ef ei hun, " Nid wyf yn hòni fy hun yn Sais, ond hen 
Frytwn, ac yn ol yr achau Cymreig yn deilliaw o du fy nhad oddiwrth 
Elldyr Lydanwyn fab Meirchion fab Ceneu, fab Coel Codebog, yn nhal- 
aeth Rheged yn Scotland, yn y bedwaredd ganrif cyn i'r Saeson ddyfod 
i Ynys Brydain." Pan yn 22 oed, anfonwyd ef i Goleg yr Iesu, Rhyd- 
ychain; ac yn y flwyddyn 1684, penodwyd ef yn is-geidwad y Llyfrgeil 
Asmoleaidd, ac yn 1690, yn brif-geidwad. Yn y swydd yma, mwynhai 
gyfleusderau rhagorol i ddilyn yn mlaen ei hoff efrydiaeth, sef ieithydd- 
iaeth ac anianyddiaeth, ac ysgrifenai yn fynych i'r Philosophical Tran- 
sactions. Yn 1 693, casglai ddefnyddiau yn dwyn cysylltiad â Chymru, 
ar gyfer yr argrafìîad newydd o Camderìs Brittania by Gibson. Yn 
1699, cyhoeddodd ei Lithophylacii Britannica Iconographia, o ba un yr 
ymddangosodd ail argraflîad yn 1760. O'r flwyddyn 1696 i 1701, teith- 
iodd trwy Gymru, Iwerddon, Ysgotland, Cernyw, a Llydaw, er cael 
golwg ar hen lawysgrifau y gwledŷdd hyny, a chasglu defhyddiau yn 
nghyd er ysgrifenu ac egluro hanes boreuol Prydain, ac ieithoedd y 
gwahanol lwythau a'i poblogai. Yn y flwyddyn 1707, cyhoeddodd i'r 
byd ffrwyth ei ymchwil maith a llafurus dan y teitl Archceologia Britan- 
nica — cyfrol fawr yn cynnwys deg o brif destunau. Ond nid oedd hon 
ond rhan fechan o'r gwaith mawr a fwriadai i ddilyn, sef cyfrol arall i 
gynnwys Lexicographical History oý British persons and places that are to 
befownd in ancient records. Trwy ei farwolaeth gynnarol amddifadwyd y 
byd o'r trysor llenyddol gwerthfawr hwn. Yn 1701 graddiwyd ef yn 
A.C. yn Rhydychain, ac yn 1708 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gym- 
deithas Frenhinol; a'r gwanwyn dyfodol penodwyd ef i lanw y swydd o 
" Esquire Beadle" mewn duwinyddiaeth yn yr un athrofa. Ond ni or- 
fucheddodd yr anrhydedd hwnw ond ychydig amser, oblegid bu farw yn 
niwedd Mehefin, 1709, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys St. Michael 
— claddfa a berthynai i aelodau Coleg yr Iesu. Yr oedd ei gasgliad o 
lawysgrifau ar bynciau hanesyddol a hynafiaethol Cymru a'r Iwerddon 
yn gynnwysedig o uwchlaw 40 cyfrol unplyg, 10 cyfrol pedwarplyg, ac 
uwchlaw 100 o rai llai eu maint. O herwydd gwrthod o Goleg yr Iesu 
eu prynu, gwerthwyd hwy yn 1713 i Syr Thomas Seabright, Beechwood, 
Hertfordshire, ynllyfrgell yrhwn yr arosasanthyd 1807, pryd yraethant 



ÖS 



105 

i feddiant Syr Watkin Williams Wynne, Barwnig. Rai blynyddau wedi 
hyny anfonwyd y rhan fwyaf o honynt i Luudain i'r dyben o'u rhwymo ; 
ond yn anffodus hwy a ddyfethwyd yno gan dân a dòrodd allan yn nhŷ 
y person oedd yn eu cadw, ac felly amddifadwyd y byd o'r cwbl yn mron 
o ffrwyth llafur y gwladgarwr trylen Edward Llwyd. Dyfynwn y sylw- 
adau canlynol o eiddo Mr. Lewis Morris, allan o luaws o eiddo enwogion 
eraill, y rhai yn unfrydol a ddygant dystiolaeth uchel iddo fel gwr dysg- 
edig : — "Mr. Edward Llwyd nid oedd islaw i un gwr yn Mhrydain o 
ran ei wybodaeth o hanesiaeth anianyddol, ac mewn ieithoedd yr oedd 
ganddo athrylith aruthrol. Nid oedd ganddo ddim gwybodaeth am 
farddoniaeth Gymreig ; canys y mae genym wrth law rai cynnygiadau 
o'i waith yn y ffordd hòno, oddiwrth y rhai y mae'n eglur nas ganwyd ef 
yn brydydd mwy na Cicero. Hyn a fu yn attaliad iddo wneuthur dim 
defnydd o waith y beirdd, canys nid oedd^ganddo fawr archwaeth am eu 
gorchestion na'u tystiolaethau. Ond ei Arclweologia Britannica sydd 
yn drysorfa werthfawr o'r iaith Geltaidd, ac a fuàsai yn fwy felly oni 
buasai fod ganddo ormod o heiyrn yn y tân." — Owem' British Remains, 
8vo., London, 1777. New and General Biographical Dictionary, 8vo., 
London, 1798, vol. ix. 

Lloyd, Hugh, D.D., a anwyd yn sir Àberteifi, yn y flwyddyn 1589. 
Derbyniwyd ef i Goleg Oriel, Rhydychain, yn 1607, lle derbyniodd ei radd 
yn y Celfyddydau. Bu eilwaith yn Ngholeg yr Iesu, ac etholwyd ef 
mewn amser yn Gymrawd o hono. Penodwyd ef i fywoliaeth Llangadog, 
Brycheiniog, ac yn Archddiacon Tyddewi; ac yn y flwyddyn 1638, der- 
byniodd ei radd o D.D. Gan ei fod yn deyrngarwr mor aiddgar, dyodd- 
efodd gryn lawer o erledigaeth yn ystod y Gwrthryfel mawr, taflwyd ef 
o'r fywoliaeth, a chrwydrai o'r naill fan i'r llall er mwyn diogelwch. Fel 
math o at-daliad iddo am ei ddyoddefiadau, ac oblegid ei gymhwysderau 
diamheuol i'r swydd, cysegrwyd ef yn Esgob Llandaf, Rhagfyr 2, 1660, 
gan Archesgob Caerefrog, ac Esgobion Llundain, Rochester, Salisbury, ac 
Worcester. Bu farw yn y flwyddyn 1667. 

Lloyd, Jenkin, A.C., oedd fab hynaf ac etifedd David Lloyd, Ysw., 
o'r Fairdref-fawr, Llandyssul. Yr oedd yn un o'r Profwyr yn y Weith- 
red er lledaenu yr Efengyl, ac yn ol rhai, yn gaplan i Cromwell. Gwein- 
idogaethai yn ei blwyf ei hun, ond yn amser y werin-lywodraeth trodd 
allan ynbregethwr teithiol. Yn y flwyddyn 1658, cyhoeddodd gyfrol yn 
Saesoneg, dan y teitl, Christ's Yaledictions ; or Sacred Observations on the 
Last Words of our Saviour delŵered on the Cross. Hwn mae yn debyg 
oedd yr unig waith a gyhoeddodd, ac ymddengys oddiwrtho fod ei awdwr 
nid yn unig yn ysgrifenydd galluog a medrus, ond hefyd yn dra efengyl- 



106 

aidd ei syniadau. Ni wyddis yn sicr yr amser y bu farw, ond mae yn Ued 
debygol mai ryw amser cyn rhoddi Deddf yr Unffurfiad mewn grym, yn 
y flwyddyn 1662. 

Lloyd, Hugh, oedd fab Llywellyn Llwyd ab Dafydd ab Llywellyn, o 
Gastell-hy wel, ac yr oedd yn hanu o Cadifor ab Dyfnwal yn y ddeuddeg- 
fed ganrif, trwy Tomos Gruffydd, arglwydd Llanbedr. Efe oedd sylfaen- 
ydd teulu enwog Maesyfelin, ond cartrefai y pryd hyny yn Llanllur. Yr 
oedd yn llenwi y swydd o uchel sirydd Ceredigion yn y flwyddyn 1567. 
Bu iddo dair merch a phedwar mab. Y meibion oeddynt Morgan, 
Gruffydd, Tomos, a Risiart. 

Lloyd, Mobgan, mab hynaf y diweddaf, a barhaodd yn mlaen linach 
Llanllur, a bu yn sirydd ei sir enedigol ddim llai na pliedair o weithiau, 
sefyn y blynyddoedd 1576, 1584, 1594, a 1599. Priododd Elizabeth, 
merch a chydetifeddes Lewis ab Henri ab Gwilym. O Morgan Llwyd yr 
hanodd teuluoedd Wernfylig a Ffoshelig. 

Lioyd, Griffith, oedd ail fab Morgan Llwyd ab Huw o Lanllur. 
Derbyniodd ei addysg yn Ngholeg yr Tesu, Rhydychain, lle y graddiwyd 
ef yn D. LL. Cafodd hefyd y Broffeswriaeth Freiniol o D. C. L., oddi- 
wrth yr hon y derbyniai «£40 yn flynyddol. Penodwyd ef i'r swydd hon, 
Mai 16, 1577. Bu am beth amser hefyd yn Ganghellwr Esgobaeth Ty 
Ddewi. Dyrchafwyd ef yn Benaeth Coleg yr Iesu yn 1572, 1576, a 
1584. Yr oedd yn neillduol haelionus i'r coleg hwn, a gadawodd yn ei 
ewyllys amryw ffermydd yn mhlwyfî Nantcwnlle a Llanddewi-brefi 
tuag at ei waddoli. Priododd ferch a chydetifeddes John Restal, yr hwn 
oedd Brif Farnydd Siroedd Deheuol Cymru ; a bu yntau ei hunan yn 
Brif Farnydd Siroedd Maesyfed, Brycheiniog, a Morganwg. — Arch. 
Cambrensis, 1860. Bu farw Tachwedd 26, 1586, a chladdwyd ef yn 
eglwys St. Bennet, Llundain. — Gwel Bp. KennetKs Biographîcal Sketehes 
in tìie Lansdoume MSS. 9 British Museum; Wood's Athence Oamiienses. 

Lloyd, Thomas, trydydd mab Morgan Llwyd, a ddygwyd i fyny i'r 
weinidogaeth. Derbyniodd ei addysg, mae yn debyg, yn Rhydychain, 
lle graddiwyd ef yn y Celfyddydau. Cafodd ei benodi yn drysorydd Ty 
Ddewi yn y flwyddyn 1574, a bu fyw yn hir i wasanaethu y swydd hòno. 
Priododd â Frances, mereh Marmaduke Middleton, Ysw., a chwaer 
Marmaduke Middleton, Esgob Ty Ddewi. Bu farw yn y flwyddyn 1612, 
a chladdwyd ef yn yr Eglwys Gadeiriol, lle y gweinyddasai am gymaint 
o amser. Mae ei fedd-faen i'w "weled yno yn awr ar yr ochr ogleddol i'r 
allor, gydag argraff Lladinaidd amo. Priododd merch y Trysorydd Llwyd 



107 

— Lettice, â Thomas Lewis, Ysw., Gernos, Ceredigion, ac o'r undeb yniu 
yr hanodd y Parch. Erasmus Lewis, B.A., yr hwn a fu am 50 mlynedd 
yn Ficer Llanbedr a Bettws Bledrws. 

Lloyd, Str Marmaduwc, oedd fab i'r uchod, ac efe inae yn debyg 
oedd y cyntaf o'r Llwydiaid i ymsefydlu yn Maesyfelin. Dygwyd ef i 
fyny yn gyfreithiwr, ac yr oedd yn aelod o'r Deml. Gwnaed ef yn Brif 
Farnydd Brawdlysoedd Maesyfed, Brycheiniog, a Morganwg, ac yn un 
o'r barnwyr o flaen Cadeirydd Cynghor ei Fawrhydi yn nghylch y Ter- 
fynau. Yr oedd hefyd yn Brif Ynad Aberhonddu. Gwnaed ef yn Farwn 
mae yn debyg ar ei ddyrchafiad i fod yn Brif Farnydd. Yr oedd " Syr 
Marmaduwc yn cydoesi â Ficer Pritchard, Llanymddyfri; ac oddiwrth 
lythyr a ymddengys yn hanes bywyd y Ficer, yn yr argraffiad newydd o 
Ccmwyll y Cymry, gwelir eu bod ar delerau pur gyfeillgar. Mae y 
llythyr hwn wedi ei ddyddio Mawrth 21ain, 1626, ac mae yn gyfansodd- 
iad lled hynod a digrifol. Priododd Syr Marmaduwc â Mari, merch John 
Gwyn Stedman, Ysw., Ystrad Fflur, yr hon oedd 'yn chwaer i Lettice, 
mam Syr John Vaughan, Trawsgoed, Frif Farnwr Llys y Common Pleas. 
O'r briodas hon bu iddynt naw o blant — tri mab a chwech o ferched, y 
rhaí a briodasant i rai o'r teuluoedd goreu yn Neheudir Cymru. Eu 
henwau oeddynt — Francis; Marmaduwc (am yr hwn y gwelir isod); 
Walter; Jane, yr hon a briododd Tomos Llwyd, Ysw., Plas Llanfair- 
eludogau. O'r llinach yma y tardda teulu Dolau Cothi — Mr. Johnes yw 
yr wythfed ddisgynydd o Syr Marmaduwc; Margaret, briododd John 
Yaughan, Ysw., Llanelly; Anne, briododd Nicholas Williams, Ysw., 
Rhydodyn; Letitia, briododd PhiUip Vaughan, Ysw., Timsarau; Eliza- 
beth, briododd Roger Vaughan, Ysw., *Merthyr, Brycheiniog; Penelope, 
briododd Bichard Herbert, Ysw., Cwrt Henry. Ni wyddis gyda sicr- 
wydd pa amser y bu y gwr hwn farw; ond oddiwrth hen weithred sydd 
yn awr ar gael, gwelir ei fod yn fyw yn y flwyddyn 1640. 

Llotd, Francis, (Syr), mab y diweddaf. Etholwyd ef yn aelod dros 
sir Gaerfyrddin yn ystod bywyd ei dad. Cafodd ei ddyrchafti yn Drefii- 
ydd ty Siarl i, a'i wneud yn Farchog. Yr ydoedd Syr Francis yn 
deyrngarwr brwdfrydig, a dyoddefodd lawer oblegid ei ymlyniad wrth 
achos y brenin. Ymneillduodd oV Seneddyn y flwyddyn 1643, a gorfu 
iddo dalu dirwy drom, sef £1033, i Neuadd y Gofaint Aur. Yr ydoedd 
ef a'i frawd, Marmaduwc, yn mrwydr St. Ffagan, yr hon a ymladdwyd 
Mai 8, 1648, gan gymerydplaid eu brenin. Ar ol yr Adferiad gwnaed 
Syr Francis yn un o foneddigion Cyfrin-gynghor Siarl n. Priododd yn 
gyntaf â Mari, ferch John Vaughan, Iarll Carbery (mab yr hwn a nodd- 
odd Jeremy Taylor), Gelli Aur, ond ni fu iddo blant o'r undeb yma. 



108 

Priododd yn ail â Bridget, ferch Bichard Leigh, Ysw., Caerfyrddin, (maer 
am 1 666), o'r hon y cafodd, yn ystod by wyd ei wraig, ddau fab, Lucius a 
Charles, ac un ferch, Frances, ar ol priodL O herwydd marw o Lucius o 
flaen ei dad, daeth yr etifeddiaeth i feddiant yr ail fab, — 

Lloyd, Charles, (Syr) yr hwn a wnaed yn Farwn gan y Frenhines 
Anne, ar y lûfedo Ebrill, 1708. Priododdyn gyntaf â Jane, ferch ac 
etifeddes Morgan Llwyd, Ysw., Greengrove, yr hon a fu farw Gorphenaf 
20fed, 1689. Mae cof-faen o fynor gwyn hardd i'r foneddiges hon iV 
weled yn nghangell,eglwys Llanbedr. Priododd Syr Charles, yn ail, â 
Frances, ferch Syr Francis Cornwallis, Barwn, Abermarlais. Dilynwyd 
ef yn yr etifeddiaeth gan ei fab, — 

LLOYd, Charles, (Syr), yr hwn a fu am dymmor yn A.S. dros fwr- 
deisdrefi Aberteifi, yn nheyrnasiad Gwilym iii. Bu yn sirydd Aberteifi 
yn 1618, a Chaerfyrddin yn 1716. Bu farw Rhagfyr 28, 1723, yn 61 
mlwydd oed. 

Lloyd, Wálter, o Ffynnonbedr, oedd yn aelod seneddol dros sir 
Aberteifì o'r flwyddyn 1734 i 1741. "Dygwyd ef i fyny yn gyfreithiwr; 
a daeth o'r diwedd yn Brif Gyfreithiwr dros siroedd Caerfyrddin, Penfro, 
ac Aberteifi. Priododd tua'r flwyddyn 1713, âg Elizabeth £vans, Ffyn- 
nonbedr, ac yno wedi hyny y gwnaeth ei gartref. Bu iddynt naw o 
blant Dilynwyd ef yn yr etifeddiaeth gan ei fab hynaf, — 

Lloyd, John, yr hwn a fu yn A.S. dros sir Aberteifi o'r flwyddyn 
1747, hyd ei farwolaetn yn 1758. Daliodd hefyd swydd ei dad fel Cyf- 
reithiwr Cyffredinol. Priododd yn y flwyddyn 1750, â merch Syr Isaac 
Le Hoop, a derbyniodd gyda hi £ 80,000 o waddol. Yn yr un flwyddyn 
hefyd, daeth i feddiant o ystad Maesyfelin trwy ewyllys ei frawd-yn- 
nghyfraith, Syr Lucius Christianus Llwyd. Bwriadai Sior n. ei wneud 
yn farchog dan y teitl o Arglwydd Biynhywel (oddiwrth enw hen drig- 
fan Llwydiaid Lanbedr), ond o herwydd iddo farw yn 1755, ni chafodd 
yr anrhydedd hwnw. Yr oedd ei wraig hefyd yn Maid of Honour yn 
llys ei Fawrhydi Gan i John Llwyd farw yn ddiblant, dilynwyd ef yn 
yr etifeddiaeth gan ei frawd, — 

Lloyd, Herbert, (Syr), yr hwn hefyd a etifeddodd ystadau Llech- 
wedd-deri a Maesyfelin. • Derbyniodd hefyd un y Foelallt gan ei dad, ac 
yno y bu fyw am dymmor. Bu yn briod dd wy waith; ei ail wraig oedd 
Anne, merch William Powell, Nanteos, a gweddw Bichard Stedman, 
Ystrad Fflur. Gwnaed ef yn Farwn gan Sior m. yn y flwyddyn 1763 



109 

(lonawr 26ain). Dywed Meurig, yn ei Hanes Ceredigion, iddo dderbyn 

yr anrhydedd yma ar ei waith yn cyflwyno anerchiad llongyfarchiadol i'w 

Fawrhydi ar ei esgyniad, oddiwrth fwrdeisdref Aberteifi. Yr oedd hyn 

modd bynag gryn amser ar ol esgyniad y brenin i'r orsedd. Cynnrych- 

iolodd Syr Herbert fwrdeisdrefi Ceredigion yn y senedd o'r flwyddyn 

1761 i 1768. Bu farw Awst 19eg, 1769, yn Llundain, a chladdwyd ef 

yn Llanbedr ar y 3ydd o Fedi. Claddwyd ef yn y nos, mewn rhwysg 

mawr. Goleuid yr holl ffordd o'r palas i'r eglwys gan fflam-oleuadau 

(torches). Yr oedd Syr Herbert yn wr o ddylanwad ac awdurdod mawr 

yn ei ardal, ac ymddengys nad oedd chwaith yn fyr o'i ddefhyddio. Yr 

oedd ei air yn gyfraith, a Uywodraethai ei israddiaid a'i ddeüiadon â 

gwialen haiarn. Yr oedd ei ddull o fyw yn Ffynnonbedr ar raddfa 

gyffelyb i eiddo yr hen Farwniaid. Pan yr elai yn ol ac yn mlaen o 

Lanbedr i Lanymddyfri, ar ei ffordd i Lundain, byddai ei denantiaid yr 

holl ffordd yn dyfod yn osgorddlu iV hebrwng yn mlaen gyda'u ceffylau 

a'u hychain. . Ymddengys na fu ei undeb â'r wraig ddiweddaf yn hapus 

iawn, a threuliodd hi ei hoes mewn canlyniad gan mwyaf yn y Foelallt, 

Llanddewi brefi, a chladdwyd hi yn Ystrad Fflur, lle gwelir cof-faen 

hardd iddi. Ati hi y cyfeiria Edward Risiart yn un o'i Fugailgerddi 

pan y dy wed: — 

" Daw Ànna i dy wynu cyn nemawr cân imi, 
Di weli blwy' Dewi'n blodeuo." 

Nid oedd Syr Herbert, modd bynag, heb fod rhai rhinweddau da yn 
perthyn iddo. Fel hyn y canai bardd Castell-hywel am dano: — 

" Y gorau'i ddoniau o ddynion— aned, 
A'r mwyna o gyfeillion; 
Tarrig lew o'et i'r glewion, 
Ond i'r gwâr mor wir a'r o'n." 

Gwel Archceologia Cambremis, 1859; Hanea Llanbedr, gan y Parch. 
D. Ll. Isaac ; Lewis Dwnn's Heraldry, fyc. ' " 

Llwyd, Llywabch, oedd frenin Ceredigion tua diwedd yr wythfed 
ganrif, a thad Morydd. — Myf. Ârch., ii., 477. 

Llwyd, Siajtcyn Dapydd, oedd un o arglwyddi Llanbedr yn y ddeu- 
ddegfed ganrif. — Gwel Bhys Dafydd Thomas. 

Llywellyn ab Gwilym Fychan, oedd dywysog enwog, gwladgarwr 
gwresog, a bardd medrus, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yr oedd yn 
byw yn y Ddolgoch, Cryngae, ac Emlyn, a gelwid ef yn gyffredin yn 
arglwydd Ceredigion. Yr oedd yn noddwr mawr i'r Eisteddfodau, a 
chynnaliwyd amryw o honynt yn ei balasau; ac yn un o honynt, a gyn- 



110 

nelid yn Emlyn, y canodd Dafydd ab Gwilym ei duchangerdd i Rhys 
Meigan, yr hon a efteithiodd gymaint ar ei gydymgeisydd fel y bu farw 
yn y fan ! Yr oedd Llywellyn yn ewythr i Dafydd ab Gwilym, yn gystal 
ac yn athraw barddonol iddo, a chydag ef y treuliodd ei ddyddiau boreuol. 
Lladdwyd y tywysog hwn gan haid o ladron o Saeson Penfro, y 
rhai a ruthrasant ar y Ddolgoch. Oddiwrth yr englyn canlynol o awdi 
Farwnad Dafydd ab Gwilym i'w ewythr, gellir casglu mai yn monachlog 
Llandudoch y claddwyd y pendefig urddasol hwn : — 

" Truan, ac eirian a garo— dadl 
Aed i Landudoch heno: — 
Doethineb neud aeth yno, 
Diwid grair, dan dywod gro." 

Meredith, William, Ficer Silian, a drowyd allan gan y Lledaenwyr 
o dan Cromwell, am feddwdod, a defnyddio y Llyfr Gweddi Cyffredin. — 
Walker 1 8 Sufferings of the Clergy. 

Morgax, Griffith, a ddeolwyd gan yr unrhyw o Barsonoliaeth 
Bangor a Henllan am "ddiffyg dawn, meddwdod, a throseddiad. " 

Moboan, Dafydd Siencyn, cerddor tra enwog tua diwedd y ganrif 
ddiweddaf. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1751 yn Llangranog, Ceredigion. 
Bu ei dad yn glochydd eglwys y plwyf hwnw am flynyddoedd. Bu farw 
ei fam pan oedd ef yn bur ieuanc, ac ymbriododd ei dad eilwaith â mam 
yr enwog Christmas Evans. Yr oedd ei dad yn dipyn o gerddor, a chydag 
ef y cafodd Dafydd bron yr holl ddysg a gyrhaeddodd mewn cerddoriaeth 
yn gystal a phethau eraill. Pan yn ugain oed, ymunodd â chartreflu 
milwrol sir Benfro, gyda y rhai y treuliodd amryw flynyddau. Gan ei 
fod yn dra hoff o gerddoriaeth, cafodd gyfleusderau rhagorol gyda band ei 
gatrawd i ychwanegu at ei wybodaeth o'r gelfyddyd hòno. Ar ol dychwelyd 
i'w ^hrtref, dechreuodd astudio o ddifrif, ac nid hir y bu cyn dyfod 
i gryn sylw yn mysg cerddorion ei gymydogaeth. Gwnaed ef yn fuan yn 
flaenor canu yn eglwys y plwyf, a dechreuodd fyned oddiamgylch i gynnal 
"ysgol gân" (yr hyn oedd yn beth hollol newydd cyn hyn yn y rhanau 
hyny o'r wlad). Ymdaenodd ei glod yn fuan, nid yn unig trwy Ceredigion, 
ond hefyd trwy ranau helaeth o'r Gogledd. Ac ar geisiadau taer ei 
gyfeillion a'i edmygwyr cerddorol, teithiodd amryw weithiau trwy Aber- 
ystwyth, Machynlleth, Dolgellau, Bangor, ac mor belled a Mon, gan 
dreulio amry w fisoedd ynddynt i gadw ysgolion canu yn y gwahanol 
gapeli ac eglwysydd. Ymwelai hefyd yn fynych â Morgan wg a Mynwy, 
Ue yr oedd ei enw yn uchel iawn. Yn ychwanegol at ei lafur gýda'r 
ysgolipn hyn, cyfansoddai lawer iawn o ddarnau cerddorol at wasanaeth 



111 

y cynnulleidfaoedd yrymwelai â hwy, acenwai y tônau yngyffredin oddi- 
wrth enw y fany cyfansoddid hwy. Daeth i gysylltiad âg amryw lenor- 
ion a cherddorion ej[ wlad, megys Ifor Ceri, Ieuan Glan Geirionydd, ac 
eraill, gyda y rhai yr oedd yn dra chyfeillgar, a chyfansoddodd lawer o 
ddarnau cerddorol ar eu cais i eiriau o'u heiddo. Yr oedd yntau ei hunan 
yn awdwr amryw Emynau tlysion ac efengylaidd. Cyfansoddodd hefyd 
aniryw ddarnau moesol a difyrus ar fesur Triban Morganwg, ond nid oes 
ond ychydig o honynt ar gael, a hyny am nad argraffwyd ond ambell un 
o honynt. O ran corff, yr oedd üafydd Siencyn Morgan yn ddyn tàl, 
iach, a chadarn ; ei ben yn fawr anghyffredin; talcen uchel, llygaid treidd- 
gar, a llais clir, gweddol swynol. Arweìniai y canu yn gyson pan fyddai 
gartref, yn Llechryd, hyd ddydd ei farwolaeth, a bu yn hynod ddefnydd- 
iol ac ymdrechgar i godi canu i'w safle briodol yn y cysegr yno yn gystal 
ag yn y wlad yn gyffredinoL Bu farw yn ngwanwyn 1841, yn 91 oed, 
a chladdwyd ef ynmynwent Llangoedmor, ger Aberteifi; ond fel llawer 
o feibion athrylith, nid oes yno gymaint a cliareg i nodi "man fechan 
eifedd" 

" Orenwog wr yn y gân, — difai oedd 
Dafydd Siencyn Morgan; 
Adwyth nad ydyw, weithian, 
Ei ẃyl fedd oad gwaela' fan. " 

Mo&oan, Dàvid, Trallwm, oedd weinidog tra defnyddiol gy da'r 
Methodistiaid CalfinaidcL Ganwyd ef yn mnlwyf Llanrhystyd, ar y 
27ain o üachwedd, 1794. Prentisiwyd efyn saer llongau, a thra yn 
dilyn yr alwedigaeth hòno yn Abergwaun, pan yn 21ain oed, cafodd ei 
argyhoeddi o druenusrwydd ei gyflwr wrth natur, ac ymunodd â'r Meth- 
odistiaid yn y lle hwnw. Dechreuodd bregethu, Mawrth 29ain, 1818; a 
chan nad oedd wedi derbyn ond ychydig fanteision addysg yn flaenorol, 
y mis Mehefin canlynol aeth i'r ysgol i'r Neuaddlwyd at yr hybarch Dr. 
Phillips, Ue y bu yn aros am dymmor. Oddeutu y piyd hwn, meddiannwyd 
ef gan ysbryd cenadol cryf, a bu am beth amser yn llafurio fel cenadwr 
cartrefol yn Mhenybont, sir Faesyfed ; ac mae yn debyg mai efe oedd y 
eenadwr cartrefol cyntaf o eiddo y Methodistiaid yn y*Goror. Gadaw- 
odd Benybont i fyned i Goleg Hackney, i'r dyben o gymhwyso ei hunan 
i fyned allán yn genadwr i'r gwledydd tramor ; ond o herwydd rhy w 
anghydwelediad rhwng y Methodistiaid a Chymdeithas Genadol Llun- 
dain, gadawodd ef y coleg a dychwelodd i Gymru. Yn fuan wedi hyny, 
sef yn Gorphenaf, 1 822, priododd Mary, merch y diweddar Mr. John Bebb, 
Trallwm, o'r hon y bu iddo chwèch o blant, o'r rhai nid oes yn awr ond 
dau yn fy w. Dechreuodd fasnach yn y dref hòno, yr hon a ddygwyd yn 
mlaen ganddo yn llwyddiannus hyd o fewn pedair blynedd i'w farwolaeth. 



112 

Wedi rhoddi ei fasnach heibio, ymroddodd f wy nag erioed i waith y wein- 
idogaeth: — darllenai ac astudiai gyda'r diwydrwydd mwyaf, ac addawai 
iddo ei hunan well manteision nag a gawsai erioed o'r blaen i fod yn 
ddemyddioL Ond yn nechreu gauaf 1862, ymaflodd afiechyd y galon yn 
ei gyfansoddiad, a darostyngwyd ef mewn byr amser i wendid anarferol, 
fel na fu yn alluog i godi ond ychydig wedi hyny. Dihoenodd fel hyn am 
ddau fis ar bymtheg, pryd y darfu i angeu ei ryddhau oddiwrth bob poen, 
Mawrth 14, 1864. Yn ystod ei afiechyd hirfaith yr oedd yn hynod siriol, 
ac amlygai bob amser yr hyder a'r sicrwydd mwyaf fod ei "farn a'i fater 
yn dda," ac yr oedd y teimlad hwn yn cryfhau yn ddyddiol fel yr oedd 
yn gweled ei ddiwedd yn agoshau. Bu farw yn orfoleddus, a'i eiriau 
olaf oeddynt, "It is all right/" Hebryngwyd ei weddillion marwol i 
orwedd i fynwent Eglwys Crist, Trallwm, ar y 18fed o Fawrth, 1864, gan 
dyrfa luosog o weinidogion a blaenoriaid y sir ac eraill ; ac o barch i'w 
goffadwriaeth cauodd amryw o fasnachwyr y dref eu siopau ar yr 
amgylchiad. Yn ei bregeth angladdol, yr hon a draddodwyd gan y Parch. 
Joseph Thomas, Carno, yn mysg pethau eraill, ceir y sylwadau canlynol ar 
Mr. Morgan: — "Fel dyn, yr oedd yn serchog, cyfeillgar, caredig, a 
boneddigaidd. Yr oedd dwy elfen i'w gweled yn amlwg yn ei gymeriad 
nad ydynt ond anfynych yn cyd-drigo, sef tynerwch a gwroldeb. Yr 
oedd yn meddwl drosto ei hun, ac yn ddigon gwrol yn wastad i draethu 
ei feddwL Yr oedd hefyd yn un a allai ddal i gael ei wrthwynebu heb 
dramgwyddo. Gallai efgytunoi angljytuno- Fel Cristion, yr oedd yn 
un ag oedd bron bob amser yn by w uwchlaw ammheuaeth am ddiogelwch 
ei gyflwr, ac yr oedd felly yn neillduol tua therfyn ei yrfa. Fel gweinidog, 
yr oedd delw yr argyhoeddiad tanllyd a brofodd ef ei hunan, i'w gweled 
yn amlwg yn ei bregethau. Cafodd weledigaethau eglur ar drefn Duw, 
ac yr oedd i'» gweledigaethau hyny çu dylanwad ar ei weinidogaeth hyd 
y diwedcL Daioni Duw, cariad Crist, dyddanwch y saint yn wyneb eu 
profedigaethau, oedd prif bethau ei weinidogaeth. Bu yn hynod lafurus, 
a thaflodd ei enaid i bob ysgogiad Methodistaidd. Gofalodd, cynlluniodd, 
gweddîodd, a chyfranodd lawer, a bu yn "ffÿddlon yn yr holl dŷ." — 
T Drysorfa, Hgrdref, 1 864. 

Madog ab Selyp, arglwydd Ceredigion yn y drydydd ga nrif ar ddeg. 
Yn y flwyddyn 1270, talodd warogaeth i Llywelyn yn ol telerau y 
siarter a ganiatawyd gan frenin Lloegr i'r dyben hwnw, yr hon oedd 
yn cadarnhau i Uywelyn y teitl o Dywysog Cymru. Parhaodd yn ei 
arglwyddiaeth hyd y flwyddyn 1300, ac yr oedd efe hefyd yn enwog fel 
bardd. — Meyrictés Cardigamhire, xlü 

Middleton, Richard, mab Marmaduwc, Esgob Ty Ddewi. Addysg- 



I 




113 

ẁyd ef yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, lle, yn 1586, y graddiwyd ef yn 
B. A. Wedi diweddu ei addysgiaeth yno, urddwyd ef, a chafodd Aroh- 
ddiaconiaeth Aberteifi. Ymddengys hefyd iddo gael ei benodi yn Gapelwr 
i Siarl, Tywysog Cymru. Ysgrifenodd — 1. Key of David, Llundain, 1691 ; 
2. The Heawnly Progress, 1617; 3. The Care and Com/ort of Life, 
Llundain, 1613. 

Morgan, Abel, oedd fab i Morgan Rhydderch, brawd Shon Rhydderch, 
yr Argrafíydd, yn y Mwythig. Ganwyd ef yn yr Alltgoch, plwyf Llan- 
wenog, yn y flwyddyn 1673. Yr oedd ei dad yn ddiacon gyda'r Bedydd- 
wyr yn Ühydwilym, sir Benfro, a dygwyd Abel i fyny gyda'r un enwad. 
Ca^odd alwad i fod yn weìnidog yn y Blaenau yn 1697. Llafuriodd yno 
yn barchus a defnyddiol iawn hyd 1711, pryd y penderfynodd ymfudo i 
Pennsyhrania, lle yr oedd amryw o'i berthynasau wedi ymsefydlu yn barod. 
Cychwynodd ef a'i deulu tuag yno, yr 28ain o Fedi, y flwyddyn hòno. 
Cymerodd y fordaith iddo yn agos i bum mis, a chollodd ei wraig a 
phlentyn cyn cyrhaedd pen ei daith. Ar ol ymsefydlu yno, penodwyd ef 
yn weinidog Penybec, yr eglwys hynaf o Fedyddwyr yn nhalaeth Penn- 
sylyania. Bu yn dra diwyd a llwyddiannus gydag achos y Bedyddwyr yn 
y rhanau hyny o'r wlad. Gorphenodd ei daith yn 1722, yn 49 oed. 
Gelwir ef ganysgrifenwyr Americanaidd, "Yr anghymharol Abel Morgan." 
Cyfieithodd Gyfíes Ffydd y Bedyddwyr i'r Gymraeg, a chyfansoddodd 
amryw gatecismau; ond ei brif orchest lenyddol oedd cyfansoddi Cydgord- 
iad, neu Fynegair Cymreig, y cyntaf a gyfansoddwyd erioed. Ni fu byw 
f w ddwyn trwy y wasg, onidê, dichon y buasai yn gyflawnach a pher- 
fíeithiach nag ydyw. Trwy laíur a gofal ei ddau frawd, ac eraill, argraff- 
wyd ef yn Philadelphia, gan Samuel Keimer, a Dafydd Henry, yn 1730. 
Cyflwynwyd ef i David Lloyd, JYsw., prifynad talaeth Pennsylvania, a 
chynnwysa anerchiad at y cyhoedd gan John Cadwalader, Cymro cyfoeth- 
og o Philadelphia. 

Morgan, David, Llanfyllin, un o gedyrn Ymneillduaeth, a anwyd yn 
Nolwen, Talybont, Rhagfyr 27, 1779. Tua'r flwyddyn 1807, dechreuodd 
bregethu, ac am amryw flynyddau parhai ibregethu yngyson yn Nhowyn 
Meirionydd a'r eglwysi cymydogaethol. Yn 1812, dewiswyd ef yn 
fugail ar yr eglwys yn Machynlleth, a bu yn llafurio yn ddiflino yno am 
22 o flynyddau. Chwanegwyd 500 o aelodau at yr eglwys yn ystod ei 
weinidogaeth, a bu yn foddion i sefydlu chwech o eglwysi yn y plwyfydd 
cymydogol. Yn 1836, ymadawodd am Manceinion; ond gan nad oedd 
bywyd dinesig yn dygymmod âg ef, efe a symudodd yn 1839 i Lanfyllin, 
lle y llafuriodd hyd o fewn tair wythnos i'w farwolaeth, pan yr analluog- 
wyd ef gan wendid a henaint i ddilyn ei ddyledswyddau gweinidogaethol, 



114 

ac yr ymfudodd i Groesoswallt, lle y bu farw, Mehefin 15fed, 1858, wedi 
cyrhaedd yr oedran patriarchaidd o 79 mlynedd. Ychydig cyn ei farwol- 
aeth darparasid blwydd-dâl (annuity) iddo, a hyny trwy haelioni yr 
eglwysi Cymreig, yn cael eu cynnorthwyo gan y cyfeillion yn Uoegr/ ond 
bu efe farw cyn cael mwynhau dim o ffrwyth eu caredigrwydd. Yr oedd 
Mr. Morgan yn efrydyddcaled, ac ysgrifenoddlaweri'r cyfhodolionCymreig 
ar wahanol destunau, yn enwedig y Dysgedydd. Ysgrifenai yn fisol i'r 
cyhoeddiad hwnw bennod ar "Hanes yr Eglwys," a chyhoeddwyd hwy 
wedi hyny ganddo yn ddwy gyfrol. Ei weithiau eraill ydynt, Traethawd 
ar Ymneillduaeth ; Hanet Ymneillduaeth ynNghymru; Cyflwr Gurreiddiol 
Âdda a'i Gwymp, yn nghydaü nodweddiad fel Cynnrychiolydd ei 
Hüiogaeth; Esboniad ar y Datguddiad, yn nghydag amryw/ân-draethodau 9 
pregethau, $c. "Mae yr holl weithiau yna, fel pob peth arall cynnyrched- 
ig gan ysgrifell Mr. Morgan, yn arddangosiad o feddwl cryf a threiddiol 
— barn addfed a llwyr annibynol — medr a chrafFder rhagorol mewn rhes- 
ymeg — iaith bur a choethedig, etto nerthol a chadarn, os nad yn rhy lem 
wrth ymdrin â phleidiau o wahanol dybiau. Yr oedd ei nodweddiad 
pregethwrol agos yr un fath a'i nodweddiad awdurol. Yr oedd diwyd- 
rwydd a dyfalwch yn nglŷn â'i natur; ni wyddai beth ydoedd diogL 
Gwyddai yn dda pa fodd i brynu yr amser. Yr oedd yn fynych yn ei 
fyfyrgell am 3 o*r gloch yn y bore, a hyny hefyd ar ol dydd o lafur caled 
mewn pregethu. Dyn ydoedd o gyfansoddiad haiarnaidd— o ddeall 
grymus — o ddyfalbarhad anwrthwynebadwy — yn amddiffynwr cyndyn 
o'r egwyddor wirfoddol, fel yr ennillodd iddo ei hun trwy y Dywysogaeth 
y llysenw, "Morgan yr Ymneillduwr mawr." Etto, ar yr un pryd, yr 
oedd yn Gristion twymgalon a charedig— yn gymwynaswr iV wlad a'i 
genedl— yn bregethwr difrifol a serchog o'r efengyl— yn fendith i»r 
eglwys, ac yn addurn arbenig Tr cyfundeb Cynnulleidfaol. " — The Congre~ 
gational Year Booh } 1859. 

Morgan, Enoch, oedd frawd i Abel Morgan, a ganwyd ef yn y flwyddyn 
1676. Ymfudodd i Pennsylvania yn 1701. Bu yn weinidog ar eglwys j 
Bedyddwyr yn Wehh Tract, yn'y^dalaeth hòno, lle y gorphenodd yrfa 
lafurus a llwyddiannus yn y flwyddyn 1740. Gadawodd fab ar ei ol, o'r 
enw Abel Morgan, yr hwn a fu am amserj t maith yn weinidog ar eglwys 
fawr a chyfoethog o Fedyddwyr yn Middletown, Jersey Newydd. Mae 
yr ysgrifenwyr Americanaidd, yn ddieithriad, yn rhoddi y ganmoliaeth 
uchaf iddo fel pregethwr ac ysgolhaig. Bernir fod y Cadfridog Daniel 
Morgan, yr hwn oedd enedigol o dalaeth Jersey, yn hanu o'r un teulu. 

Morris, Dàvid, ydoedd ft bregethwr defnyddiol yn nechreu y diwygiad 
Methodistaidd. Ganwyd ef yn Lledrod, yn y flwyddyn 1744, a dechreu- 



115 

odd bregethu pan yn 21ain ml. oed. Ymddengys na chafodd ddim man 
teìsion dysgeidiaeth yn ei ieuenctyd, ond trwy ei ymdrechion a'i ymrodd- 
iad daeth yn alluog i ddarllen ac ysgrifenu y ddwy iaith yn lled rwydd. 
Ac ystyried ei anfanteision daeth yn feddiannol ar gyfran lled helaeth o 
wybodaeth dduwinyddol. Pan etto yn ddyn ieuanc, aeth yn dew anar- 
ferol — cymaint felly fel yr oedd yn destun syndod i bawb a'i gwelent, a 
theimlai anhawsder mawr yn fynych i fyned i mewn trwy ddrysau y 
pulpudau. Fel canlyniad o hyn, goddiweddid ef yn aml gan syrthni a 
chysgadrwydd, ac nid anfynych y cysgai wrth farchogaeth ei geffyl, neu 
tra y dechreuai brawd arall yr oedfa iddo. Yr oedd hyn, fel y gellid 
meddwl, yn achos anghysur mawr, ac yn peri anghyfleusdra nid bychan 
iddo. Er hynyteithiai lawer oddiamgylch, ac ymwelai â'r Gogledd yn 
fynych iawn, ac ymledodd ei glod yno fel pregethwr, a chai gynnulleidfa- 
oedd mawrion i'w wrando lle bynag yr elai. Mae yr adgof am ei weinid- 
ogaeth rymus ac effeithiol etto heb lwyr ddarfod yn mysg rhai o'r hynafiaid 
yn y rhanau hyny o'r wlad. "Fe fyddai gweinidogaeth danllyd a nerthol 
Dafydd Morris, pan y deuai i Wynedd, yn gyffelyb i adeg y mellt a'r 
taranau. Safai dynion anystyriol yn syn gan fraw; delid hwy gan ddych- 
rynfeydd fel pe b'ai y Barnwr yn ymddangos ; ac âi y rhuthr heibio gyda 
chawodydd bendithiol o'r gwlaw graslawn. Mawr y son sydd hyd 
heddy w am bregeth o'r eiddo yn Mon, yn agos i Bont Ripont, yr hon a 
elwir hyd heddyw, Pregeth y goUedfawr. Ei destun oedd, ' Pa lesád 
i ddyn os ennill efe yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hunî neu pa beth a rydd 
dyn yn gyfnewid am ei enaidT Tòrai y pregethwr allan mewn gwaedd 
groch a dolefus, 'O bobl y golled fawr!' nes oedd y gwrandawyryn plygu 
o'i flaen, fel y gwna y gorsen gan nerth y gwynt. Chwanegwyd llawer 
iawn at yr eglwysi mewn canlyniad, a hir a hyfryd a f u y son am y 
bregeth gan yr hen bobl tra y buont by w. " Gwelir oddiwrth hyn mai 
prif nodwedd ei weinidogaeth ydoedd grymusder f ac yr oedd ei ddull 
sobr-ddwys a difrif o gyhoeddi y genadwri a thuedd uniongyrchol ynddo 
i ddeffroi yr anystyriol a'r difater am ei gyflwr. Byddai yn arferol o 
ysgrifenu prif faterion ei bregethau, ac mae hyn yn rhoddi cyfrif am y 
dèstlusrwydd a'r trefhusrwydd a'u nodweddent ragor eiddo llawer o'i 
gydbregethwyr. Ysgrifenodd lawer iawn o bregethau yn ystod ei oes, a 
dywedai Mr. John James, Castell Newydd, iddo ei wrando saith ugain o 
weithiau yn ystod un flwyddyn, ac fod gwahanol bregeth ganddo bob tro. 
Yn mlynyddau olaf ei fywyd, cyfansoddodd lawer iawn, ac mae amryw o 
honynt ar gael yn awr mewn llawysgrifau. Cysegrodd Dafydd Morris 
ei oes i lafur teithiol gyda'r weinidogaeth: — gwnaeth fwy felly o wasan- 
aeth i achos Methodistiaeth y cyfhod hwnw na neb arall o'i gydlafurwyr; 
a chymaint y gwerthfawrogid ei ddawn, f el nad elai nemawr Gymdeithasfa 
heibio yn un rhan o'r wlad heb iddo ef gymeryd rhan arbenig ynddi. 



T16 

Er mwyn cysegru ei hunan yn fwy llwyr i wasanaeth ei Arglwydd, 
ymryddhaodd yn y fl. 1 774 oddiwrth ei orchwylion bydol. Ychydig cyn 
ei farwolaeth symudodd i fyw i ardal Twrgwyn, Ue y bu farw, ar y 17eg 
o fis Medi, 1791, yn 47 mL oed, wedi bod yn pregethu tua 26 o flynydd- 
oedd. Bu iddo dri o feibion — dau o ba rai a gladdwyd yn eu hieuenctyd; 
ond bu y llall fy w ar ei ol, a phrofodd ei hunan yn weinidog defhyddiol a 
llwyddiannus fel ei dad. Hwn ydoedd — 

Morris, Ebenezer, a ganwyd ef yn Lledrod, yn y fl. 1 769. Cafodd y 
fraint o dderbyn addysg led dda yn ieuanc mewn ysgol Ramadegol o 
gryn fri a gedwid yn Troed-yr-Aur, gan un offeiiiad o'r enw Davies. Nid 
ymddangosai ynddo y pryd hyny yr un arwydd o dduwioldeb; ond pan 
tua 18 oed, argyhoeddwyd ef o druenusrwydd ei gyflwr trwy offerynoldeb 
Dafydd William Bhys, un o bregethwyr boreuol y Methodistiaid; ymun- 
odd â'r eglwys, a dechreuodd brcgethu pan nad oedd etto ond tua 19eg, 
oblegid arddangosai gymhwysderau neillduol at y gwaith. Yn fuan wedi 
hyny cymerodd daith trwy y Gogledd yn nghwmni y Parch. Dayid Parry, 
Brycheiniog. Ar farwolaeth ei dad, yn y fl. 1791, symudodd i hen gartref 
ei dad, yn mhlwyf Troed-yr-Aur, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. 

Mae yr hyn a ddywedwyd eisoes am ei dad fel pregethwr yn wir, i 
raddau mawr, am y mab hefyd. Prif nodwedd ei weinidogaeth yntau 
ydoedd grymusder, a daeth yn boblogaidd anarferol trwy Dde a Gogledd. 
Meddai lais cryf a pheraidd, yr hwn oedd yn hollol o dan ei lywodraeth, 
fel y gallai ei gyfaddasu at y gwahanol faterion fyddai dan sylw gyda'r 
deheurwydd mwyaf. Yr oedd «i iaith yn nodedig am ei choethder, a 
byddai ei ymadroddion bob amser yn hynod am eu priodoldeb a'u grym- 
usder. Tueddai ei ymddangosiad yn y pulpud hefyd i hawlio gwrandaw- 
iad astud, oblegid dywedir ei fod o ran fíurf corfforol yn hardd a lluniaidd 
dros ben. Yr oedd ei wynebpryd yn agored a theg, yn llawn gonestrwydd 
a challineb, a meddai àr bob cymhwysder golwg a gwedd i beri sylw a 
pharch. Yr oedd ei ddawn yn hollol naturiol, ac nid oedd dim tebyg i 
falchder na rhodres yn agos iddo. Ni pharhai ei bregethau ond anfynych 
dros hanner awr o amser; ac fel ei dad gwnai ddefnydd mynych ynddynt 
o'r Ysgrythyrau, a byddai ei sylwadau ar y rhanau hyny a ddyfynai yn 
gynnwysfawr, a grymus neillduol. Ei brif amcan yn wastad fyddai dwyn 
y gwirionedd a'r gwrandawyr i gyfarfyddiad â'u gilydd — Uefarai "fel un 
ag awdurdod ganddo," fel ag i beri i'r gwrandawyr deimlo mai wrthynt 
hwy, ac am danynt hwy y llefarai. Ac fel y sylwai un hen flaenor a'i 
clywsai rai cannoedd o weithiau, ni byddai byth yn terfynu ei bregeth 
"heb gad gafad yn y bobl" "Dysgleiriai rhyw luchedau tanllyd yn fyn- 
ych yn ei bregethau, a fyddent yn wir anorchfygol. Teimlai ei wranda- 
wyr yn aml, pan y gollyngai allan fygythion Duw yn erbyn anwirfyd, 



117 

mewn llaisgrymus, a chyda gwedd arswydlawîi, eu bod megys ar ddibyn 
dystry w, a theimlent eu gwallt yn sefyll yn syth, a'u cnawd yn crynu gan 
fraw. Cerddai nerth ac awdurdod anarferol yn fynych gyda rhyw air a 
draethai; — gair a adroddai drosodd a throsodd, nes y byddai pob wyneb 
yn llif o ddagrau. Cofus gan yr ysgrifenydd ei wrando yn Nghymdeith- 
asfa y Bala, flynyddoedd lawer yn ol, pan yn pregethu ar y testun, ' Hwn 
a osododd Duwjyn iawn/ &c, ac yn adrodd eilwaith ac eilwaith y gair 
Iawn! Iawn! Iawn! gyda llais grymus, ac ysbryd toddedig, nes oedd y 
miloeddpobl wedi eu meddiannu â theimladau annhraethadwy." 

Yr oedd ei amgylchiadau teuluaidd yn gyfryw ag na adewid iddo ond 
ychydig amser i astudio ei bregethau, ac felly nid ryw lawer o ôl celfydd- 
yd oedd i'w weled arnynt, ond yr oedd ei synwyr naturiol cryf a'i farn 
gywir yn gwneud i fyny am y difFygion eraill. Teithiai laẅer trwy y 
wlad, ac nid ystyrid un Gymanfa yn gyflawn heb gael ei bresenoldeb ef 
ynddi. Anfynych yr ennillodd neb y fath boblogrwydd, a hyny yn ngwyn- 
eb y fath anfanteision ag ef, ac yr oedd ei gymeriad moesol yn ddifrych- 
eulyd. Yr oedd ei lafur gweinidogaethol, fel y gellid dysgwyl, yn fawr 
iawn. — "Gellir dweyd yn gadarn," medd un oedd yn dra chydnabyddus 
âg ef, "ei fod, at eu gilydd, yn pregethu unwaith bob dydd am flỳnyddau 
diweddaf ei oes. Arferai bregethu mewn amser ac allan o ainser; îe, nid 
oedd yn ol i'r diwygwyr penaf yn hyn." 

Cymerodd Mr. Morris ran arbenigyn y ddadl ar neillduad gweinidog- 
ion i weinyddu y sacramentau yn mysg y Methodistiaid, yn y Gymanfa a 
gynnaliwyd yn Aberteifi ar yr achos, yn y fl. 1810; ac er ei fod y pryd 
hyny heb ei gyflawn urddo, etto yr oedd ei ddylanwad ar ei frodyr yn 
fawriawn, fel y rhoddid y gwrandawiad a'r sylw mwyaf i bobpeth a ddy- 
wedai. Llafuriodd lawer mewn cysylltiad â Mr. Williams, Lledrod, 
John Thomas o Aberteifi, Mr Gray, a'r Parch. David Evans, Aberaeron, 
i ledaenu achos crefydd trwy y wlad, ac ychydig fu mor llwyddiannus yn 
eu gweinidogaeth. Bu farw yn 56 mlwydd oed, yn y flwyddyn 1825, 
wedi bod yn pregethu am 37 o flynyddoedd.— Meth. Cynwu, «yf. ü, 
tudal. 91; Uvangelical Magazine, April, 1826. 

Mobris, Lewis. Er mai un o'r Monwysiaid, o ran ei enedigaeth, 
oedd yr hynafiaethydd a'r bardd enwog Lewis Morris, etto, yn gymaint 
ag iddo clreulio cyfran o'i oes yn Ngheredigion, credwn nad yw gair neu 
ddau am dano yn anmherthynasol i'n testun. Mab ydoedd Lewis Morris 
i Morris Pritchard Morris o bentref Eirianell, yn mhlwyf Penrhos 
Llugwy, Mon, lle y ganwyd ef, Mawrth 1, 1702. Ychydig fanteision 
addysgawl a fwynhaodd efe yn ei ieuenctyd; ond ymddengys iddo wneud 
y defiiydd goreu o honynt, fel y gellir casglu oddiwrth y fíaith iddo gael 
ei ddwyn i fyny yn y gelfyddyd o fesur tir, ac iddo fod yn dal amryw 



118 

swyddi o bwysigrwydd ac ymddiried o dan y lly wodraeth. Y gorchwyl 
cyntaf a ymddiriedwyd iddo yn y cymeriad olaf, ydoedd casglu y tollau 
yn Nghaergybi. Yn 1737, penodwyd ef gan y Morlys i wneud ymchwiliad 
ar arfordir Cymru, yr hyn a wnaeth i foddlonrwydd, a chyhoeddwyd 
rhan o'r gwaith yn y flwyddyn 1748. Tua'r un amser, daliai hefyd y 
8wydd o arolygydd cyllid tirol y brenin, casglydd y tollau yn Aberdyfi, 
a goruchwyliwr mwnau y brenin yn Nghymru. Yr oedd ei wybodaeth 
o fwnyddiaeth yn eang iawn, a pharotodd waith helaeth af y gangen 
hòno, ond ni chyhoeddwyd ef. Yr oedd hefyd yn dra hyddysg yn y 
gelfyddyd feddygol: talai sylw mawr i lysieuaeth, a throai y cyfan i 
fod yn wasanaethgar er llesâu ei gymydogion tlodion pan mewn afiechyd. 
Talai lawer o sylw i athroniaeth naturiol a mesuroniaeth; a chasglodd yn 
nghyd lawer o gywrein-bethau, megys cregin, fossils, $c. Cyrhaeddodd 
raddau uchel hefyd o wybodaeth mewncerddoriaeth,a gallaichwareu am- 
ryw offerynau cerdd, megys y delyn, y crwth, &c. Nid oeddchwaith mewn 
un modd yn anenwog fel bardd, fel yr ymddengys oddiwrth amryw 
ddarnau o'i eiddo a welir yn y Dyddanwch Teuluaidd, o gasgliad Dafydd 
Jones o Drefriw. Ond fel hynafiaethydd a hanesydd Cymreig y mae ei 
enw yn fwyaf adnabyddus yn mysg ei gydwladwyr. Darllenodd a chwil- 
iodd lawer ar y pynciau hyn, a bwriadai gyhoeddi ffrwyth ei ymchwiliad 
mewn dwy gyfrol, o dan y teitl, "Cellic Remaina;" ond ni chafodd fyw i 
ddwyn y gwaith i'r cyiry w ffurf orphenedig fel ag y gellid ei argraffu. 
Diau y buasai y gwaith hwn yn ' gaffaeliad mawr i lenyddiaeth hynaf- 
iaethol ein gwlad. Mae ei gasgliad o lawysgrifau Cymreig, y rhai a 
irynnwysant tua phedwar ugain o gyfrolau, yn awr yn yr Amgueddfa 
SydZig. Yr Ld Lewis MorrisTn wkdgarwr yn ystjr helaethaf y 
gair, a gwnaeth fwy, ond odid, na neb yn ei oes mewn ffordd o gefnogi 
llenyddiaeth ac awenyddiaeth ei wlad. Ni ddylid anghofio mai iddo ef 
yr ydym yn ddyledus am ddwyn allan gyntaf i sylw un o'r beirdd goreu 
a gynnyrchodd Cymru erioed, sef yr anfarwol ' Goronwy Owen, awdwr 
Cywydd y Fwrn y i'r hwn y bu yn noddwr gwresog ac yn gyfaill ffydd- 
lawi ar hyd ei oes. Gohebai Lewis Morris laŵer â phrif ddysgedigicn y 
deyrnas, megys Mr. Pegge, Dr. Percy, Mr. Carte, ac eraill, y rhai a 
ymgynghorent âg ef ar bynciau yn dwyn cysylltiad â hanesiaeth leol; a 
gwelir rhai o'r llythyrau hyn, y rhai ydynt yn dra dyddorol, yn argraff- 
edig yn y gyfrol gyntaf o'r Cambrian Register — yr ail gyfrol o ba un a 
gynnwysa hanes ei fy wyd. Bu yn briod ddwywaith, sef yn gyntaf âg 
Elizabeth Griffiths, Ty wrdyn, yn agos i Gaergybi; ac yn ail âg Ann 
Lloyd, Penbryn, Ceredigion. Cymerodd y briodas olaf le yn y flwyddyn 
1749, a symudodd yntau i Penbryn, lle y treuliodd y gweddill o'i oes, 
ac y bu £arw Ebrill 11, 1765, a chladdwyd ef yn Llanbadarn 
Fawr. 



119 

Morris, William, trydydd fab Lewis Morris, Penbryn. Ail gyhoedd- 
odd Survey of the Coasts of Wales, 1 748, gan ei dad, a darlunlen o Fon 
ganddo ei hun, yr hwn sydd ar raddeg ddigon eang i gynnwys pob tŷ yn 
yr ynys; hefyd, Short History of the Manor of Creuddyn, 1751. 

Morydd, mab Llywarch Llwyd, brenin Ceredigion, marwolaeth yr 
hwn a gofnodir fel wedi cymeryd lle y diwmod y bu diffyg ar y lleuad, 
Rhagfyr 8, S30.—Myf. ii 477. 

Non, a gyfenwid Fendigaid, oedd seintes enwog yn byw tua diwedd 
y bummed ganrif. Merch ydoedd i Gynyr o Gaer Gawch, yn Mhenfro, 
neu Geredigion, fel y myn rhai. Priododd â Sandde ab Caredig ab 
Cunedda, o'r hwn y bu iddi fab, sef yr enwog Dewi Sant. Mae Eglwys 
Llanuwchaeron, a chapel Llanon (o'r hwn nid oes dim olion yn 
bresenol), yn y sir hon, wedi eu cysegru iddi. — Rees 1 Welsh Saints; Iolo 
MSS., 545. 

Oliyer, Thomas, oedd enedigol o blwyf Lledrod, a threuliodd y rhan 
olaf o'i oes yn ficer Dudley, sir Gaerwrangon. Gadawodd ar ei ol swm o 
arian a thir, er gwaddoli ysgol ramadegol i ddysgu nifer penodol o blant 
tlodion ei blwyf genedigol. Yn yr ewyllys, yr hon a ddyddiwyd Mai, 
1745, gadawoddi'r dyben hwn fferm fechan, yr hon a ddaethai yn etif- 
eddiaeth iddo yn y plwyf hwnw, yn nghyda'r swm o bedwar cant o bun- 
nau iV dodi allan ar diroedd eraill. Bhoddodd y rhai hyn yn nwylaw 
ymddiriedolwyr a ddewiswyd ganddo, ac ymddiriedwyd y gwaith o benodi 
athraw i'r ysgol i John Lloyd, Ysw., Ffosybleiddiaid, a'i etifeddion ar ei 
ol. Ond gan i Mr. 01iver farw cyn pen y flwyddyn ar ol gwneud y 
weithred hon, syrthiodd yn ddirym yn ngolwg y gyfraith. Ond darfu 
iV weddw drachefh adnewyddu y gwaddoliad trwy dynu gweithred 
newydd yn y Chancery. Yn ychwanegol at Ynysygarn, (eiddo Mr. 
01iver ei hun), prynwyd dwy neu dair o ffermydd helaeth yn mhlwyfydd 
Llandyssul, Llanrhystyd, a Thregaron. Athraw cyntaf yr ysgol hon 
oedd yr hybarch Edward Bichard; ac ymddengys mai esiampl haelionus 
Mr. 01iver fu yn foddion i T w dueddu yntau i waddoli ysgol gyffelyb yn 
ei blwyf ei hun. — Meyriclc's Cardiganshire, p. 327. 

Owain ab Tythwalch, Arglwydd Ceredigion yn y ddegfed ganrif. 
Ei unig ferch ac etifeddes, Morfydd, a briododd â Gwydder Sant, a bu 
iddynt fab, sef Gwaethfoed Fawr. O hono ef yr hana teulu parchus 
presenol Gogerddan. 

Padaen, oedd sant enwog yn byw yn nechreu y chweched ganrif, mab 



120 

Pedrwn, neu Pedredin, fab EmyrLlydaw, achefhder St. Cadfan, gyda'r hwn 
y daeth drosodd o Lydaw i Frydain tua'rflwyddyn 516. Bu am ychydig 
amser ar ol ei ddyfodiad yn aelod o Goleg Illtyd. Sefydlodd eglwys ei 
hunan, yn gynnwysedig o 120 o aelodau, yn y lle a alwyd wedi hyny, 
oddiwrtho ef, Llanbadarn Fawr. Mewn amser, gwnaed ef yn esgob yno, 
ac mewn rhai Uawysgrifau, gelwir ef yn Archesgob Llanbadarn. Ni 
wyddis gyda sicrwydd dros faint o amser y parhaodd y lle yn sedd 
esgobol; ond crybwyllir yn y Croniclau Cymreig, yn y flwyddyn 720, am 
eglwysi Llandaff, Mynyw, a Llanbadarn, wrth yr hyn y deállir y diriog- 
aeth esgobol a gynnwysent, Ymddengys i Padarn arolygu yr eglwys yn 
y Ue am tua un mlynedd ar hugain; ac yn ystod yr amser hwn, iddo 
lafurio yn ddiwyd iawn, gan bregethu ar hyd y wlad a chynnorthwyo y 
tlodion, o ba achos y gelwid ef yn un o dri "gwesteion gwynfydedig" 
Prydain. Dywed Ioan o Tynemouth yn ei Gronicl, iddo adeiladu myn- 
achlogydd ac eglwysi trwy holl wlad Ceredigion. Ar ol llafurio gyda 
llwyddiant mawr, aeth drosodd drachefn i Lydaw, a threuliodd ddiwedd 
ei oes yn mysg y Ffrancod. Efe ydoedd sylfaenydd eglwysi Llanbadarn- 
tref-egiwys, neu Llanbadarn-fach, a Llanbadarn-odin, yn Ngheredigion ; 
yn nghydag eraill yn Maesyfed. Ei ddyddiau gwyl, yn ol y Croniclau 
Cymreig, oeddynt Ebrill 16 a Tachwedd 12. — Reeé Lives of the British 
Saints; lolo MSS., 449; Myf. Arch., ü, 10. 

Parby, Stephen, Ysw., Neuadd Trefawr, ydoedd TJstus Heddwch, ac 
am Beth amser yn Aelod Seneddol dros fwrdeisdrefi Ceredigion, sef o'r 
flwyddyn 1714 hyd ei farwolaeth yn 1724. Yn 1722, argrafìwyd Uyfr 
yn dwyn y teitl, Dwysfawr rym Buchedd Grefyddol, gan A. T., wedi ei 
gyflwyno i Stephen Parry, Ysw. — Llyfryddiaeth y Cymry; Traeth- 
odydd, 1853. 

Peter, David, oedd weinidog enwog yn mysg yr Annibynwyr. €ran- 
wyd ef yn Aberystwyth, yn y flwyddyn 1755. Derbyniodd ei addysg yn 
y Coleg Presbyteraidd yn Nghaerfyrddin, i'r hwn y dewiswyd ef yn 
mhen amser wedi hyny yn athraw duwinyddol. Yr oedd ar yr un pryd 
yn weinidog ar yr eglwys a ymgyfarfyddai yn Lammas Street, y dref 
hbno. Daliodd y ddwy swydd hyn am yr yspaid maith o ddeugain 
mlynedd, a chyflawnodd hwy gyda fiyddlondeb diball. Derbyniodd 
nifer mawr o wŷr ieuainc eu haddysg yn yr athrofa yn ystod yr amser y 
bu ef yn ei harolygu, a throdd llawer o honynt allan yn mysg y gweinid- 
ogion mwyaf llwyddiannus a feddai y Dywysogaeth. Bendithiwyd ei 
weinidogaeth mewn modd nodedig, fel y cynnyddodd aelodau yr Anni- 
bynwyr yn y dref hòno o ddeugain i dros chwe' chant o rifedi Mae ei 
enw yn ddigon adnabyddus fel awdwr ffanes Crefydd yn Nghymru, yr 



121 

hwn a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1816. Cyfieithodd o'r Saes- 
onaeg The Protestant Dissenter's Catechism, o waith Samuel Palmer, a 
chyhoeddwyd ef yn 1803. Argraffwyd pregeth o'i eiddo, ar Esaiah xxi. 
11, 301 Nghaerfyrddin. Bu farw y dyn enwog hwn Mai 4, 1837, ac mae 
ei gofiadwriaeth yn barchus gan ei gydwladwyr hyd heddy w. 

Phillips, Cathebine, ydoedd ail wraig J. Phillips, Ysw., o'r Priordy, 
Aberteifi. Merch ydoedd i farsiandwr yn Llundain, lle y ganwyd hi yn 
y flwyddyn 1631. Smbriododd â'r uchod pan yn 16 oed, a daeth i fyw i 
Aberteifi. Yr oedd Mrs. Phillips yn farddones o gryn enwogrwydd yn 
ei dydd, ac ysgrifenai lawer dan y fiugenw "Orinda;" ac ymddangosodd 
cyfrol o'i barddoniaeth dan yr enw hwnw yn 1667. Ysgrifenodd hefyd 
gyfrol o lythyrau at ei chyfaill Syr Siarls Cottorel, yn dwyn y teitl, Letters 
Jrom Orinda to Poliarchus, yr hon a gyhoeddwyd yn 1705. A chyda 
chynnorthwy Iarll Dorset a Waller, cyfieithodd Tragedy of Pompey, o 
Ffrancaeg Corneile. I'r gwaith yma ysgrifenodd Iarll Roscommon 
prologue, ac anrhydeddodd hi yn mhellach trwy ddynwarediad o'i gwaith, 
yr hwn a dynai allan o'r ail awdl ar hugain o ail lyfr Horas. Dysgasai 
hefyd yr Italaeg pan yn dra ieuanc, trwy gynnorthwy ei chyfaill Syr 
Siarls Cottorel. Ysgrifenwyd awdl ar farddoniaeth Orinda gan y bardd 
Cowley, yr hwn hefyd a gyfansoddodd farwnad iddi. Treuliodd gyfran 
o'i bjfoyd yn yr Iwerddon, i ba le y gorfyddasid i'r teulu encilio oblegid 
amgylchiadau dyryslyd y gwr. Yn ystod ei harosiad yno, enniUodd iddi 
ei hunan luaws mawr o gyfeillion a noddwyr o radd uchel, megys Duc 
Ormond, àc. Pan ar ymweliad â Llundain, yn y flwyddyn 1664, cafodd 
y frech wen, o'r hon y bu £arw, yn 33 mlwydd oed. 

Phillips, Thomas, D.D., Neuaddlwyd. Ernad oeddy gwr enwoghwn 
yn enedigol o sir Aberteifi, etto, gan mai ynddi hi y treuliodd y cyfan bron 
o'i oes, ac yr ennillodd ŷ fath enwogrwydd, nis gellir myned heibio iddo 
yn ddisylw. Ganwyd Dr. Phillips Mawrth 29, 1772, mewn amaethdy 
o'r enw Scythlyn, plwyf Llanfihangelar-arth, sir Gtaerfyrddin. Yr oedd 
ei rieni yn aelodau o'r Eglwys Gynnulleidfaol yn Pencadair, ac yr oedd 
ei dad yn swyddwr ynddi. Derbyniodd yr addysg oreu a allai yr ysgol- 
ion cymydogaethol ei gyfranu, ac ymddengys iddo wneud cynnydd 
rhagorol. Teimlodd argraffiadau crefyddol cryfion pan yn dra ieuanc, 
ond yr oedd tua deunaw oed cyn ymuno â'r eglwys. Nid hir y bu cyn y 
canfyddwyd ynddo gymhwysderau neillduol at waith y weinidogaeth; ac 
yr oedd tuedd ynddo er yn ieuanc i bregethu. Ac felly, pan yn 19 oed, 
anfonwyd ef i ysgol yr enwog Barch. D. Davies, Castell-hywel, lle y 
treuliodd tua blwyddyn. Ar ol hyny aeth i athrofa Caerfyrddin, Ue bu 
tua dwy fiynedd a hanner. Wedi terfynu ei amser yno, bu yn gweinid- 



122 

ogaethu am tua hanner blwyddyn yn Ebenezer, Pontypool; ond nid ym- 
sefydlodd yno fel gweinidog rheolaidd. Yn fuan derbyniodd alwad 
unfrydol gan Eglwys y Neuaddlwyd, â'r hon y cydsyniodd; ac yno y 
treuliodd y gweddill o'i oes, er iddo dderbyn llawer iawn o alwadau o dro 
i dro oddiwrth eglwysi Uuosocach a chyfoethocach. Yn y flwyddyn 1810, 
agorwyd athrofa Ramadegol a Duwinyddol yn Penybanc — adeilad bychan 
a godwyd gan Mr. Phillipa ei hun, i'r dyben o gadw ysgol ddyddiol ynddo 
i'w blant ei hun ac eraill. Ar y sefydliad hwn, penodwyd Mr. Philiips 
yn athraw, a mawr fu y Uwyddiant a ddilynodd ei ymdrechion gyda'r 
rhai a ymddiriedwyd i'w ofal. Yr oedd ynddo bron bob cymhwysder 
ellid ei ddymuno er gwneud athraw llwyddiannus; a dywedir fod dros 
ddau gant o'r ysgolheigion wedi troi allan yn weinidogion yr efengyl, 
naill ai yn yr Eglwys Sefydledig, neu gyda'r Ymneillduwyr. Yn y 
flwyddyn 1831, derbyniodd y radd o Ddoctor mewn Duwinyddiaeth, gan 
Goleg Jersey Newydd, yn America. Cynnygiasid yr un anrhydedd iddo 
yn flaenorol gan Glasgow, ond gwrthododd ef. Fel dyn, o ran gwneuth- 
uriad ei gorff, a'i ymddangosiad personol, yr oedd yn hardd a phrydferth, 
tua chwe' throedfedd o daldra; ei lygaid yn dduon fel y fran, yn llewyrchu 
diniweidrwydd, hynawsedd, a sirioldeb, a'i holl edrychiad yn arddangos 
gostyngeiddrwydd a chyfeillgarwch. Yr oedd ganddo feddwl dewr a 
phenderfynol — y cyfry w ag a'i cynnaliai yn ngwyneb pob rhwystr a 
phrofedigaeth. Er ei fod yn hynod ddidderbyn-wyneb, medrai argyhoeddi 
ei gyfeillion o fai yn effeithiol a didramgwydd. Fel Crùtion, yr oedd yn 
ofalus iawn am roddi y pwys mwyaf ar bethau pwysicaf crefydd, gan 
roddi eu lle priodol iddynt. Mewn cyfeillach gallai fod yn hynod ddi- 
fyrus ac ysmala; ond pan y deuai pethau crefydd dan ei sylw, byddai 
difrifoldeb a sobrwydd yn ei eiiiau a'i wedd, nid yn unig yn yr areithfa, 
ond mewn cyfeillachau cyfrinachol hefyd. Fel pregethwr, cyrhaeddodd 
raddau anghyffredin o boblogrwydd. Meddai ar ddawn a dull priodol 
iddo ei hun, fel yr oedd bron yn anmhosibl ei efelychu na'i ddynwared, ac 
mae bron mor anmhosibl a hyny i roddi darluniad cywir o hono. Ni 
pherthynai iddo lawer o hyawdledd, yn ystyr gyffredin y gair; byddai ei 
draddodiad yn hollol naturiol ; ni wnai unrhyw ysgogiad corfforol, oddieithr 
symudiad achlysurol ei law ddehau, ac yr oedd bob amser yn meddiannu ei 
hunan pan yn pregethu wresocaf. Yr oedd ei bregethau i gyd yn llawn 
efengyl — Crist a'i groes fyddai eu swm a'u sylwedd; ac yr oeddynt yn 
hynod sylweddol, syml, a dealladwy. Ei lais oedd beraidd a swynol, heb 
swn uchel, na'r mesur lleiaf o dôn canu. Yn ystod tymmor ei weinidog- 
aeth, derbyniodd rhwng dwy a thair mil o bersonau i gymundeb eglwysig; 
a rhwng dyledswyddau yr Ysgol, y gofal dros yr eglwysi, y darllen, y 
myfyrio, a'r cyfansoddi, treuliodd fy wyd llawn gweithgarwch. Yr oedd yn 
nodedig am ei sel dros y Gymdeithas Genadol : pregethodd a dadleuodd 



123 

ei hachos ar hyd a lled y wlad ; a chafodd ef y fraint o weled tri o aelodau ei 
eglwys yn cael eu hordeinio a'u hanfon allan i faes y Genadaeth, sef Jones, 
Bevan, a Johns. Y mae Dr. Phillips yn awdwr y -llyfrau canlynol: — 
1. Pregethar 1 Cor. xv. 3. 12plyg. Caerfyrddin, 1803.— 2. Pregeth ar 
Galatiaidiü 19. 12plyg. Caerfyrddin, 1808. — 3. Brenhiniaeth Crist, wedi 
ei hystyried mewn pregeth ar Luc i. 33. 12plyg. Caerfyrddin, 1812. — 4. 
Natur Cyfammod Eglwys, 12plyg. Caerfyrddin, 1815. — 5. Ychydig Fasg- 
edeidiau o Sypiau Grawnwin, 12plyg. Aberystwyth, 1818. — 6. Ychydigo 
Lomon Grawnwin, 12plyg. Caerfyrddin, 1826. — 7. Esboniad Byr ar y 
Testament Newydd, 4plyg. Caerfyrddin, 1831. — 8. Gweddi yr Arglwydd 
wedi ei hystyried yn ddwys a'ihegluro yn amlwg, 18plyg. Caerfyrddin, 1834. 
9. Ychydig o Hymnau Efengylaidd ar destunaîi Ysgrythyrol a Phrofiad- 
ol, 12plyg. Llanelli, 1842. Bu farw Mr. Phillips, Rhagfyr 22, 1842. Bu 
iddo naw o blant — pump o feibion, a phedair o ferched. Daeth dau o'r 
meibion yn weinidogion defnyddiol — un o honynt sydd yn bresenol yn 
Ty'nygwndwn, sef y Parch. Benjamin Phillips; ac am y llall, sef John 
Phillips, bwriadwn wneud ychydig grybwyllion. 

Phillips, John. Efe ydoedd y mab hynaf, a ganwyd ef yn Peny- 
banc, plẁyf Hen Fynyw, y 30ain o Fehefin, 1805. Cafodd ei fagu, fel 
y gallesid dysgwyl, megys dan aden crefydd o'r cryd, ac aml y dywedai 
fod cynghorion tyner a gweddîau taerion ei rieni wedi effeithio yn fawr 
ar ei feddwl er ffurfio meddyliau parchus ynddo am grefydd er yn fach- 
gen. Ymddengys hefyd i anerchiad ymadawol Mr. a Mrs. Bevan — y 
cenadon i Madagascar, ar eu hymadawiad o'r Neuaddlwyd, gael effaith 
barhaol ar ei feddwl ieuanc, fel y penderfynodd ymuno âg achos Duw yn 
y lle, ac ymgysegru yn gwbl iV wasanaeth. Felly derbyniwyd ef yn 
aelod cyflawn, Mawrth, 1818, pan yn 13eg oed. Tua'r amser yma, dy- 
gwyddodd amgylchiad ag a fu bron a phrofi yn angeuol i John Phillips. 
Un tro pan oedd llong newydd yn cael ei gwthio i'r môr yn Aberaeron, 
aeth ef a nifer mawr o'i gydfyfyrwyr i lawr i làn y môr er cael gweled yr 
olygfa; ac fel yr oedd yn arferiad cyffredin ar y cyfry w achlysur, yr oedd 
ei dad yn pregethu yno. Wedi gollwng y Uong i'r dwfr, aeth ef a'i gyf- 
eillion ynddi tua'r Ceinewydd, ac wedi cyrhaedd yr angorfa yno, disgyn- 
asant yn y gwahanol gychod er mwyn cyrhaedd y làn. Aeth y cychaid 
cyntaf i dir yn ddiogel, ond suddodd y cwch yr oedd Mr. Phillips ynddo, 
a boddodd pedwar o honynt. Yr oedd Mr. P. ar ý pryd yn eistedd ar 
ystlys y cwch, yn ochr un John Medlicot, myfyriwr, ac aethant ill dau 
i lawr law-yn-llaw. Boddodd ei gydymaith, a chydag anhawsdra mawr 
y gallodd yntau ymryddhau o'i afaelion; ond gan ei fod yn nofiwr da, 
cyrhaeddodd y làn yn ddiogel — wedi ei achub megys o safn angeu. Bu 
yr amgylchiad gofidus hwn yn fendith fawr iddo — credai fod gan Dduw 



124 

ryw ddyben mawr yn arbed ei fy wyd fel hyn, ac felly penderfynodd 
ymgýflwyno o hyny allan yn llwyr i'w wasanaeth. Y bregeth gynt- 
af a draddodwyd ganddo, Chwefror 21, 1822, ar y testun, "Profwch 
a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd," <fcc, Salm xxxiv. 8. Mabwys- 
iadodd y testun hwn o herwydd daioni Duw iddo yn yr amgylchiad 
cyfyng ag oedd newydd fod ynddo. Mwynhaodd fanteision dysgeidiaeth 
yn helaeth gyda'i barchedig dad, a chyrhaeddodd gryn wybodaeth o'r 
Saesoneg, y Groeg, a'r Lladin, yn nghyda phethau eraill. Aeth wedi 
hyn i'r Drefhewydd, lle y treuliodd bedair blynedd drachefn yn yr 
athrofa oedd yno, dan ofal y Parch. E. Davies, i'r dyben o gymhwyso ei 
hunan yn mhellach i waith y weinidogaeth. Yn ystod ei arosiad yno, 
ennillodd barch cyffredinol oddiwrth ei gydefrydwyr, yn gystal ag oddi- 
wrth eglwysi y dref a'r gymydogaeth, y rhai a wasanaethai yn achlysurol. 
Wedi gorphen ei dymmor yno, derbyniodd alwad unfrydol gan eglwys y 
Drewen, sir Aberteifi, lle yr oedd tua 600 o aelodau, i ddyfod iV bugeilio, 
â'r hyn y cydsyniodd. Felly neillduwyd ef i holl waith y weinidogaeth, 
Gorphenaf 31, 1828, yn mhresenoldeb 26 o weinidogion. Llafuriodd yn 
y Drewen a'i chyffiniau yn ddiwyd a ûyddlawn am agos i bum mlynedd. 
Pregethai yn aml ar y Sabbath dair gwaith, yn Saesoneg a Chymraeg 
bob tro. Yr oedd Mr. Phillips yn gallu pregethu yn Saesoneg yn neill- 
duol dda, a deuai llawer o Saeson y gymydogaeth i'w wrando— amryw 
o ba rai oeddynt aelodau yn ei eglwys. Yr oedd yn hynod lafurus gyda'r 
Ysgol Sabbathol, ac yr oedd ganddo ddawn neillduol a medrusrwydd tu- 
hwnt i'r cyffredin o'i frodyr i holi ac egwyddori. Bu yn foddion i sef- 
ydlu achos newydd yn agos i Bontarseli, Ue y codwyd addoldy, a elwir 
Bryn Seion, lle y pregethai yn fynych. Nodwedd arbenig yn Mr. 
Phillips fel pregethwr ydoedd, ei allu anghyffredin i drin pynciau dyrys 
ac athrawiaethau dyfhion yn y cyfryw fodd ag a ddeallid gan gorff mawr 
ei wrandawyr. Ychydig a ennülasant y fath boblogrwydd mewn cyn 
lleied o amser, a'r fath barch cyffredinol gan bob dosbarth y deuai i gyf- 
arfyddiad â hwy. Nid oedd ei iechyd un amser yn dda; ond tua'r 
flwyddyn 1833, dechreuodd ddadfeilio yn gyflym, fel ag y gorfu iddo 
roddi i fyny y weinidogaeth gyhoeddus, a dychwelyd i dŷ ei dad. . Bu y 
cyfnewidiad a'r gorphwysdra yno oddiwrth ei lafur yn foddion i'w adferu 
i raddau, ac yn mis Gorphenaf, y fl wyddyn hòno, ar gais y Parch. Mr. 
Luke, o Wlad yr Haf, aeth drosodd i Loegr, sef i Wiviliscomb, i gadw 
ysgoL Ar yr 8fed o Hydref canlynol, ymunodd mewn priodas yno â 
Meistresan Salina Davie, merch ieuangaf Giles Davie, Ysw., o Lyme 
Regis, sir Dorset, yr hon oedd yn fenyw rinweddol a chrefyddol iawn. 
Ond ni fu yr undeb hwn ond o fyr barhad. Symudasant i Lyme Begis i 
fyw, gan feddwl y buasai ei iechyd yn well; ond er pob ymdrech, gwaeth- 
ygu wnaeth; a phrydnawn Sabbath, tua'r un mynyd o'r dydd ag y ca'44 



ìr»giì-- 



186 

eì enì, y 23ain o Dachwedd, 1834, hunodd yn yr Iesu. Ei eirì&u diw- 
eddaf oeddynt, "Arglwydd Iesu, derbyn fy ysbryd." Yn mynwent 
Lyme Regis, yn ymyl llawer a f u yn enwog yn eu dydd mewn crefydd a 
duwioldeb, gosodwyd yntau i orphwys mewn parch hyd foreu udganiad 
yr udgorn. 

Phylip Brtdydd, oedd fardd o Geredigion, ac yn byw yn y flwyddyn 
1250, ond ni wyddis ýn mha le. — Meyricìc's Cardiganshire, p. 261. 

Powell, Thomas, (Marchog), Llechwedd Dyrus, oedd yn Serjeant ai 
Law, a Barwn y Trysorlys, yn amser Iago u. Priododd Elimbeth, merch 
ac etifeddes David Lloyd, Aberbrwynen, trwy yr hyn yr aeth yr ystâd 
uchod i feddiant Nanteos, Ue yr erys hyd heddyw. Eu mab hwy, William 
Poẁell, Ysw.> oedd yn un o Farnwyr Llys y King's Bench, 1704. 

Fowell, Morris, parson BeUws-Bledrws, a drowyd alìan o'i eglwys 
gan y Lledaenwyr dan Cromwell, am gadw tafarndy cytfredin, a defh- 
yddio y Weddi Gyflredin, — ẀaUcer's Sufferwgs ofihe Cleryy. 

Powell, Rees, a fwriwyd allan o Lanbedr mewn canlyniad i Ddeddf 
yr TJnflurfiad, ond wedi hyny a gydfiurfiodd. 

Powell, William, LL.D., Nanteos, Üe y ganwyd ef yn y flwyddyn 
1705. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Ngholeg yr Iesu, Rhydychain, lle y 
graddiwyd ef yn LL.D. Priododd Elizabeth, merch Athelstan Owen, 
Ysw., Bhiwsaesonw Bu farw Rhagfyr 21, 1780, a chladdwyd ef yn 
Eglwys Llanbadarnfawr, lle y gweìir, ar yr ochr ddeheuol i'r gangell, 
gof-faen hardd iddo. 

Price, Charles, A.C., o deulu Gogeridan, a wnaed yn Brif gantor 
Tj Ddewi, Mawrth 28, 1693. Bu farw yn y flwyddyn 1696, yn 35 mh 
oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Golegawl Aberhonddu, lle gwelir cof-faen 
hardd iddo. — Ẃittirf Survey o/St. Daŵds, 151. 

Price, Chárles, a fwriwyd allan o Eglwys Aberteifi trwy rym Deddf 
yr TJnffurfiad; ond yr oedd yn enedigol o sir Faesyfed, ac wedi bod yn 
bregethwr defhyddiol a llafurus yno cyn ei sefydliad yn Aberteifi. Efe 
oedd sylfaenydd y gymdeithas grefyddol a ymgyfarfyddai yn Llechryd, ác 
yno yr adeiladwyd y tŷ addoliad cyntaf gan yr Ymneillduwyr yn sir 
Aberteifi. Wedi ei fwrw allan o'r Eglwys Sefydledig, efe a aeth i Loegr r 
a bu farw yn Hammersmith. — Palmer's Nonconformietà Memorial, voL 
iii., p. 496 ; Broadmead Meeords, p. 517. 



126 

íéice, Ôavid, a drowyd aÚan o îficeriaeth Llanfihangeì-y-Creuddyn, 
gan y Lledaenwyr, am feddwdod. 

3Prhîe, Î)àvid, a drowyd allan o Lanarth gan yr unrhyw, o ddiffyg 
dawn, a defnyddio y Weddi Gyffredin. 

Prige, Evàn, etto o Langeitho, gan yr unrhyw am feddwdod, 
puteindra, a darllen y Weddi Gyffredin. — Walìcet's SuffeHng8 of the 
Clergy. 

Price, Lewis, etto, o Langynllo. 

Päyse, Syr üarbery, oedd fab Carbery Pryse, acẃyry Barwn Pryse 
o Gogerddan. Mae ei enw yn dra adnabyddus mewn cysylltiad â mwn- 
gloddiau sir Aberteifi, ac mae perchenogion tiroedd mwnawl trwy y 
deyrnas yn ddyledus iddo ef am y ddeddf sydd yn eu galluogi i weithio 
mwngloddiau ar eu tár eu hunain. Yr oedd gweithfeydd eang yn caeì 
eu dwyn yn mlaen mewn gwahanol ranau o'r sir, y rhai a ddechreuasid gan 
Sỳr Hugh Middleton a'i olynydd Mr. Bushel, i'r hwn y caniatawyd yr 
hawi o fathu arian y n Aberystwyth ; etto o herwydd camddealltwriaeth 
rhwng rhai o'r perchenogion a'u gilydd, ní ddygid hwy yn mlaen gyda- 
chymaint o yni ag o'r blaen. Ond yn y flwyddyn 1690, darganfyddwyd 
rhai newyddion mwy cynnyrchiol na'r hen rai, ar dir Syr Carbery Pryse, 
Ŵogerddan, ac mor gyfoethog yr ystyrid hwy fel y derbyniasant yr enw o 
6i Weìsh Potori." Trwy rym deddf seneddol a wnaed yn 1690, cymerodd 
Syr Carbery ato amry w gymhariaid, a rhanodd ei dir i bedair mil o 
gyfranau; ac wedi sicrhau gwasanaeth un Mr. Waller, mwnwr o'r Gogledd, 
i fod yn arolygydd, dechreuodd gloddio gydag ysbryd. "Wedi'gweled o*r 
gymdeithas freiniol o fwnwyr eu bod yn gyfoethog, hawliasant y mwnau 
fel jn eiddo cyfreithlon iddynt hwy, gan nad oedd gwahanoì adranau y 
ddeddf yn ddigon amlwg ar y pwnc. Y canlyniad o hyn fu dechreu 
ymdrafodaeth gyfreithiol rhwng y pleidiau yn y flwyddyn 1692. Yn mysg 
cymhariaid Syr Carbery yr oedd amryw foneddigion o ddylanwad, megys 
y Duc o Leeds, ardalydd Caerfyrddin, &c; a chan gymeryd mantais ar yr 
amseroedd, cawsant ddwyn deddf i niewn yn 1693, yr hon a alluogai bob 
perchen tir trwy y deyrnas i weíthio a derbyn ennillion eu ^mwnau ett 
hunain, ar yr ammod fod i'r brenin, a'r rhai a hawlient o dano ef, i gael 
y mwn trwy dalu am dano iV berchenogion o fewn deng niwmod ar 
hngaia ar ol eí godi, a chyn ei symud yn lle plwm: — plwm yn ol naw punt- 
j dùnell, copr yn ol deg punt, &e. Dywedir i Syr Carbery ar ei lwydd- 
iant, i farchogaeth adref (trwy newid ei gefì^rlau ar y ffordd) yr holl^ 
bellder o Lundain i Escairhir, mewn wyth awr a deugain, fel ag y taen- 



m 

wyd j newydd mewn eÿn lleied a hyny o aiuser yn mysg trigolion y rhan 
hono o Geredigìon* Gan i Syr Carbery farw yn ddiblant, aeth y mwn<- 
gloddiaui ddwylaw Syr Humpàrey Mack worth, yr hwn abrynoddgyfran 
Mr. Edward Pryse am £15,000. Dywedai Mr. Waller y gallesid yn 
mhen ychydig amser, gyda chW chant o ddynion, wneud i'r gwaith y 
pryd hwnw gynnyrchu allan o \in wythîen yn unig, elw clir o £75,000 
yn y fl wyddyn, Bu Syr Carbery Pryse yn cynnrychioli y sir o'r flwyddyn 
1689 hyd ei farwolaeth yn 1695. — Meyricüs Cardigamhire, p. 22Ìj 
Hugfas 1 Htprêsmiation of ' Cardýamhire, p. 17. 

Pbyse, Syb Eichaäd, oedd üab Syr Richard, Gogerddan, a gwnaeà <e£ 
yh Farchog, Awst 9fed, 1641. Priododd gyntaf â Hester, merch Syr 
Hugh Middleton, Barwn ; ac yn ail â Mari, merch Arglwydd Rbuthin> 
Mewn llyfr a ysgrifenwyd yn y âWyddyn 1661, ceir y sylw canlynol: — 
" Syr Bichard Pryse, a young gentleman, not of full age # in the tyme 
that the discovery of principles was most dangerous, and it is conceived 
that he hath not as yet any that be is not too much obliged unto. He 
r&nne throügh sereral publique eflices under all the governments that 
have been from 1652, to this tyme; but probably more by the directio* 
of his father-in-law, *Mr. Bulstrode Whitlocàej than by hfc pw* 
desirea" 

Pitgh, Phillip. Ychydig iawn wyddis am hanes boreuol j gwr 
hynod a'r gweinidog defnyddiol hwn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 167,9, 
ac ym nghymydogaeth Blaenpenal mae'n debyg ; ond treuliodd y rhan 
fwyaf o'i oes yn Mlaengwern, plwyf Llanfair Clydogau ; ac yr oedd j 
gadair yr arferai eistedd arai yno hyd yn ddiweddar. Oddiwrth ei 
ddyddlyfr, gwelir ei fed wedi ei urddo i'r weinidogaeth yn j flwyddyn 
1709, sef pan yn ddeg ar hugain oed, a hyny yn y Cilgwyn; ond gwein- 
yddai yr ordinhadau yn gylchynol yn Abenneurig, Ciliau Aeron, * 
Iiwynpiod. Derbyniasai ei addysg foreuol o dan Mr. Samuel Jones, 
Brynllywarcb, yr Anghydflurfîwr enwog; ac wedi hyny yn Abergafeni, 
dan Mr. Rogér Grifíiths. Ei gydweinidogion yn y lleoedd a enwyd oedçt* 
ynt Mr. David Edwards a Mr. Jenkin Jones. Yr oedd Mr. Pugh yn 
berchen cryn lawer o gyfòeth, — yn meddu rhai tiroedd yn etifeddiaéth. 
Yn y flwyddyn 1753, adeiladwyd capel bychan, â thô brwyn iddo* o'r enw 
Llwynpiod, a symudwyd yr eglwys o Llwynrhys— lle buasai arferol o 
ymgynnull er tua y flwyddyn 1600, iddo. Adeiladwyd y capel hwn ar 
draul Mr. Pugh, A chododd un wedi hyny yn BlaenpenaL Yr oedçL Mh 
Pugh yn bregethwr tanllyd, yn ateb i'r oes yr oedd yn byw ynddi; çnji 

♦Camgymeriad yŵ hyh mae ÿn debyg; ý matt äràH & brìödodd fbtch yr achtA 
«s.fÌéytẁk*M G<trâig*a*hxré t p. ŴŴ; 



128 

nid pregethwr yn unig ydoedd; — yr oedd hefyd yn ymdrechgar 
iawn i egwyddori yr ieuenctyd, ac felly, yn gweithio allan, i raddau, eg- 
wyddorion yr Ysgol Sabbathol. Yr oedd hefyd yn ysgolhaig rhagorol, fel 
y gwelir oddiwrth ei ddyddryfr, rhanau o'r hwn sydd wedi eu hysgrifenu 
mewn Haw fer hardd, ac yn yr ieithoedd Lladin a Groeg; a'r cyfan, hel> 
law hyn, mewn Saesoneg rhwydd a rheolaidd. Oddiwrth y cofhodion 
sydd ynddo, gwelir ei fod wedi bedyddio chwe' ehant a phedwar ugain o 
blant o r r flwyddyn 1709 hyd y flwyddyn 1760. Wrth ystyried nad oedd 
ef ond un o'r tri gweinidog oedd yn gofalu dros yr eglwysi yr oedd yn 
gysylltiedig â hwy, a pitâa yr ystyriom ragfarn cyfiredinol y wlad yn 
erbyn ýmneillduaeth yn yr oes hòno, ymddengys y rhifèdi yn neillduol 
fawr. Bu y gwr enwog a defnyddiol hwn farw mewn oedran teg, tua'r 
flwyddyn 17 60, wedi cyrhaedd un mìynedd a phedwar ugain o-'i eedran, 
ac wedi treulio 52 oY cỳfryw yn y wemidogaeth. Gorwyr iddo ef ydyw 
David Fugh, Ysw., (Jreenhill, A^ S. dros sir Gaerfyrddin. 

Rees, Joseph, gweinidog gyda'r Trefnŷddion Calfinaidd yn Mhont- 
rhydfendigaid. Ganwýd ef yn Tygwyn, plwyf Llanfairorllwyn, yn y 
flwyddyn 1796, yn mis Ionawr. Enwau ei rieni oeddynt Thomas a 
Mary Rees. Yr oedd ei dadyn un o'r rhaí hyny a ddaethant allan gyda'r 
Methodistiaid ar y cychwyn; ond pan aeth ÿ^corffi ordeinío gweinidogioa 
eu hunain, fe giliodd yn ol i'r Eglwys. Dygwyd ei wraig i fyny gyda'r 
Annibynwyr yn Horeb, lle yr oedd ei thad yn ddiacon ; ond wedi priodi, 
yn hytrach na throi gyda'i gwr fr Eglwys, darfu iddi fwrw ei choelbrent 
gyda'r Annibynwyr. Yr oedd Thomas Rees a ŷ i wraig yn ddarllenwyr 
mawr: tra yr oedd y naill yn dra chyfarwydd â bron bob Uyfr Cymraeg^ 
yr oedd y Ilall yn dra hyddysg ínewn'llenyddiaeth Seisnig, ac yn dealt 
TilftdiTi yn bur dda. Dygwyd Joseph, modd bynag, i fyny gyda'i daid tra 
y bu byw; ond gan iddo farw pan oedd ei ŵyr yn saith oed, rhoddwyd 
Joseph o dan ofal ei nain-yn-nghyfraith, yn agos i gapel Horeb, lle bu nes 
oedd yn unarddeg oed. "Wedi hyny symudodd at ei dad a'i fam, a rhodd- 
wyd ef i ddysgu y grefffc o wehyddiaeth ; ond gan nad oedd yn cael iechyd 
da wrth y gwaith hwnw, aeth i'r ysgol i ddysgu rhifyddiaeth, gan feddwl 
ymgjrnnyg am swydd yr eoccise, ond o herwydd iddi fyned yn heddwch 
rhyngom a Ffrainc yr adeg hòno, methodd gyrhaedd ei amcan. Yna fe 
ddysgodd y gelfyddyd o saerntaeth gydal dad; ac yn y flwyddyn 1817, 
priododd âg EIizabeth, merch David Jones, Arddgoed, ger Bronwydd. Yr 
oedd y pryd hwn yn hynod ymdrechgar gyda'r Ysgol Sabbathol, a dar- 
Ilenai lawer iawn, yn enwedig Hyfrau duwinyddol a hanesyddol. Ond 
Ìyd yn hyn nid oedd wedi plygu i alwadau yr Efengyl, er ei fod yn fyn- 
ych yn teimlo yn ddwys o dan y weinidogaeth, Ond un Sabbath aeth i'r 
Twrgwỳn i wrando ar y Parch. Thomas Richards, Abergwaen, lle y cafodd 



m 

lawn òlwg ar ei gyfl wr fel dyn colledig; a bu am dymmor yn ofldus iawn ei 

feddwl, yn methu gweled un waredigaeth yn ymgynnyg iddo. Ond aeth i 

wrando y Parch. Lewis Poweli o'r Mynyddbach (yn awr o Gaerdydd) yn 

pregethu yn Nghastell Newydd Emlyn, pryd yr agorwyd drws o wared- 

igaeth iddo, ac mewn canlyniad taflodd ei goelbren i blith y Trefhyddion 

yn nghapel y Drindod. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1823, ac yn mhen 

chwe' blynedd wedi hyny, dechreuodd bregethu. Gweithiai yr amser 

hwn gyda y boneddwr, Mr. Parry, Geraos; ond wedi marw y gwr hwnw # 

rhoddodd ei amser a'i feddwl yn fwy Uwyr at y weinidogaeth; ac y n y 

flwyddyn 1839, ar gaisyr eglwysyn y lle, gymudodd i Bontrhydfendigaid, 

Ue yr ymsefydlodd fel bugaiL Yn 1841, ordeiniwyd ef yn Nghymanfa 

LlangeJLtho. Bu yn hynod ddiwyd yn ei faes newydd, gan ymdrechu &'i 

holl egni i borthi y praidd a gyflwynwyd i'w ofal Ac er gwneud hyny 

yn fwy eôeithiol, darllenai lawer ar weithiau yr hen Buritaniaid, yn 

enwedig Dr. Owen, Charnock, a Howe, ac yr oedd yn hollol gartrefol ya 

ngweithiau y tri hyn. Yr oedd yn dra hoíF hefyd o eiddo Leighton, 

Ghalmers, ac Edwar^s o'r America. Tua diwedd y flwyddyn 1845, neu 

ddechreu yr un ganlynol, mewn canlyniad i dderbyn anwyd trwm, ym- 

aflodd y darfodedigaeth ynddo; ac ar y SOain q Fedi, 1847, terfynodd ei 

hoedl yma gan bwyso ar yr adnod hòno, " Yr Hwn a osododd Duw yn 

I-awn." Yr oedd yn bregethwr eryf, llawn o sylwedd. Tueddai ei 

bregethau i ddysgu y gwrandawyr, gan gyfeirio at eu deall a'u cydwybodau; 

ond pe pregethasai fwy i'r sereh, diau y buasai yu fwy pablogaidd. Yr 

oedd ei feddwl o gasl hollol athronyddoji — nid oedd nesaf i ddim o'r 

bardd ynddo, er na ddarlleuodd nemawr n weithiau ar athroniaeth erioed 

— dim ond Locke a Reid. Llafuriodd yn galed am wybodaeth, a llwydd- 

odd i gyrhaedd gradd helaeth o honi. 

Hhydderch, Shon, y bardd, y gramadegwr, a'r argraflydd, oedd frodor 
o gymydogaeth Llandyssul, ac yr oedd yn byw tua dechreu y ganrif 
ddiweddaf. Yn yr Amwythig y dygai yn mlaen ei alwedigaeth o ar- 
graflydd, a chyhoeddodd yno amryw lyfrau Cymraeg gwerthfawr. Yn y 
flwyddyn 1718, cyhoeddodd lyfro'i eiddo ei hun, dan y teitl, "Gramadeg 
Cymraeg o gasgìiad, myfyrdod, ac argraffiad J.B., ac ar werth ganddo ef 
yn y Mwythig." Cyhoeddodd eilwaith Eiriadur Saesoneg a Chymraeg yn 
1725. Ymddengys iddo ddechreu un arall, oblegid ymddangosodd un 
yn 1731, o'i Bwyddfa, ar dudalen cyntaf pa un yr hysbysid i'r gwaith i 
gael ei ddechreu gan Shon Hhydderch, a'i orphen gan y Parch. J. 
Williams, Willey, sir Amwythig. Yr oedd yn gyfaill mawr i Iago ab 
Dewi, a cheir peth o'i waith yn yr ysgrif-lyfì'au a adawodd y bardd hwnw 
ar ei oL 



130 

ItBTOBBBOB, Bm&», a anwyd yn yr Alttgooh, yn agos i Lanbedr, ysí 
-jr f wyddya 1683. Crynwr ydoedd o ran ei grefydd, a dyoddefodd gryn 
làtyer mewn canlyniad. Gosodwyd ef unwaith yn ngharchar Tregaron 
o herwydd ei fiyádlondeb i'w gredo»-~-Gwel Beeae'* S^fjfeẃng* qf th$ 
QmkevB 9 vol. ii., p. 748$ Colleçtion o/ Teaèimony, 1760. 

Bäybíerch a» Ieuan Llwyd, oedd fardd o'r dòsbarth cyntaf, yr 
£N*b> oedd yn by w yn yr oes nesaf ar ol Dafydd ab. Gwilym. Trigianai 
yn Gogerddan, ac yr eedd yn berohen yr ystâd hòno, a dygwyd ef i fyny 
ya Bhydye^ain, Yn nysg gweithiau eraill o'i eiddo, eeir pryddesfc 
hynod iawn yn y Saesoneg, yr hon sydd yn dangos. y dull o seinio yr iaith 
yn yr amser hwnw, o'r hyn mae yn debyg na cheir yr nn enghraifft 
ajpaU gyfifelyb yn y byd. Yr oedd i Bhydderch ferch nodedig am eì 
p^rydfisrtàwch, o'r enw Llio, i wallt yr hon y canodd Dafydd Nanmoi? 
öywyddî, yr, hwn sydd yn dechreu fel hyn:^— 

" lilio Eurwajlt> lliw Arian* 
Llewych Mellt, ar y Lluwch min: 
l£ae ar eì Phen Seren Serch, 
Lliw rhtíddaor, LIio Rhyddwcb/* 

Qe» Oywydji hejyd o waith yr un gwr i Rhyddejçch,, yr hwn sydd, j» 

"Bawddammor, blaenawr y blai/3, 
Fr Siryf a'r Gwrseriaid; 
Bafydd a rydd, dydd a dŵr 
Llwyd neithog, üid nai Arthnfc * J 

Rhys Dafydd Thomas, oedd tm o arglwyddi Llanbedr yr amser y 
B^getìii^ yno gan, Baldwin, Archesgob.Caergaint, a Girajdus Cambreasis, 
q WLaid IthyfeJ y Groes. 

Çhts, íî^aŵ Thomas,, 9 Lanarthj, oedd fardcl Ehagorol, aeyn bywtua. 
cfeanoi, y* ganrif ddiweddaf, ]$i wyddis nemawr ddim o hanea bywy4 
jpç hen íftrcbi, gan, na, yagriftuwyd yr un cofiant o hono erioed, aç nja^ 
(^^tf&^WtçniyGhjdig, mewn cymhariaeth,, o'i gyfansoddiadau rhag 
9HP9& Ä5Ẁ ffinwl. a»>ser : i, ebargofiant. Cymaint a wyddis am dano ; yw ÿ 
¥# ff^ ei eni yaLlwyndafydd, plwvf Llandysjlio-gogo, yn îígheredig- 
igu. Ijinw ei dad, oedd Tl^omas Rhys Siams^ crydd wrth ei alwedigaeth; 
a^, ; ymddengyjs. iddo r ymdîsechu yn galed, i roddi addysg dda i'w fab-~ 
g^rtj^dryjch y cofiant hwu, Dyw,edir mai ei< amcan oedd. ei ddwyn, t 
fyny yn offeiriad, ac nid y w hyny yn annhebygol, oblegid yr oedd| Eyan, 
Thomas Bhys yn deall llawer ar yr ieithoedd Lladin a Groeg. Ond 
gan i'w dad farw pan nad oedd ef ond tua deunaw oed, gorfu iddo yatau 






131 

droi at y gelfyddyd o wneud esgidiau; ac mae yn debyg mai yn Llanarth 
yr ymsefydlodd ar ol yr amgylchiad yma, hyd ddiwedd ei oes. Dyn 
bychah o gorffolaeth ydoedd, yn llai na'r cyffredin, a Ued ddiolwg. Qnd 
yr oedd y fath hyd yn ei freichiau, fel y dywedir y gallai ddattod botymau 
penliniau ei glôs pan yn sefyll yn syth ! Er eî fod yn fychan, etto yr oedd 
o gyfansoddiad cadarn, ac mor sionc a heinyf fel y dy wedir y byddai yn 
arferol o gerdded o Lanarth i Lundaìn — peUder o ddau cant a thair ar 
hugaìn o filldiroedd — mewn tri drwrnod! 1 Obîegid ei fod yn feddiannol ar 
ddealltwriaeth a synwyr cyffredin mor gryf, yn nghyda'i ymddygiad di- 
dramgwydd, yr oedd yn dra pharchu* yn ngolwg ei gymydogion; ac ap- 
pelient ato yn fynych ar achosion dyryslyd neu gamddealltwriaeth yn y 
plwyf, a byddai ei farn ef yn gyffredin yn derfyn ar yr anghydfod. 
Arminiad selog o ran ei farn ydoedd Evan Thoma» Rhys, a dadleuai yn 
gadarn o blaid yr hyn a ystyriai yn wirionedd. I Lwynrhydowen y 
byddai arferol o fyned i wrando, ac y mae yn debyg ei fod ef yn un o'r 
aelodau cyntaf yn y lle hwnw; a chanodd farwnad i'r gweinidog yno, sef 
y Farch. Jenkin Jones, yr hon a ymddengys yn mysg ei gyfansoddiadau 
cyhoeddedig. Dywedir ei fod wedi talu ymweliad â Llundain amryw 
weithiau ar negeseuon piydyddawi, ac hefyd ei fod wedi bod unwaith 
mewn Êisteddfod yn y Gogledd; ond nis gwyddom pa saií sydd i hyn, 
Ymddengys fod rhyw offeiriad cymydogol (Llanarth mae yn debyg) yh 
noddwr caredig ac yn gyfaül ffyddlawn iddoy ac mài ar gais y gwr hwnw 
y cyfansoddodd gryn lawer o'i ddamáu, a'i fod yn cael ei ddigolledu yn 
haelionus ganddo am ei amser, &c. Ei gydoeswyr a'i gymydogion awen- 
yddol oeddynt,. Shôn Siencyn> Aberteifi, neu " Shôn y crydd baeh*" fel y 
gelwid ef, a Nathaniel eijrawd, â'r rhai y cymdeithasai ac y gohebai yn 
fynych. Ni wyddis yn sicr pa bryd y dechreuodd ei awen ymddadebru, 
ond ymddengys iddo gyfansoddi ugeimau o bryddestau tra yn bur ieuanc,. 
y rhai ydynt wedi eu colli yn anadferadwy. Yn y flwyddyn 184& Ä 
gwnaed casgliad o gymaint ol gyfansoddiadau ag a allwyd ddyfod p hyd 
^ddynt mewn hen lawysgrifau ac ar " lafar gwlad," a chyhoeddwyd hwy> 
yn nghyda gwaith amryw o'i gydfeirdd, yn llyfrya o dan y teitl r DUiau 
yr Awen, Mae y caneuon hyn oll yn hynod am eu hystwythder a'u 
naturioldeb, ac y mae rhai o honynt yn Uawn ffraethineb. Mae y cyfan 
yn profi fod y bardd o Lanarth yn feddiannol ar y wir awen* ac äì bury» 
«egur gandda ehwaith* fel y dywed Daniel Ddu: — 

* GornÌÄÌ a haeddai gybydáiòa— diflydtL— 
Efrwynai â ch'wilydd y ffroemiohelioa." 

Dyfyirwn y ddau bennill eanlynol fei «ngfiraifl* ó>i ddẃll ýtf cattu. Ý 
Htae yn ymddangos fed ^yrüen ŵfîodén" ftá yntau^ er gwaétftrèf hèll 
ddaŵthoeŵ* wr edHwiadau Ôtaee ei w*a%, y* dyŵd î gýâgfû*fyd£*& 



132 

mwy mynych nag oedd ddymunol er ei les a'i heddwch teuluaídd. Wedi 
cyfarfod mewn tafarndy unwaith â'i gydÿfwyr, adroddodd iddynt ei 
gyffes aft benderfyniad fel hyn; — 

« Tn enw'r gallu mi ymro r 

I beidîo tra b'wyf byw, 
Byth mwyach redeg yn ei rhwytí* 

Rhag myn'd yn Dwyd fy lliw; — 
Nid oes omd taliad tost am dria 

T ddiod gethin gas* 
Tfcwy'n gwerd y gwaíth, a dweyd y gwír, 

Tn groes i natur Graet. 

Tn barchus, foneddigíon gwíw, 

Tr'wy* by w mi gym'ra'ch part, 
Waith llawer meithgen drom ges í, 

Wrfch fynych godi'r quart; 
Pan b'awn a'm bwriad megys cawr, 

I fwrw i lawr i'm bol, 
Mewn enyd bach, wfft iddi bythr. 

Hi neidiaf n syth i'm sioi." 

Mae y ddwy linell a ganodd ar yr achlỳsur o glywed am farwolaetb 
Ceisbwl o'r gymydogaeth, yn dra adnabyddus, ac yn enghraiât o'i ffraeth- 
íneb a pharodrwydd eí awen — dyma hwy: — 

" Mae eisiau bailíod, maefa debyg gen i, 
Mewn rhyw :fyd, yn rhy wle, heb law ein byd ni.* 

Fan yn prydyddu byddai gwythíen las fawr yn codi ac yn chwyddc* 
uwch un o'i fygaid, feí gele fáwr, nes byddai rhyw olwg ryf eddol arno ì 

Rhystud, sant a fîodeuai yn nechreu y chweched ganrif. Mab 
ydoedd i Hywel Fyohan ab Emyr Llydaw. Yr oedd yn un ofr rhai a 
ddilynasant Cadfan o Lydaw i Brydain, ac yr oedd yn frawd i Suüen a 
Christiolus. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llanrhystyd, ac yr oedd hefyd 
yn esgob Caerlleon-ar-wysg; Ei ddydd gwyl oedd dydd Mawrth o flaen 
y Nadoüg.— Iela M33. 

m ' 

Sichabds 1 , Ebenezeb, Tregaron. Er na anwyd y gwr enwog hwn yn 
Sgheredigîon, etto gan mai ynddi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, achan 
mai â'r lle uchod mae ei enw megys wedi eí gysegredig gysylltu, ni 
ddylid myned heibio iddo yn ddisyiw. Mab ydoedd Ebenesaerr i Mr. 
Henry Bichards, pregethwr defhyddiol gyda'r Methodistiaid; a ganwyd 
ef yn Nhrefin, sir Benfro, Rhagfyr 5 f 1781. Eel y gallesid dysgwyl, 
dygwyd ef i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Yr oedd, 
modd bynag, tuag ugain oed pan deimlodd argyhoeddiadau cryfion a 



133 

bechod, sef pan yn j Dmas, Ue yr aethai i gadw ysgol. Bu ei feddwl 
am beth amser mor ddyryslyd o dan yr argyhoeddiad yma, fel y gorleth- 
wyd ef i lawr yn llwyr, nes ei orfodi o'r diwedd i roddi i fyny ddyled- 
swyddau yr ysgol. A chan gyfeirio at y noson y tywynodd goleuni yr 
efengyl, dywed yn ei ddyddlyfr: — "Gorphenaf 1, 1801. Y noswaith 
hon oedd j fwyaf ofhadwy yn fy mywyd, ond yr wyf yn gobeithio mai 
ynddi hi y dechreuodd dydd na bydd terfyn arno byth." Yn fuan wedi 
hyn, dechreuodd bregethu. Yn 1806, aeth i Aberteifi, yn y swydd o 
tutor jn nheulu Major Bowen, Llwyn-y-gwair, lle yr arosodd dair blyn- 
edd ; ac ar derfyn yr amser hwnw, priododd foneddiges o Dregaron, ac 
yn y lle hwnw yr ymsefydlodd dros y gWeddill o*i oes. Mr. Richards 
oedd yr ieuangaf o'r tri gweinidog ar ddeg a ordeiniwyd yn Llandeilo yn 
y flwyddyn 1811. Bu am beth aniser yn ysgrifenydd Cymanfa y sir; ac 
yn 1813, penodwyd ef yn ysgrifenydd Cymanfa Methodistiaid y Deheu- 
dir, a chyflawnodd ddyledswyddau y swydd hòno gyda medrusrwydd 
mawr hyd ddiwedd ei oes. Ychydig o weinidogion fuont mor ddefhydd- 
iol a dylanwadol a Mr. Richards, a llai fyth y gwelwyd ynddynt y fath 
gydgyfarfyddiad dedwydd o ragoriaethau personoL Efe oedd un o'r 
offerynau cyntaf i sefydlu yr Ysgolion Sabbathol yn y Deheudir. Er 
rhoddi drychfeddwl o'r llafur gorfawr yr aeth trwyddo, dyfynwn y cyf- 
rif canlynol o'i ddyddiadur: — 

Nifer y gweithiau y pregethodd 7,048 

Etto y gweinyddodd Swper yr Arglwydd ... 1,360 

Etto etto Bedydd ... 824 

T Cyfarfodydd Cyhoeddus j cyrperodd ran ynddynt $§1 

Y milltiroedd a drafaeliodd 59,092 

Blinid Mr. Richards yn ei flynyddau olaf gan fath o hûn-glwyf 
(lethcurgy), yi'hwn a derfynodd yn angeuol iddo yn Mawrth, 1837, pan 
yn 56 mlwydd oed. Claddwyd ef yn mynwent Tregaron. Mab iddo ef 
ydyw y tra adnabyddus Barch. Henry Bichard, Ysgrifenydd Cym- 
deithas Heddwch. — Gwel ei Fywgraffiad gan ei feibion. 

Richabd, Edwabd, j bardd tfr ysgolhaig rhagorol, a anwyd yn 
Ystradmeurig, Ceredigion, Mawrth, 1714» Yr oedd ei rieni o amgylch- 
iadau lled isel yn y byd. Dilledydd oedd ei dad, a chadwai dafarn hefyd, 
ac adnabyddid ei fam yn gyffredin wrth yr enw " Modryb Gwen," gan 
ysgolheigion Ystradmeurig. Yr oedd mab arall iddynt o'r enw Abraham, 
yr hwn ar ol treulio ychydig amser yn athrofa. Henffordd, ac ysgol ram- 
adegol Caerfyrddin, a aeth i Jtydychain, ac a dderbyniwyd i Goleg yr 
Iesu. Cyfranodd lawer ei hunan at ei draul yn y brifysgol trwy ddysgu 
ychydig efrydwyr a gasglai yn nghyd yn ystod ei wyliau i hen eglwys 
Ystradmeurig. Bu hyn yn gyfleusdra rhagorol iV frawd Edward, ac ni 



104 

chftllodd afael o hono, ond gosododd i lawr yno sylfaen yr enwogrwydd 
hwnw a ennillodd wedi hyny fel ysgolhaig clasuroL áil ol marwolaeth 
eá frawd r yr hwn a gollodd ei fy wyd trwy syrthio o ben craig yn y gym- 
ydogaeth^ danfonwyd Edward i ysgol Caerfyrddia, yr hon oedd y pryd 
hyny o dau aroiygiaet* y Parch. Mr. Maddaau Oddiyno symudodd i 
Bontygido, yn mhlwyf Llauarth, lle y bu am dymmor odan ofal y Parch» 
Mr. Pugb — -gwr- a ystyrid yn ysgolhaig Groegaidd rhagoroL Yn y 
flwyddyn 1734 yr agorodd ei ysgol yn Ystradmeurig, yr hon a ddaeth 
wedi byny i gymaint o enwogrwydd trwy y wlad* Ond wedi ei dwyn 
yn mlaen am dymmor gyda gradd neillduol o. lwyddiant, gwnaeth ben- 
derfyniad üas gallai dim ond meddwl gostyngedig ac anrhydeddus ei 
annog, a dira ond ysbryd eon ei gario allan. Yn ddisymwth hollol goll- 
yngodd ymaith ei ysgolheigion, gan gyfaddef wrthynt yn wyneb-agored 
nad oedd efe yn ystyried ei hunan yn gymhwys i wneud cyfìawnder â 
hwy„ ac o» ganlyniad ei fod am gyrhaedd gradd uwch o ddysgeidiaeth 
çyu anturio yn mhellacb i ddysgu erailL Wedi cymeryd y cam hunan- 
ymwadol yma, ail ddechreuodd efrydu y Groeg a'r Lladin gydag ajddgar- 
wch ac ymroddiad digyffelyb am ddwy flynedd o amser* Heb neb yn 
gydyroaith iddo ond y Parch* Evan Evans (Iewm Bryâydd ffir), yr hwn 
a fuasai yn un o ysgolheigion ei frawd, gwelid ef yn ddyddiol, am bedwar 
o'r gloch yn y boreu, haf a gauaf, yn ystod yr holl amaer hwnw> yn 
cyfeirio ei gamrau tua hen Eglwys y plwyf — y lle a ddewisasai i ddilyn ei 
efrydiaeth* Creodd yr ymddygiad cydwybodol hwn o'i eiddo, fel y gellid 
dysgwyl, desmlad cryf o'i blaid, fel pan yr ail agorodd yr ysgol yn 1746, 
heidiodd lluaws o efrydwyr iddí o bob rhan o'r Dywysogaeth. Y 
flwyddyn ftaenorol darfu i'r Parch. Thomas 01ìver, periglor Dudley, ond 
genedigol o Ledrod, adael yn ei ewyHys dyddyn a swm o> arian er serydlu 
jrsgpl rad yn eî hen gymydogaeth. O herwydd rhyw ddiflyg neu gil ỳdd, 
dyryswyd amcan gwreiddiol y gwladgarwr, ond darftt i'ẁ wraig' wedi 
hyny ei gario allan yn llwyddìannus; IV ysgol ho», yr hon oedd y» 
mhlwyf Lledrod, penodwyd Mr. Rìchard yn athraw. Trwy ei gynníbdeb 
a'i ddarbodaeth ofalus, llwyddodd yma i gasglu ychydig gyfoeth. O'r 
dîwedd daeth i'r penderfyniad o sefydîu ysgel gyfielyfe yn Ystradmeuríg, 
er aá&ysgu gwŷr ieuainc yn y Lladin ac egwyddorion yr Bglwya Sefydl- 
edig. Yr dyben hyny, neilldnodd dÿddyn at ei gwadctoM, yn y âwyddyu 
1757, yn nghydag amryw eraìll yn 1771, a gadawcdd yn- ei ewyllys 
holl gynnwys eî lyfrgell at wasanaeth yr athraw aY ysgolheigian» Pais 
ftaodd yr ysgol i flodeuo mewn modd neillduol ar ol oetí Mr. Eichaud, a 
ehodwyd ýnddi làwer o enwogion o dro. i dro. Yn 1 7t4 buí farw' ei fiü», 
yr hyn a effeithiodd yn fawr ar ei deimladatt, ae a fbf yŵ achlysur i gjẃ 
ansoddi ún o*r cerddi hyny~, yr hon a raa dWysder *eknìad, ^yöerweii, % 
inehisárs, mct oes o fewn hoH gylch Henyddiaeth C^rmru jr: \m i*W/ ohyír 



tadlu & hi. Cyfeirio yr ydyin at ei Fugeilgerdd. Cyfansoddodd amryw 
wedi hyny. " Y mae ' Caniadau Byrion"' ebe un, neu " Fugeilgerddi y 
diweddar Iorwerth Risiart o sir Aberteifi, yn rhagori cymaint ar y testun 
(el nad oes neb hyd yn nod yn yr oea hon wedi dringo yn agos ato; îe, 
mewn gair, mae ei Fugeilgerddi fel pe baent ar gopa çraig fawr* heb i'r 
unbardd anturio dyfod yn agos atynfc" Dywedir fod y &th swyn yn 
nghynnyrchion cyntaf ei awen, fel yr arferai yr bea bobl ddifyru eu gil- 
ydd wrth ou hadrodd a'u canu, er na fynai e& eu cyfaddef yn ei benaiat* 
ae bì welwyd mo. honynt yn mhEth yr ysgrifeniadau a adawyd gandda ar 
ei oL Yn ychwanegol at ei gyrhaeddiadau eraill, yr oedd Mr. Bjchard 
yn hanesydd a hynafiaethydd Cymreig rhagoroL, fel yr ymddengys oddfr* 
wrth amryw lythyrau o'i eiddo yn y Cainbriam, Regẁter. Dygai ya 
mìaen ohebiaeth gyson gyda'r bynafiaethydd enwog Lewis Morys* Dr* 
Phillips,, ac erailL Yn mysg ei noddwyr a'i gyfeiUion yr oedjd rhai o 
wŷr mwyaf y wlad, megys J. Uoyd, Ysw., Ffosybleiddiaid, a Riehard 
Stedman, Ysw., o Fynachlog Ystrad Fnur„ 

JJu yr athraw dyfnddysg, y bardd penigamp, y dyngarwr a'r gwladr 
garwr hyglod, Iorwerth Bisiart, farw ar y pedwerydd o Fawrth, 1777*. 
Claddwyd ef yn Eglwys Ystradmeurig, ar ochr orllewinol y pulpud, yn 
agos i'r mur gogleddol, a dodwyd careg gofíadwrfaethol iddo ar fur y 
llyfrgBlL— Jr Ymofynydd, lonawr, 1864; Meyrick'i GcweHganshám; Yr 
Moe> sef Owaith Prydyddol Mr. Edward Bichard o Ystradmerarig^ gyde 
hanes ei fywyd, Llundaán, 1811. 

Robebts, Hümphrey, ficer Llansantffraid, Ceredigion, a fwriwyd aUaà 
o'i eglwys gan Brwywyr Lledaeniad yr Efengyl, am feddwdod a diffyg 
doniau, 

Robebts, Isaac, oodd enedigol o Benllwyn, sir Aberteifl. Gwelid er 
yn ieuanc ei fbd yn feddiannol ar alluoedd meddyliol tuhwnt i'r cyffredim 
Yr oedd yn aelod dichlynaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac am y 
pum mlynedd olaf o'i fy wyd, bu yn pregethu yn eu raysg gyda. chymerad- 
wyaeth mawr. Treuliodd ryw gymaint o amser yn Ngholeg y Bala, ond 
a herwydd gwaeledd ei iechyd» gorfu iddo roddi i fyny ei efiydiaeth yno 
jn Nadolig> 1862; ac wedi hir a phoenu» gyatudd, yr hwn a ddyoddefbdd 
Çydag amynedd a thangnefedd Cristion, ehedodd ei ysbryd i'r wlad lle na 
ddywed neb, "Claf ydwyf," Medi 30ain, 1864u Yr oedd y pryd hyn 
yfe&ghanol ei ddyddiau, aphob argoelion ynddoy deuai cyn hk yn addum 
i'w wladn HebJaw ei fod yn bregethwr gobeithiol i&wn^ yr oedd hefyd 
ya fedrus iawn M ysgrifenydd^ bardd, a, eherddor, ac ysgrifenodd ^y» 
lajwei: o dro i dro i'r gwahanol gyfnodplioo. Yr oedd yn frawd i'r Pajcch. 
íẃn, Roberjbs (leuan ftwyUt), a'u fHüch. Robert Rotarts,. Carnöddi^ 
(gynt o Aberteifi). 



186 

Roberts, John, parson Aberporth, a fwriwyd allan gan y Dirprwy- 
wyr am feddwdod. 

Rogebs, John, Ysw., M. D., a anwyd yn Llanllur, plwyf Nantcwnlle, 
yn y flwyddyn 1786. Defbyniodd ei ddysgeidiaeth yn ysgol enwog Ys- 
tradmenrig, o dan yr hyglod John "Williams, tad yr Archddiacon, yr 
hwn, trwy briodi merch Lewis Rogers, Ysw., Gelli, ydoedd yn berthynas 
agos iddo. Bu wedi -hyny yn dilyn ei efrydiaeth feddygol yn Guy's 
Hospital ac yn Edinburgh, lle y derbyniodd ei radd o M. D. Bu ei yrfa 
fel meddyg yn ei wlad ei hun yn hynod lwyddiannus, a chyrchid ato gan 
dlawd a chyfoethog am iachâd, o bell ac agos. Yr oedd ei haelioni i'r 
tlawd yn ddiarhebol: — rhoddai gyffyriau ac ymgeledd iddynt yn rhad ac 
am ddim. Llawer siwrnai hir-faith a gymerodd i fyned i y mweled â rhai 
o'i gymydogion a fyddent mewn angen am ei gynnorthwy, heb ddysgwyl 
yr un atdaliad ond y pleser hwnw a fwynhai yn ei galon oddiwrth y 
ffaith iddo fod yn gwneud daioni. Wrth ddychwelyd adref o ymweled 
ag un o'i gleiflon, y goddiweddwyd ef gan yr amgylchiad pruddaidd a 
daenodd gwmwl o dristwch cyffredinol dros yr holl wlad. Cofir y dydd 
hwnw, sef y öed o Orphenaf, 1846, yn fywiog gan laẁer, fel y dydd y 
dygwyddodd llif anarferol yn y rhan hòno o'r wlad. Yr oedd Mr. Rogers 
a'i was ar y pryd yn marchogaeth ar eu ceffylau yn agos i bentref Talsarn, 
pan ddaeth y dwfr o un o'r ffrydiau cyfagos ar draws eu ffordd, gyda 
grym anwrthwynebol, gan eu hysgubo ill dau gydag ef; a phan eu cafwyd 
yr òeddynt, fel y gallesid dysgwyl, wedi boddi. Claddwyd Mr. Rogers yn 
Nantcwnlle. 

Rowlands, Daniel, y diwygiwr enwog, a anwyd yn y flwyddyn 1713, 
yn Pantybeudy, plwyf Nantcwnlle, sir Aberteifi. Addysgwyd ef yn 
Ysgol Eamadegol Henffordd, ac urddwyd ef yn ddiacon, Mawrth lOfed, 
1733, ac yn offeiriad Awst 31ain, 173ö. Gwasanaethodd wedi hyny fel 
curad yn ei blwyf genedigol a Llangeitho am y cyflog o £ 10 y flwyddyn, 
o dan ei frawd; ac wedi hyny cyn diwedd ei oes, i'w fab hynaf ei hun. 
Pan ddechreuodd ar y weinidogaeth, yr oedd yn ddyn annychweledig, 
yn hollol ddifater am bethau crefydd a byd tragwyddol, ac o ganlyniad 
yr un mor ddifater am eu gwneud yn hysbys i eraill. Ymgymerasai â'r. 
swydd bwysig yr oedd ynddi heb ddim o'r cymhwysderaU angenrheidiol, 
na chwaitb yr un dymuniad am eu meddu. Yr amser hyny talai yr 
enwog Barch. Griffith Jones, Llanddowror, ymweliad achlysurol â Llan- 
ddewi brefi, i bregethu. Aeth Rowlands yno. i'w wrando un Sabbath, 
yn mysg y lluaws a gyrchai bob amser i wrando yr efengylydd hwnw— 
o ran cywreinrwydd, efallai, yn gymaint a dim, yn nghydag oddiar 
ddymuniad, mae lle i feddwl, i ddeall yn mha beth yr oedd poblogrwydd 



137 

y gwr hwnw yn gynnwysedig, fel ag y gallai yntau hefyd ennill ychydig 
sylw yn ei ardal fel pregethwr. Modd bynag am hyny, bendithiwyd ý 
bregeth fel ag y dwysbigwyd, ae yn raddol dychwelwyd ef. Yr oedd hyn 
tua'r flwyddyn 1735. Gwelwyd cyfnewidiad amlwg ynddo ar ol hyn. 
Yr oedd difrifwch a dwysder yn argraíFedig arno, yn enwedig pan yn y 
pulpud, a phregethai wrth y bobl fel un yn teimlo erbyn hyn bwysfawr- 
edd ofnadwy y genadwri a draethai. Yr oedd ei bregethau y pryd hyn, 
ac am rai blynyddau ar ol hyn, yn ddangoseg lled gywir o'i deimladau ei 
hun^ Nid oedd ef ei hun etto wedi profi nemawr o dangnefedd yr efengyl : 
— Wrth " y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a 
thywyllwchj a thymhestl, a sain udgorn, a Uef geiriau," yr oedd ei aros- 
iad, ac nid oedd hyd yn hyn wedi cyrhaedd " i fynydd Seion, ac i ddinas 
y Duw byw, y Jerusalem nefol ;" a'r hyn a welsai, a gly wsai, ac a deimíai 
ei hun, a fynegai iV wrandawyr. Ac o ganlyniad yr oedd ei weinidog- 
aeth yn danllyd anghyffredin — yn llawn mellt a tharanau arswŷdus. 
" Teimlai ei wrandawyr fel pe crynai y ddaear dan eu traed, gan rym y 
bygythion a gyhoeddai. Clywid ganddo bellach beth ni chlywsid o'r 
blaen. Yr oedd difrifwch a gonestrwydd ýn ei Ìais, a diragrithrwydd 
iV ganfod yn ei wedd. Er fod ei fater yn ofnadwy^ yr oedd ei ysbryd 
yn doddedìg gan dosturi, a'i lef yn swynol gan fawr ofal calon. Dilynid 
ei weinidogaeth bellach gan effeithiau rhyfeddol. . Daethai ar y trigolion 
diofal fel braw disymwth ; deffroid hwy megys gan ruad taranau tíym- 
ion. Meddiennid y cannoedd a'r müoedd a ddeuent wèithiau i*w 
wrando, â braw aruthrol, a syi^thiai Üawer o honynt i lawr fel meirwon. 
Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei bortreiadu ar wynebauy dyría 
fawr; brethid eu cydwybodau gan saethau llymion; a llifai eu dagrau yn 
afonydd dros eu gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol taranau mawrion." 
Parhaodd yr effeithiau hyn i ddilyn ei bregethau, i raddau mwy neu lai, 
dros ystod ei holl ẅeinidogaeth. Oddeutu pum' mlynedd, modd bynag, 
y parhaodd yn ei ddull taranllyd, oblegid wedi teimlo tangnefedd a chys- 
ur yn ei galon ei hun, dechreuodd ei gyhoeddi iV wrandawyi', gan eu 
harwain oddiwrth ddychrynfeydd mynydd Sinai i dawelwch hyfrydlawn 
gororau Seion. Ac at hyn y mae "Williams, Pantycelyn, yn ei Farwnad 
iddo,yncyfeiriopan y d3rwed:- 

" 'Nol pregethu'r ddeddf dymhestlog 
Rai blynyddau yn y bla'n, 
A rhoi llawer yn friwedig, 
'Nawr cyfnewid wnaeth y gân." 

Fel y gallesid dysgwyl, ymdaenodd ei glod fel pregethwr trwy hyd a 
Ued y wlad, fel yr aeth ei gynnulleidfaoedd yn lluosog anarferol, a der- 
byniai geisiadau taer yn barhaus i fyned i bregethu i wahanol eglwysi yn 
Ngheredigion a Chaerfyrddin. Yr hyn a'i harweiniodd gyntaf o'i gym? 



188 

ydogaeth ei hun oedd yr amgylchiad eanlynoî. Yr oedd gwraig ÿn byw 
yn Ystradjfin, ag iddi chwaer yn nghymydogaeth. LÌangeitho ; a phan af 
ymweliad â hi un tro, aeth i wrando yr a offeirìad crac" Fel y gelwid ef, 
a*r canlyniad fu iddi gael ei hargyhoeddi yn ddwys o dan ei bregeth. 
Ac er syndod i'w chwaer, daeth yno y Sabbath drachefh o Ystradffin— - 
pellder o tuag ugain miHdir o fíbrdd anhygyrch, iY dyben o'i wrando 
eilwaith. Parhaodd ì wneud hyny yn gyson am dymmor. Ac un Sab* 
bath, ar ol y bregeth, anturiodd ei gyfarch fel hyn: — "Osgwir, Syr, 
ydych chwi yn ei ddweyd, y mae llawer yn fy nghymydogaeth i mewn 
cyflwr peryglus iawn, ac yn myned yn gyflym ì'r trueni tragwŷddol. 
Er mwyn eneidiau gwerthfawr, deuwch drosodd i bregethu iddynt." 
Parodd y cyfarchìad hwn iddo synu ; ond efe a'i hatebodd yn y fan, yn 
ei ddull cyflym ei hun, " Dof, os cewch genad offeiriad y plwyf." Felly 
cafwyd y cydsyniad yma, aeth yntau drosodd, ac argyhoeddwyd Uawer 
o dan y bregeth hòno, a pharhaodd yntau i fyned yno yn fynych wêdi 
hyny. Ac yn. ngeirîau j bardd wedi hyny î— 

" Aeth y swn dros fryniau Dewi, 
Megys fflam yn llosgi llin, 
Nes dadseinio creìgiau Tywî, 
À hen gspú Ystradffin* 

Yn y cyfamser, yr oedd diwygiwr hynod arall wedi troi allan yn sir 
Frycheìnìog, sef yr enwog Howel Harria, yr hwn heb foddloni ar 
rybuddio ei gydgymydogion ei hun o'u peiygl, a droisai allan yn bregetn- 
wr teithiol ar hyd y Dy wysogaeth, ac yr oedd dylanwadau anarferol yn 
cydfyned â'i lafur lle bynag yr elai. Ac yr oedd Rowlands bellach yn 
rhagweled mai myned allan i'r "prif-ffyrdd a'r caeau" fyddai raid iddò 
yntau cyn hìr ; ac yr oedd amgylchiadau yn prysuro ei ymadawiad ä'r 
Eglwys Sefydledig. Pelly o orfodaeth, yn hytrach nag o ddewisiad, y bü 
hyn. Tua'r flwyddyn 1763, felly y gorfu iddo adael yr Eglwys lle j 
buasai yn gweinidogaethu gyda'r fath arddeliad am tua 25 mlynedd. Yr 
oedd cyfarfodydd eglwysig (sodeties) a chynghori yn cael eu cario ÿîi 
mlaen er's chwe' blynedd cyn hyn, mewn hen ysgubor ar dyddyn a ddeliá 
gan Mr. Bowlands, o'r enw Meidrim, yn agos i'r pentref. Codwyd capel 
bychan drachefn yn 1760; ond y flwyddyn ar ol y neillduad, adeiladwyá 
addoldy mawr a helaeth, ac yn hwnw y parhaodd i lafurio gyda'r un 
llwyddiant am tua 27 mlynedd eraill o'i oes. Yn y flwyddyn 1751, 
cymerodd rhyw anghydwelediad le rhwng Bowlands a'i gydlafurwr 
Howel Harris, trwy yr hyn y bu iddynt ymadael â'u güydd, ac felly 
rhanwyd eu dysgyblion yn ddwy blaid, yr hyn a f u yn niwaîd înawr am 
amser i*r achos da a ddechreuasid trwy eu hofferynoîdeb. Parhaodd 
Dangeitìio, yn ystod by wyd Mr. Rowlands, ac am flynyddaú weài hyny, 
i fbd yn gyrchfan cannoedd o bobl o r r ardaloedd cylchynoì; ac ar Satbb«& 



189 

cymundeb, nid anfynych y gwelìd minteioedd yn cynniwair yno o eîthaf- 
oedd y Gogledd. Tebygai Rowlands mewn llawer o bethau i Whitfieìd; 
ond gwahaniaethent yn hyn, — tra yr oedd gweìnidogaeth yr olaf yn 
fwy effeithiol er deffroi, yr oedd yr eiddo ef yn fwy parhaol o ran eí 
heffeithiau. Dywedir nad oedd dim llai na 100 o bregethwyr yn priodoli 
eu dychweliad, mewn rhan neu yn gyfangwbl, iV weinidogaeth ef. O'r 
rhai hyn yr oedd yr enwog Charles o'r Bala yn un; ac nid yr anrhydedd 
lleiaf iddo oedd cael bod yn dad ysbrydol y gwr defhyddiol hwnw. Bu 
farw y gweinidog hynod hwn yn y flwyddyn 1790, ac yr oedd ei farwol- 
aeth yn golled, nid yn unig i achos Methodistiaeth, yr hwn a wasanaeth- 
odd mor ffyddlon, ond hefyd i achos crefydd trwy y Dywysogaeth. 
Gadawodd un mab, sef John Rowlands, yn weinidog yn yr Eglwys 
Sefydledig, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yn Llangeitho. — Gweì Byw- 
graffiad y Parch. Daniel Rowlands, gan y Parch. John Owen, Thrushing- 
ton ; Nonfflnformìty in Wales; Methodistiaeth Cymru, cyf. i. a îi., <fcc. 

Rowlasds, David, a anwyd mewn ty bychan dinod o*r enw Ffosy- 
flîn, yn mhlwyf Uanddewi brefi, Ceredigion, yn y flwyddyn 1783. 
Treuliodd ei ddyddiau boreuol mewn ysgol blwyfol yn y plwyf hwnw, lîe 
y gwnaeth gynnydd rhagojol mewn dysgeidiaeth. Bu yn cadw ysgol ei 
hunan wedi hyny yn Nhregaron, Llangeitho, Pancader, a Llanllawddog. 
Wedi hyny aeth i ysgol enwog Ystradmeurig, yr hon oedd y pryd hyny 
dan ofal y Parch. David Williams, lle y treuliodd bum' mlynedd. Yn 
ystod y gwyliau, cadwai ysgol mewn gwahanol fanau, er mwyn bod yn 
alluog i ddwyn ei draul tra o dan addysg yno. Yn y flwyddyn 1806, 
cafodd ei urddo a'i benodi yn gurad yn Llanfihangel-y-Creuddyn. Sym- 
udodd oddiyno yn 1808 i guradiaeth Carno a Llanwnog, sir Drefaldwyn. 
Yn fuan wedi hyn bu farw y Cenadwr yn Sant Ioan, Newfoundland, a 
chymeradwywyd Mr. Rowlands i sylw'r Gymdeithas fel un cymhwys i 
lanw ei le. Y canlyniad fu iddo gael ei benodi, ac felly cychwynodd 
am faes ei lafur, Mehefin 24ain, 1810. Mae yn ymddangos fod ei lafitr 
a'i ymdrech yn y lle hwnw yn fawr iawn, a bod graddau mawr o lwydd- 
iant yn eu dilyn. Ond yr oedd ei iechyd yn gwaethygu yn raddol, fel y 
gorfu iddo yn y diwedd, sef tuá'r flwyddyn 1816, roddi ei swydd i fyny 
yno, a dychwelyd i wlad ei enedigaeth. Ar ol cyrhaedd yn ol, penodwyd 
ef i guradiaeth Sant Pedr, Caerfyrddin, a thrwy ganiatâd yr Esgob, dech- 
reuodd gynnal gwasanaeth hwyrol yn yr E|glwys hòno. Tra ar ymweliad 
â Llanwnog, yn Mehefin, 1818, cafodd^ o beswch, yn mha un y tòrodd 
un o*i waed-lestri. Trwy ymdrech fawr ar ran y meddygon, daeth lawer 
yn well, a dychwelodd i Gaerfyrddin, ond ni chafodd ei lwyr adferu. 
Penodwyd ef y pryd hyny gan yr Esgob i Piceriaeth Tregaron, gan 
féddwl y buasai awyr ei fro enedigol yn ei gyflawn adferu, ond nid fefiy 



140 

ỳ bu, oblegìd cyn iddo gymeryd meddiant o'i fywoliaeth, tòrwyd ef i lawr. 
Feìly bu farw, Ebrilì 29fed, 1820, yn 37 oed. Claddwyd ef Mai 6ed, yn 
nghangell Eglwys Sant Pedr, gyda phob arwydd o alar cyffredinol ar ei 
ot Yr oedd Mr. Rowlands yn fardd coeth, a dywedir y gallai gyfarisoddi 
yn rhwydd er yn bléntyn. Bu am dymmor yn ysgrifenydd gweithgar i 
Gtmbodorion Dyfed. Yr oedd yn ddyn hynod o ddidwyll, cydwybodol, 
a diwyd yn ngwaith y wèinidogaeth, à'i holl ymgais oedd cŷflawni ëi 
sẁydd santeidd-lan gyda flyddlondeb. 

Rowlands, Nathaniel, oedd fai> y Pàrch. Daníel Rowlands, Llan- 
geitho, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 1?4Ô. Gorphenodd ei addysg yh 
Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychain, Ue y graddiwyd ef. Wedí ei ordeinio, 
aeth yn gapelwr i t)ug Órmönd a'r Arglwyddes Huntingdon. Pregethai 
meẃn undeb â'r Methodistîaid Calfinaidd, ac ystyríd ef yn un o'r pregeth- 
wyr mwyaf poblogaidd yn eu mysg. Önd ar ol neillduad y corff hwnw 
oddiwrth yr Egíwys Sefydledig, yn y flwyddyn 1811, tòrodd ef y cysyllt- 
iad â hwy yn llwyr, a glynodd yn yr Eglwys. Ond o herwydd rhyw 
afreoleidd-dra yn ei fuchedd, ni weinyddai ynddi er y flwyddyn 1807. 
Gwa«anaethodd y rhan olaf o*i oes meẅn capeì a godwyd iddo yn Hwl- 
fíbrdd, i gynnulleidfa o Fethodistiaid a barhaent o hyd wrth weinidogaeth 
yr Eglwys. Yr oedd yn briod â merch Öowel Bavies, yr offeiriad poblög- 
aidd. Bu farw yn y Parc, sir Benfro, yn 82 mlwydd oed, a chladdwyd 
ef yn Henllan-amgoed. — Meih. Cymru y cyf. iii 

Bowlands, Ŵilliam. Er nad oedd y gwr hwn yn ystyt cynTedin y gaír 
yn ddyn cyhoeddus, etto gan ei fod yn un o'r dynion mwyaf gweithgar a 
flyddlon yn y cylch yr oedd yn troi ynddo, ystyriwn ef yn deilwng o 
goffhad. Ganwyd ef Mai laf, 1778, yn nghymydogaeth Blaenplwyf, o 
deulu hynod grefyddoi. Argyhoeddwyd ef pan tua 21ain oed, ac ymunodd 
â'r Methodistiaid Calfmaidd yn y líe hwnw, ac efe oedd un ò'r aelodau 
cyntaf yno. Yn y flwyddyn 1804, neiilduwyd ef gan y Cyfarfod Misol 
yn flaenor, a pharhaodd i gyflawni dyledswyddau y swydd hòno gyda 
ffyddlondeb mawr am yr yspaid maith o 55 o flynyddau. Penodwyd ef 
yn Ysgrifenydd y Dosbarth i'r Ysgol Sabbathol yn 1819; ac yn 1823, 
rhoddwyd ef yn y swydd o ofalu am gyhoeddiadau pregethwyr a ŷ u dos- 
barthu, yr hyn oedd yn waith gofalus a llafurus iawn ; ac yn 1840, dewis- 
wyd ef yn Drysorydd y Sir. Pan ddaeth y Gymdeiiias Ddirwestol 
gyntaf i sylw, yr oedd William Rowlands yn un o'r rhai cyntaf i'w phleid- 
io yn y rhan hòno o'r wlad, a pharhaodd yn ddirwestwr selog hyd ei fedd. 
Bu yn flyddlon iawn yn cyrchu i'r cyfarfodydd Misol, a hyny i bellder 
mawr, a bu mewn wyth o honynt ar gyfartaledd, bob blwyddyn trwy ei 
oes, hyd ei flynyddoedd olaf ; a mynych yr elai mor bell tJr Bala i Gy' 



141 

manfa. Yn ei ddyddlyfr, yr hwn a gadwodd gyôWr gofal mwyaf, o'r 
flwyddyn 1824 hyd derfyn ei oes, gwelir ei fod wedi gwrando 4707 o 
bregethau, ac y mae yr holl destunau hyn i lawr ynddo. Nid oes hanes 
trwy ei holl oes grefyddol, iddo fod yn absenol o gyfarfodydd yr eglwys 
am ddau gyfarfod yn olynol ; ac anfynych iawn y byddai yn absenol o 
un, er fod ganddo fasnach fawr a flerm i edrych ar eu hol. Ymdrechodd 
gryn lawer gydag achos sylfaeniad Athrofa Trefecca ; cyfranodd yn hael- 
ionus ati ei hunan, a bu yn offeryn i gasglu llawer oddiwrth eraill att 
Ac yn wir nid oedd un achos da nad oedd ef â'i holl egni yn ei bleidio. 
Efe fyddai yn dechreu y canu am flynyddoedd meithioTyn nghymanfa- 
oedd y sir, a byddai ei lais mor glir fel yr adnabyddid ef o bellder mawr 
yn mysgyr holl filoedd fyddai yn cydganu ar y pryd. Ychydig yn wir 
a gysegrodd oes mor faith ac mor llwyr at achosion crefydd ag ef, ac a 
fuont mor ûyddlawn gyda'r gwaith. Gorphenodd y Cristion didwyll 
hwn eiyrfa y 26ain o Awst, 1859, yn 81 oed. — Gwel Cofiant William 
RowlwndSy gan y Parch. Robert Roberts, Llangeitho. 

Saünders, Dáyid, oedd weinidog tra defhyddiol gyda*r Bedyddwyr. 
Brodor ydoedd o Landyssul. Derbyniwyd ef trwy fedydd yn aelod o'r 
egìwys yn y 11«, Gorphenaf, 1784, gan Mr. Timothy Thomas, ac ordein- 
iwyd ef yn weinidog yn Aberduar, Hydref 22ain, 1800. Symudodd 
oddiyno i Gapel Seion^ Merthyr, Gorphenaf 13eg, 1815, lle y bu yn 
gweinidogaethu hyd y flwyddyn 1836, pryd y gorfu iddo, o herwydd 
afiechyd, roddi i fyny ei ddyledswyddau cyhoeddus. Bu èi yrfa fel 
gweinidog yn y lle hwnjn hynod lwyddiannus, a bedyddiodd yn ystod 
yr ugain mlynedd y bu yno, dros 500 o aelodau. — Gwel Hanes y Bed- 
yddwyr gan Jones, tudal. 584. Yr oedd Mr. Saunders yn fardd lled 
dda, ac yn awdwr amryw o draethodau, ac ysgrifenai yn bur fynych i'r 
Seren Gomer. Yn 1791 cyhoeddwyd marwnad o'ì waith i'r Parch. 
William Williams, Pantycelyn; ond ei brif waìth oedd ei "Antìgraphon, 
neu Wrthgrafnad Seion yn achos y camachwyniad a gafodd yn ddiweddar 
gan awdwr mewn llyfr newydd a elwir, Ámddiffyniad ür Eglwye Orut- 
ionogol yn bedyddio ph/nt bychain, gan D. Saunders, Aberduar. Caer- 
fyrddin, argraffwyd gan I. Ross tros Dafydd William, 1780." — Lhjfrydd- 
iaeth y Cymry. 

Shadrach, Azabiah. Er nad oedd yn enedigol oV sir hon, etto gan 
mai ynddi hi y treuliodd y rhan hiraf a phwysicaf o'i fywyd, ac y cyr- 
haeddodd gymaint o enwogrwydd, ni ddylid myned heibio i'w enw yn 
ddisylw. Ganwyd y dyn hynod hwn yn Carn-deio-fach, plwyf Llanfair, 
yn agos i Abergwaun, sir Benfro. Symudodd ei rieni oddiyno pan oedd 
ef yn saith oed, i blwyf Borton, ar lan afon Penfro — lle hollol Seisni^* 

9 



1 



Ui 

áiÄd, 'áe ÿno ŷ áýsgodd éf gýntáf ýr taith Saestieg, fet y tystiai eí él hun r ŷ 
gan îdâo focl 7110 " ýn chwareu gyda phlaht bach f Saeson dros dair 
tlÿnëdá.* 'Öíid ýr òedd yn ddeg oed cyn gwýbod gair ar íyfr, nac adna- 
ooà uh Ìythÿren. Ÿr àmser ýma symudodd at fodryb iddò ỳn Nhre- 
wýaçíel, ác ÿn y île hwh, ẁrth fugeilio ár làn y Fagwyreiniôn, ymbalfal- 
cjäá éi tíbrdd i dcUrlíen Cỳnrraeg. Yn ŷ Ile hwn, o dan ŵeinidogaeth f 
Párch* Jòhn t^hillips, ýr argyhoeddŵŷd ef, ac yr unodd â'r eglwys. 1fá 
njan wédi trjrn áaeth árnò aWydd mawr am bregethu, aò wedi bod ÿn 
'ngwasanaein y Pärch. John Ìtichards, Rhosycaerau — gẃeinidog yr eglẅýg 
JLnnÎDynol ÿn j tíe hẁnw, am íwýddyn o amser, ac yn derbyn 
jjiÿtförddiaâau ganddo, cafodd ei ddymuniad, a dechreuodd ar y gwaith'. 
Uawn ef ẃedl hyn ỳh cÿmerÿd taith trwy y Gogledd, ac ar annogaeth f 
Tarch. tDr. Lewis, ýn ÿmsëfydlu ỳn yr Hirnant, yn agos i Lanrhaiadf- 
Mochnant, ýn ý tíymeriad o bregethwr ac ysgolfeistr. Symndodd oddi- 
ÿno ÿn Hed fúan i'r Dderwen Las, ac oddiynô drachefn i Benybont, 
Gelligoch, ac yn y lle olaf y dechreuodd fod yn awdwr, oblegid tra ynö 
f cyhoeddodd ef ei AUwedd Myfyrdod. Ac yn niwedd 1.802, urddwyd 
e.f yn wéinîdog yn ìíhrefriẁ a Llanrwst. Yn 1806, caWn ef draòhefn yn 
sỳmud yn öl i'r Deheudir, ac ÿn ỳmsefydlu fel gweinidog yn tíhalybont, 

Snghyda chymeryd gofál èglwŷs Llànbadarn Fawr. Yn y flwyddyn 
15, bendithiwỳd èi lafur ÿn y lle blaenaf hwn mewn módd arbenig 
Vwý dòiwýgiad grymùs a gymerodd le yno, pryd y chwanegwyd Huaws 
înáwr át ÿr eglwys. Ýn 1819, trẅy ymdreehion a hunan-ymwadiad 
'maẃr ar ei ran, sëiyctlodä eglwys yn nhref Aberystwyth, à chasglodd 
boh dimai a aeth i adeííadu y capei ýn y lle, ei hunan, mewn manaú 
eraíll! íenodwyd gwéinidog arall yn olynydd iddo yno yn 1835. Bu 
y gwas Ôyclálon, díẁyd, a llwyddiannus hwn farw lonawr 12fed, 1844, 
yn oí> mîwÿdd oed, a chladdwÿd ef yn mýnwent Eglwys St. Michael, 
Aberystwyth. Fel awdwr miae enw Azariah Shadrach yn dra adná- 
hyddus, ac ÿ mae rhýẃ hynodrwýdd neillduol yn perthyn i enwau ei 
ÌTýfrau ÿn gystal a'* cynnwysiad. Gwelir enwau rhai o honynt yn ÿ 
peuniÛ catìîynoì sydd ar ei fedd-adaiì: — 

« Bù èi âẃd ü'i y^grifell 

Yn cyd-daenu efengyl Crist; 
Perìau'r Groes, ac «difr Caerêolem 

Gynnygiai i dylodion trist; 
Drpch a Cherbyd a Gdeuni, 

Myfyrdodau ln ar g'oedd-: 
Un-ar-hngain rhif ei lyfrau— 

Bahyaiì Cymrù'n ddiatt oedd." 

Öẁêî Èyìmfd a Ûlòetihiau lîariaJi Sftädtach, gáà y ŶátcÌL jösiai 
íc%éa, M!achÿn&éth. 



143 

SíAîfCYN, Dafydd Llwtd, oedd un o arglwyddi Llanbedr-Pont Stephan, 
pan ymwelwyd â'r Ue gan yr Archesgob Baldwin a Giraldus Cambrensis, 
yn y flwyddyn 1 188, ar yr achlyt>ur o bregethu "Rhyfely Groes." Prif 
anneddle arglwyddi Llanbedr oedd Mynydd Hywel, yr hwn a safai ar yr 
ochr orllewinol i'r afon Croyddin, yn agos i'r amaethdy a elwir yn awr 
Pontfaen, ychydig islaw tref Llanbedr. Mae traddodiad yn nodi allan 
ẃeddillion rhodfa o ddrws gorllewinol yr eglwys, yr hẅn a arweiniai ar hyd 
pont gôryg i'r plas. Mewn cân o eiddo Lewys Glyn Cothi, wedi ei chyfc 
«rio i un Hopcyn ap Sion, Llys Newýdd, un o arglwyddi Llanbedr, ceir 
y Uinell&u canlynol, oddiwrth yr hyn y gwelir faint eu hargiwyddiaethau : 

" 1 Hopcyn, er hyn, y rhawg 
Tdd a gwledydd golndawg; 
Gwlad Geredig, a Cliadell; 
Gwyr; a Sir Gaer y sy welL 
Lidaw y mae, arglwydd mew, 
Daiar Llanbedr, oil unben. 
Saint Clèr, dan ei faner fo, 
A swyddau Cemaes iddo; 
Bro Went, Morganwg o'r bron, 
Bro Wyr, ac Aber Aeron." 

Sitsyllt, oedd fab Clydawg, brenin Ceredigion, a düynodd êf yn èi 
diriogaeth. Efe ydoedd tad Arthen. Bu farw yn y flwýddyn 804. 
—^Mtyrìctè* Cardiganshire^ xxvL 

SüLiEtf, oedd fab Rhyddmarch, a duwinydd enwog. Gelwir ef gan jt 
hanesydd Caradawg, yn " faethmab Eglwys Llanbadarn Fawr, yr hwn 
oedd y doethaf uiewn cynghor, y duwinydd mwyaf dysgedig yn esgobaeth 
Ty Ddewi, ac un o'r rhai. mwyaf diflino yn ystod ei fywyd yn gwrth- 
wynebu diygioni a thrais." Bu farw yn 1 145. — Myf. Arch., ii., 561. Yr 
oedd hefyd Sulien neu Silin arall, sef Sant yn blodeuo yn y chweched 
ganrif, i'r hwn y cyflwynwyd Capel Sant Silin, yn mhlwyf Llanfihangel 
Ystrad, Ceredigion. — Reee* Welsh Sainte. 

Stmhons, Charles, D.D., a anwyd yn Àbertcifij yn y áwyddyh 1*49. 
Ëi dad oedd John Symmons, Ysw., a bu yn cynnrychioli Aberteifi yn 
ystod tri Senedd-dymraor olynol, sef yn y blynyddoedd 1741 — 47 — 54. 
í)ygwyd ef i fyny yn Ysgol Westminster, o'r lle y symudodd i Athrofa 
Glasgow, ac oddiyno eilwaith i Gaergrawnt» Yn 1776, graddiwyd ef yri 
y Ue olaf yn B» D. O herwydd rhy w sylwadau o'i eiddo a gyhoeddodct 
mewn pregeth, y rhai a fiafrient y blaid wrthwynebol, sef y Whigiaid, 
rhoddwyd attalfa ar ei obeithión am dderbyn unrhyw ddyrchafiad yn yr 
Athrofa hòno, ao felly ymadawodd am Goleg yr Iesu, Bhydychain, lle y 
darbyniodd ei radd o Ddoethawr Duwinyddiaeth yn 1794. Wedi ei 



144 

ordeinio, penodwyd ef i fywoliaeth Narberth a Llanbedr. Ysgrifenodòî 
gryn lawer o farddoniaeth, a chyhoeddwyd amryw ddarnau o'i eiddo. Ei 
brif waith oedd cyhoeddi gweithiau rhyddieithol Milton, gyda bywgraff- 
iad o'r awdwr. Bu farw yn Caerbaddon yn 1826. — WUliams 1 Eminent 
Welshmen. 

Taliesin, oedd yr enwocaf o'r hen Feirdd Prydeinig, ac yr oedd yn 
blodeuo tua 540. Mab ydoedd i St. Henwg, Caerlleon-ar-wysg, ab Fflwch 
Lawdrwm ab Cynin, <fec., ac yn hanu felly o Llyr Llediaith. Cafwyd ef 
mewn cwracl pan yn blentyn gan Elffin yn ngored Gwyddno, yn^agos i 
Aberdyfi. — Gwel Elffm. Cymerwyd ef i lys ei noddwr a'i dad, lle yr 
addysgwyd ef gyda'r gofal mwyaÇ a daeth mewn amser yn brif-íardd, a 
rhestrir ef yn y " Trioedd " gyda Merddyn Emrys, a Merddyn ab Madog 
Morfryn, fel y tri "privardd bedydd." Rhanodd ei amser boreuolrhwng 
llysoedd Urien Rheged a Gwyddno Garanhír; ond wedi gorlifo o'r mòr 
etifeddiaeth yr olaf, ar annogaeth y Brenin Arthur, aeth i breswylio i'w 
lys ef i Gaerlleon-ar-wysg, a pharhaodd y brenin hwnw yn noddwr caredig 
iddo tra bu yno. Mae llawer o'i ganiadau wedi eu hargraffu yn y Myfyrian, 
yn nghydag eraill o ddyddiad diweddarach, y rhai yn gyfeiliornus a 
briodolir iddo ef. Dywed rhai iddo dreulio rhan o'i oes ar làn Llyn Geir- 
ionydd, yn sir Gaernarfbn ; tra mae Ile arall yn sir Aberteifí yn hawliö yr 
un anrhydedd. Y Ile hwnw sydd yn agos i Dalybont, ac adnabyddir ef 
hyd heddy w fel "Gwely neu Fedd Taliesin," a chyfodwyd cof-faen yn 
ddiweddar ar y fan, lle y tybir fod gweddillion y prif-fardd yn gorwedd. 
—lolo MSS. f 459, 467, 659; Myý. Areh^ ii., 19; Guests Mabinogion, 
toL iii., &c., <kc. 

TflOMAS, DaVid, oedd enedígol o Geredigíon, ond ní wyddis o ba le 
ynddi ; ond yr oedd yn by w yn nechreu y ganrif ddiweddaf. Trodd ar gân 
y bennod gyntaf o Lyfr y Pregethwr, yr hwn a orphenwyd gan Edward 
Ëvan o Aberdar, a Lewis Hopcyn o Lynogwr. Cyhoeddwyd y gwaith 
hwn, yr hwn sydd ar fesur cywydd, yn y flwyddyn 1767, yn Bristol, gan 
P* Ffarley. Mae iddo y rhagymadrodd a ganlyn: — "Mal y deallo'r dar- 
Henydd yr hyn a fu achos a chymmelliad i'r gorchwyl ymma o gyfan- 
soddi Llyfr y Pregethwr ar fesur Cywydd. Cymered sylw o'r ymadrodd 
canlynol. Digwyddodd i wr ieuanc o sir Aberteifl a'i enw Dafydd Thomaa, 
ddyfod i wared i Forganwg oddeutu'r flwyddyn 1727. Un ydoedd o 
berchen cynheddfau naturiol cryflon; a chwedi cael cyfran weddol o fan- 
teision gwybodaeth. Efe a dderbyniwyd yn aelod i gynulleidfa'r Parchedig 
Bhys Prys o'r Ty'n Tonn. Yr ydoedd ganddo dalent o awen, a rhwydd- 
ineb ymadrodd. Efe a ymosododd i ddyscu Bheolau Grammadeg, a iawn 
ysgrifeniaeth, oddeutu'r flwyddyn 1730; ac a ddaeth yn gryn gyfarwydd 



145 

á dychmygfawr mewn barddoniaeth Gymreig. Bum ar brydiau yn ei 
gyfeillach ef, pan oeddwn tuag at ddwy ar bumtheg neu ddeunaw oed, ac 
am hyny yn rhy ysgafn a phenhoeden i sylwi na dal gafael ar unpeth o 
werth a theilyngdod. Efe a briododd, ond ni chafodd efe nemawr hyfryd- 
wch oddiwrth y cyflwr hwnw. Ei ddyddiau diweddaf a dreuliodd gyda 
Dafydd Martin, yn Ystrad Dyfodwg. Efe a orphenodd ei yrfa yn j 
flwyddyn 1735; ac wrth chwilio ac edrych ar ei escrifeniadau ef, mi a 
gefais y Bennod gyntaf o Lyfr y Pregethwr, wedi ei chyfansoddi ar fesur 
Cywydd; yr hyn cynhyrfodd i ofyn cynnorthwy gan fy nghyfaill a'm cyd- 
nabod Lewys Hopcyn, i orphen a chyflawni bwriad yr hwn oedd wedi ei 
attal gan farwolaeth. w 

Thomas Emlyn Thomas, a anwyd yn Nhroed-yraur, yn y flwyddyn 
1822. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth yn Ffrwd-y-fal a Chaerfyrddin. 
Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth a thraethodau, yn ei oes fer, y rhai 
sydd iV gweled yn Seren Gomer. Bu farw Ebrill 24, 1 847, yn 24ain oed. 

Thomas, Francis, y "Crythor dall" o Aberteifi, oedd fardd lled wych, 
yn byw tua chanol y ganrif ddiweddaf. O ran ei farn, Arminiad selog a 
chydwybodol ydoedd. Mae dwy gân o'i eiddo i'w gweled yn argraffedig 
yn Mlodau Byfed^ sef, "Cynghor i Fab leuanc," a " Hanes cyflwr dyn 
yn mhob rhan o'i oes, sef, 1. Ei Fabandod; 2. Ei Jeuenctid; 3. Ei ganol 
oed; 4. Ei Henaint." Mae rhai o'i ysgrifau, yn cynnwys ei ganeuon, yn 
awr yn meddiant y Parch. David Lloyd Isaac, Llangathen. 

Thomas, Jenkin, o'r Cwmdu, ger Emlyn, a anwyd yn y flwyddyn 
1688, yn Felin Drewen. Ei dad-cu ydoedd Morgan Rhydderch, brawd 
Shon Rhydderch yr argraffydd yn yr Amwjrthig, ac mae yn debyg mai y 
diweddaf fu ei athraw barddoöol. Crydd wrth ei alwedigaeth ydoedd 
Jenkin Thomas, a daliai dyddyn bychan gyda hyny ar làn Ceri. Bu iddo 
saith o blant, a bu yn ymdi-echgar neillduol i roddi addysg dda iddynt, a 
daeth amryw o'r meibion yn feiixld da. Ymddengys iddo dreulio y rhan 
foreuaf o'i oes yn Ued anystyiiol ; ond wedi ei argyhoeddi, trodd allan yn 
grefydd wr difrycheulyd, ac yn mben enyd o amser cymeradwywyd ef gan 
yr Eglwys, sef Llechryd, i ddechreu pregethu. Mewn rhai llyfrau gosodir 
ef allan fel gweinidog Trewen, ond y tebygolrwydd y w mai pregethwr 
eynnorthwyol ydoedd yno, yn gystal ag yn Pencadair a manau eraill. Bu 
larw oddeutu y flwyddyn 1768. Wrtb ystyried yr anfanteision y llafuriai 
danynt, yn nghyda'r oes yr oedd yn byw ynddi, nis gallwn lai na chyd- 
nabod ei fod yn berchen athrylith Ued loew, a chwaeth lled goethedig. 
Ar destunau dwys yn gyf&edin, mfigys, profedigaethau teuluaidd, marw- 
olaeth cyfeillion, &c., y canai y rhan fynychaf. Cyfansoddodd farwnadau 



146 

i Shon Rhydderch, Enoch Francis, ac eraill o'i gydoeswyr llenyddeL Y 
mae amiyw o'i gyfansoddiadau i'w gweled yn Blodau Dyfed, ac yn mys& 
eraill, ceir yno Gywydd Marwnad i Ifan GrufFydd, Twrgwyn, o*v hwn, j 
mae y dyfyniacl canlynol:— 

«E brofwyd hwn yn Brif-fardd, 
Dir ei fod yn Gadair FardcL 
JTe woai gerdd yn BencerddUwl, 
Cynon oedd ei dôn ddi-dawl; 
v Tebyg oedd ei gyhoedd gân, 

Jjwys ergyd, i lais organ; 
Fe eiliai gân o fawl gwych 
Ar dôn f wyn i'r da'n fynych: 
Ail oedd ei wen awen Q, 
A'i wybodaetb i Bedo. 
Gwnai gynilwaith perffaith, pur, 
A didwyll. aü i IJudur. 
Gosodai fel gwè sidan, 
Blethiadau'n glymiadau glauj 
'Roedd yn ei gân ruddyn gwych, 
T tri enaid tirionwych." 

THOMAfl, John, ydoedd un o enwogion y Methodistiaid yn y mt Ìon. 
Ganwyd ef yn y fl. 1760; a phan yn 34 mL oed, dechreuodd bregethu, a 
threuüodd 55 o flynyddau yn y weinidogaetb yn eu plith. JSfe ydoedd yr 
olaf o'r pregethwyr a neillduwyd ganddynt yn y fl. 1811. Ymddengys 
mai lled helbulus a gwasgedig ei amgylchiadau y treuliodd efe ddyddiau 
boreuaf ei ces; ond tueddwyd ef yn lled ieuanc at grefydd, ac ymunodd 
â'r Bedyddwyr. Ni fu ei arosiad gyda hwy ond rhyw bedair blynedd, a 
bwriodd ei goelbren yn mysg y MethodUtiaid. Teithiai yn mhell ac yn, 
agos, i'r dyben o wrando rhy w hoflf bregethwr, ao eisteddai yn gyson dan 
weinidogaeth fywiog Mr. David Morris, Twrgwyn, gan dderbyn, fel y 
tystiai wedi hyny, bleser ac adeiladaeth nid bychan. Gwníedydd wrth ei 
olwedsgaeth ydoedd John Thomas, a chan fod iddo deulu lluosog yn 
dibyna yn hollol arno am eu cynnaliaeth, gorfodwyd ef i fyned i Lundain 
î weithio ei grefffc, gyda'r amcan o wella, os oedd modd, yobydig ar ei am> 
gylchiadau. Tra yno elai yn fynych i wrando yr enwog Romainey* 
pregethu, a bu hyny yn dra bendithiol iV enaid. Wedi trenlio ychydig 
amser yn Llundain, dychwelodd at ei deulu i Aherteifi, lle y treuliodd y 
gweddill o'i oes. Yn y fl. 1794, profodd yr eglwysyn y dref hòno a'r 
gymydogaeth adfywiad grymus, a derbyniodd J. Thomas radd helaeth • 
hono. Y canlyniad o hyn fu iddo gael ei dueddu at y weinidogaeth 
gyhoeddus, oblegid buasai yn ddiacon flÿddlon yno er's blynyddan Wedi 
ei gyflawn urddo, annogwyd ef i fyned ar daith trwy wahanol siroedd j 
De. Ájc jt achlysur yma, cafodd y Parch. D. Jones, Llangan, gyfleubdia 
î'w glywed yn pregethu, a aylwai, " Y n\ae yr hen apostol Iajo wedi 



w 

adgyfodi yn y gorllewin, a gwae i grefydd benrhydd mwyfc" ^. çltyn jbojj 
hallt ac argyhoeddiadol oedd ei weinidogaeth, ac mçr ddidderbynwyneh f 
dynoethai arferion llygredig yr oe&, aeth yn ddywediad çyflre4*n ? "naj| 
oedd dim lle i bechadur gael ei fywyi dan ei bregethau." Ychydifc & 
fanteision i gyrhaedd gwybodaeth gafodd J. Thomas, ond er hyny i gyd, 
$rwy ddy&l barhad ac ymdrech diflino, daeth yn feddiannpl ap yst£rÿe]*eéh 
9 wybodaeth gyföedinol í?an yn y pulpud, byddai ei q}w$ fepfr amsfer yr 
Uawn symledd a difrifoldeb. Nid oedd rhodrest yn, ÿerÿlryn id4$ ef gw^l» 
Traddodai ei faterion mewn iaith ddestlus a cbp^hedjg,aq yi? o&ltyfttifn, 
nodedig am eu trefnusrwydà Y cjeall a'r gjrtWjrbpd, yn ^rtracb. n*'r 
$eimlad, a amcanaieigyirhaedd yn ei breçethau. Tfn ei fîynyc^dau tyweffâ- 
af ymryddhaodd yn hollol oddiwrth ei alwedigaeth fydp), a pbyaegrodfl *| 
fcoll a,maer i ddyledswyddau y weinidogaetb. Ql$egi4 llesgedd § gwaele^d 
ei iechyd, cyfyngid ei lafur yn y diwedd i'w gymydo^aetli ei hun. Parç £ 
teimjai ei ddiwedd yn nesau, dywedai wrtl} gyfaül a ddaethaj i yrpwele4 
$g ef, <( Mae fy ngyrfa bron ar ben, a'm pregettyi wedi darfed; n,i4 oej 
genyí ond tragwyddoldeb o'm. blaen; mae fy ÄÇeistr jrn fy nga^w a4ref^ 
yeüy bu farw y gweinidog ljafurus a defpyddiol hwn \ Griçt, ar y tyýỳ o 
Chwefror, 1849 ? yn 89 mlwydd oe^— Jftfh. Çm™, «Jf£ £» tẄt ÍẀ 

Thomaä, Rodebioe, oedd weini^og tra defnyojdiol a elrjmerftA w ? yn 
inygg yr Angbydffurfwyr yn amaer CrpmweJ, a gweinddpgaethÄJ y prj4 
hyny yn Eglwys Llanfihangel-y-creuddyn. Mewn canlynia^ i Ddeddf y^ 
Unffurfiad, bwriwyd ef allan o honL Trwy eu herfyniadau taer, llwydd- 
odd ei gynnul^eidfa gamddo unwaitfy draebefn i gydymffurfio trwy arfer. y 
defodau a'r drefp gwasanaeth yn ol y Dde^df Vnffujrfiad, qn^ ed^r^aod^ 
eilwaith am ei waith, ac felly bwriodd ei goelbren yf. my«g ^b 
Ymneillduwyr. Nid yw yn hysbys yn mha le y treulíodd j 
rhan ddiwe44af rfi <K9S. — P^ẅ^* JŸ<m<iQnfqri*ŵtf Memori^ wl 

Tü#»0l^ JopN, a anwy4 yn, y Swy^dyn 17gl, yn pan^ec(m^ ger 

Aberfeifi. Paa yn ^dwyartyipŵeg <3*Ẃr *fi*k ÎF fwẃi X ^PUf ^H 
F<Ue, ae yn Ẁan eymprpdd ran piewn brwydr \weify a ym^44 w j4 4 ? f 
Ffrancod ar dueddau yr India OiUewinol, lle yr arosodd hydy flwy^^Tw 
1783, pryd y gwnaed heddwch rhwng y ddwy genedl. Yn 1785, ar gaia 
Gwÿym Henri (wedi byny Wi^iani iv,), cymetodd pwydd ar fwr44 J 
ẀW fJawn ef we4i l^yn yn 4al $wyddi o ym4dirie4 ar fyrd^ 
gwahanpl jbinga#. Yn y r y mdre^ bfa a gym^rp^d h w^ f«4dianni|i Tf pujon^ 
dangosodd Turnpr, yr hwn çe^d erbyn hyn |fn ^ft4*r#g^V, W» 01 ^ $b 
gyffelyb, ac mewn canlyniad gwnaed ef yn gadben un o'r llongau a gymer- 



148 

1794, symudwyd ef i'r Glory, a'r flwyddyn ganlynol i'r Monarch. Tn 1799, 
gwnaed ef yn gadben y Trident, lle bu hyd ei farwolaeth, yn 1803, 
yr hyn a gymerodd le yn Ynys y Tywysog Edward, yn India'r 
Gorllewin. 

Tuenoe, David, A.C., oedd o'r un teulu a'r uchod. Ei dad oedd 
Dafydd Turnor o'r Crugmawr, Llangoedmor. Enw ei dad-cu ydoedd 
Lewis Turnor, ac ymddengys ei fod yn hynod am ei onestrwydd, fel yr 
aeth y dy wediad, "Mor onest a Lewis Turnor," yn ddiareb yn y gymydog- 
aeth hòno. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth yn Bhydychain, lle y graddiwyd 
ef yn B.C., ac yn olynol A.C. Urddwyd ef 1773, ac yn 1790, penodwyd 
ef i fywoliaeth Rudbacston, yn sir Benfro, yr hon a gyfhewidiodd yn 
mhen amser am Faenor Deifi, yn yr un sir. Yn 1795, gwnaed ef yn 
Ddeon Gwladol y Ddeoniaeth; a'r flwyddyn ganlynol, cafodd Ebrwyaeth 
Fenbryn, Ceredigion, lle y bu farw yn 1799 yn dra disymwth, ar ddydd 
Sul, yn yr Eglwys, ar ol gweinyddu y Cy mun. Yr oedd hefyd yn gaplan 
i Iarll Cawdor, a bu am beth amser yn Ynad Heddwch dros y sir. 

Symudasai y Turnoriaid i'r wlad yn amser Siarl n., ac yr oeddynt 
erbyn hyn wedi ymfrodori yn Nghymru. — Gam. Begister, 1818. 

Tyfeiog nèu Tyfeydog, saut yn byw tua diwedd y chweched ganriü, 
Mab oedd i Dingad ab Nudd Hael, ac efe oedd sylfaenydd Eglwys Llan- 
dyfriog, neu Uandyfrydog, yn y sir hon. 

Tygwy neu Tegwy, sant a flodeuai tua diwedd y chweched ganrif. 
Mab oedd i Dingad ab Nudd Hael, a sylfaenydd Eglwys IJandygwy, nea 
Llandygwydd. 

Tysilio, sant, bardd, ac ysgrifenydd, tua chanol y seithf ed ganrif. Ei 
dad oedd Brochwael Ysgythrog, Tywysog Powys, a'i fam oedd Arddun, 
ferch Pabo Post Prydain. Priodolir Hanes Eglwysig Prydain ac un o'r 
Croniclau Cymraeg iddo, a gwelir y gwaith olaf yn gyhoeddedig yn y 
Myfyriam Archaiology, dan yr enw Brut Tysilio. Mae Eglwys Llandys. 
silio-gogo, yn y sir hon, yn gyflwynedifij iddo. Ei ddydd gwyl yw Tach- 
wedd 8fed. 

Tyssul ab Corun ab Ceredig ab Cunedda Wledig, oedd sant yn 
blodeuo yn y chweched ganrif. Efe oedd sylfaenydd Eglwys Llandyssul, 
yn y sir hon. Coffeir ef Ionawr 31. — Gwel Myf* Arch.; Re&t Welsh 
Saints; lolo Morganwýs Wehh MSS.; Achau y Saini. 

-Yaugran, Haery, Ysw., oedd yn byw yn Plas Cilcenin, tua chanol . 



149 

yr eilfed ganrif ar bymtheg; a bu ddwywaith yn siiydd Ceredigion, sef 
yn nheyrnasiad Siarl i. a Chromwel. Mewn * ysgrif a gyfansoddwyd 
tua'r flwyddyn 1661, rhoddir y cymeriad canlynol iddo: — "Harry 
Vaughan, anything for money, a proselyte, and farourite to all the changes 
of times; a Sheriff for his late Majesty, affcerwards for Cromwell, justice 
of the peace under each, tyrant in power, mischievous by deceit; his 
motto — qui nescit, dissimtdare, nescit vivere" — Gwel Cambrian Register, 
voL i 

Vaugha», Syb Johk, Marchog, ac wedi hyny Prif Farnwr Llys y 
Common Pleas, oedd fab Edward Vaughan, Ysw., o'r Trawsgoed, o 
Lettice, ferch John Stedman, Ysw., Ysfcradfflur, a ganwyd ef yn y flwydd- 
yn 1608. Treuliodd bum' mlynedd o dan addysg yn Ysgol y Brenin, 
Caerwrangon; a phan yn bymtheg oed, anfonwyd ef i Goleg Bglwys Crist, 
Rhydychain. Pan yn ddeunaw oed gwnaed ef yn aelod o'r Deml; ond 
yn hytrach nag astudio y gyfraith, dewisai ef wyddoniaeth a barddon- 
iaeth. Ar ol gwneud cydnabyddiaeth â*r dysgedig Selden, tueddwyd ef, 
ar annogaeth y gwr hwnw, i ymroi at astudio yn fanwl gyfreithiau ei wlad, 
i'r hyn yr ymgyflwynodd yntau dros weddill ei oes. Ar y 3ydd o Ebrill, 
1 640, etholwyd ef i gynnrychioli bwrdeisdrefi Ceredigion yn y Senedd, a 
rhoddodd i fyny ar hyny ei broffeswriaeth gyfreithioL Ystyrid ef yn 
ddyn tra dysgedig gan ei gyd-seneddwyr, ac yn areithydd rhagorol. Pan 
dòrodd y Rhyfel Cartrefol allan, ymneillduodd ef o fywyd cyhoeddus, gan 
gymeryd nawdd ar ei etifeddiaeth yn Nghymru, lle y treuliodd 20 mlyn- 
edd mewn llwyr ddiogel wch. Ar ol yr Adferiad, etholwyd ef yr ail waith 
i gynnrychioli y sir, sef yn y flwyddyn 1661. Dangosodd Siarl n. iddo 
fawr anrhydedd o herwydd ei fryddlondeb i'r goron : — gwnaeth ef yn 
Farchog; ychydigddyddiau yn flaenorol penodwyd ef yn Serjeant at Law 
m the Cowrt ofChancery, a thranoeth, gwnaed ef yn Brif Famwr Llys y 
Common Pleas. Yn ol Wood, (i jr oedd yn ddyn o fawr deilyngdod, yn 
gyfreithiwr enwog, ac yn mhob ffordd yn foneddwr trwyadl."f Ysgrifen- 

*"A True Character of the Deportment for these 18 yeara last past, of the 
principal Gentry within the counties of Caermarthen, Pembroke, and Cardigan, in 
South Wales." 

f Yn yr Tsgrif a ddyfynwyd yn flaenorol, rhoddir y desgriÛad canlynol o hono:— 
«* John Yanghan, one that will upon fite talk loud for Monarchy; but sorupulous to 
wet his finger to adrance it. He served Burgess for Cardigan in the long Pariia- 
ment; but quitted it upon Strafford's trial: named by his Majesty one of the Commis- 
sioners to attend the treaty in the Iale of Wight, but refused it; personally adrised 
Cromwell to put the crown on his own head; purchased Meyenith, one of his late 
Majesty's manors, within the county of Cardigan; personally assisted in the taking 
of Aberystwyth, a garrison then kept by his late Majesty. These services kept him 
from •eouestration; boreoûlces in the lateseyeral goyernments. He is of good 
parts; but puta too high a value on them, insolently proud and matchlessly pemi* 



m 

tdd a chyhoeddodd, "Reports and Argumenta, being all of them special 
tases, and many wherein he pronouneed the resolution of the whole 
Court of Common Pleas, at the time he was Lord Chief Justice there, " 
fbl. London, 1677. Cyhoeddwyd hwn gan ei fab, Ëdward Yaughan* 
Ysw. Bu farw Syr John Yaughan y lOfed o Ragfyr, J674, a chladdwyd 
ef yn eglwys y Deml, yn agoa i'w hen gyfaill, Jobn Selden, ac mae co£ 
{aen hardd i'w gweled yno idda Mae darlun o'r Barnwr hwn i'w wejçd 
yn Philip Yorke's Royal Tribes of Wales. — Gwel Hughes* Parliamentary 
Representation of Cardiganshire, pp. 13, 14, 15; Woods Oxon; Gambrian 
HLegister, i, 196; Meyrictè* CardigansJdre, 320 — 1 — 2. 

Vaughan, Edwabd, mab yr uchod, abu yn aelod dros sir Àberteifi o'r 
flwyddyn 1679 i 1681. Rhydd Burnet, ynei History qfhi$ Own Timps, 
y cymeriad canlynol iddo:— " Yr oedd Yaughan, mab y Prif Farawr, yn^ 
ddyn o uniondeb mawr, yn meddu cryn lawer o falchder, ond gwnaetl} 
wasanaeth mawr. Y rhai hyn oedd y dynion ( gan gyfeirio at rai o brif 
ddynion cyhoeddus y dydd) a gadwasant y genedl rhag Uys twyllodrua 
ac ansefydlog, a rhag Ty y Cy ífredin llygredig. A thrwy eu diysgogrwyd4 
a'u medrusrwydd, daethant o fod yn lleiafrif mewn gwrthwynebiad, o's 
diwedd i fod yn fwyafrif anrhydeddus." Priododd Edward Yaugban, 
Ysw., â Letitia, merch Syr William Hooke, Marchog, Uundain, ac ua o'u 
plant oedd, — 

Yaüghan, John, yr hwn a grëwyd gan William m., trwy freinteb 
wedi ei ddyddio Mehefin, 1695, yn Farwn ac Isiarll ( Viscount) 9 dan y 
teitlau, Isiarll Lisburne, Arglwydd Yaughan, a Barwn Fethers, yp. yr 
Iwerddon. Bu yn cynnrychioli bwrdeisdrefì Ceredigion yn y blynydda^ 
1688—9 ; a'r sir yn y blynyddau 1694, 1695, Priododd Mallet Wilmo*, 
trydedd ferch Iarll Rochester, a bu farw yn 1721. — ffyghes' Pariiom&tfr 
ary Jèepreeentation of Cardiganshire* 

Vaughan, John Crosby, (Cadben), a anwyd yn y Brŷnog, dyffryn 
Aeron, Chwefror 24ain, 1830. Derbyniodd ei addysg yn y Coleg Milwr- 
aidd Breiniol, Sandhurst, o'r Ue y derbyniodd gomisiwn heb ei brynu yn 
yr 1 6eg gatrawd. Symudodd wedi hyny f r 38ain gatrawd, a phan dòrodd 
y rhyfel allan rhwng y deyrnas hon a Rwssia, daeth galwad am wasanaeth 
j gatrawd hòno i fyned i'r Crimea. Yn ystod y rhyfelawd hwnw, enw- 
ogodd y milwr ieuanc ei hunan yn fawr, nid yn unig o herwydd ei wro|r 
deb, ond oblegid ei nodweddiad hynaws a charedig. Cafodd et ddyrohafu 

cions; by lending eight hundred poiinds to Colonel Fhilip Jones, and other faTonrites 
oí the late times, procured the command of the eouaty he U*eth m to cootìfia* om 
hk frieads and dependenté to this day." 



m 

jn gyflym i wahanol swyddi; a chyn bod yn 25ain oed, yr oedd yn ÇM? 
ben ar y 38ain gatrawd. Ond ni orfuchgddodd y dyrchafiad olaf hwn 
ond ychydig amser, oblogid ar nos y 15fed o Feheôn, 1855, pan ar Mjh 
edswydd yn y gwrthgloddiau yn yr ymosodiad ar Sebastopoi, elwyfwy4 
ef yn forwol, er galar cyffredinol i'r gatrawd á ly wyddai, yn gystal. ag- ji 
gylch eang o gyfeülion a adawsai ar ol yn ngwlad ei enedigaeth, Difyn.- 
wyd ef yn yr etifoddiaeth gan ei frawd, Cadbcn Yaughan, 

Wii&tuis, IUyid, yr ysgolhaig aV ysgrifenydd medrus, a, anwyd mew^ 
pentref bychan yn agos i Abwteifi, ya y ŵwyddyn 1738, Wed* dçrhyn 
e)ff nau ei ddysgeidiaeth yn agos iV gartref, anSonwyd ef i Goleg Çaeft 
fyrddin, i barotoi ar gyfer y weinidogaeth, i'r hon y mynai ei rieni ei 
wthio yn groes, i raddau, i'w ewyilys. Dangosodd yn ieuanc ei fod yn 
fcddiannol ar alluoedd meddyliol tuhwnt i'r cyffredin, Wedi gorpÿen 
tymmor ei efrydiaeth, aeth i gymeryd gofal Eglwys o Ymneillduwyr ya 
Frome, Gwlad yr Ha£ Oddiyno symudodd i J£*eter, ac oddiyno dracbẃ 
i Hägh gate, ond ni fu ei arosiad yn un o'r manau hyn ond byr, Yn 1 770, 
dechreuodd ar ei yrfa lenyddol fel awdwr tiywy lythyr galluog dros bçn 
çyfeiriedig at y Chwareuydd Garrich, yn yr fcwn yr ymosodai yn llym a* y 
gwr enwog hwnw. Yn fuan wedi hyny cyhoeddodd «' The Phüosppheç 
in the Conyersation," a> '«Essays on Publie Worship, Patriotism, and 
Projeets of Reformation." Ennillodd y gwefrìhiau byn gryn enwogrwydd 
i'w hawdwr, yn enwedig gan mai pynciau o'r natur yma oedd yn cynhyrfu 
y wlad ar y prycL Cyhoeddodd wedi hyny ddwy gyfrol o bregethau ar 
u Ragrith CrefyddoL" Ar oi iiyn, ymddengy*; iddo roddi i fyny ei ddyled» 
swyddau gweinidogaethol, ac hyd yn nod dòri pob eysylltiad rhyngddo $'* 
Ymneillduwyr, ac yn wir, Ä'r enw o Gristion; oblegid trodd allan wejH 
hyn yn ammbeuwr, os nad yn rhywbeth gwaeth. Acyn y flwyddyn. 1773, 
cyhoeddodd draethawd ar " Addysg," a chymerodd ddyddQrdeb neiUduol 
yn addysgiaeth y genedl. Yn fuan wedi byny, agorödp!, faẅ p sefydliad 
yn Chelsea, er cario allan ei gynlbiniau o addysgiaeth, y rhai a, fenjbbyfr 
iasai oddiar Commenius a Rousseau. Cymerodd ran neillduol befyd mewn 
gwleidyddiaeth, a daeth yn gyfaül mawr i'v enwog Benj&inin Franfelin, 
yrhwn a gymerai nodded yn ei áỳ amser yr oedd teimlad y wlad mor 
gryf yn ei erbyn, yn neohreu y rhyfel AmerÌQ*naid& îlbrill 7,1776, agŵv- 
odd addoldy, yn agos i Cavendish Square, ar egwyddorion proffesedig 
didduwiaeth. üi fu, modd bynag, ond ychydîg lwyddiant ar yr achos yno, 
ae yn mhen tua phedair blynedd, rhoddodd yr anturiaeth i fyny, ar ol 
eolledu ei hmian yn fawr mewn ystyr aríanol Trodd ei sylw drachefii yr 
ail waith at y pwno o Addysg a llenyddiaets, a ehyhoeddodd, "Lecturçs 
on Education/ 4 yn dair oyfìol; « A Plan of Assoeiation on Constitutional 
Principles," yn 1780; ac yn 1782, «Letters on Folitical SubjecV ?&4 



ìôá 

& dderbyniasant gylchrediad helaeth, ac a gyfieithwyd i'r Ffrengaeg. Ei 
weithiau eraill oeddynt, "Lessons to a Young Prince/' "History of Mon- 
mouthshire," dwy gyfrol 4plyg; "The Claims of Iiterature;" "Regula- 
tions of Parochical Police/' "Egeria, or Elementary Studies for Political 
Reformers." Cyhoeddodd hefyd argraffiad ardderchog o " Hanes Hume/' 
ond mewn canlyniad i'r rhan a gymerodd yn y chwyldroad Ffrengig, gorfu 
iddo roddi i fyny y gwaith hwnw. Par ei enw byth yn anrhydeddus fel 
sefydlydd y "Drysorfa Lenyddol," dyben yr hon oedd estyn cynnorthwy i 
awduron haeddiannol mewn henaint neu dlodi. Sylfaenodd hi yn y flwydd- 
yn 1 789, ac y mae wedi parhau mewn gweithrediad hyd yn awr, a chyfran- 
ogodd ef ei hunan o*i manteision tua diwedd ei oes, yr hyn a gymerodd le 
Mehefin 29, 1816. 

Williams, David, oedd un o bregethwyr neu "gynghorwyr" cyntaf y 
Methodistiaid Calfinaidd yn y sir hon, a bu fyw gyfran o'i oes yn nghym- 
ydogaeth Uedrod, oblegid cawn ei enw yn y flwyddyn 1744, fel blaenor 
y gymdeithas greryddol a ymgyfarfyddai yn y plwyf hwnw. Dechreuodd 
bregethu yn lled ieuanc, ac yr oedd yn un o'r pedwar a ddewiswyd gan y 
Parch. Daniel Bowlands i fyned ar ymweliad â'r Gogledd bob chwarter, 
ac yno y gelwid ef " Dafydd William o'r Deheudir." Bu yn üafurio am 
dymmor fel cenadwr yn Morganwg, lle yr aethai ar gais Mr. Rowlands. Bu 
iddo bump o feibion, y rhai a ddaethant i gryn enwogrwydd. Yr ail ydoed d , — 

Williams, Evan. Ymsefÿdlodd ef yn Llundain gyda'i frawd Thomas , 
fel cyboeddwyr a gwerthwyr lly&au. Yr ydys yn ddyledus iddynt hwy 
am ddwyn allan lawer o lyfrau o bwys i'r Cymry; megys Geirlyfr y Dr. 
W. O. Pughe, ac eraill o weithiau a chasgliadau yr awdwr enwog hwnw, 
a thair cyfrol o'r Carribrian Register. Bu Mr. Evan Williams yn golled* 
wr mawr wrth ddwyn allan rai o'r llyfrau hyn, yn neillduol y Geirlyfr, 
i'r hwn, oblegid yr orgraff yr oedd ynddo, y bu raid bathu llythyranau 
newyddion; a'r Cambria Depicta, gan E. Pugh, gyda 71 o arluniau. Bu 
farw yn Heol Penton, Llundain, yn Medi, 1835, yn 86 oed, wedi bod 
dros 40 mlynedd yn Uyfrwerthydd a chyhoeddydd Cymreig yn y Strand, 
ac o'r rhai hyny 35 mlynedd yn aelod gweithgar o'r Ysgol Rad Gymreigi 
Dygid y fasnach yn mlaen ar ol ei farwolaeth gan ei frawd, — 

Willlams, Thomas, yr hwn oedd cyhoeddydd cyntaf yr Evangelicat 
Magazine. Treuliodd y rhan olaf o'i oes fel arianydd yn Aberystwyth 
lle y bu farw, Ebrill 15, 1839, yn 84 mlwydd oed. Mae cof-lech hardd, 
gyda darlleniad helaeth am dano, ar y mur yn Eglwys St. Michael, yn y 
dref hòno. Yr oedd Mr. Williams hefyd yn Ustus Heddwch, aç mewn 
parch cyfíredinol gan bob dosbarth o'r trigolion, 



Williams, John, brawd hynaf y ddau ddiweddaf. Ganwyd ef yn ago* 
i Mabws, Llanrhystyd, yn y flwyddyn 1745. Fel ei frodyr, derbyniodd 
yntau ei ddysgeidiaeth yn Ysgol enwog Ystradmeurig, o dan yr hyglod 
Edward Richard. Am y manylion canlynol o barth i Mr. Wüliams, yr 
ydym, yn ddyledus i'r Parch. Lewis Evans, prif athraw presenoí Ÿstrad- 
meurig, yr hwn yn garedig a'n hanrhegodd â chopi o ysgrif o eiddo Mr. 
Williams a ysgrifenwyd ganddo, Gorphenaf 24, 1813. Rhoddwn yr hanes 
i lawr yn ei eiriau ef ei hunan: — "Hydref, 1765. Gadewais yr Ysgol hon 
(Ystradmeurig), ac ail ymgymerais â'm gorchwyl blaenorol o ysgolfeistr 
yn nhý cwrdd Woodstock, plwyf Ambleston, Penfro. Wedi hir flino ar 
Fethodistiaeth, ceisiais sefyllfa arall, yn enwedig un yn Nhy Ddewi, ond 
methais. Llettywn gyda Mr. John Harries, y pregethwr Methodistaidd 
— dyn rhyddfrydig a theilwng er gwaethaf ei sectyddiaeth; ond ymgadwn 
rhag y tŷ cwrdd a'r Methodistiaid, ac oddiar argyhoeddiad cyrchwn yn 
gyson bob Sabboth i eglwys Ambleston. 

" Yn ngwyliau Nadolig yr un flwyddyn, yr un Mr. J. Harries a'm hyfc- 
bysodd fod ysgolfeistr yn eisieu yn Aberteifi, ac a'm cymhellodd i gynnyg 
am y lle, yr hyn a wnaethum, a llwyddais, yn benaf trwy ddylanwad James 
Lloyd, Ysw., o'r Mabws; James Bowen, Ysw., Llwyngwair; a Thomas 
Colby, Ysw., Rhosgilwen. Dechreuais ar fy ngwaith yno, Ionawr, 1766, 
pan nad oeddwn prin 20 oed. Yma Uafuriais yn dra diwyd, a chyda 
Uawer o lwyddiant, hyd Nadolig, 1770. 

" Nadolig 1 768, urddwyd fi yn Ddiacon gan Esgob Moss, yn St. George's, 
Hanover Square, Llundain; ac yn Medi, 1770, urddwydfiyn offeiriadgan 
yr un. Fy nheitl y ddau dro ydoedd y Ferwig ac Aberteifi. 

"Yn Rhagyr, 1770, y Parch. Wm. Lucas, rbeithor, Peterston, yr hwn 
ychydig cyn hyny a briodasai Ann, merch Lloyd Morgan, Ysw., Aberteifi, 
a gafodd i mi ail Guradiaeth Ross, sir Henffordd, (oblegid cedwid dau 
gurad yno) ar gyflog o £40 y flwyddyn, ac ysgol wedi ei gwaddoli â £10 
yn flynyddol, a'r hyn a wneid o'r ysgolheigion gyda hyny. Y rheithor y 
pryd hwnw oedd Dr. Egerton, Esgob Lichfield a Coventry. Dechreuais 
ar y gwaith lonawr, 1771, ac yno yr arosais hyd Hydref , 1776. Yn 
ngwanwyn 1771, penodwyd Dr. Egerton i esgobaeth Durham, a rhoddwyd 
rheithoriaeth Boss i Mr. Theophilus Meredith, yr hwn a'm cadwodd i fel 
ei gurad, ac a roddodd gryn hyder ynof ar gyfrif fy ngonestrwydd a'm 
flyddlondeb, a fy nghyflawniad doeth o'm dyledswyddau. Bu yn offeiriad 
yno dros bedair blynedd; a'r flwyddyn ddiweddaf, yn gymaint ag y pregeth- 
ai yn fynych ei hun, myfi oedd ei unig gurad, yn ol £70 y flwyddyn, yn 
nghyda'r tâl am gladdu, &c, pryd y rhoddais yr ysgol i fyny i un arall. 
Yn Hydref, 1775, bu ef farw, a dilynwyd ef gan Dr. Morgan, yr hwn 
drachefh a'm cadwodd yn ei wasanaeth. Ond profodd y gwaith yn awr 
yn ormod i mi, gan na chawn un cynnorthwy gan yr offeiriad, yr hwn a 



154 

ärigai yn fienffordd. Annögwýa' û i fyned ychydig oddiaûigylch, ac Ŵlly 
telais ytuweliad â'm brawd D. yú Marlborough, a threuliais gydag ef droä 
áaií wythnos. Dychwelais yn ol Leb fod ddim gwell. OY diwedd cy* 
nghorwyd fi gan fy meddygon i symnd i fy ngwlad enedigol, yr hyn a 
wnaethum yn nechreu mis Hydref, 1776, ac aetliüm at fy mrawd W. i 
Abergwaen, lle y trenliais chwe' mis neu fwy. Yn ngwanwyn y flwydd- 
yn ganlynol aethum i dý fý nhad (yr oeddwn wedi bod yn ei weled o'r 
blaen), ac yno yn nghydag Jm y ttabws y treuîiais yr hafhwnw. Rhwng 
y naill beth a'r llall adfeddiannais yn raddol fj iechyd a'ni cryfder arferol. 
"Mawrth, 1777, bü farw fy henathrawhybarch Euward Bichard, ac felly 
áaeth yr ysgol yn Ystradmeurig yn wag. Tra yn parotoi i fyned i Loegr, 
íle yr oeddwn newydd gael curadiacth dda, fy nghyfaill a'm hen gydysgol* 
haig, y Parch. R. Lloyd, ôcer Llanbadarn Fawr, a'm hannogodd i' 
gynnyg am yr Ysgol. Ar ol ychydig ystyriaeth, tueddwyd fi i wneud 
hyny, ac ysgrifenais nou gelwais aí yr ymddiriedolwyr. Penodwyddydd 
yr etholiad i fod Awst ì 9eg, yn ìíanteos, Ile a'r prýd y cefais fy ethol yn 
fbistr gan dri ó'r ymddiriedolwyr oeddynt bresenol, sef, Wm, Powelî, 
Nanteos, LL. D.; James Lloyd, Mabws, Ysw.; a Thomas Hughes, Hdn- 
drefelin, Ytfw.; ac aryrun amser, James Lloyd| Mabẁs, Ysw., a'm pènòd* 
ódd yn AthraW Ysgol Lledrod, ar yt hon yr oedd ef yn unig ymddiriedol* 
wr. Yn 1785, yn fuan ar ol y Pasg, daethum yn gurad y plwyf hwnẃ 
trwy benodiad y Parch. Mr. Griffiths, íicer Llanfihangel-ycreuddýh, (nid 
oedd trwydded yn angenrheidiol yr amser hyn), ac wedi hyny gwasanaeth^ 
äis ei olynydd, y Parch. Isaac Williams, Ile y parheais am 9 neu 10 
mlynedd, ar gÿflog yn ystod y blynyddau cyntaf o £10 y flwyddyn, ac 
wedi hynỳ, 12 gini. Bum wedi hyny yn gwasanaethu Llanafan atn 3 
' neu 4 blynëdd, yn oi y cyflog o 15 gini ÿ flẅyddyn. Ýn Ebrill, 1793, 
cefais gan Dr. Horsley ficeriaeth Llanfair-orllwyn, oddiwrth yr hon f 
derbyniwn yn y blynyddau olaf tua £&0 yn flynyddol. Yn 1795, darfu i 
Iarll Lisburne fy mhenodi i guradiaeth barhaus Blaenporth. Yn 1799, 
cymerais drwydded, a gwasanaethais guradiaeth Ysbytty Ystwyth, ac 
Ystradmeurig, ond rhoddais y blaenaf i fyny yn fuan, a gwasanaethais yr* 
olaf am 5 neu 6 blynedd, yn ol y cyflog o £15 y flẅyddyn. Yn 
Mai, 1804, penodwyd ô gan Dr. Burgess i ficeriaeth Nantmel, si* 
Éaesyfed, yn nghyda Llanyre, a hefyd yn gorweinýdd Trallong yn 
eglwys Golegawl Aberhonddu." Yr oedd Mr. Williams yn aẅdẁr 
y " Dissertation ân thè Pelagîan lleresy? a gyhoeddwyd ŷn ÿ 
û wyddyn 1808, ac y&tyrid ef yn un o ysgolheigion clasuröl goreu èi oes, à 
meddaigymhwysderau arbenig át y öwydd o gadw ysgol. Daliodd f 
sŵydd o "Èrif áthraw; Yögol Ystradmeurig am yr yspaid maith ö 40 
mtynedâ, a %u fcrw dyda Gwener y Gfoglith, Mawrth 20fed, 18 1& 



m 

'W'îLiiAMS, Jöeẃ, A. 6»i Archddiacoft Ceredigîon, ä mab y diweddaf, à 
ànwyd yn Ystradmeurig ar yr lleg o Ébrill, 1792. Ëi fam oedd Jane; 
merch Lewis Rogers, Ysw., Gelli, sirydd Aberteifi am y flwyddyn 1753* 
O dan y fath athraw gallnog a'i dad, ac yn feddiannol ei hnnan ar dalentau 
ftnghyflredin, rhoddodd John \Villiams yn fuan ernes o'r enwogrwydd 
hwnẅ a gyrhaeddodd mewn oedran addfetach. Ac mor gyflym fu ei gyn- 
nydd mewn dysgeidlaeth, fel pan yn nnarbymtheg oed, aeth yn athraW' 
clasurol cynnörthwyol i*r Parch* Thomas Horn, Ysgol Chiswick, lle y bu 
am flẃyddyn. Y ddẃy flynedd ddilyndl a dreuliwyd ganddo i gynnorth- 
wyo ëi dad yn Ystradmeurig, lle yr oedd nifer anghyffredin o ysgolheig- 
ìon y pryà hyh, sef yn agos i naw ugain. Aetli oddiÿno am ychydig 
amser i Ýsgol Ludlow, lle yr ennillodd Ysgoloriaeth; ac yn Nhachwedd, 
1810, aeth i Goleg Baliol, Rhydychain. Dilynodd ei efrydiaeth yno gyda 
diwydrwydd mawr a llwyddiant hefyd, fel y gosodwyd ef yn Ngwanwyn 
1814, yn nn o bedwar yn y dosbarth cyntaf. Mewn athroníaeth a hanes- 
yddiaeth y rhagorai fwyaf y pryd hyn, ond daeth wedi hyny yn rhifegwr 
ardderchog. Yn yr un dosbarth ag ef yno yr oeád yr enwog Dr. Arnold, 
ýr hwn fel yntau a ddaeth wedi byny yn un o brif ddysgawdwyr y Deyro- 
áa Penodwyd fcf y pryd hyn yn brif gyrnorthwywr Dr. Gabell. pen- 
aeth Coleg Caerwynt, a Uanwodd y swydd hòno am bedair blynedd, gaA 
roddi boddhad cyffredinol. "" Ordeiniwyd ef yn Ddiacon gan Esgob Ripon, 
a thrwyddedwyd ef i guradiaeth Durley, Hants, ac yn fuan wedi hyn 
urddwyd ef yn Offeiriad gan Esgob Caerwjmt. Ar ol ymadael â Dr. 
Gabell, aeth yn gynnorthwy wr i'r Meistri Richards, Hyde Abbey School, 
Caörwynt. Yn ystod y ddwy flynedd y bu yn aros yn y llé hwn, ennill- 
òdd serch amryẃ gyfeilîiôn dysgedig, oddìwrth gymdeithas pa rai y 
derbyniodd lawer o fudd a cbynnorthwy gyda'i efrydiaeth. Yn 1820, 
cynnygiodd y Dr. Burgess, Esgob dysgedig Ty Ddewi, iddo fíceriaeth 
Llanbedr-Pont Stephan, gan ddatgan ar yr un pryd ei ddymuniad ar iddo 
gario yn mlaen yr Ysgol a sefydlasid yno gan y flcer diweddaf. Gan foct 
Mr. Williams fel ei dad yn llawn o ysbryd gwir wladgarwch, ni phetrus- 
odd dderbyn y cynnygiad hwn, gan y gobeithiai gael cyfleusderau union- 
gyrchol i fod o les i'w gydwladwyr. Ac felly rhoddodd i fyny yn llawen 
brif arolygiaeth Hyde Abbey School, yn nghyda Rheithoriaeth St* 
aẅrence, Caerwynt, llc yr oedd newydd gael ei benodi, a chychwynodd 
ÿn ol am wlad ei enedigaeth. Yr amser hyn yr oedd Dr. Burgess yn 
fewr ei awydd am adeiladu Coleg yn Llanddewi-brefi, ond bu Mr Wiì- 
iams yn foddion i ddylanwadu ar fedd wi yr Esgob, fel ag i newid y cynllun 
gwreiddiol, ac felly adeiladWÿd y Coleg yn Llallbedr. Nis gellid chwaith 
lai nag edryöh ar Ysgol Ramadegol y dref hòno fel cnewyllyn y Coleg, ae 
tAfeeâ&r rhagòrol iddo, ac felly mewn gwirionedd yr oedd. Yn mysg yr 
ÿsgolhéigion oedd ynò dan ofal Mr. Williáíns, yr oedd mab hynaf Syr 



156 

Walter Scott, ac ar annogaeth y gwr hwnw yr anturiodd yr Archddiacon i 
gyhnÿg ei hunan yn ymgeisydd am Reithoriaeth yr Athrofa newydd oedd 
yn cael ei sefydlu y pryd hyny (1824) yn Edinburgh. Y canlyniad fu 
iddo fod yn llwyddiannus; ac am ddwy flynedd ar hugain, cyflawnodd 
orchwylion pwysig ei swydd gyda'r ffyddlondeb a'r diwydrwydd mwyaf, 
ac ennillodd anrhydedd cyffredinol oddiar law prif ddysgedigion y ddinas 
ddysgedig hòno. Yn mysg ei gyfeillion yno, ceir enwau, Syr Walter 
Scott, Macullock, John Gibson, Lockart, Syr Thomas Dick Lander, Ar- 
glwydd Cockburn, Arglwydd Jeffrey, Proffeswr Wilson, Milwriad Mure, 
Syr William Hamilton, Dr. Chalmers, Carlyle, a Syr Daniel SandforcL 
Efe ddarllenodd wasanaeth y claddu uwch gweddillion marwol Syr Walter 
Scott yn Dryburgh Abbey. Yn ystod ei arosiad yn Edinburgh yr ysgrif- 
enodd ac y cyhoeddodd ei Hanes Bywyd A leocander Fewor; Daearyddiaeth 
Asia; a'i Homerus. Darllenodd amryw bapyrau ar destunau athronyddol 
ac ieithyddol o flaen Cymdeithas Frenhinol Edinburgh, o'r hon yr oedd yn 
aelod, ac ysgrifenodd amryw erthyglau ardderchog i'r Çuarterly Review t 
yr hwn oedd yn cael ei olygu y pryd hyny gan ei gyfaill a'i hen gydysgolhaig 
Mr. Lockart. Fel prawf nodedig o'i 1 wyddiant fel athraw, gellir sylwi fod yn 
ddiweddar, yn mysg athrawon y ddwy Brif-ysgol yn Edinburgh, rai o 
ysgolheigion yr Archddiacon, ac nid oedd dim llai na naw o gadeiriau 
proffeswrol yn yr Athrofeydd Ysgotaidd yn cael eu llanw gan ddynion 
fuont unwaith naill ai yn ysgolheigion neu ynte yn gydathrawon âg ef. A 
dy wedai Esgob Llundain, rai blynyddau yn ol, mewn araeth gyhoeddus ar 
ei hen 'athraw, mai iddo ef, yn fwy na neb arall oedd yn fyw, yr oedd 
Scotland yn ddyledus am y cyffro adnewyddol a'r symbyliad effeithiol a 
dderbyniodd ei phrif athrofeydd. Pan sefydlwyd Coleg Llanymddyfri gan 
y gwladgarwr enwog Syr Thomas Phillips, cynnygiodd y boneddwr hwnw 
ei lywyddiaeth i'r Archddiacon, a chydsyniodd yntau i'w dderbyn. Bu ei 
lafur mewn cysylltiad â'r sefydliad ieuanc hwn yn fawr iawn, a gellir 
dweyd yn ddibetrus mai iddo ef, yn fwy na neb arall, y mae yn 
ddyledus am yr hyn ydyw heddyw. Wedi treulio pum mlynedd 
yno, gorfodwyd ef gan waeledd ei iechyd i roddi i fyny ei swydd, 
a threuliodd y flwyddyn a hanner diweddaf o'i fywyd, gan mwyaf, 
yn Bushey Heath, Hampshire. Yn 1854, cyhoeddodd ei Gomer, 
yn ddwy ran, yr hwn a ddylai fod yn llaw-lyfr yn meddiant pob 
efiy4ydd Cymreig; a hefyd ei Life of Jutius Ccesar. Yn ystod 
y flwyddyn olaf hefyd y cyhoeddodd ei lythyrau ar, A Barbarian Episco- 
pate; JDiscourses and Sermons on the Unity qf the Will of God; a chyfrol 
arall yn gynnwysedig o draethodau ac ysgrifau yn trin ar bron bob cwes- 
tiwn a berthynai i hanes, cyfreithiau, iaith, a llenyddiaeth Cymry, yn 
nghyda'r llwythi Celtaidd yn gyffredinol. Yn ychwanegol at y swydd o 
Archddiacon Ceredigion, yr oedd yn Ganon Ty Ddewi, a chorweinydd 



157 

Aberhonddu. Yn mhob symudiad, y byddai ei amcan i wella sefyllfa 
ysbrydo), dymmorol, a chymdeithasol ei gyd-ddyniòn, cymerai ef y dyddor- 
deb mwyaf. Yr oedd yn bleidiwr gwresog i'r Cymdeithasau Cenadol a 
Beiblaidd, a llywyddai yn gyffredin yn eu cyfarfodydd lleol. Trwy ei 
hirfaith a'i flin gystudd, profodd wirionedd ei egwyddorion fel athronydd 
Cristionogol, ac ymorphwysai yn hollol am y sicrwydd o fywyd tragwydd- 
ol ar haeddiant yr Aberth mawr. Yr oedd ei ffydd hyd y diwedd mor 
syml a hyderus ag eiddo plentyn bacb, ac etto yr oedd ei alluoedd medd- 
yliol mor glir a chryf ag erieed. Bu farw yn ei drigfan yn Bushey Heath, 
ar y 27ain o Ragfyr, 1858, yn Q(j mlwydd oed, a chladdwyd ef, Ionawr 
4ydd, yn ngwydd ychydig berthynasau a hen gyfeillion, yn mysg pa rai 
yr oedd Arglwydd Esgob Llundain, Syr David Davies, Parch. Dr. Wii- 
liams, Penaeth Coleg yr Iesu, Rhydychain, a'r Hybarch Arphddiacon 
Sinclair. Ac er fod pum' mlynedd er pan adawsai Llanymddyfri, cy- 
maint oedd y parch a fynwesid gan y trigolion tuag ato, fel pan gyrhaedd- 
odd y ne wy dd o'i farwolaeth yno, ymdaenodd rhyw alar cyffredinol trwy 
y lle, a chauwyd yr holl fasnachdai ar ddydd ei angladd. Gwnaed yr un 
peth yn Bushey Heath; ac yn Edinburgh, çauwyd i fyny am yr oriau 
hyny y Brif Athrofa. Ei wraig ydoedd u'nig ferch Thomas Evans, Ysw., 
Llanilar, Ceredigion, a bu hi farw Awst 16eg, 1854. Gadawodd bump 

ferched ar ei ol; ac un o honynt yw gwraigRobert Cunliffe, Ysw., 
Chancery Lane. Mewn sylw ar ei farwolaeth dywed y Times:-* "I achos 
hanesyddiaeth Gymreig a hynatiaeth, o ba rai yr oedd bob amser yn esbon- 
iwr mwyaf galluog a llwyddiannus, mae y golled yn anadferadwy. Prif 
nodwedd ei gymeriad oedd ei gariad angerddol tuag at wlad ei enedigaeth, 
ei phobl, ei hiaith, ei defodau, a'i thraddodiadau. Ni lafuriodd neb erioed 
yn fwy selog nag ef, nid yn unig o blaid llwyddiant Cymru, ond hefyd o 
blaid ei hanrhydedd." 

Williams, Eliezer, A.C. Er nad oedd y gwr enwog hwn yn enedig- 

01 o Geredigion, etto, gan fod ei enw mor adnabyddus fel sylfaenydd 
Ysgol Ramadegol Llanbedr, teg ydyw gwneud crybwylüad byr ara dano 
mewn cysylltiad âg enwogion y sir hon. Mab ydoedd ef i'r Parch. Peter 
Williams, awdwr yr Esboniad, a ganwyd ef yn Llandyfaelog, sir Gaer- 
fyrddin, yn y flwyddyn 1754. Anfonwyd ef yn ieuanc i Ysgol Ramadegol 
Caerfyrddin, ac oddiyno i Goleg yr Iesu, Hhydychain. Yn y flwyddyn 
1770, cawn ef yn cynnorthwyo ei dad i ddwyn allan ei Esboniad a'i 
Fynegair; ac yn fuan wedi hyn, cymerai ran yn nygiad allan yr Eurgrawn 
Cymreig — y cyhoeddiad cyfnodol cyntaf yn y Gymraeg. Awst 3, 1777, 
urddwyd ef yn ddiacon gan Esgob Ty Ddewi, a phenodwyd ef yn gurad 
Trelech. Symudodd oddiyno yn mhen ychydig fisoedd i Tetsworth, sir 
Rhydychain. Rhagfyr 20fed, 1778, urddwyd ef gan Esgob Rhydychain 



158 

yn offeiriad; ac yn fuan ar ol hyny, dewiswyd ef yn ail athraw Ysgol 
Ramadegol Wallingford, ac yn ychwanegol at hyny, gwasanaethai gurad- 
iaeth Acton, pentref yn y gymydogaeth. Yn y Ue hwn daeth i gydnabydd- 
iaeth â Dr. Shute Barrington, y pryd hyny Esgob Llandaff. Pan 
ddyrchafwyd ei arglwyddiaeth i esgobaeth Catercaradog, cynnygiodd i Mr. 
Williams y swydd o gaplan; ond yn gymaint a bod ganddo bethau eraill 
mewn golwg, gwrthododd y cynnygiad caredig. Yn y flwyddyn 1780, 
aeth yn gaplan ar fwrdd y llong Cambridfre, yr hon a lywyddid gan y 
Llyngesydd ELeith Stewart, ac ar yr un pryd, gwasanaethai fel athraw i 
Arglwydd Garlies, wedi hyny Iarll Gallowaÿ; yr hwn oedd yn nai i'r 
llyngesydd, ac yn swyddog yn yr un : Uong. Ar ol bod am ddwy neu dair 
blynedd ar y môr, ar annogaeth Iarll Galloway, ymgymerodd â'r swydd o 
athraw yn nheulu y boneddwr hwnw. Trwy ddylanwad ei arglwyddiaeth, 
cyflwynwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellydd Thurlow i ficeriaeth Caio a 
Llansawel, yn y flwyddyn 1784. Tua'r flwyddyn 1794, cyhoeddodd 
amry w draethodau, ar hánes teulu ei noddwr, y rhai a dderbyniasant gymer- 
adwyaeth wresog y wasg Seisnig. Yn nechreu y flwyddyn 1796, cawn 
ef yn ddarlithydd yn All Hallows, Llundain, ac yn ysgrifenydd a llyfr- 
gellydd i un Mr. Blakeney. Ar farwolaeth y gwr hwnw, yn y flwyddyn 
1799, symudodd i Chadwell, Essex, lle bu yn gurad ac yn gaplan i'r mil- 
wyr yn Tilbury Forfc. Ysgrifenai Mr. Williams lawer i'r gwahanol 
gyfnodolion, megys y Cambrian Regẁter, Gentlemarìs Magazine, <fec, 
yn gyffredin o dan y ffugenw "E. o Lanbedr." Cymerodd ran yn y ddadl 
â Dr. Priestley, a bu o fawr gynnorthwy i Dr. Burgess er dynoethi heres- 
iau niweidiol Belshanu Cyfieithodd amryw o Salmau Dafydd, yn nghyda 
darnau o weithiau y beirdd Groegaidd, i'r Saesoneg; ac yn 1801, cyhoedd- 
odd lyfr o dan y teitl, Nautical ' Odes, &c. Yn y flwy^dyn 180&, 
penodwyd ef gan Dr. Burgess i ficeriaeth Llanbedr; ac yn fuan wedi ym- 
sefydlu o hono yno, agorodd Ysgol Ramadegol, yr hon a drwyddedwy d gan 
yr Esgob er cymhwyso dynion ieuainc i'r weinidogaeth yn yr Eglwys 
Sefydledig. Daeth yr Ysgol hon yn fuan yn enwog trwy y Dywysogàeth, 
a gellir dweyd am dani, iddi fagu mwy o offeiriaid nag. un Ysgol Gymreig 
arall yn y cyfhod hwnw, llawer o ba rai a droisant allan yn weinidogion 
defnyddiol ac enwog. Wedi arolygu yr Ysgol hon am yn agos i bedair 
blynedd ar ddeg, bu farw Ionawr 20, 1820. Cyhoeddwyd ei draethodau, 
ei lythyrau, a'i farddoniaeth Saesoneg, yn nghyda by wgraôiad o hono, yn 
gyfrol hardd, 8plyg, yn y flwyddyn 1840, gan ei fab, y Parch. Sfc. George 
Armstrong Wüliams. 

Williams, Isaac, B.D., oedd drydydd mab Isaac Lloyd Williams, Ysw., 
Cwmcynfelyn, yn agos i Aberystwyth, lle y ganwyd ef, Rhagfyr 12fed, 
1802. Addysgwyd ef, yn nghyda'i dri brawd, yn ysgol enwog Harrow, lle 



159 

yr ennillodd amryw wobrwyon. Harrow syniudodd i Goleg y Drindod, 
Rhydychain, ar ei waith yn ennill Ysgoloriaeth yno. Yn mhen amser, 
etholwyd ef yn Gymrawd ac yn Athraw yn y Coleg hwnw. Yn 1823, 
enwogodd ei hunan trwy ennill y wobr gynnygiedig am y Latin Verte. 
Gan fod ei iechyd mor wanaidd, analluogwyd ef i fyned i mewn am 
Honours, ac felly cymerodd y radd gyfíredin o B. D., yn .1826. Adna- 
byddir Mr. Williams fel uno ysgrifenwyr y "Traethodau i'r Ainseroedd," 
a chymerodd ran arbenig yn y mudiad eglwyaig oedd y pryd hyny ar 
droed yn Rhydychain. Gyda phump eraill, ysgrifenodd.y. Lyra Apostoìr 
ica; ac wedi hyny cyhoeddodd amryw gyfrolau o farddoniaeth, yn llawer 
o ba rai y dangosai y teimladau mwyaí gwresog tuag at " wlad y bryniau," 
a chy feillion a chyrchfanau boreu ei oes. Ond feallai mai fel ysgrifenydd 
rhyddieithol y safai Mr. Williams uchaf, a nodweddir ei ho.U ysgrifeniad- 
au gan deimlad gwir grefyddol. Saif ei Harmonies of tke Gospelayn hir 
fel safon i efrydwyr y Beibl, ac fel çaífaeliad gwerthfawr i lyfrgell y. 
duwinydd. Mewn gwleidyddiaeth, yr oedd Mr. Williams yn Geidwadwr 
trwyadl: — arddangosir ei serch a'i ymlyniad wrth Siarl i., mewn dull 
tyner nodedig, yn y gân a gyhoeddodd dan y teitl, The Cathedral. Yr 
oedd ei iechyd yn ystod yr 20 mlynedd olaf o'i fyẅyd, yn achos o bryder 
gwastadol i'wgyfeillion lluosog, ynmysg pa rai y gellir enwi Keble, Froude, 
Pusey, Newman, <fec. Ac er na chymdeithasai ef â'r olaf ar ol ei enciliad 
i'r Eglwys Babaidd, etto coleddent y teimladau mwyaf caredig tuag at eu 
gilydd, a pharodd yraweliad Dr. Newmaa âg ef yehydig ddyddiau cyn ei 
farwolaeth, y boddhad mwyaf iddo. Bu farw Mr. Williama yn Stiuch- 
combe, sir Gaerloyw, Mai 1, 1865, a chladdwyd efyn mynwent unigol y 
pentref tawel hwnw. Mewn erthygl a ymddangosodd arno yn y Ghjwrdian, 
ceir y sylwadau canlynol: — " Mae un enw etto a fawr edmygid ac a gerid 
wedi myned oddiwrthym, ond un ydoedd wedi treulio bywyd mor neill- 
duedig, fel y bu i 7 r rhan fwyaf megys ysgrifenydd yr amser aeth heibio, 
tra ar yr un pryd yn fy w yn eu plith. Er fod ei enw yn gysylltiedig un- 
waith â'r hyn a wnai eraill yn destun dadleuaeth, etto yr oedd ei hunan 
yn by w mewn awyi-gylch yn mhell uwchlaw nwydau neu deimladau plaid. 
Pa un ai fel bardd neu dduwinydd, prif nôd ei holl ysgrifeniadau oedd 
rhoddi y sylw a'r parch mwyaf defosiynol i bethau Duw. Yr oedd ei 
fodolaeth yn ein plith yn debyg i dystiolaeth clochdy y llan, yn cyfeirio 
at Dduw mewn tawelwch uwchlaw twrf a gwagédd dinas drystiog a ffwd- 
anus. Yr oedd ymweled âg ef yn debyg i ddiangfa un o ganol bérw heol 
lawn o drigolion. a'u holl fryd ar fasnach mewn pethau daearol, i rodfeydd 
goruwch ddaearol tawel ei Eglwys Gŵdeiriol ef ei hun. Mae ei ymadaw- 
iad efyn golled, nid i un blaid dduwinyddol, ond i'r da a'r difrifol yn mysg 
pob dosbarth o Gristionogion. A bydd i Eglwys y wlad hon gyftif yn 
wastad yn mysg y cadarnaf, y mwyaf anwyl, a'r mwyaf meddylgar, o'i 



Ji'. 1 .11 imj^.aftm 



160 

hysgrifenwyr defosiynol, enw Isaac Williams." Wele yn canlyn restr o'i 
weithiau: — I. Rhyddiaith — 1. The Hamiony o/tlie Four Evangel%8t8; 2. 
The Holy Gospels; 3. TJte Natiẁty; 4. The Ministry, 2 vols.; 5. The Pas- 
êion; 6. The Holy Week; 7. The Besurrection; 8. The Apocalypse; 9. The 
beginning of the Booh of Genesis; 10. The Way of Entemal Lÿe, (tran- 
slated and adapted to the use of the English Church); 11. -4 Short Me- 
moir ofthe Life of JRev. R. SacJcing; 12. The Psabns Interpreteâoý CJirist, 
Ist yoL (Bu farw cyn gorphen y gwaith yma). II. Yn mysg ei Bregethau 
cyhoeddodd — 1. Plain Sermone (sixth vol.); 2. Two Yolumes of Ser- 
mom on the Catechism; 3. Three Yolumes oý Sermons on the Epistles and 
G4Npẁ;4. On the Characters ojthe Old Testament; 5. Female Characters 
q(f Hofy Scripture. III. Ei weithiau Barddonol oeddynt — 1. The 
' 2 &/fffiẅxU; 2. Thoughts in past years; 3. The Baptistery (2 vols); 4. TJie 
WU^ŵm Sçholar; 5. TJie Christiom Seasons; 6. TJie Creation; 7. The 
AUar;"S. Sacred Yerses; 9. Hymns on the Catechism; 10. Hymnsjrom the 
Parisian Breviary (cyfieithiad); 11. Ancient Hymns Jor CJiildren (cyf.) 

Williams, Isaac, oedd âil fab i Davìd Williams, Ysw., ö Tyddyn neu 
Ty'nywŵrn— trefdadaeth ei hynafiaid, yn mhlwÿf Llanrhystyd. Yr oedd 
yn ficer Llanbadarn Fawr pan nad oedd ond 25 mlwydd oed. Oddiyno 
symudodd i Lanrhystyd, lle y bu yn ficer am 47 mly nedd. Dywedid yn 
gyfiredin trwy y wlad mai y dyn mwyaf synhwyrol a fagwyd erioed yn y 
plwyf hwnw oedd efe. Perchid ef yn fawr gan uchel ac isel, ond yn 
enwedig gan Esgobion Ty Ddewi, y rhai a roddent ymddiried mawr ynddo 
ar gyfrif ei ddoethmeb a'i gymeriad diargyhoedd. Un o honynt, sef, 
Arglwydd George Murray, a*i penododd ef yn un o'i Gaplaniaid teuluol. 
Yr oedd yn noddwr a chynghorydd rhagorol i fyfyrwyr ieuainc, ac yn 
gyfaill ffyddlon i ofieiriaid ei ddeoniaeth. Efe oedd yr unig Ddeon Gwladol 
a Surrogate TJwch- Aeron y pryd hyny. Ystyrid ef fel y darllenwr goreu 
o wasanaeth yr Eglwys o neb yn y wlad, ac fel y dywedai un hynafgwr 
am dano, " Yr oedd yn darllen fel yr olew." Bu iddo dri o feibion — y r 
hynaf Wiiliam, a ddygwyd i fyny yn feddyg yn Ysbyty St. Thomas a 
Gu/s, Llundain; ac ar ol hyny a ymsefydlodd yn Nghaerfyrddin fel 
meddyg, ac a adnabyddid wrth yr enw " Williams o'r Green Post." Yr 
aü &b ydoedd Isaac Lloyd Williams, Cynghorwr, o Lincoln's Inn, ac yr 
oedd yn dad i'r Parch. Isaac Williams, am yr hwn y gwneir crybwyll- 
iád yn y gwaith hwn. Y trydydd ydoedd David Williams, yr hwn a 
a«th pan ỳn ddeunaw mlwydd oed i Ysgol Ystradmeurig, ac a fu yn 
derbyn addysg yn yr hen Eglwys bresenol am ddwy flynèdd a hanner. 
Oddiyno fe aeth i Goleg Oriel, Bhydycl jain. Mab iddo ef yw Esgob pres- 
enol Quebec. Yr oedd iddo hefyd ddwy ferch. Ann, yr hynaf, a briododd 
â'r Parch. Lewis Evans, Llanfihangel-geneu'r-glyn; ac Elizabeth, yr hon a 



161 

bríododd 4 WllHam 0. öìiWtson, Y»w,, ẁ Oefagwyâ—dwy o w*agedd 

toa chyfarfyddir ond anfynych á'u rhagöraüh. Trigianai Mr.. WüHatna 
yn Ystrad Teilo, a mynych byddai rhai o'r esgobion yn Uettya yno, .gan 
dderbyn mawr garedigrwydd oddiar ei law. Ymadawodd â'r bywyd hwn 
ynyflwyddyn 1811, yn 77 mlwydd oed, a chasglwyd ef at ei dadau i 
fynwent Llanrhystyd. 

Williams, John, LL.D. Ganwyd y gwr enwog hwn yn Llanbedr pont- 
Stephan, Mawrth 25, 1727. Derbyniodd elfenau ei addysg yn y dref 
hòno; a phan yn bedairarbynitheg oed, aeth i Goleg Caerfyrddin, i'r 
dyb^n o gymhwyso ei hunan i'r weinidogaeth yn mysg yr Ymneillduwyr. 
Treuliodd wedi hyny iyw gymaint o amser yn athraw clasurol mewn 
ysgol gyhoeddus yn Birmingham; ond ar alwad yr eglwys yn Stamford, 
sir Lincoln, cydsyniodd i fyned yno i'w bugeilio. Yn 1755, symudodd 
drachefn i Wokingham, Berks, lle yr arosodd hyd 1767. Yn y lle hwn, 
cyhoeddodd, A Concordame to the Greeh New Testament, loith an English 
Yenion to each word y and sliort critical Notes — gwaith ag a gymerodd 
flwyddi o lafur caled i'w awdwr i'wgyflawni. Ar ymddangosiad y gwaith 
yma, yn 1767, symudodd drachefn i Sydenham, lle y treuliodd wyth 
mlynedd ar hugain yn weinidog, pryd y rhoddodd i fyny ei ddyledswydd- 
au cyhoeddus, ac yr ymneillduodd dros y gweddill o ŷ i oes i Islington. 
Yn 1777 etholwyd ef yn arolygwr Llyfrgell y Dr. Williams yn Bedoross 
Street; ac yno mwynhaodd gyfleusderau rhagorol i grynhoi y defnyddiau 
angenrheidiol at ei waith mawr, yr hwn a gyhoeddodd dan y teitl, — A 
Free Enquiry into the Authenticity ofthe lst and 2nd chnpters of St. 
Mathew'8 Gospel, — ail argraftîad, 1789. Ei weithiau eraill oeddynt: — 
1. Critical Diasertations on Isaiah, 7th chap. 13th and 16th verses; 2. 
Thoughts on tlie Origin of Language; 3. An Address on the Protestant 
Dissenting Ministers' applicatŵn to Parliawent in 1773; 4. flemaẃson 
a Treatise by William Bell, D.D. y on the Divine Mission ofJohn The Bap- 
tist and Jems Christ, $c; 5. An Enauiry into the Truth ofthe Tradition 
conceming the discovery of Anierica by Prince Madog, son oý Owen 
Gwynedd, about the year 1170, in twoparts. Bu farw, Ebrill, 1798. 
Yr oedd y pryd hyny bron a gorphen argraffu gwaith M. P. Cheilomeus, 
sef, Graco — Barbara Novi Testamente. #c. 

"Williams, John Lledrod, a anwyd yu y plwyf hwnw tua'r flwyddyn 
1749. Ychydig iawn a wyddis o hanes boreuol y gwr yma, çan nad 
ysgrifenwyd yr un cofiant iddo, yr hyn sydd yn ymddangos yn bur hynod 
pan ystyriom y gwasanaeth mawr a wnaeth efe i achos Methodistiaeth 
yn y wlad. Yr oedd ei rieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid, a bwriad- 
ent ddwyn eu mab i fyny yn weinidog yn yr Eglwys Sefydledig; ac felly 



162 

anfonwyd ef i Tsgoì Ystradmeurig, Ue y treuliodd yr auiser arferol cyn 
cael ei ordeinio. Ymddengys iddo barhau am dymmor yn y weinidogaeth 
yn ddyeithr hollol i ddylanwadau yr Ysbryd — gan bregethu i eraill, a'i 
hunan yn anghymeradwÿ. Nis gẅyddis yn sicr pa bryd yr argyhoedd- 
wyd ef, ond mae yn ffaith mai gweinidogaeth danllyd Daniel Rowlands 
fu yn foddion i'w ddwyn gyntaf i ystyried yn ddifrifol ei gynwr. J3u yn 
gweinidogaethu yn yr eglwys o gwbl tua deuddeng mlynedd;^ac er niai 
yn Lledrod yr oedd yn sefydlog, etto pregethai yn fynych ar 61 ei argy- 
hoeddiad yn y gwahanol eglwysi cymydogaethol. Ond yn y flwyddyn 
1781, ymunodd yn gyhoeddus â'r Methodistiaid, a dèrbyniwyd ef yn 
. aelod yn Swyddffynnon, a llafuriodd gyda hwy yn fiyddlon fel gwëinidog 
am yr yspaid maith o 50 mlynedd. Yr oedd Mr. Williams yn un o'r 
yehydig offeiriaid a safodd gyda'r corff ar ol yr ynineillduad fu ar bi*eg- 
ethwyr y cyfundeb i weinýddu bedýdd a Swper yr Arglwyddr. . Ac nid 
yn unig daliodd ei dir, ond gwnai a allai o blaid y symudiad, a hyny mor 
bell a phregethu yn gyhoeddus drosto. Yr oedd yn bresenol yn Nghy- 
manfa y Bala, yn y fl wyddyn 1810, pryd y dygoda Mr. Charles yn mlaen ei 
gynnygiad gyda golwg ar y dull o gydweithredu er dwyn oddiamgylch y 
neillduad yn y modd mwyaf esmwyth a didramgwydd; a chydag ef yr 
aníbnodd y Gymanfa y lly thyr a gynnwysai eu penderfyniad i'r Gymdeith- 
asfa oedd i fod yn Llangeitho. Bu Mr. "Williams yn llafurio am y rhan 
olaf o'i oes ỳn Llangeitho. Dechreuodd ei yrfa gyda'r Methodistiaid pçjrd 
nad oedd ganddynt ond 16 o gapelau yn y sir, a bu fyw i'w gwelèd, 
rhwng capelau ac ysgoldai, yn agos i 90 o rifedi. Prif nodwedd ei breg- 
ethau ydoedd eu gryra argyhoeddiadol: — llefarai mor llym a tharanllyd yn 
erbyn pob math o annuwioldeb, nês peri braw aruthrol ar y dynion anys- 
tyrioí a'i gwrandawai. Ond nid maint ei ddawn, yn gymaint a heddych- 
lonrwydd ei y^bryd a gẃastadrwydd ei lafur, oedd yr achos o'i fawr bobl- 
ogrwydd, a'r parch a delid iddo gan ei gydlafurwyr. — Meth. Cymru, 
cyf. iL, 88. 

Williams, John Íiiilip, oedd unig blentýn John a Gwenllian Wil- 
. liams, Dreisaf, plwyf Ystradmeurig, Ìle y ganwyd ef ar y 24ain o Dach- 
wedd, 1817. Pan oedd tua dwy ffwydd oed, symudodd ei rieni i fyw i 
Bontrhydfendigaid. Gan eu bod méwn anigýlchiadau cysurus, ac yntau 
yn unig blentyn, cafodd fwynhau y manteision addysgawl goren, a hyny 
am flynyddau, yn Ysgòl énŵog Ysträdniëurrg. Ymddengys ei fod yn 
fachgen gwylaidd a moesol, ac yn rhagcri ar lawer o'i gyfoedion — yn 
llawn diniweidrwydd a sirioldeb, ac felly yn barchnsgan ei holl gydnabod. 
Cjmerai lawer iawn o ddyddordeb mewn darllen gair Duw a chlywed ei 
bregethu. Er fod ei rieni yn arferol o wrando gyda y Methodisfciaid Oalfin- 
'áidd, tuéddwyd ef i ymuno â'r Bedyddwyr, a derbyniwyd ef yn aelod 



163 

yn eu plith, trwy gael ei fedyddio, y Sul olaf yn mis Mawrth, 1841, yn 
Ngharmel, Rhydfendigaid. Bu am ryw gymaint wedi hyn yn gẁasanaethu 
mewn sliop yn Aberystwyth, lle yr ennillodd barch gan bawb a'i hadwaenai. 
Wedi hyn annogwyd ef i fyned yn efrydydd i Athrofa er cymhwyso ei hun 
at waith y weinidogaeth, yr hyn a wnaeth trwy osod ei hun o dan ofal 
Mr. Williams o'r Drefnewydd — cyfieithydd dysgedig yr Oraclau Byŵiol. 
Ar ol pregethu amryw weithiau gyda llwyddiant mawr yn Rbydfendigaid, 
Swyddffynnon, a'r gymydogaetb, derbyniodd alwad gan Eglwys Pantycel- 
yn, ac fclly ordeiniwyd ef yn weinidog ÿno, Rhagfyr 13, 1843. Trwy ei 
ymdrechion a'i lafur diflino, bu Mr. Williams yn llwyddiannus i sefydlu 
eglwys yn Salem, a bu yn llafurio yn y ddau le hyd y flwyddyiî 1848, 
pryd y cafodd wahoddiad gan eglwys Blaenywaun i fjned i'w bugeilio. 
Yn ychwanegol at yr eglwys hon yr oedd ganddo yn ei faes newÿdd hefyd 
i ofalu am eglwysi Llandudoch, Gerazim, a Phenuel; ond ò herwydd 
afiechyd gorfu iddo tua diwedd 1850 roddi yr olaf i fyny.^ Yn ystod y 
deuddeng mlynedd y bu yn y lleoedd hyn bedyddiodd Mr. Williams dros 
naw cant o bersonau. Yn ystod ei weioidogaeth, gorfuwyd helaethu capel 
Bethsaida, yr hyn a wnaed ar draul o yn agos i ,£900, a theithiodd Mr. 
Williams lawer ar hyd y wlad i gasglu y swm angenrheidiol at hyny. 
Ymwelodd â Morganwg, a thynai sylw rhyfeddol yno, nes cyrchai lluaws 
ar ei ol, a "phregethai yntau fel angel Duw." Ond fel Uawer o'i flaen, 
ysywaeth, cyfarfu â gwely llàith, yr hyn a eíFeithiodd arno i'r fath raddau 
nes troi yn barlys. Bu am ychydig o dan driniaeth feddygol yn Nghaer- 
dydd cyn dychwelyd yn ol i Flaenywaun. Bu wedi hyny yn ffynnonau 
Llanwrtyd, lle y derbyniodd gryn lesád, fel ag i ddyfod yn alluog i breg- 
ethu ac ail ymaflyd yn ei ddyledswyddau gweinidogaethol. Ar ol hyn 
syraudodd i Gaernarfon, ond nid aeth ei deulu gydag ef. Ni bu ei arosiad 
yno ond byr, oblegid gorfodwyd ef i roddi i fyny gan afiechyd, a throi ei 
wyneb tmwaith yn rhagor am hen faes ei lafur yn Mlaeny waun. Wedi 
dihoeni ychydig wythnosau, bu farw y gweinidog rhagorol hwn, Rhagfyr 
19, 1861, yn 44 mlwydd oed, a chladd wyd ef y Llun canlynol yn ngwydd 
tyrfa anarferol o fawr. Ac fel y sylwa ei Fywgraflfydd, "Dygwyddodd yn 
rhyfedd ddarfod i ddau dywysog i gael eu claddu yr un dydd, sef y Tywys- 
og Albert, clod pa un a erys yn barchus trwy holl Brydain; hefyd un o 
dywysogion mw^^af ardderchog yr areithfa Gymreig, ac esgynloriau cy- 
manfaol y Dywysogaeth. Fel pregethwr, safai yn y rhes flaenaf; nid yn 
gymaint am ei fedrusrwydd fel beirniad, ond yn ei allu rhyfeddol i siarad 
â'r teimlad dynol. Medrai godi cymhariaethau naturiol oddiwrth beth: u 
yn yr ymyl — o'r cwch pysgota, oddiwrth forwriaeth, ffermwriaeth, gardd- 
wriaeth, <fec, a chodai addysgiadau mor naturiol nes swyno, nes cynhyifu 
y teimlad, ennill y dagrau, a chael y galon (tfwy Ysbryd Duw) i dderbyn y 
gwirionedd. Yr oedd ei iaith yn goethedig, ei lais yn dra soniarus, cyfoeth 



164 

ô éiriaü â möddyllau ya ôydgyfarfod, a'i ddttll bôncddîgaidd gerbrön ei 
wrandawyr, yn ei wneud yn hynod o dderbynioh Pregethodd laweroedd 
o weithiau mewn cymanfaoedd pell ac agos; anfonid yn aml am dano i 
Lynlleifiad, ac weithiau i Lundain, ac fe'i hystyrid yn un o'r rhai mwyaf 
poblogaidd yn yr enwad Bedyddiedig. Y mae yn syndod o'r mwyaf, am 
un ag oedd yn gorfod pregethu cymaint, ei fod yn fynychaf yn gallu preg- 
ethu mor dda. Yr oedd wedi darllen llawer,/ac yn gallu cofio llawer, ac 
yr oedd ei ddawn mor barod i wneud o'r cwbl i'w haberthu ar allor euraidd 
y weinidogaeth." — Gicel ei Gofiant gan y Parch. T. E. James, Glynnedd. 

Williams, Moses, oedd fab i Samuel Williams, periglor Llandyfriog 
aLlangynllo; a ganwyd ef yn Glaslwyn, Mawrth 2, 1685. Derbyniodd 
ei addysg yn Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, ac wedi hyny yn Rhydychain, 
lle yn 1708 y graddiwyd ef yn B.A. Y flwyddyn hòno, ordciniwyd ef 
gan Dr. Trimnel, Esgob Norwich, a gwasanaethodd am ryw dyinmor yn 
Lloegr fel curad. Cafodd ei ddyrchafu gan Esgob Ty Ddewi i ficeriaeth 
Llanwenog, Mai 31, 1713. Yn y flwyddyn 1716 drachefn, dyrchafwyd 
ef i ficeriaeth Defynog, sir Erycheiniog, trwy gymeradwyaeth Ty wysog 
Cymru. Priododd yma âg un Margaret Davies, yn y flwyddyn 1718. 
Yn 1724, newidiodd Defynog am bersonoliaeth Chilton Trinity, a ficer- 
iaeth St. Mary, Bridgewater. Yn 1732, etholwyd ef yn Gymrawd o'r 
Gymdeithas Freiniol. Fel hynafiaethydd a hanesydd yr oedd Moses 
Williams yn un ag y gall ei wlad fawr ymfirostio ynddo, oblegid cyfoeth- 
ogodd fwy, feallai, na neb arall o'i ragflaenwyr ar ei llenyddiaeth, yn y 
canghenau yr ymgymercdd â hwy. Ei brif waith ydoedd un a gyhoedd- 
odd yn 1726, dan y teitl, Eepertum Poeticiim, sef yw hyny, Alphabetioal 
Index o'r holl lawysgrifau Cymreig. Ymddangosodd darnau o'r gofres 
hon wedi hyny yn y Cymmrodorion Transactions. Costiodd y gwaith 
yina lafar ac ymchwiliad gorfawr i'w awdwr. Ei weithiau eraill oeddynt 
Cyfreithiau Hywel Dda, cyfro] fawr ddeublyg, wedi ei chasglu a'i chyf- 
ieithu i'r Lladin, gan Dr. Wotton, gyda chynnorthwy Moses Williams, 
1730; Cydymaith i'r Allor, cyfieithedig gan Moses William3, 1715; Glos- 
sary sf Roman Antiguities, 1724; Cofres o'r holl Lyfrau printiedig yn yr 
laith Gymraeg. Math o Lyfryddiaeth y Cymry ydoedd hwn i lawr hyd 
ocs yr awdwr, 1717; Beibl Cysegrlan, 1718. Hwn ydoedd yr argraífiad 
cyntaf a gyhoeddwyd dan nawdd y Gymdeithas er Uedaenu Gwybodaeth. 
Dan arolygiad Moses Williams y cafodd ei gyhoeddi; ac adnabyddid yr 
argraffiad hwn gan yr hen bobl wrth yr enw Beibl Moses Williams. 
Cyfieithodd hefyd yr Apocrypha, yn nghyda Gweddiau a Chanonau yr 
Eglwys, ac a'u cyhoeddodd mewn cysylltiad â'r Beiblau. Cyhoeddodd tua 
áeuddeg o weithiau eraill, ar dduwinyddiaeth gan mwyaf. Yr oedd 
ganddo frawd, Samuel Williams, yn ofíeiriacl yn Llangynllo; ac efe a 



m 

gyfieithodd y Mynègaí Yefftythyrol Mââmhog & gyhoôddwyd môwn cy* 

sylltiad â rhai o'r hen Feiblau. Cyfleithödd ei dad hefyd, Amsèr a Ditoedd 
Amser, o waith John Fox, yn y flwyddyn 1707; ac Undeb yn orchymyn- 
edig i Ymar/er, o waith D. Phillips, D.D., Parson Maenor Deifi, yn y 
flwyddyn 1710. Gadawodd Moses Williams bedair cyfrol fawr, mewn 
Uawysgrif, i'r Bodleian Library, y rhai sydd yn cynnwys cofrestr o'r holl 
lyfrau oedd y pryd hyny yn y Uyfrgell enwog hòno. Gadawodd hefyd 
yn ei ewyllys nifer mawr o lyfrau a Uawysgrifau iV noddwr, Arglwydd 
Macclesfield. Bu farw yn St. Mary, Bridgewater, a chladdwyd ef, 
Mawrth 2, 1742. 

Williams, David, (Iwan), oedd fab i Mr. Williams, Pcnbontbren, 
Llanbedr. Pregethai gyda'r Bedyddwyr, a bu am gryn amser yn cadw 
ysgol gyda mawr lwyddiant a chlod. Yr oedd yn ddyn o ddyfnder syn- 
wyr ac o archwaeth neillduol at wir brydyddiaeth. Y mae rhai o'i 
ganiadau mor gyson â natur ag unrhyw gerddi yn ein hiaith; ond ni 
hoflai Iwan fesurau caethion barddoniaeth, er ei fod yn eu deall yn dda. 
Yr oedd yn gyfaill mawr i Daniel Ddu, ac ysgrifenodd lawer i'r Seren 
Gomer a chyhoeddiadau eraill. Bu farw yn ieuanc, pan tuag 28ain oed, 
yn y flwyddyn 1823. 



ATTODIAD. 



Davies, David, (Glan Cunllo). Ganwyd y bardd a'r llenor gwych 
hwn yn Pantsais, plwyf Llangynllo. Derbyniodd elfenau ei ddysgeid- 
iaeth yn Bwlchygroes, ysgoldy perthynol i'r Annibynwyr, wrth y capel. 
Treuliodd ei unfed flwyddyn ar ddeg yn y gwely gan afiechyd, yr hwn a 
ymsefydlodd yn ei lin, ac a adawodd ei nôd arno, fel ag y bu yn gloff hyd 
ddiwedd ei oes. Wedi tyfu i fyny, ymgymerodd â'r gWaith p gadw 
ysgol, a bu yn y swydd hòno yn Pencader, Peniel, Caio, Llansawel, ac 
yn ddiweddaf yn Llangadog. Ymddengys mai y wobr gyntaf a ennill- 
odd ydoedd yn Eisteddfod Llandyssul, yn y flwyddyn 1860; ond o hyny 
hyd ei farwolaeth ennillodd ugeiniau o wobrwyon mewn Eisteddfodau ar 
wahanol destunau — barddonol a rhyddieithol. Yr oedd ei lafur llen- 
yddol bron yn anliygoel ; ysgrifenai bron yn ddiorphwys, ac ar bron bob 
testun; ac ychydig o'i gyfoedion barddonol a fuont mor llwyddiannus. 
Ysgrifenodd amryw fíugchwedlau o bryd i bryd, ac yr oedd yn ohebydd 
cyson i amryw newyddiaduron. Yr anrhydedd llenyddol diweddaf a 
gyrhaeddodd ydoedd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1867, lle 
yr ennillodd wobr o 10 gini a thlws am y "Traethawd Bywgraffyddol a 
Beirniadol ar Iolo Morganwg." Yr oedd wedi cyfansoddi ar amry w o'r 
prif destunau eraill, a safai yn uchel iawn yn y gystadleuaeth. Ysgrifen- 
asai yr oll pan oedd ei gyfansoddiad yn ymddattod yn gyflym dan bwys ei 
afîechyd nychlyd, sef y darfodedigaeth; ac yn wir, nîd oedd ei holl fywyd 
ond un frwydr barhaus âg aíìechyd. Gydag anhawsdra mawr y daethai 
i'r Eisteddfod, a gorfu iddo droi tua chartref cyn gwybod tynged ei gyf- 
ansoddiadau. Bu yn dihoeni am tua deufis wedi hyny, a bu farw Tach. 
17, 1867, yn 30 mlwydd oed, a hyny er galar mawr i wraig a phlant 
adawodd ar ei ol, yn nghyda chylch eang o gyfeillion llenyddol yn ngwa- 
hanol ranau y Dywysogaeth. 

Davies, Parch. John, D. D., a anwyd yn mhlwyf Llanddewi-brefi, 
Rhagfyr, 1795. Ei dad ydoedd James Davies, uchelwr, yn byw ar ei dir 
ei hun yn Hendre Phillip; a'i fam ydoedd Jane, merch i Mr. Richards, 
Garnlwyd, plwyf Llanbadarnodwyn. Derbyn:odd ei addysg, gan mwyaf, 
yn Ysgol Bamade^ol Llanbedr, o dan y Parch. Eliezer Williams. Wedi 
treulio rhai blynyddau yn Nghymru, bob yn ail yn dysgu ac yn cael ei 
ddysgu, aeth i Loegr yn Ionawr, 1815, fel athraw cynnorthwyol mewn 
ysgol. Bu yn mynychu Rhydychain am dymmor neu ddau, ac yna 



167 

eymudodd i Gaergrawnt, lle y graddiwyd ef yn B. D. yn 1830, ac yn D.D. 
yn 1844. Ordeiniwyd ef gan Esgob Norwich, a bu am rai,blynyddau yn 
beriglor St. Pancras, Chichester; ac yn 1840, cafodd berigloriaeth Gates- 
head. Daliai hefyd yr un pryd y swydd o feistr Ysbyty St. Iago, yn 
esgobaeth Durham; ac yn 1853, gwnaed ef yn ganon anrhydeddus yn yr 
un esgobaeth. Bu farw Hydref 21, 1861, yn Ilkley Wells, sir Gaerefrog. 
Yr oedd Dr. Davies yn awdwr amryw lyfrau dysgedig. Ei waith mawr 
cyntaf ydoedd llyfr yn dwyn y teitl, "An Estimate of the Human Mind, 
being a Philosophical Enquiry into the Legitimate Application and Extent 
of its Leading Faculties, as connected with Principles and Obligations of 
the Christian Religion." Cyhoeddwyd hwn yn Nghaergrawnt yn 1828, 
a daeth ail argraffiad allan yn 1847. Cyhoeddodd hefyd "First Impres- 
sions," — cyfres o lythyrau wedi eu hysgrifenu o Ffrainc, Switzerland, a 
Savoy, yn cynnwys ei syniadau am y gwledydd hyny a'u golygfeydd. 
Ymddangosodd amryw draethodau a phregethau o'i eiddo o bryd i bryd, 
ac arddengys yr awdwr ynddynt oll feddwl coeth, a dysgeidiaeth o'r radd 
uchaf. 

Francis, Parch. Benjàmin, A.C., gweinidog enwog gyda'r Bedydd- 
wyr, oedd fab ieuengaf Enoch Francis o Bencelli, ger Castell Newydd 
Emlyn, Ue y ganwyd ef yn y flwyddyn 1734. Derbyniwyd ef yn aelod 
cyflawn yn mysg y Bedyddwyr pan yn bymtheg oed; a phan yn bedair- 
arbymtheg, fel ei dad o'i flaen, dechreuodd bregethu. Aeth i'r Athrofa . 
yn Nghaerodor yn 1753, lle y bu am bedair blynedd. Bu yn pregethu* •. _~ • 
am ryw dymmor yn Mristol a Sudbury; ond sefydlodd yn Horsley, sir . '. 
Gaerloyw, lle yr ordeiniwyd ef yn 1758, ac yno y treuliodd dros 40 
mlynedd yn y weinidogaeth. Pan aeth ef gyntaf i Horsley, nid oedd 
rhifedi yr aelodau ond triugain a chwech, ond buan y cynnyddasant yn 
rhai cannoedd o rifedi, a helaethwyd yr addoldy dair gwaith. Deuai ei 
wrandawyr yn nghyd o bymtheg o'r plwyíi cylchynol, a rhai o honynt 
ddeng milldir neu ychwaneg o bellder. Yn y flwyddyn 17G5, adeiladodd 
addoldy yn Minchin-Hampton, tua thair milldir o Horsley, a bu yn 
darlithio yno yn gyson.am 35 o flynyddau. Ymwelai yn fynyeh â'r 
Dywysogaeth i l>regethu yn y gwahanol Gymanfaoedd, yn gystal ag yn 
mhrif drefydd Lloegr a'r Iwerddon. Bu farw Rhagfyr 14, 1799, yn 6ö 
oed. Yr oedd Mr. Francis yn awdwr amryw emynau melus — Cynŷaeg 
a Saesoneg, y rhai sydd mewn bri mawr hyd heddy w, yn enweóÿg yn 
mysg y Bedyddwyr. Cyhoeddodd y llyfrau canlynol: — í. "Aleliwia, neu 
Hymnau i Addoliad Cyhoeddus," 1744; 2. Ail Ran o'r unrhyw, 17S6; .;,;■;#_ . \ 

3. "Marwnad ar Farwolaeth y Parch. John Thomas, gynt o Faes y Dor- " -^f 

glwyd," 1787; 4. "Cân am Fedydd, a áchlysurwyd gan Draithawd ỳ 
Parch. B. Evans dros Daenelliad Babanod;" 5; "Iachawdwriaeth," 1793; 



168 

& "De tJliimo JustlcôS— neu Oàn &m y Fam Ddlweddaf, èc\; wedl ei 

gyfansoddi a'i gydmaru â gwaith Saesneg Mr. B. Francis, gan M. 
Williams, Caerfyrddin;" 7. "Cân ar Farwolaeth Mr. Williani JoneB," 
1799; 8. "Marwnad Harry John o Benygarn."* 

Gwynne, (Cadben). Alban Lewis Thomas Jones Owynne, Ysw., 
Mynachdy, oedd fab hynaf y Milwriad Alban Thomas Jones Gwynne, a 
ganwyd ef yn y flwyddyn 1809. Derbyniodd ei addysg forenol yn Ysgol 
Ramadegol Llanbedr, ac wedi hyny yn Caerwynt (Winchester). Tua'r 
flwyddyn 1828, ymnnodd â'r fyddin — y 62ain gatrawd. Gwasanaethodd 
yn yr Iwerddon am ddwy flynedd, ac yn yr India am chwe' blynedd. 
Dychwelodd gartref oblegid afiochyd; a chan iddo fethu newid i gatrawd 
mewn gwasanaeth cartrefol, efe a ymneillduodd o'r fyddin. Yn 1847, 
priododd (yn Eglwys blwyfol Lewisham, Caint,) â Jane Crawshay, unig 
ferch Crawshay Bailey, Ysw., Nantyglo, sir Fynwy, o'r hon y bu iddo 
ddau fab a thair merch. Gwasanaethodd Cadben Gwynne y swydd o 
Uchel-Sirydd i Mr. Jones, Deri, ar waith y boneddwr hwnw yn dyfod yn 
yingeisydd dros y sir yn ystod blwyddyn ei swyddogaeth ef. Bu farw yr 
8fed o Orphenaf, 1865, yn Ynys Jersey. Ychydig ddynion ennillasant 
yn eu bywyd y fath barch cyffredinol gan bob dosbarth a'r diweddar 
Gadben Gwynne, a Uai byth a'i haeddasant. Yr oedd yn un o'r dynion 
mwyaf gostyngedig, caredig, a thyner-galon, ag oedd yn ddichonadwy eu 
cyfarfod; ac yn ei farwolaeth cafodd ei luaws deiliadon, yn nghyda thlod- 
ion y gymydogaeth, yn gystal a chymdeithas yn gyffredinol, i'r hon yr 
oedd yn addurn, golled anadferadwy. Fel tir-feistr, yr oedd yn wir bron 
heb ei gyffelyb ar gyfrif ei dynerwch a'i gydymdeimlad â'r gwan a'r 
anghenus. Yr oedd ei glust bob amser yn agored i wrando cwyn y 
tlawd, a'i law yn barod i gyfranu iV roidiau, a'r "cwyn ni wyddai a 
chwiliai allan/' Mae yn ffaith na ddarfu iddo erioed droi cymaint ag un 
deiliad o'i fferm o herwydd methu talu am dani. Yr oedd ei ymddygiad 
bob amser tuag at ei isafiaid yn debycach i eiddo cydradd a chyfaill nag i 
feistr. Yn fyr, yr oedd yn foneddwr yn ystyr helaethaf a mv/yaf priodol 
y gair. Yr ydoedd hefyd yn wladgarwr o'r iawn ryw — yn caru ei wlad, 
ei iaith, a'i genedl, ac yn barod bob amser i gefnogi pob symudiad a'i 
amcan i lesoli ei gydwladwyr. 

Hüghes, Parch. William, A.C., diweddar ficer Llanddewi Abemrth, 
a anwyd yn y Wern, Llanarth, Ebrill 5ed, 1810. Hanai o deulu pareh-» 
us, a bu ei dad am flynyddau lawer yn offeiriad Ciliau Aeron. Addysg-, 
wyd Mr. Hughes yn Ysgol Bamadcgol Llanbedr, ac wedi hyny yn 

* Trwy ryvr amryfusedd diaugodd y ddau uchod rhag cymeryd eu lle priodol ya 
öghorff y gwaith. 



169 

Ngboleg St, Ioan, Caergrawnt. Derbyniwyd ef i'r lle olaf, Medi, 1829; 
a derbyniodd ei radd o A.C. yn Mai, 1833. Ordeiniwyd ef yn Ddiacon 
yn mis Medi, y flwyddyn hòno; ac yn Offeiriad y flwyddyn ganlynol. 
Bu am dymmor yn gwasanaetbu fel curad i'w dad yn Ciliau Aeron. Ar 
y 6ed o Cbwefror, 1836, penodwyd ef gan Esgob Ty Ddewi i fywoliaetb 
Ciliau Aeron; ac ar y 6ed o Hydref, 1847, trwyddedwyd ef i guradiaetb 
barbaus Llanddewi Aberartb. Gwasanaethodd y ddwy Eglwys byd 
Hydref, 1862, pryd y rboddodd y flaenaf i fyny; ond parbaodd i weinid- 
ogaetbu yn yr olaf byd ei farwolaetb. Yn Medi, 1853, gwnaed ef yn 
Surrogate, a bu yn dal y swydd o Ddeon Gwladol Uwcb-Is-Aeron am 
amryw flynyddau. Cymerodd ei farwolaetb le Mawrtb 31, 1867; a 
gadawodd ar ei ol deulu lluosog i alani eu colled anadferadwy. I ddefn- 
yddio geiriau un oedd yn dra adnabyddus o bono: — "Ymdaenodd y 
newydd am y dygwyddiad galarus yn mhell ac agos, ac mewn miloedd o 
galonau y teimlwyd y galar sydd yn cydfyned â cholli cyfaill cywir a dyn 
da. Nid oedd y gofld dwfn a amlygai ei hunan yn gyfyngedig i un 
enwad neu ddosbarth; teimlid ef gan bawb, canys hawliai pawb, a hyny 
yn gyfiawn, iddynt eu hunain ran yn ei gydymdeimlad a'i garedigrwydd 
pan yn eu mysg. Trwy ei farwolaeth mae bwlch mawr wedi cael ei 
wneud yn y cylch y troai ynddo. Ei farn, ei ddoethineb ymarferol, a'i 
graffder, a appelid atynt mor fynych gan y cyfoethóg, ag y ceisid ei gyd- 
ymdeimlad, ei gynghor, a'i gy nnorthwy gan ddosbeirth isaf cymdeithas. 
I'r praidd i'r rhai yr oedd yn arweinydd ysbrydol a bugail, yr oedd ei 
symudiad yn golled annhraethol, oblegid yr oedd pobl ei ofal yn wrth- 
ddrychau parhaus ei bryder a'i lafur diorphwys. Safai yn uchel iawn yn 
ngolwg offeiriaid y sir. Gwerthfawrogid ei gynghor ganddynt yn gymaint 
ag y ceisid ef; a gwir ddywedwyd gan aniryw o honynt ddydd ei gladd- 
edigaeth, fod yr Eglwys yn rhan ogleddol y sir wedi colli ei harweinydd 
gwerthfawrocaf a doethaf." Yr oedd yn hynod gydwybodol a ffyddlon 
yn nghyflawniad ei ddyledswyddau; a thrwy ei ysbryd cymmodlawn, ei 
dymher fwyn, a'i foneddigeiddrwydd, ennillodd yn llwyr ymddiried ei 
frodyr yn y weinidogaeth. Yr oedd yn dra rhyddfrydig ei syniadau ar 
bynciau crefyddol, ac felly perchid ef yn fawr, nid yn unig gan aelodau ei 
Eglwys ei hun, ond hefyd gan yr ymneillduwyr o bob enwad, y rhai oll 
a gydunant i'w edmygu fel cymydog, fel cyfaill, ac fel Cristion. 

Cludwyd ei weddillion marwol i gladdfa y teulu yn Llanarth, ar y 5ed 
o'r mis canlynol, a byny gan dyrfa anarferol o luosog: tystid fod yr 
orymdaitb y fwyaf a welwyd yn y gymydogaeth yn ystod yr banner can' 
mlynedd diweddaf. Yr oedd 30 o offeiriaid yn bresenol, a thros 50 o 
gerbydau o wabanol fatbau. Darllenwyd cyfran o'r Ysgrytbyr a gwedd- 
îwyd wrtb y tŷ gan y Parch. E. Morgan, Ciliau Aeron. Cymerwyd rhan 
yn y gwasanaeth angladdol yn yr Eglwys gan y Parch. D. J. Jones, ficer 



170 

y plwyf, a'r Parch. H. Morgan, Hen Fynyw; a phregethwyd ar yr 
achlysur gan y Parch. James James, Llanbadarn-tref-eglwys. Traddod- 
wyd pregethau angladdol iddo ar y Sabbath yn yr holl Eglwysi cymyd- 
ogaethol. 

Jones, Parch. Lewis, a anwyd yn sir Aberteifi, yn y flwyddyn 1793. 
Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadegol Ystradmeurig, a symndodd oddiyno 
i fod yn athraw yn Ysgol Ramadegol Clitheroe, sir Gaerhirfryn, lle y bu 
am rai blynyddau. Trwy ddylanwad y Prebendari Parker, un o ly wydd- 
ion y sefydîiad, cyflwynwyd Mr. Jones i ficeriaeth Almondbury, ger 
Huddersfield, a sefydlwyd ef yn y fywoliaeth yn y flwyddyn 1822. Yn 
fuan ar ol hyny rhoddwyd iddo hefyd berigloriaeth Trefdraeth. Un o'r 
pethau cyntaf a wnaeth yno ydoedd adgy weirio yr Eglwys, yr ysgoldy, 
a'r periglordy, y rhai oeddynt oll mewn cyflwr tra dadfeiliedig; ac er iddo 
trwy ei ofal a'i wyliadwriaeth ychwanegu yn fawr at werth ý fy woliaeth, 
etto ni dderbyniodcl efe ddim erioed oddiwrthi. Wedi hyny cyflwynwyd 
ef i guradiaeth barhaus Upperthong, ger Holmfirth, fel olynydd i'r Parch. 
James Tedmore. Yr oedd sefyllfa foesol a chrefyddol trigolion Almond- 
bury yn hynod druenus pan aeth Mr. Jones yno ar y cyntaf i weinidog- 
aethu, heb nemawr ddim cyfleusderau eglwysig nac addysgiadol o fewn y 
plwyf, yr hwn oedd yn eang iawn, ac yn cynnwys 30,140 erw o dir. 
Dechreuodd yntau ar ei waith gydag ymroddiad teilwng o'i swydd, a 
chyda chynnorthwy cyfoethogion cymydogaethol ac eraill, bu yn hynod 
lwyddiannus; a chyfodwyd yn yr ardal ddim llai na phymtheg o Eglwysi 
newyddion, yr un nifer o ysgoldai, ac yn agos cymaint o bersondai. Ym- 
drechodd hefyd yn fawr o blaid addysgu y werin; ac fel prawf o hyny, 
gellir cyfeirio at Ysgolion Cenedlaethol Almondbury, y rhai a godwyd ac 
a gynnaliwyd gaiiddo ef hyd ei farwolaeth. Yr oedd Mr. Jones yn 
ddiflino yn ei ymweliadau â thlodion a chleifion ei blwyf, y rhai a 
gawsant fawr golled yn ei farwolaeth. Cymerwyd ef yn glaf gan ymos- 
odiad o'r geri marwol, a hyny ar ei ddychweliad adref wedi bod yn cymer- 
yd rhan yn ngosodiad sylfaen Eglwys newydd Shelley; ac er pob 
ymdrech o eiddo y meddygon, ehedodd ei ysbryd i'r orphwysfa nefol, ar 
ol bywyd llafurus a defnyddiol, Awst 26, 1866, yn 73 mlwydd oed. 

Owen, Parch. John, fìcer Thrussington, oedd ail fab Mr. Owen Owen, 
Cilirwysg, plwyf Llanfihangel Ystrad, lle y ganwyd ef yn y flwyddyn 
1788. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Ysgol Ystradmevrig. Urddwydefyn 
Llanelwy, yny flwyddyn 1811; a gwasanaethodd guradiaeth Himant am. 
tua dwy flynedd. Yn 1814, penodwyd ef i guradiaeth St. Martin, 
Leicester, a bu yn gwasanaethu amryw Eglwysi yn y gymydogaeth hòno 
cyn derbyn o hono fìceriaeth Thruí>sington. Llanwai hefyd y swydd o 



.171 

Ddeon Gwladol, a pherchid ef yn fawr fel gweinidog ffyddlon i Grist, fel 
duwinydd rhagorol, ac fel awdwr amryw lyfrau gwerthfawr mewn amddi- 
ffyniad i'r Eglwys Sefydledig yn erbyn Pabyddiaeth. Perthynai~ Mr. 
Owen i'r dosbarth Efengylaidd yn yr Eglwys, a safai yn uchel iawn yn 
ngolwg ei frodyr yn y weinidogaeth. Yn mysg ei weithiau n:ae y rhai 
canlynol: — "Letters on the Writings of the Fathers of the First Two 
Centuries," 1838; "Memoir of the Rev. Daniel Rowlands," 1840; "Me- 
moir of the Rev. Thomas Jones of Creaton," 1851; "Lectures on Popery," 
1843; " A New Translation of Luther on the Galatians," 1845. Ond yr 
hyn a roddodd fwyaf o gyhoeddusrwydd iddo fel awdwr ydy w ei gyíieith- 
iadau o Esboniad Calfin, y rhai a ddaethant allan fel y canlyn: — "Y 
Prophwydi lleiaf," 5 cyf., 1849; "Y P.hufeiniaid," 1849; " Jeremiah," 5 
cyf., 1855; "Yr Hebreaid," 1853; "Yr Epistolau Cyffredinol," 1853. 
Bu farw Gorphenaf 25, 1867, yn 80 oed, yn nhŷ ei fab-yn-nghyfraith, y 
Parch. Henry Smith, gweinidog Eglwys Crist, St. Alban, yr hwn íel y 
deallwn sydd yn parotoi cofiant iddo. 

Phillips, Pàech. John, A. C, oedd fab David a Mary Phillips, Pont- 
rhydfendigaid; a ganwyd ef tua diwedd y flwyddyn 1810. Yr oedd ei 
nain, o clu ei fam, yn gyfnither i'r Parch. John Williams, Lledrod. Yr 
oedd Mr. Phillips fel hyn, nid yn unig yn hanu o deulu crefyddol, ond 
cafodd ei ddwyn i fyny i ofni yr Arglwydd o'i febyd, a hyny dan ofal ei 
nain yn y Tymawr, lle y treuliodd ran helaeth o'i ddyddiau boreuol. Tua 
dechreu y flwyddyn 1825, teimlwyd adfywiad grymus yn yr ardaloedd 
hyny, a bu Mr. Phillips yn wrthddrych argraffiadau crefyddol dyfnion 
iawn. Wedi bod yn cynnorthwyo ei rieni i ofalu am eu shop nes oedd 
tuag 16eg neu 17eg oed, aeth i'r ysgol i Langeitho, yr hon y pryd hwnw 
oedd dan ofal Dr. Edwards, yn awr o'r Bala. Buasai am ychydig amser 
yn flaenorol yn Ysgol enwog Ystradmeurig, yr hon oedd yn agos i'w 
gartref. Yn fuan ar ol ei fynediad i Langeitho, ar annogaeth Mr. 
Williams, Lledrod, yr hwn oedd y pryd hwnw yn byw yn yr ardal hòno, 
dechreuodd bregethu. Y bregeth gyntaf a draddododd oddiar Job xx. 29, ac 
argyhoeddwyd pawb a'i gwrandawai mai cenad anfonedig Duw oedd efe. 
Tua diwedd y flwyddyn 1829, penodwyd ef gan Gyfarfod Misol sir Aber- 
teifi i fod yn genadwr yn Rhaiadr, sir Faesyfed. Yn fuan ar ol hyn 
aeth ar daith trwy y Gogledd, ac fel y sylwa Dr. Edwards, (gwel y Drys- 
or/a am Ragfyr, 1867), "Mae yndebyg na fu un pregethwr erioed ynìynu 
rawy o sylw, ac yn crëu mwy o gynhwrf, na Mr. Phillips yn y daith 
hòno. " Mr. Jones o Runcom, ar ol ei gly wed yn pregethu yn Nghym- 
deithasfa Llanrwst, yr hon a gynnaliwyd Ionawr 3 á 4, 1833, a syl- 
wai wrth gyfaill, " Yr oedd bachgen ieuanc o'r Deheudir yn pregethu yn 
olaf y nos gyntaf yn y Sasiwn, ar y geiriau, ' Onid oedd raid i Grist 



172 

ddyoddef y pethau hyn, a nryned i mewn iV ogoniantT ac yr oedd yn 
pregethu yn anarferol dda, ei fater yn gymhwys, ei lais yn seiniol ac yn 
ystwyth, a'i hollddull yn gwneud i'r bobl wrando a theiinlo. Gallem ddys- 
gwyl iddo, pe cai fyw, fyned yn bregethwr poblogaidd hynodj ond y mae 
yn rhy aralwg fod angeu wedi gosod ei farc ar y fath wr ieuanc gobeithiol, 
ac na chaiff efe fyw nemawr etto." Coleddid ofnau cyffelyb o barth i 
iechyd Mr. Phillips gan amryw o'i gyfeillion yr adeg hòno, ond gwelodd 
y nefoedd yn dda ei arbed am fod gwaith arbenig ganddi iddo i'w gyflawni. 
Yn niwedd Hydref, 1833, aeth ef a'i hen athraw a'i gyfaill, Mr. 
Edwards, ibrif Athrofa Edinburgh, lle y treuliasant ranau odair blynedd 
gyda'u gilydcL Gyda golwg ar yr amser hwnw, dywedai Dr. Edwards, 
" Bum yn cydlettya âg ef yn Edinburgh am ranau o dair bJynedd; ac yn 
yr holl amser hwnw ni welais ddim a barodd i mi unwaith ammheu un- 
iondeb a phurdeb ei egwyddorion. Byddwn bob amser yn tueddu i fedd- 
wl fod Mr. Phillips yn fwy dyn mewn ymddyddan nag yn y pulpud. 
Gwyr pawb pa fath un ydoedd fel pregethwr ; ond nid oes neb wedi ei 
weled yn gyflawn na chafodd dreulio llawer o amser yn ei gyfeillach. 
Heblaw ei fod yn bwyllog a boneddigaidd, yr oedd yn meddu hefyd ar 
lawer o graffder'a llawer o gryfder. O'm rhan fy hun, nid wyf yn gwyb- 
od am ddim a wnaeth fwy o les i mi na'r ymddyddanion beunyddiol a 
fu rhyngom yn y dolydd y tu deheuol i Edinburgh." Yn mis Mai, 1835, 
mewn cydsyniad â galwad yr eglwys yn y lle, symudodd Mr. Phillips i 
Dreffynnon i gymeryd arno ofal bugeiliol yr eglwys hòno, ac mae yn debyg 
mai efe oedd yr unig un ar y pryd yn y cyfry w gysylltiad yn mysg y Meth- 
odistiaid Calfinaidd yn, Ngogledd Cymru. Llafuriodd yn galed yn y Ue 
hwn, a dilynwyd ei ymdrechion â llwyddiant anghyffredin. Mewn can- 
lyniad iV gysylltiad priodàsol, symudodd yn nechreu 1843 i'r Tabernacl, 
Mon, ac oddiyno i Fangor yn 1847. Yn awr, cawn eí yn dyfod allan mewn 
cymeriad arall, yn ychwanegol at ei gymeriad gweinidogaethol, sef fel 
goruchwyliwr dan Gymdeithas yr Ysgolion Brutanaidd a Thramor. 
Nis gallwn wneud yn well yn y fan hon na gwneud defnydd o eiriau Mr. 
Morris Davies, Bangor, yr hwn oedd yn gymydog a chyfaill neillduol i 
Mr. Phillips: — "Llafuriodd Mr. Phillips yn galed a fìŷddlawn gydag 
achos Addysg, i ddeffroi'r wlad i ystyried yr angen am dano, a thrwy 
«efydlu ac arolygu Ysgolion Brutanaidd, a chyfarwyddo pwyllgorau lleol 
i adeiladu ysgoldai prydferth a chyfleus, a'u cynnorthwyo i gael athraw- 
on cymhwys i'r cyfry w ysgolion. Yr anhawsdra i gael athrawon wedi eu 
hyfforddi Tr gwaith, a arweiniodd i sefydliad y Coleg Athrawol yn Bangor, 
gyda'r hwn y llafuriodd Mr. Phillips yn effeithiol am flynyddoedd, nes 
gorphen yr adeilad prydferth, a gosod i fyny y peirianwaith hyfforddiadol 
ynddo mewn llawn a ilwyddiannus weithrediad. Dangosodd ddoethineb 
a medrusrwydd anarferol yn y llwybr a gymerodd i gael lle cyfleus i 



173 

adeiladu y Oolcg, yr hwn a gafwyd ar ammodau tra manteisioL, g*n y 
pendefig anrhydeddus, yn bresenol, Arglwydd Penrhyn; ac hefyd i symud 
rhagfarn boneddigion y wlad, yr hyn oedd yn perì i lawer o honyn^ofni 
rhoddi eu cefhogaeth i'r sefydliad. Tr oedd casglu y swm dirfatŵ o 
arian oedd yn rheidiol i godi y fath adail cadarn a golygus, yn gofyn 
penderfyniad ac ymroddiad anghynredin; daeth trwy y gorchwyl er pob 
rhwystrau a digalondid, a hyny mewn amynedd digyfiro, yn hynod o 
dangnefeddus; a chafodd y fraint o wéled yr anturiaeth wedi ei chwbl- 
hau, a'r tŷ cysegredig i athrawon y genedl wedi ei agor yn ddiddyled. 
Bydd y tŷ hwn yn gofgolofn ardderchog iddo tra saif o hono faen ar faen." 
Er casglu y swm angenrheidiol, sef XI 1,000, teithiodd a llafuriodd yn 
galed iawn; ac nid oes nemawr bentref yn y Dy wysogaeth na thalodd 
ymweliad âg ef ar ran y Ooleg, neu ynte er rhoi cyfarwyddyd a chyn- 
northwy i sefydlu ysgol ynddo. Bu yn arolygu y sefydliad hwn jryda 
ffyddlondeb mawr hyd ddiwedd ei oes. Enwogodd Mr. Phillips ei hun- 
an yn fawr hefyd fel darlithydd, a thraddododd amryw ddarlithoedd 
campus ar wahanol destunau y dydd, megys, "Yr Hungariaid — Ymos- 
odiad y Pab ar Brydain — Pabyddiaeth, Eglwysyddiaeth, ac Ymneilldu- 
aeth — Dychweliad yr Iuddewon," <fcc. 

Ychydig cyn ei farwolaeth, ymneillduodd Mr. Phillips a'i deulu i fyw 
i Brynteg, yn agos i Bentraeth, Mon, lle y bu farw, ar ol tair wythnos o 
afiechyd, Hydref 9, 1867, yn 56 mlwydd oed. Claddwyd ef yp. mynwent 
Llaneugrad, ac ni welwyd y fath dorf luosog mewn angladd er adeg 
claddedigaeth y Parch. John Elias. Bernir fod o dair i bedair mil o 
bersonau yn bresenol, a gwneid y dorf fawr i fyny o wreng a boneddig, 
plant a phobl mewn oed. Yr oedd tua 150 o gerbydau yn yr orymdaith, 
ac oddeutu 60 o weinidogion. Darllenodd y Parch. Owen Thomas ranau 
pwrpasol o'r ysgrythyrau wrth y tý, a gweddîodd; ac anerchwyd y dorf 
gan y Parch. Dr. Edwarda Darllenwyd y gwasanaeth yn yr Eglwys 
gan y Parch. J. Morris, mewn dull tra difrifol. Yna cyfarchwyd y dorf 
gan y Parch. H. Rees; ac wedi gweddîo a chanu, ymwasgarodd y llu 
galarwyr. 

Propebt, Johit, Y«w., M.D., Trysorydd a Sylfcenydd y Medical 
Beneyolent Collegb, sydd esìampl nodedig o ddyn wedi ymddyrchafu o 
sefyllfa isel i un o enwogrwydd, cyfoeth, ac anrhydedd, a hyny yn hollol 
trwy ei ymdrechion ei hun. €kmwyd ef ar y 19 o Orphenaf, 1793, yn 
Blaenpistill, ger AberteifL Gosododd ei dad, Mr. Thomas Probert, ef 
yn Ysgol Bamadegol Abertein, o dan y Parch. Thomas Morgan. Pan 
yn bymtheg oed aeth yn fanerwr yn nghatrawd y cartreflu ; ond gan nad 
oedd ganddo ond gobaith gwan am ddyrchafiad, gadawodd y gwasanaeth 
hwnw, a rhwymodd ei hun gyda Dr. Noot, Aberteifì. Trwy gynnorthwy 



174 

perthynas, aeth yn ddisgybl i Abernethy, ac yn 1814 ennillodd ei 
fcamteb(diploma). Ymsefydlodd yn ei alwedigaeth, ac o'r amser hwnw 
alben, yr oedd ei yrfa fel nieddyg yn tm o rwyddiant nodedig. Ond yr 
hyn a'i hynodai yn fawr, ac a roddai iddo y fath le uchel yn ngofwg ei 
gymrodorion, ydoedd ei deimlad cyhoeddus cryf, a'r dyddordeb mawr a 
gymerai yn Bwyddiant ei frodyr. Gwaith mawr ei fÿwyd oedd sylfaen- 
iád y M'edtcal Benevolent Coixege yn Epsom, yr hyn a wnaed yn 
1B5& Dÿgodd Mr. Propert i'r gorchwyl elusengar hwn yni anghyffred- 
in, ga&etgarwch bwriad na "wyddai sut i roi i fyny waith wedi unwaith 
ymgymeryd âg ef, a phoblogrwydd personol a dylanwad cymdeithasol yn 
y brrf ddinas, trwy yr hyn y cyrhaeddodd o'r diwedd ei amcan. Mae 
feròn jm annichonadwy flurfio drychfeddwl cywir am y llafur corfforol a 
meddylioi yr aeth trwyddo, a'r ymgyflwyniad llwyr a ddangosodd ef i'r 
acho» — gweithio nos a dydd, troi ei dý yn swyddfa, ei deulu yn ysgrifen- 
wyr, a gwneud hyn yn brif orchwyl ei fy wyd. 

Oafodd y fatb lafur canmoladwy ei gyflawn wobrwyo, a bu fýw i 
weled y Ooîeg yn cyrhaedd maintioli cenedlaethol, ao i gly wed ei hunan 
yn cael bì fawrygu drachefn a thrachefh fel cymwynaswr i'w frodyr. O 
ddydd ei sylfaeniad hyd ddydd olaf ei oes, bu Mr. Propert yn ffyddion i 
wrthddrych mawr ei fywyd. Yr oedd y Coleg, yn nghyda'r oll a berth- 
ynai iddo, yn fater o gymahit gofal a phryder iddo a'i amgylchiadau 
cyfrînachol ei hun, ac arno rhoddai ei feddwl ddydd a nos. Ar amgylch- 
iadau eraill hefyd dangosai Mr. Propert y parodrwydd mwyaf i ystyried 
a chynnorthwyo unrhyw gynllun yn amcanu at wneud lles i'r cyhoedd 
yn gyflredinol, ac yn neillduol i'w gymrodorion yn y gelfyddyd feddygol. 
¥t oedd yn gyfaill diysgog ac yn attegydd y Medical Protectiok 
SöCIETY, at yr hon y cyfranodd lawer o arian o bryd i bryd, ac nid oedd 
nemawr achos cyhoeddus a chyfrinachol teilwng o gefnogaeth nad oedd ef 
yn gyfranydd haelionus tuag ato. Yr oedd Mr. Propert yn wladgarwr 
mewn gwirionedd. Ni throdd yr un Cymro erioed yn waglaw oddiwrth ei 
ddrws. Yn wir, yn ystod ei oes hirfaith, rhoes gynghor a meddyginiaeth 
yn rhad i gannoedd o'i wladwyr. Y eariad hwn at ei wlad a'i harwein- 
iodd i ymgymeryd âg anturiaethau i'r rhai na feddai yr un cymhwysder. 
Gwyddai nas gallai rhanau gwledig Cymru byth lwyddo heb ffyrdd haiam; 
a phan wnaed y cynnygiad i estyn Uinell i dref Aberteifi, taflodd ei-holl 
rym a'i ddylanwad o blaid y symudiad. Rhoddodd allan symiau mawrion 
oarian yn y llinell hon, sef un Caerfyrddin ao Aberteifi, ac oY diwedd 
daéth yn Gadeirydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr. Nid oes neb yn ammheu 
y 'dyben a'i cynhyrfai. Credai ei fod yn gwneud gwasanaeth i wlad ei 
eẁedigaéth, ac yr oedd ynbarodiwneud hyny, er colledu ei hun; canys er 
3^ holl bryder, y drafferth, a'r colledion a barodd hyny iddo, dywedai yn 
fynych y buasai wedi cael mwy na'i ad-dalu trwy weled y Uinell wedi ei 



175 

hagor i dref Aberteifl. Ond ni fu byw iV gweled wedi mwy na hanner ei 
gorphen. Bu farw Medi 8, 1867, wedi cyrhaeddyr oedran o 75 mlwyd4 

Rees, A. Rees, (Rhys Dyfed). Ganwyd y bardd ieuanc awenber Jrwn 
yn y flwyddyn 1837, o rieni parchus, yn Felinbrithdir, plwyf Penbryn. 
Goìlodd ei dad pan oedd tua saith mlwydd oed, a disgynodd ei ofal ef, yn 
ttghydag amryw frodyr a chwiorydd, ar fam dirion a synwyrgall. Mewli 
amser. dyladwy rhoddwyd ef yn egwyddorwas yn masnachdy Mr. John 
M. Jones, (Cunllo), Rhydlewis, lle y cafodd bob manteision ac annogaeth i 
gyrhaedd gwybodaeth. Oddiyno symudodd i Lynlleifìad, ac oddiyno 
drachefn i Lundain; ond dychwelodd adref yn wael ei iechyd. Gwell- 
haodd ychydig wedi hyn, ond ni ddaeth o gwbl yn gryf. Treuliodd y 
pum' mlynedd diweddaf o'i fywyd yn sefydliad Mr. Jones, ac ennillodd 
ymddiried a pharch pawb yr ymwnelai â hwy. Tua dechreu y flwyddyn 
1866, gwelid yn amlwg fod ei ieçhyd yn gwaethygu, yr hyn oedd yn achos 
o bryder mawr iV luaws cyfeillion. Yr oedd ar yr un pryd yn alluog i 
fod ar ei draed hyd nes tòrodd ei waed, yr hyn gymerodd le yn hwyr y 
30ain o Fehefin, y flwyddyn uchod; ac er gwaethaf holl ymdrechion y 
meddygon a weinyddent iddo, bu farw yn mhen yr wythnos, sef Gorphen- 
af 8fed, 1866, yn 29 mlwydd oed. Gyda golwg ar ei gymeriad fel dyn, 
sylwa un oedd yn ei adnabod yn dda; — "Nid ydym yn meddwl i un ájn 
erioed, ag oedd ganddo i ymwneud â chynnifer o gymeriadau gwahanol, 
roddi boddlonrwydd mwy cyffredinol yn y sefyllfa ymddiriedus ag oedd 
ynddi. Perchid ef yn fawr gan wreng a bonedd, ac yr oedd yr hyder 
mwyaf gan bawb ynddo. Dangoswyd hyn, i raddau anghyfíredin, yn 
amser ei gystudd, ac ar ddydd ei gladdedigaeth. Yr oedd ei angladd j 
mwyafawelwyd yn y gymydogaeth er's mwy na deugain mlynedd, ac 
yr oedd delw galar yn amlygedig ar bob gwyneb." Rhoddwyd ei r^pt 
farwol i orphwys yn mynwent dawel Llangynllo. Fel bardd, meddai 
ddullwedd a meddylddrychau ag oeddynt yn neillduol iddo ei hun; ac ni 
wyddom am neb tebycach iddo, na'r awenyddol Gwenffrwd. Yr oedd ei 
ddarfelydd a'i chwaeth yn mhell uwchlaw y cyffredin. Nid barddoniaeth 
iselryw ydoedd ei eiddo ef. Gallai anadlu iV linellau y fath swyn ag 
oedd yn hollol anwrthwynebadwy; ac fel y sylwa un, "Ni ddaeth yr un 
linell wael, a braidd na allwn ddweyd yr un gyffredin chwaith, o'i law 
erioed. Ni chyfarfyddais âg un erioed a'i awen yn fy ngorohfygu yn lan, 
ond efe. Yr oedd ei holl gyfansoddiadau megys pe wedi derbyn eneiniad 
ysbrydoliaeth, ac yn dyferu gan wlith Helicon. Medrai roddi llam i lys 
yr angel, a darlunio ysgogiadau melltenol y seraph, ac ymrodiai yn 
nghwmni y cerub hyd wyn feusydd paradwys Duw. Deuai i lawr wedi 
hyny i ymerodraeth anian, ac ymddifyrai yn mhlith y blodau, y rhai a 
ddyferent eu mel megys ar ei ganiadau. Ah! dyma lle yr oedd llygad yn 



176 

gwelöd auían, a chalon i deimlo anian, a glewder a feiddiai gydfyneol âg 
anian." Cyfansoddodd lawer iawn yn ei oes fèr; ac ychydig cyn ei farw- 
olaeth, bwriadai gyhoeddi cyfrol fechan o'i weithiau. Nid llawer a 
gystadlodd mewn eisteddfodau; ond ar yr un pryd, ennillodd amryw 
wobrwyon pwysig. Yn Eisteddfod Whitland, yr oedd yn gydf uddugol â 
Glan Cunllb ar y prif destun, sef, " Llewelyn y üy w olaf ? ac efe a 
ennillodd y wobr am y "Farwnad i Carn Ingli," yn Eisteddfod Genedl- 
aethol Llandudno, am yr hon y derbyniodd ddeg punt a thlws. Yr 
ymdrechfa lenyddol olaf o'i eiddo ydoedd ar gyfer Eisteddfod Aberteifi, 
sef ar y testun, " Marwnad i'r Parch. H. J. Yincent, Llandudoch." Ond 
cyn cael gwybod tynged ei gyfansoddiad, yr oedd y bardd ieuanc ath- 
rylithgar, Rhys Dyfed, wedi canu yn iach i holl ofidiau a helyntion y byd 
drwg presenol, ac wedi cyrhaedd gororau y wlad hòno lle na ddywed un 
o'i phreswylwyr, " Claf ydwy£ M 

"Rhy§ Dyfed, tra rhed dw'r, tra rhodío — tir 
Ei wlad hen, wna Cymro; 
Ei ddawn a'i alluoedd o, 
Fyddant yn íaen cof iddo." — Ioan Conllo. 

Williàms, Rhys, (Manod Wyllt), oedd fab Dafydd ac Elizabeth 
Williams, Hendref, Blaenpenal. Ganwyd ef ar y 14eg o Ebrill, 1841, 
ac yr oedd yn un o ddau efaill. Gan ei fod yn gorfod gweithio ar y fferm 
gyda'i dad pan oedd yn bur ieuanc, ni chafodd ond ychydig ysgoL 
Er yn blentyn yr oedd yn nodedig am hawddgarwch ei deimladau, a'î 
fwyneidd-dra, ac fel y cyfryw hoffid ef yn fawr gan ei gydysgolheigion, 
Dechreuodd ddangos tuedd at brydyddu pan tua phymtheg oed, a chyfen- 
soddai lawer o bennillion er difyru ei gydweithwyr. Yn fuan ar ol hyn, 
sefydlwyd cymdeithas lenyddol yn Mlaenpenal, ac yn y cyfarfod cyntaf 
daeth yntau allan yn fuddugwr. Tua'r amser yma y mabwysiadodd yr 
enw "Manod Wyllt," a hyny oddiwrth Lyn y Fanod, yr hwn sydd yn 
agos i'r fan y cafodd ei eni. Er ei fod o hyd yn dilyn ei waith yn gyson, 
byddai yn cyfansoddi llawer iawn ar gyfer gwahanol gyfarfodydd llenydd- 
ol y gymydogaeth, yn y rhai y byddai bron yn ddieithriad yn llwyddian- 
nus ar ryw destun neu gilydd ; ond yn Eisteddfod Genedlaethol Aber- 
ystwyth yr enwogodd efe ei hunan fwyaf, ac y tynodd sylw cyffredinol ei 
gydwladwyr llenyddol, y rhai agoleddent feddyliau uchel iawn am dano, yn 
nghyda dysgwyliadau mawr am enwogrwydd mwy yn ei aros yn y dyfodoL 
Yr oedd Manod Wyllt, nid yn unigyn fardd rhagorol, ond hefyd yn areith- 
iwr gwych, ac yn meddu ar bob cymhwysder i fod yn siaradwr cyhoeddus. 
Pan yn areithio yn yr Eisteddfodau a manau eraill, yr oedd yn cael ei 
lyncu i fyny yn llwyr gan ei bwnc — yr oedd ei lygaid duon megys yn 
fflachio, ei drwyu o ffurf Rufeinig, ei wallt du fel y fran, a'i farf laes o'r 



177 

un lliw, yn ei wneud yn rhyfeddol o brydferth a mawreddog. Yr oedd 
yr hen Gymraeg yn disgyn o'i enau fel rhaiadr tryloew, ac yr oedd ei 
bwyslais priodol fel adsain yr "uchel gadr" gyda'r awel, yn synu y 
gwrandawyr. Pe buasai yn cael oes gyflredin, buasai yn sicr o ddyfod 
yn un o brif areithwyr ei wlacL Cafodd ei ddwyn i fyny o'i febyd yn y 
gymdeithas grefyddol yn Mlaenpenal, a phan yn ddeunaw oed cafodd ei 
dderbyn yn aelod cyflawn, a phrofodd ei hun yn ddefnyddiol iawn yn y 
cylch hwn, Fel y sylwa y Parch. J. Evans, yn y Gylchgrawn — " Yr 
oedd yn ddyn mawr yn yr Eisteddfod, ac yn fawr hefyd yn yr Ysgol 
Sabbathol, yn yr hon y dewiswyd ef yn arolygwr; a dywedir ei fod bron 
yn bob peth a ddymunid fel y cyfryw. Yr oedd yn fawr yn y cyfarfod 
ììenyddol, ac yr oedd yr un mor fawr, ps nid mwy, yn y cyfarfod gweddi. 
Kid oedd byth yn esgeuluso hwnw, os byddai yn ei allu i'w gael. Ym- 
gymysgai â'r hen frodyr a'r chwiorydd yn y capel ac yn y tai, gan gymer- 
yd rhan gyhoeddus yn y gwaith, a hyny er yn ieuanc iawn." Ond tra 
yr oedd ei wlad yn dysgwyl pethau mawr oddiwrtho fel bardd a Christ- 
ion, gwelid yn amlwg fod ei iechyd yn dadfeilio yn gyflym; ac erbyn 
gwanwyn 1 866, yr oedd wedi gwaethygu yn fawr dan bwys arteithiau 
Ùymion ei glefyd poenus. Yn mis Mai, yn nghanol ei gystudd blÌlH 
cyfansoddodd yr englynion rhagorol a ganlyn : — 

Annyddan yw ry nyddiau — a niwlog 
Gan alaeth a phoenau; 
A'm haul o dan gymylau— 
Y nos hir sydd yn neshau. 

^ywyllwch %j 'n mantellu— f y oriau, 
Oferedd yw gwadu; 
Ow! ataf hebarafu 
Nesaodd hwyr y nos ddu. 

Dan feichiau 'n dwyn afiechyd— a phoen, 
Dyna ffyidd fjr mywyd; 
Tn ochain heb fawr iechyd, 
Er fy aeth,yr wyf o hyd. 

Duw Ior, 0! bydd yn dirion— o honof, 
Er anwir ddrwg galon; 
Yn nw'r llwyd fy nhrallodion, 
Da yw nawdd dy aden Ion r 

Dyoddefai boen angerddol yn ei amser olaf— cymaint feUy, fel y dymunai 
yn fynych gael ei ollwng o hono; etto dyoddeíai y cyían yn hynod ddi- 
rwgnach, a thystiai ei fod yn berffaith foddlon i ewyllys ei Dad. 
Casglwyd yn nghyd ei gyfansoddiodau barddonol, a chyhoeddwyd hwy 
yn llyfryn destlus y flwyddyn diweddaf, a deallwn fod yr oll wedi eu 



178 

gWerthú inewn ychŷdig amser, ac fod galwad etto am ail argraffiad o'r 
gẅáîth. Céir ynddo hefyd, fywgraffiad cryno o'r awdwr, i'r hwn yt 
ỳáÿm ÿh ddyledha äth ddefhyddiatL hyn o gofiant 

M Ni chafodd ond byr chwynaw— «r edyn 

Anrhydedd nes teimlaw 
Ei enaid fry yn unaw, 
A chor di rif yr ochr draw. 

Aethost, etto dy weithiau — arotant 
. Tn drysor i'r oesau; 
Síae áy fad ber ganiadau, 
ÔÚ yn wtn i'n llawenhau." 



LIST OF SUBSCËIBERS. 



Alban, Mr. Ëvan, B. A., Grammar School, New 

Quay 
^Adban, Mr. J. P., St. David's College, Lampeter 
Alban, Mr. John, Mason's Row, Aberaeron 
Apmadoc, Mr. W., Maesteg 
Attwood, J., Esq., Solicitor, Aberystwyth 
Beynon, Miss Mary, Pèncwm, Llanarth 
Bowen, Mr. D. G., St. David's College, Lampeter 
Bowen, Miss Mary, Gogerddan 
Bowen, Rev. J., Penlan, Ystrad, 2 copies 
Davies, Mr. David, Relieving Officer, Llanárth 
Davies, Mr. David, Dolwen, Lampeter 
Dayies, Mr. David, Ffospilcorn, Llanrhystyd 
Davies, Mr. David, Ystrad House, Ystrad 
Dayies, Mr. T., Builder, Aberystwyth 
Davies, Mr. David, Wenallt, Llangeitho 
Davies, Mr. D., Grocer, Alban Sq. Aberaeron 
Davies, Mr. David, Llyswen, Aberaeron 
Davies, Mr. David, (Olan Cunllo), (dec.) Uan- 

gadock, é copies 
Davies, Mr. D. H., C.M., British School, Penmor- 

fa, 4 copies 
Davies, Mr. David, Merthyr Tydvü 
Davies, Rev. D., Gelligaer, Rumney 
Davies, Rev. D. C, M.A., London 
Davies, Mrs., Golden Grove Arms, Llandybie 
Dâvies, Mr. ]5avid Jacob, Ffynnonhywel, Llan- 
t rhystyd 
Davies, Mr. David, Schoolmaster, Cross Ihn 
Dayies, Rev. David, Bethania 
Davies, Mr. D. J., Alban Square, Aberaeron 
Davies, Capt. Benjamin, Aberaeron 
Daries, Mr. Evan, P. O., do. 
Davies, Mr. Evan, Schoolmaster, New Quay 
Davies, Mr. E. T., St. David's College, Lampeter 
Daries, Mr. Edward Lee, Aberaeron 
í)avies, Mr. Evan, Penlon, Llanarth 
Davies, Mr. Evan, Carpenter, Llannon 
Davies, Rev. Griffith, Aberystwyth 
Davies, Mr. H. B., (Eryr Olyn Coíhi), Llaneg- 

wad, 6 copies 
Davies, Mr. H.D., Woollen Manufactuier, Cardi- 

gan 
Davies, Mr. Jenkin, Gorswen, Líanbadarn-tref- 

eglwys 
Davies, Mr. John, Grocer, Bethania 
Dávies, Mr. John, Ysguborfach, Llanbadarn- 

tref-eglwys 
Davies, J., Esq., Ffosrhiwgalod, Aberystwyfh 
Davies, Master Morri», do. 4 . do. 

Davies, Mr. John, London House, Aberaeron 
Davies, Mr. JenTrin, Llyswen, do 

Daries, Mr. Jenkin, Tailor, do. 

Davies, Mr. John, Bont, do. 

Davies, Mr. J. H., Taiíor, do. .. 

Davies, Mr. J^ Printer, Brynmawr, copiés 
Davies, Mr. John, Carpenter, LÌanarth 
Davies, Mr. James, Golden Key, Uandeilo 
Davies, Mr. J. R., Printer, Newcastle Emlyn 
Davies, Mr. J. L., Emlyn Arms, do. 
Daries, Mr. Jenldn, Printer, Lampeter 



Davies, Rev. J., M.A., Llanychaiarn 
Davies, J. M., Esq., Antaron, Aberystwyth 
Davies, Mr. John, Foundry, Aberystwyth 
Davies, Mr. John, Boot & Shoemaker, Pennant 
Davies, Mr.John, 27 Whiskin Street, ClerkenweH, 

London • 

Davies, Mr. John, Edwinsford Arms, Talley 
D*vies, Mr. John Rees, Tailor, Ffosyffîn, After- 

aeron 
Dävies, Mr. Richard, Shop, Lledrod 
Davies, Mr. Richard, Neuadd, do. " 
Davies, Mr. Thomas, Pantteg, Aberaeron 
Davies, Mr. Thomas W., Pontrhydygroes 
Davies, Mr. Thomas, Frongoch 
Davies, Mr. T. J. f Chemist, Llandeilo 
Davies, Mr. Thomas, Henllan 
Davies, Mr. Thomas, Smith, Swyddfrynnon 
Davies, Mr. Thomas, Brynrheidiol, Aberystwyth 
Davies, Mr. T. H., Draper, do 

Davies, Rev. Thomas, Llandeüo 
Davies, Mr. Thomas, London HonSe, Aberaeròn 
Davies, Mr. Thomas, Buüder, flo. 

Davies, Rev. Thomas, M.A., Dihewíd 
Davies, Mr. T., (Glan Melinddtor), Llansawal 
Davies, Capt. Rees, North Road, Aberaeron 
Davies, Mr. Robert, Park Terrace, UpperBangor 
Daties, Mr. R.*Glanwern,Mountain Ash, 2 coples 
Davies, Rev. Öctavins, B A..,Curate, AberystwyÖi 
Davies, Mr. Morris, TTpper Bangor 
Davies, Yalentine, Esq., Carmarthen 
Davies, Mr. William, Queen Street, do. 
Davies, Mr. William, Shoemaker, Llandybie 
Davies, Mr. W. S., Draper,Ystrad, Vale of Aeron 
Davies, Mr. William, Shoemaker, Regent St., 

Aberaeron 
Davies, Rev. William, Capel Mair, Cardigan 
Davies, Mr. Owen, (Eoa Llechid), Llanttechîd 
Daris, Rev. J., B.D., (Jtywel),Vicar of Llanhywel 

ÄDyfed 
Edmunds, Rev. William, The Grammar ScHoól* 

Lampeter 
Edwards, Rev. D., Penrhyncoch 
Edwardes, Rev. D., The College, Hiirstfríerpóint 
Edwardes, Mrs., Bryn Har, Llanilar 
Edwards, Rev. 0. S.,Cwmbran, Newport, 2 còpies 
Edwards,Mr.B., Staticner, Aberystwyth, 6 copîea 
Idwards, Mr. E., (Áb Myrddin), Aberystwyfih 
Edwards, Rev. M., Keysoe Beds 
Edwards, Rev. W. O., B.D., Aberaôròn 
Edwards, Rev. X. W., Rhiwabon 
Edwards, Thomâs, Esq., Merchant, Cardígan 
Edwards, Mr. B., St. David's Collëge, Lampete* 
Edwards, Mr. Thomas, Bargoed, Llanárth 
Egwisyn, Aberystwyth 

Elias, Mr. Elias, P. O. Fignre Four, AbeTyséwyth 
Elias, Mr. T. T., Newcastle Emlyn 
Ellis, Mr. Thomas, 0. M., N. School, AbergwÜi 
ElEs, Mr. Griffîth, Släte Works â Aberystwyth 
Evani, Mr. A. Boókseller, Machynlleth, 6 copies 
Evans, Mr. John, Monachty'Arms, Aberáeron 
Evans, Capt T. J < *PriuceCadwgan t u do. 



180 



LIST OF SUBSCBIBEBS. 



Evass, Mr. Alcwyn 0., Carmarthen 
Erans, B., Esq., Solicitor, Newcastle Emlyn 
Erans, Mr. David, Tanner, Aberaeron 
Evans, Mr. David, Penrhiwdrych, Ab«raeran 
Erans, David, Esq. t Frondolay, New Quay 
Brans, Ber. David, Elim, (deo.) 
EvanB, Mr. D. M., Lammas Street, Oarmarthen 
Erans, Bev. D. 8ilvan, Llanymawddy, 2 oopies 
Evan8, Mr. David, Merchant, Aberaeron 
Erans, Mr. D., P. O., Aberystwyth 
Bvans, Ber. D. M , Salem, Llandeilo Fawr 
Erans, Mr. D., (Dewi Dawel), Cwmdu, Talley 
vans, Bev. D., Penarth, Llanfair, Welshpool 
vanfl, Mr. D., Merthyr 
Brans, Mr. D., (Dewi Bhystyd), Pengaer, Llan- 

rhystyd 
Erans, Mr. David, New Row, Frongoch 
Erans, Mr. David, Henbant, Lledrod 
Evans, Bev. D , Wesleyan Minister, Lampeter 
Evans, Mr. David, Ironmonger, Lampeter 
Evans, Mr. David, Mason, Aberaeron 
Bvans, Capt. David. •' Aeron Belle," Aberaeron 
Erans, Mr. David, Mason, Llannon 
Evans, Mr. David, Mynachty, Aberaeron 
Evans, Mr. David, Drefasisaf, Bethania 
Evans, Mr. David, Pantwhilog, Llannon 
Evans, Mr. D. B., Ironmonger, Aberaeron 
Evans, Oapt. J , " Edith May," do. 
Evans, Mr. E., P. O., Bow Street, Aberystwyth, 

9 copies 
. Evans, Rev. E., Llangeitho 
Evans, Mr. E. Lloyd. Jack Arms, Aberaeron 
Evans, Mr. Evan, Penybont, TJMiofiyì 
Evans, Rev. E., Llangwyryfon 
Erans, Mr. E., Greigwen, Penuwch 
Evans, Mr. Evan, Gambia, Aberaeron 
Erans, Rev. Francis, Ulyerstone 
Evans, Mr. J., Schoolmaster, Llansawel 
Erans, Mr. J. T., Bristol Honse, Aberaeron 
Evans, Mrs., North Road, Aberaeron 
Evans, Ber. J. P., Efenechtyd, Ruthin 
Erans, J. N., Esq., Pengarreg, Aberaeron 
Evans, Mr. J. D., Cüfforch, Aberaeron 
Evans, Mr. J. D., 62 St. Martin's Lane, London 
Erans, Mr. J., Chemist, Llandyssul 
Evans,Mr. J., Salutation Hotel^Newcastle Emlyn 
Evans, Mr., Black Lion Inn, Pontihydfendigaid 
Evans, Rev. Jobn, Talybont, 6 copiee 
Evans, Mr. X, Chemist, New Quay 
Erans, J. M., Esq., Surgeon, Llanrhystyd 
Evans, Mr. J., Draper, Talybont 
Evans, Mr. J. W., Medical HalL Lampeter 
Evans, Mr. J., Bancrhydd, Frongoch 
Erans, Mr. John, Pontrhydygroes 
Evans, Mr. John, T/nllan, LJedrod 
Evans, Ber. J., Abermeurig, Talsarn 
Evmns, Mr. John, (Sos Aeron), Llannon 
Evans, Mr. John, Perthrhys, Llanychaiarn 
Erans, Mr. J., Auctioneer, Rhydfechan, Llanarth 
Erans, Mr. Griffith, Llainbedwfach, Uanarth 
Evans, Mr. John, Water Street, Aberaeron 
Erans, Mr. Morgan, Oakf ord, Aberaeron 
Erans, Mr. Morgan, Chancery, A berystwyth 
Evans, Mr. T., Penralltwen, Aberarth 
Erans, Mr. T. M., Owmdn, Talley 



Evans, Rev. Thomas, Llanddewi Aberarth 

Evans, Mr. T. T., (Lluettwr), Aberarth 

Evans, Rev. T., Llanrhystyd 

Evans, Mr. T., Draper, Newcastle Emlyn 

Evans,Capt.Thomas,"Catherine Ann.' , Aberaeron 

Evans, Mr. Thomas, LlyBwen, Aberaeron 

Evans, Mr. Thomas, Swan, Talley 

Evans, Mr. Thomas, Cwmcefnooed, Llanarth 

Bvans, Mr. Samnel, Boad Surveyor, Llanrhystyd 

Evans, Mr. Samnel, Frongoch 

Evans, Rev. Rees, Llandybie 

Evans, Rev.LewiB, M.A., TBtradmeurig, icopies 

Evans, Mr. William, Merchant, Aberaeron 

Evans, Mr. William, Cenarth 

Evans, Rev. W. t Llangybi 

Evans, Mr. W., New Bow, Frongoch 

Evans, Mr. William, Tailor, LUndybie 

Evans, Mr. W., Police Sergeant, Aberaeron 

Evans, Mr William, Penlan, Llannon 

Evans, Rev. WiUiam, Aberaeron 

Evans, Mr. William, Tregynan, Llanrhystyd 

Evans, Rev. William, Curate, Swansea 

Evans, Mr. William, Ffospilcorn, Llanrhystyd 

Evans, Miss, Parjmeuadd, Aberaeron 

Evans, Miss Catherine, Wern, Aberarth 

Felii, Rev. J., Lledrod 

Fouüces, Mr. W., Grocer, Clwtybont, Carnarvon, 

12 copies 
Francis, Rev. David, B.A., Ourate, Aberaeron 
George, Mr., Scripture Reader, Camarron 
George, W. G., Esq., Soücitor, Cardigan 
Green,Rev.W.,B.D ,Pontyrhun,Merthyr,2 copies 
Griffiths, Mr. David, Saddler, Cardigan 
Griffiths, Mr. David, Schoolmaster, Aberaeron 
Griffithfl, Mr. David, CefngwyddiL New Quay 
Grifflths, Rev. D., Curate, Llandeüo 
Griffiths, Mr. DanieL Cenarth 
Griffiths, Rev. G., Maohynlleth 
Griffiths, Mr. J., (Gohebydd) 
Griffitbs, Rev. J., Bector of Neath, 2 copies 
Griffiths, Rev. J. B. D., Yicar of Llandeilo 
Griffiths, Rev. J. O., Baptist Minister, UandeUo 
Griffithfl, Mr. J., Writer, TaUey 
Grifflths, Mr. John, Merchant, Aberaeron 
Griffiths, Mr. Thomas, Bwlchygraig, Lledrod 
Griffiths, Mr. Thomas, Grocer, Aberystwyth 
Griffiths, Mr. T. Cnnllo, Newcastle Emlyn 
Griffiths, Mr. T., Nanteos Lodge, Aberystwyth 
Grifflths, Mr. W., Chemist, Aberaeron 
Griffiths, Mr. W., Hermon House, Fishguard 
Griffiths, Mr. J. Lloyd, Aberystwyth 
Gwynne, W. Onst, Esq.,M J).,Mynachty, 2 copiet 
Harries, Mr. Daniel, Black Lion, Llansawel 
Harries, Mr. D., (Gaeromoy), Llandeilo 
Harries, Mr. David, Llyswen Miìl, Aberaeron 
Harries, Mr. John, Harbour Tavern, Aberaeron 
Harries, Mr. William, Llanycrwys 
Henry, Rev. D., Penygroes, Llandeilo 
Herbert, Mr. Thomas, Pontrhydfendigaid 
Herbert, Rev. D. W., M. A., Bector of Tremaen, 

2 oopies 
Herbert, Ber. W., Llansantffraid 
Herbert, Mr. W., Llanflhangel-geneu'r-glyn 
Hnghes, Mr. B., Jronmon^er, AberyBtwyth 
Hughes, John, Esq.,Lluestgwilym, Aberystwyth 



■i 



LIST OF SUBSCRIBER9, 



181 



Hughes, Mr. Henry, Ty'nbeili, Llanrhystyd 
Hughes, T. J., Esq., GastellDu, Lampeter 
Hughes, Rev. T. J., Chaplain of County Gaol, 

Montgomery, 2 copies 
Hughes, Rev. J., Myrtle Hill, Llandeilo 
Hughes, Rev. J., B.D., Welsh Professor at St. 

David's College, Lampeter, 2 oopies 
Hughes, Rev. R., M.A., Inoumbent of St. 

Catherine's, Edge Hill, Liyerpool 
Hughes, J., Esq., Park Neuadd, Aberaeron 
Hughes, Mrs. C, Prince of Ẁales Inn, dö. 
Hughes, Mrs., North Road, do. 

Hughes, Mr. W., Printer, Dolgelley, 12 oopies 
Humphreys, Rev. Lewis, Dolgelley 
Isẁac, Rev. David Lloyd, Llangathen 
Isaac, Mr* Lly welyn, Moulder, Aberystwyth 
Jackson, Mr. John, C.M., Llandybie 
James, Mr. Charles,' New Street, Aberýstwyth 
James, Mr. Daniel, Builder, Aberaeron 
James, Mr. D., Draper, Llandyssul 
James, Rev. David, (DewioDdyfed), M A., P.S.A., 

Pantteg 
James, Rev. D. Lloyd, Pontrobert, Welshpool 
James, Mr. Evan, (Alaw Padarn), New Oross 
James, Mr. Evan, Ty'nyparc, Llanarth 
James, Rev. H. Gwerfyl, Baptist Minister, Mold 
James, Rev. J., (lago Emlyn), Olifton 
James, Rev. James, Yicar of Llanbadarn-tref- 

eglwys 
James, Mr. James, Pentremawr, Llanrhystyd 
James, Jumes, Esq., Surgeon, Aberaeron 
James, Mr. Jenlrin, Penrhiw, Aherarth 
James, Mr. Levi, Ironmonger, Cardigan 
James, Mr. John, Gilcert, Hen Fynyw 
James, Rev. T. E., Baptist Minister, Glyn 

Neath, 4 copies 
James, Rev. T., M.A., Llandyssul 
James, T. Jones, Esq., Surgeon, Aberaeron 
James, Rev. T., (Llallawg), F. S. A., F. G. H. S., 

Netherthong, Huddersfield 
James, Mr. Wm , Manchester House, New Quay 
James, Mr. Daniel, Schoolmaster, Cilcenin 
James. Mr. James, Prinoess Road, Aberaeron 
JameB, Mr. J , C.M , N. School, Aberaeron 
Jenldns, Mr. Wm., (Owilym Gwenog), Llanwenog 
Jenkins, Mr. D , Tyglynuchaf, Vale of Aeron 
Jenkins, Rev. D. R., Millbank Cottage, Llan- 

llwch, 2 copies 
Jenkins, Mr. David, Carpenter, Frongoch 
Jenldns, Mr. David, Printer, Aberystwyth 
Jenkins, E. P., Esq., Blaencyswch, Llangybi 
Jenldns, Mr. Evan, Nantgwyllt, Talsarn 
Jenkins, Mr. John, New Row, Frongoch 
Jenkins, Mr. John, C.M., Nantglyn 
Jenkins, Mr. Lewis, North Road, Aberaeron 
JenMns, R. D., Esq., Pantirion, Cardigan, 

2 copies 
Jenkms, Mr. Richard, Foundry, Aberystwyth 
Jenkins, Mr. Thomas, Llanddewi Aberarth 
Jenkins, Mr. D,, Oarpenter, Pontrhydfendigaid 
JenMns, Mr. P. R., Auctioneer, &c, Llangeitho 
JenkinSv Mr. J., (Aeronian), Talsarn 
Johns, Rev. D., Ebenezer, Carnarron 
Jones. Mr. Daniel, Tanyffordd, Llanfairfechan, 

12 copies 



Jones, Mr. Daniel, Tnyshir, Áberfterón 
Jones, Mr. Ûaniel, Llwynteg, Llannon 
Jones, Mr. Daniei, Oowbridge 
Jones, Mr. Daniel, Monnt Pieasant, Llannoü 
Jones, Mr. D. D., Draper, do. 

Jones, Mr. Daniel, T/nlon, Swyddffynnon 
Jones, Daniel, Esq., Agent, Mynachty Yilla, 

Aberaeron 
Jones, Mr. David, Pengraig Vüla, Llanrhystyd 
Jones, Mr. David, Capel Bettws 
Jones, Mr. David, Cefnfaes, do. 
Jones, Rev. D., Blackwood, New Tredegar 
Jones, Mr. D. E., Schoolmaster, Llandyssul 
Jones, Mr. D. W., Stationer, Llindeilo 
Jones, Mr. David, Cefnwig, Aberaeron 
Jones, Mr. David, Winllan, Aberarth 
Jones, Mr. David, 33 North Parade, Aberystwyth 
Jones, Mr. D., Wine & Spirit Merchant, Aber- 

aeron 
Joses, Mr. David, Uanbadarn Fawr 
Jones, Rev. David, Ty*nclawdd, Swyddffynnon 
Jones, Mr. David, Dolau Bach, Llangeitho 
Jones, Mr. David, Penlan, Llanrhystyd 
Jones, Rev. D. L , M.A., Gwyddelwern, Corwen 
Jones, Rev. D. J., Vicarage, Llanarth 
Jones, Mr. Evan, Oernant, Llanarth 
Jones, Mr. Evan, Timber Merchant, Dyffryn 

Arth 
Jones, Édward,Esq.,B.A., Prospect House, Aber- 

ystwyth 
Jones, Edward, Esq., B.A., Hibernian Sohools, 

Liverpool 
Jones, Mr. Evan, Llangeitho 
Jones, Mr. Evan, Cribyn 
Jones, Rev. Evan, Tyglyn 
Jones, Rev. Evan, Llwyncelyn, Aberaeron 
Jones, E. B., Esq., Carmarthen 
Jones, Mr. Evan, Victoria, Aberaeron 
Jones, Mr. Evan, Painter, do. 
Jones, Rev E , Baptist Minister, Ruthin 
Jones, Rev. E. A. (Edcyrn), Brynmawr 
Jones, Edward, Esq., Pencwm, Llanrhystyd 
Jones, Rev. H. W., Baptist Minister, Carmarthan 
Jones, Mr. Grifflth, Printer, Llandeilo 
Jones, Mr. Herbert, Tailor. Oakford, Aberaeron 
Jones, Mr. Hnmphrey, Rock Terrace, do. 
Jones, Mr. John, Quay Parade, do. 

Jones. Mr. John H , Draper, do. 

Jones, Mr. John, Harbour Lane, do. 

Jones. Mr. John, Stationer, do. 6 copiet 

Jones, Mr. John, Hafodfawr, Dyffryn Arth 
Jones, Mr. John. Llain, New Quay 
Jones.Mr. Jenkin, Penlanlas, Oilcenin 
Jones, Rev. Jenldn, Llannon 
Jones. Mr. John, Winllan, Aberarth 
Jones, Mr. John. (Ifon), Aberystwyth 
Jones, Mr. John, Bridge End, do. 
Jpnes, Mr. John P., Bellhanger, do. 
Jones, Rev. J., B. A., Curate, do. 
Jones, Mr. J. R., Talbot Inn, do. 
Jones, Rev. John, R. D., Llanfihangel-geneu'r- 

glyn 
Jones, Rev Josiah, Machynlleth 
Jones, Rev. J. F , B. A., do. 
Jones, Rev J., Llanbadarn F-awr 



182 



LIST OF SUBSCRIBERS. 



Jones, Mr. John, (Äwyrydd), Trereca College 

Jones, Mr. Juhn, Lampeter 

Jones, Mr. J. D., Penrallt. Aberarth 

Jones, Mr J. J., Auctioneer, Rhydygof, Lampeter 

Jones. Mr. J., Draper, Llanarth 

Jones, Mr. J., Llaethliw, Aberaeron 

Jones, Rev. J , (Idrùyn) Llandysüiogogo 

Jonee, Mr J., Sailmaker. New Quay 

Jones. Mr. J.. St- Bees College 

Jones, Mr John. Mydnm 

Jones. Capt. J ,, Xanthippe." Aberaeron 

Jones. Capt J , Blaenhaul. do. 

Jones. Mr. John, Rhandir Llanwnen 

Jones, Mr. John. Anvil Hall, Frongoch 

Jones. Rev. John, Llangiwc 

Jones, Rev John. New Quay 

Jones. Mr. J., (Ioan Ddewr) 15 Castle St, Tre- 

degar 
Jones, Rev. J. M., Caerhan, Conway 
Jones. Mr. J. D., A. R. C. P. ( Clwyd Bank 

School, Ruthin 
Jones. Rev John. Blaenanerch 
Jones. Mr. John D., Commercial Traveller, Aber- 

aeron 
Jones. Mr. John. Felin Synod, Llanarth 
Jones. Mr. J. P. O . Llanilar 
Jones, Rev. J. Francis, YstradflBn 
Jones. Rev. J., Llansadwrn 
Jones. Mr. John. Smith, Aberaeron 
Jones. J Esq.. Solicitor. Llandyssul 
Jones, Mr. J., Wine& Spirit Merchant, Newoastle 

Emlyn 
Jones. Rev J. P., Newcastle Einlyn 
Jones. J. M.. Esq.. (Cunllo) Rhydlewis. do. 
Jones, Mr. J. D , Hawen Hall, do. 

Jones. Rev Henry, Llangynllo 
Jones, Miss Mary. Erw, Cilie Aeron 
Jones, Mr Morgan. Glanhaul. Llanafan 
Jones. Mr Lewis. Post Office. Cardigan 
Jones, Mr Robert. Black Lion Inn. Ystrad 
Jones, Mr Richard. 13 Terrace. Aborystwyth 
Jones. Mr Richard. 10 Terrace, do. 

Jones. Mr. Richard. Llanddoget. Llanrwst 
Jones. Mr. R. T.. Glasgow University 
Jones. Mr. Stephen, Winllan. Aberarth 
Jones, Mr Thomas. Auctioneer. Penuwch 
Jones. Mr. Richard. Caerfiynnon, Ysbytty 
Jones, Mr. Thomas. Castle Green. Aberaeron 
Jones. Mr. Thomas. Cambrian Inn. do. 
Jones, Mr. Robert. (Ádda Fras) . Aberystwyth 
Jones, Mr. Morgan. Castle Green. Llansawel 
Jones, Mr. Thomas, Ivy Bush, Lampeter 
Jones, Rev. Thomas, Cilcenin 
Jones, Mr. Thomas, Swan, Llansawel 
Jones, T., Esq., Surgeon, New Quay, 2 copies 
Jones, Mr. T., Tailor, Llanarthney 
Jones, Rev. M. D., Bala 

Jones, Rev. T. Solby, Trewen, Newcastle Emlyn 
Jones, Mr. T., Castellmynach, 7 copies 
Jones, Rev. Thomas, Curate, Lland\ ssul 
Jones, Mr. T., Draper, Newcastle Emlyn 
Jones, Mr. Thomas, Dre'newydd, Aberaeron 
Jones, Mr. Timothy, Pantteg, Aberaeron 
Jones, Mr. T., Dolfrydi, Ystrad 
Jones, Mr. Timothy, Rhiwen, Cross Inn 



Jones, Rer.Thomas, Ty'nygwndwn, Ystrad 

Jones, Mr. T. D., St. David's College, Lampeter 

Jones, Mr. T. J., Terminus Hotel, Abtjrystwyth 

Jones, W. H., Esq.,-Teivi Castle, Lampeter 

Jones, William, Esq., Llwynygroes, do. 

Jones, Mr. William, King's Head, Llandeilo 

Jones, Rev. William, Aberystwyth 

Jones, Mr. William, (Gwiìym ab loan), Dowlais 

Jones, Mr. William, Hatter, Aberystwyth 

Jones, Rev. William, Cardipan 

Jones, Mr. W. J., St. Mary Street, do. 

Jones, Mr. Timothy, Wern, Aberarth 

Jones, Capt. D., " Star of Wales," Aberaeron 

Jones, Mr. John, Blaenyrescair, Caron 

Jones. Mr. I)avid. Clerk. Aberarth 

Jones. Mr.D..Carpenter. RockTerrace, Aberaero» 

Jones, Mr. Daniel. Factory Lane, Aberaeron 

Jones, Mr. David. Merchant, 9 Alban Sq., do. 

Jones. Rev. Evan. B.Ü.. Llanflhangel-ar-arth 

Jones. Mr. Enoch. Penwenallt, Aberarth 

Jones, T. Roose, Esq , Carmarthen 

Jones, Mr. David, Cefngaer, Aboraeron 

Joseph, Mr. W., Foundry, Cardigan 

Joseph, Joseph, Esq M F.S.A., Brecon 

Julian, Mr. W., Aberystwyth 

Lewis, Rev. D., M.A., Llandygwydd, 2 copies 

Lewis, Mr. D., (Dyianwr), Llanrhystyd 

Lewis, Mr. D. B., Newcastle Emlyn 

Lewis, Mr. Evan, Grocer, Lìanon 

Lewis, Mr. Evan, Glanrhyd, Pencareg 

Lewis, Mr. Evan, Yictona Inn, Aberaeron 

Lewis, Mr. David, Spring Gardens, Lampeter 

Lewis, John, Esq., ( Ioan Mynyw), Tregaron 

Lewis, Mr. John, Tanyparciau, Llanrhystyd 

Lewis, Mr. John, Pendre, Cardigan 

Lewis, Mr. John, Tyisaf, Llangeitho 

Lewis, Mr. John, ( Eos Ghjn Wyre) , Llanrhystyd 

Lewis, Mr. John, Pontweli, Llandyssul 

Lewis, Rev. Eran, B.A., Dolgelley, 2 copies 

Lewis, Rev. James, M.A., Llaniîar 

Lewis, Rev. Lewis, B.D., Llanfair, DyffrynClwyd 

Lewis, Mr. L. D., St. David's College, Lampeter 

Lewis, Mr. Lewis, Relieving Oíficer, Llanrhystyd 

Lewis, Mrs., Llanaeron 

Lewis, Mrs., Rhiwgoch, Llanrhystyd 

Lewis, Mr. L. W., ( Llew lAwyfo). Denbigh 

Lewis, Capt., "Eigen," Aberaeron • 

Lewis, Mrs., Wernddu, Llanbadarn-tref-eglwys 

Lowes, Col., Llanllur, Vale of Aeron 

Lewis, Col., Llysnewydd, Newcastle Emlyn 

Lewis, Mr. Thomas, Schoolmaster, Aberarth 

Lewis Mr. D., All)ion House. Aberaeron 

Lewis, Mr. John, Pentre, Aberarth 

Longcroft, C. R., Esq., Llanina, Llanarth 

Llanover, The Right Honourable Lady, Llan- 

over, 2 a pios 
Llewellyn, Mr. John, Shop, Cilcenin 
Lloyd, Mr. Ebenezer, Trefynor 
Lloyd, Mr. Hugh, üraper, Llanddewibrefl 
Lloyd, Rev. D. L., B.A., Dolgelley, 2 copies 
Lloyd, Mr. John, Llwynbedw, Llanarth 
Lloyd, Rev. J., Garnfach, Llanrhystyd 
Lloyd, Rev. Jacob, Llanafan 
Lloyd, Miss, North Parade, Aberystwyth 
Lloyd, Rev. D., Trefonen, Oswestry 



LIST OF S¥BSCRIBERS. 



183 



Lloyd, Mrs., Alban Cottage, Aberaeron 
Lloyd, Mr. Thomas, Cottago, Idangeitho 
Lloyd, William, Esq., Solicitor, Ruthin 
Lloyd, Mr. Thomas, Chandler, Aberaeron 
Lloyd, Mr. J.. Stonecutter & Engraver, Aberaeron 
Lloyd, Mr. W.. Parade. Aberaeron 
Maddie, Mrs., Dolayron, 2 copies 
Mathews, Bev. T., Borth, Aberystwyth, 
Mathews, J., Baq., Aherystwyth 
Morgan, Bev. Dayid, Ysbytty 
Morgan, Mr. D., (Oeitho), Llangeitîio 
Morgan, Mr. David, Foundry, Aberystwyth 
Morgana, Mr. D., Alltlwyd Farm, Llannon 
Morgans, Mr. D., Tea Dealer, Pontsaeson 
Morgana, Mr. Daniel, Felinfawr, Capel Bettwe 
Morgans, Mr. Ebenezer, Aberystwyth 
Morgans, Mr. E., 14 Great Darkgate Street, do. 
Morgans, Mr. E., Draper, do. 
Morgans, Mr. T., (TaUcein), Baker Street, do. 
Morgans, Mr. D., Parkrhydderch, Oapel Bettws 
Morgan, T. O., Esq., Aberystwyth 
Morgan, Bev. E., M.A., Syston, Leioestershire 
Morgan, Rev. M., Vicar of Conway 
Morgans, Mr. T., Ooedmor Arms, Newoastle 

Emlyn 
Morgans, Mr. J., Carpenter, öenarth 
Morgans, Mr. John, Gk>?erddan 
Morgan, Bev. H. B. D., Llanddewi Aberarth, 

4 oopies 
Morgan, Mr. T. R., Savings Dopartnient, Oeneral 

P. O., London 
Morgan, Mr. T., jCashier, Brymbo Iron Works 
Morgans, Mr. B., Ohemist, Aberaeron 
Morgan, Mr. G., Berthlwyd, Talybont 
Morgan, Bev. William, Myddfai 
Morgan, Mr. T., Bryndewi, Aberarth 
Morgan, Mr. I , Land Agent, Llanbadarn Fawr 
Morgan, Rev. John, Pwllheli 
Morgan, Mr L, Nantgoy, Llanbadarn-tref-eglwys 
Morgans, Miss C, North Boad, Aberaeron 
Morice, Bev. T. B., M.A., Aberystwyth, 2 copies 
Morris, Mr. Daniel, Oiifachan, Llanrhystyd 
Morris, Mr. David, O.M., N. School, Llandeilo 
Morris, Mr. David, Draper, Cardigan 
Morris, Lewis, Esq., Mount Pleasant, Carmarthen, 

2 copies 
Morris, Mr. Lewis, Chemist, Llannon 
Morris, Mr. Henry, 86 Pier Street, Aberystwyth 
Morris, Mr. B., Currier, Aberystwyth 
Morris, T. 0., Esq., Oarmarthen 
Morris, T„ Esq., Blaenwern, Newcastle Emlyn, 

2 copies 
Morris, William, Esq., (Ghcilym Tawe), Swansea 
Morris, Mr. William, Llanüar 
Morris, Mr. W., Maengwyn Sireet, Machynlleth 
Morris, Bev. Evan, Aberaeron 
Morris. Mr. JoJm. Crosdy. Llanbadarntrefeglwys 
Owen, Bev. D., Eglwysfach, near Gonway 
Owen, Mr. H., Slate Works, Aberystwyth 
Owen, Mr. John, Blaennantgwine, Llandybie 
Owen, Mr. Samuel, Foundry, Cardigan 
Palmer, D., Esq„ B.A., Cardigan 
Parry, Mr. B., (Eobin Ddu), Abergaveuny 
Parry, Mr. J., (loan Dderweno Fon), Aberystwyth 
Parry, Mr. Owen, (0. ab Harri), Bristol 



Parry, Mr. E., Watchmaker, Llandeilo 
Penry, Mr. Thomas, Llandybie 
Peters, Mr. Pefcer, Miner, Llanddewîbrefi 
Phillips, Mr. J. B., (Áb Oeraint), Çardjgan, 

2copies 
Phillips, Mr. D„ P. O., Llanrhyetyd 
Phillips, Bev. E. O., M. A., Aberystwytfc, 2 copie# 
PhilHpsi Rev. B. P., Ty'nygwndwn 
Phillips, Bev. Thomas, D.D., Hereford 
Phillips, John, Esq., Surgeon, Newcastle Emlyn 
Pierce, Mr. Thomas, Bhydhir, Bow Street 
Powell, Mr. T, Prince of Wales, Aberystwyth 
Powell, Mr. Thomas, Quay Parade, Aberaeron 
Pritohard, Mr. J, Bookseller, Talybont,2 copies 
Protheroe, Miss, Blyne, Llandybie 
Pryse, SirPryse, Bart., Gogerddan, 2 oopies 
Pryse, Mr. John, Bookseller, Llanidloes 
Pngh, Mr. John, Shoemak'er, TJa.rniqm 
Pugh, Capt. Lewis, Abeiaeron 
Pugh, Bev. John, Llanbadarn Fawr 
Pugh, Mrs. Anne, Tabernacle Sfcreet, Aberaeron 
Pugh, Mr. David, Milford Tavern, Aberaeron 
Pugh, Mr. Thoma8, Cadwgan Place, do. 
Bees, Mr. David, Ty*nygwndwn 
Bees, Mr. David B., Llanbadarn«tref-eg lwys 
Bees, Rev. D. 0., Talybont, Aberystwyíh 
Rees, Rev. D., Bronnant 
Rees, Mr. David, Draper, Lampeter 
Reese, Mr. David, Watchmaker, Aberaeron 
Bees, Mr. J., Draper, Aberystwyth 
Rees, Rev. David, Llanelly 
Rees, Mr. David, Swan Inn, Newcastle Emlyn 
Rees, Mr. Henry, Shoemaker. Llandybie, 2 copies 
Beese, Mr. John, Watohmafcer, Machynlleth 
Bees, Bev. J., Bangor, Aberystwyth 
Bees, Mr. Rees, Llain, Llanarth 
Rees» Miss Sarah J., (Granogwen), Llangranog 
Bees, Mr. T., Book Agent 
Rees, Mr. Thomas, Forester's Arms, LlaneUy 
Rees, Mr. John, 10 Carlton Terrace, Newcastl^r 

upon-Tyne 
Bees, Mrs., Belle Vue Terracp, Aberaeron 
Bees, Mr. W. J., Draper, do. 

Rees, WUüam, Esq., Tonn, Llandovery, % oopies, 
Rees, Rev. William, Curate, Aberporth 
Bees, Mr. R., SchooJbnastöT, Felindre, Newcastle 

Emlyn 
Bees, Gapt. David, Llain, Llanbadarn-tref-esglwys 
Bees, Mr. B 01iver, Dolgelley, 3 copies 
Rees, Rev. John, Indept. Minister. Treherbert 
Bees, Mr. Owen, Bookseller, Dolgelley 
Bichard, Mr. B. W., Queen St., Oarmarthen 
Bichards, Mr. R . (Eosydd), T^landeilo 
Bichards. Mr. Bichard. Chandler, do. 
Bichard, Bev. Henry, London 
Bichards, Mr. James Tanbontbren, Llanrhystyd. 
Bichards, Bev. Asa, Llanfabon. Pontypridd 
Bichards, Mr, Morgan, Llanafan 
Richards, Mr. Elias. Levelfawr 
Bichards, Mr. W., Mason's Bow, Aberaeron 
Roberts. Mr. E , Lisburne M ines School 
Roberts, Mr. J., 0. M.. British School, New Quay 
Roberts, Rev. J.. Llangeler 
Roberts. Mr. D., C. M., British School. Taliesin. 
Roberts, Mr David, Tabesin, 2 copies 



lW 



UtT OF 8UB8CBIBBBI. 



Boberts, Hr. Grifflth. Hlrael, Bangor 
Boberta. Ber. X, (Imum ChcyUt), Llaaberis 
Boberto. Bev. B. LL. Fron. Bethesda 
Boberts. M r. B., Flongb. Llanbedarn Fawr 
Boberto. Mr. D.. White Hart. Cardigan 
Boberts. Bev. Samnel. M.A... TJanbrynmair 
Boberto. Mr. Biohard, Gogerddan • 

Boberts, Biohard. Bsq., ▲berystwyth 
Boberts, Mr. Lewis, Factory Lane, ▲beraeron 
&oderick, Bev. L.. Baptist Minister, New Qnay 
Bogers, J. B., ▲bermeurig, Talsarn 
Bowlands, Mr. John. (Giraidus), Bedwas, Cardiff 
Bowlands. B., Esq., F. B C. S., Surgeon, Strata 

Florida 
Bowlands, Mr. D., Blockmaker, Cardigan 
Bowlands, Bev. J , Bwlchycibau. LlanfyUin 
Bowlands. Mr. Daniel. Mabwshen. IAanrhystyd 
Samnel. Mr. David, Shoemaker, ▲beraeron 
Samuel. Mr. Morgan, Draper, Merthyr 
Samuel, Mr. T., Merthyr 
Samuel, Mr. William. Bridge St , ▲berystwyth 
Sannders, Bev. J., ▲berystwyth 
Soott. Mr. W., S Pier Street. ▲berystwyth 
Simon, Mr. T . Tailor. Llanbadarn Fawr 
Sinnett. Mr„ Ystrad Teilo, Llanrhystyd 
SinneÇt. Bev. J.. Bangor-ar-Deifi 
Spnrrell, Mr. W., BookseUer, Carmarthen 
Thomas. ▲ B., Esq , 17 The Wardwick. Derby 
Thomas. Capt ▲braham, Hengyrynt, ▲beraeron 
Thomas, Ber. B. D , Llandeüo 
Thomas, Mr. Charles. Grocer. Hansawel 
Thomas, Miss Charlotte, William St, Cardigan 
Thomas. Bev. D. Parry, Lianmaes Bectory, 

Cowbridge 
Thomas, David, Esq., JUban Sqnare, ▲beraeron 
Thomas. Mr. Elias, Draper. Newcastle Bmlyn 
Thomas, Bev. Evan. Baptist Minister, Cardigan 
Thomas, Mr. G., North Parade. ▲berystwyth 
Thomas, Mr. Isaao, Penarth, Oayo 
Thomas, Jenkin J., Esq„ Llaethliw. ▲beraeron 
Thomas, Mr. John, C. M., N. School, Llanddewi- 

bsefl 
Thomas, Mr. John, Pantyreryrod, Llanarth 
Thomas. Mr. John. Oxwich School. Swansea 
Thomas, Mr. J., Chemist. Machynlleth 
Thomas. Bev. Ll. Ll., B.D.Newport. Pembrofce 
Thomas, Mr. Phillip, ▲ngel House, Llandybie 
Thomas, J., Esq., (Jo*$phus Eryrt), Liverpool, S 

copiee 
Thomas, Mr., C.M., N. School, Penparsiau, 

▲berystwyth 
Thomas. Mr. Thomas, Monlder, ▲berystwyth 
Thomas, Mr. T , Ty'nywern. Pontypridd 
Thomas, Mr. T., Foundry, Cardigan 
Thomas, Mr Thomas, Pier Street, Aberaeron 
Thomas. Mr Thomas. 164 Field Street, Liverpool 
Thomas, Mr.Thomas.Bridge Street.Aberystwyth 
Thomas, Mr. T. ▲lfred, St. David's OoUege, 

Lampeter 
Thomas, James. Esq .Snrgeon, Newcastle Emlyn 
Thomas. Bev. W., M.A., Grammar Sohool, Llan» 

dyssnl 
Thomas, W. GwynneStedman,Esq.,Oarmarthen 



Thomas, Mr. Wlüiam, Foundry, Cardigan 
Thomas. Mr.W. J., O.M..N. SchooU Iianarthney 
Thomas, Mr. William, Sailmaker, Aberaeron 
Thomas, Mr. J. E., 11 Park Street, Westminster 
Thomas, Mr. David, Merchant. Oarmarthen 
Thomas, Mr. T., Compton House. ▲beraeron 
Thomas, Bev. B., (Âp Vyohan) t BangOr 
Thomas, Mr. Daniel. North Boad, ▲beraeron 
Thomas, Capt. Thomas, Pantteg, Aberaeron 
Thomas, Mr. Lewis.Builder, do. 
Thomas. Bev. Thomas. Corris, Machynlleth 
Thomas, Miss Kate, Feathers Hotel, ▲beraeron 
Timothy, Mr. E., Draper, New Quay 
Yaughan. H., Bsq., Brynog, Yaie of ▲eron, t 

oopies 
Yincent Yery, Bev. James. V., Dean of Bangor 
Watkins, Bev. W, E., Baptist Minister. Amlwoh 
Watlrins. Mr. G. E., Angel Inn, Newoastle Bmlyn 
WUliams. Miss Oatherine, Gogerddan 
Williams, Miss Jane, do. 

Wiiliams, Mr. David, Llangeitho 
Williams. Mr. Darid, Penlon, Llanddeinioi 
Williams, Mr. David, Draper, Uansawel 
Williams, Bev. D„ B.D., UaneUy 
WiUiams, Mr. D., Stationer, Oardigan 
Wüliams, Mr. James, lronssonger, do. 
WUliams, Mr. John, Ohemist, do. 
WUliams, Mr. E. ▲., Bank, Newoastle Bmlyn 
WUliams, Bev J„ Gartheti. % copies 
WiUiams, Bev. J., Newoastle Bmlyn, 8 eopies 
Wüliams, Bev. J., Sglwysfaoh, Oonway 
Williams. J. G., Esq., Glouoester HaU, ▲beryst- 

wyth 
WUUams, Bev. J„ ▲berystwyth 
WUIiams, Mr. John. Saddler. ▲beraeron . 
WUhams. Bev John, Dinas Oross. Pembrokeshire 
WUUams, Mr. Phütip. Printer, ▲berystwyth, 1 

copies 
Williams, Ber. Bees, Ferwig, Cardigan 
WUUams, Samuel, Bsq., St. Darid's 
WiUiams, Mr. John, Oae.' bislan, Aberarth 
WUliams, Mr. Evan, do. 

WiUiams, Bev. T. L., Llanarthney 
WiUiams, Mr. T., (Harri aei Ingli), Lampeter 
WiUiams, Mr. Thomas, Foundry, ▲berystwyth 
Wilîiama. Mr. Bichard, - do. do. 

Wiltiams, Oapt Thomas, "▲eron Queen," Aber- 

aeron 
WUliams, Mr. Morris, Oarpenter, ▲beraeron 
WUUams, Bev. St. George Armstrong, M. ▲., 

Bector of Llangybi, C wronshire 
WiUiams. Mr. W. D., O.M.,(MaelogMon),Utamoa 
WUliams, Capt. T., Post Offlce, New Quay 
WUUams. Mr. W. S., St. ▲idan's OoUege, Bir- 

kenhead 
WiUiams, Mr. Wüliam, Blaenpenal 
WiUiams, Mr. WUUam, Presbyterian CoUege. 

Oarmarthen 
WUUams, Mr. WUUam, GoyaUt, Llangeltho 
WUUams. WUUam, Esq., Bank, Lampeter 
Wüliams, Mr. W. D., Schoolmaster, Bettwt 

Bledrws 
Winwood, Mrs., Tyglyn, ▲eron 



^ 



s 



1 

À 



*f 



3 2044 019 912 351